Sunday 9 November 2008

Mrs Kevin Jonas

Ers wythnos nawr, dwi'n siwr i chi glywed Pero a fi yn sgrechian unrhyw bryd mae'r "Jonas Brothers" yn popio i fyny mewn sgwrs. Ers i mi decstio hi i chwerthin am y ffaith fod y tri brawd yn gwisgo "purity rings" (dwi'n gwbod - :), rydyn ni wedi bod yn obsessed.

Honco yn mynd mor bell a dweud ei bod hi'n fodlon aros nes ei bod hi'n Mrs Joe Jonas er mwyn... you know.

Well, ar noson Calan Gaeaf, penblwydd Deryn Du, fe wnaeth y ddwy ohonom fachu clwstwr o Glow Sticks a creu purity rings ein hunen a'u rhoi o gwmpas ein pennau, fel halo's angylion bach.

A dyna ddechrau pigo "That's The Way We Roll" fel ein "Best Friend Song" ni, a dyna ddechrau canu "I'm hooot, and you're coooooold," yn ddiddiwedd, a mynd ar nerfau Deryn Du drwy mynd "Nooooo waaaaaaaaaay John Taylor!" mewn acen Americanedd. Mae DD, erbyn hyn, yn falch iawn ei bod hi wedi mynd off gyda'r gerddorfa i rhyw twll o le i gael chwarae bassoon.

Os yn mynychu'r un ysgol a ni, fi'n siwr fe sylwch chi fod Pero a minnau wedi dechrau treulio ein cyfnodau rhydd (pan yn cuddio rhag gorfod helpu paentio'r set ar gyfer y sioe) yn darllen rhyw llyfr am y Jonas Brother prynodd hi o'r Works.
Dwi wedi darganfod nad yw Kevin yn hoffi merched "foul mouthed" (shit), na merched sydd a ffrindiau "odd" neu "crazy", gan bod eu ffordd nhw'n dueddol o rhwbo off (felly bye bye Pero! hehe!).

A nawr, dwi'n gwylio fideos o Kevin Jonas ar Youtube. Dechreuodd y peth fel joc - "Well I shall like Kevin, because nobody does!". Bellach, dwi methu hyd yn oed edrych ar y cwrls a'r sideburns heb i 'nghoesau droi i jeli. Dwi'n becso braidd.

A sylwch... petawn yn priodi Kevin Jonas, dim ond un llefariad (sef yr e i'r a) fydde'n rhaid i fi newid yn fy nghyfenw i!

Monday 6 October 2008

Rhoi'r Blaenoriaeth I Gerddoriaeth - Stuff That, Rhowch I Mi Huw Evans!

O, dyna ddiwrnod da fu'r 6ed o Hydref 2008 (a just i atgoffa pawb, 17 o ddiwrnodau nes mod i'n troi'n 17 - 15 diwrnod o heddiw).

Treuliodd hanner ucha'r ysgol y prynhawn yn neuadd yr ysgol yn rocio gyda Taith Bandit! A chi'n gwybod pwy sy'n cyflwyno Bandit...
Ie! Pishyn o'r enw Huw Evans! (Ma Huw Stephens yn cyflwyno fyd, ond mae e'n sinsir ac yn tubby ac yn edrych fel Dafad - sori).





Ta beth, dim ond Pero a Deryn Du a finnau oedd yn excited am ymweliad Bandit. Gaethon ni "chat" 'da Mrs John y dirprwy brif athrawes y diwrnod canlynol (sef ddoe) a ddwedodd "Nawr, dwi'n gwybod taw scifo'r prynhawn roedd y rhan fwyaf o chi'r Chweched, pan sylweddolais i fod mwy o bobol yn mynd i'r deintydd nag oedd o ddeintyddion yn y dref!" A fe wnaeth llawer ohonyn nhw (Sempai included) treulio'r prynhawn yn y Llyfrgell. (Cell y llyfrau, seriously, just me, or doesn't that round like a prison?). Beth oedd yn bod a Bandit?

Doedd Ashokan (criw o ddoctoriaid o ardal Castell Nedd) ddim mor wael a hynny os bosib? I mean, dechreuon nhw Wall of Death yn neuadd yr ysgol!

Efallai nad yw diwylliant Cymraeg ddigon "cool"? Wel, dwi'n meddwl fod e'n awesome, felly twll tin bob un sy'n dweud ffor' arall.

Friday 3 October 2008

Y Gwasanaeth

Dylen i ddweud, don't go there, ond mae angen rant fach arnaf. So off we go.

Dydd Mercher dwethaf, cyhoeddodd fy annwyl athrawes cofrestru, the one and only Jac Codi Tail, ein bod ni yn gyfrifol am gwasanaeth y dydd Gwener hwn, y 3ydd o Hydref (h.y, heddiw). Yr un pryd, dwedodd Huey G wrth ei ddosbarth eu bod nhw'n gyfrifol am gwasanaeth... ond fe gethon nhw fflipin mis o rybudd.



A felly oedd hi, a dim son am neb yn gwneud yffach o ddim byd, a doedd neb a unrhyw syniadau chwaith... a JCT wedi penderfynu ein bod ni 'i fod ysgrifennu'r peth ein hunain... Gwers 4, dydd Gwener dwethaf, a ni ddigon ffodus i gael y wers Saesneg yn rhydd, fe aeth Pero, Merry a finnau i ysgrifennu.

Wel, ble yffach i ddechrau? Really, gallen ni fod wedi cael gwasanaeth am Tiddly Winks a wedi cannu Karma Chameleon fel emyn, fydde neb ddim callach - ma' pawb yn dal yn cysgu amser 'na o'r bore. Gath Merry y syniad o "Memories" a hefyd daflon ni'r syniad o "Newid" i lawr ar bapur, er mwyn i ni alle dangos lluniau doniol Blwyddyn 7 pobol o'r Chweched. Dal ddim yn keen ar y syniade though, halon ni Merry off i'r Llyfrgell (Cell Llyfre - swnio bach fel torture chamber, ond yw e?) i chwilio am pethau hanesyddol neu diwrnodau pwysig oedd yn ystod yr wythnos yna. Roedd Pero a fi dal yna'n pendroni... a daeth e i ni.

Hapusrwydd.

Felly aeth Pero i hol Merry, a dweud wrth honno, a oedd heb ffeindio unrhywbeth anyway, i ddod nol, bod thema i gael 'da ni. Doedd hi'm yn hoffi'r thema na, ond "Tough shit" wedes i wrthi. Roedd amser yn prinhau, a felly doedd dim dewis. Aeth hi 'mlan bach to am sut o'dd hi moyn rhoi hen luniau... ond erbyn hyn roedd Pero a finnau wedi dechrau ysgrifennu'r gwasanaeth, so a'th hi i bwdi yn y cornel. A gadawon ni hi wrthi.

Fi cafodd y job o teipo'r peth lan, ond a fi'n gweithio yn Shaws DRWY'R penwythnos (digwydd bod, roedd fy enw i lawr ar gyfer y dydd Sul yn ogystal a'r dydd Sadwrn er mwyn i High Allmighty yr area manager gael diwrnod off), gofynais yn garedig i Mami dearest i deipo fe lan. So fair play iddi, fe wnaeth i wneud.

Dydd Llun, des i a fe i'r ysgol.
"BLWYDDYN 12! Os un ohonoch chi wedi ysgrifennu gwasanaeth? NA?! CHI MOYN MYND AR Y LLWYFAN 'NA A DWEUD DIM BYD?"
Gath Merry fynd a dangos e iddi, er iddi hi wneud dim byd ond pwdu.

Amser egwyl, roedd rhaid cael cyfarfod, a fuodd Jac Codi Tail ddigon call i ddweud fod e'n good - fydde Pero a finne wedi ei chrogi hi otherwise.

Doedd hi ddim yn wasanaeth rhy wael, er fod y caws yn dripian off y weddi. (O Arglwydd, diolch i ti am rhoi'r gallu i ni fod yn hapus, blah blah blah.) Roeddwn wedi trefnu cael powerpoint yn cynnwys lluniau o ddisgyblion ag athrawon yn gwenu ac yn hapus a speech bubble bach yn dweud beth oedd yn eu gwneud nhw'n hapus. DIM EMYN! Does neb eisiau canu amser na o'r bore, a roedd pawb a oedd yn y cyfarfod cyntaf yn cytuno 'da hynny.

Daeth Catrin Phillips i mewn yn hwyr wedyn, a cyhoeddodd honno fod hi a Gethin (dau wannabe actor/cantorion o fri) eu bod eisiau cerdd. Fine, as long as bod hi'n berthnasol, dwedon ni. A dyna ni - heb ddewis pwy oedd yn gwneud beth na dim.

Dydd Mawrth.
Fe roedd Merry wedi cael e i'w phen ei bod hi moyn tynnu'r lluniau, er yn y cyfarfod ein bod wedi cytuno rhoi'r cyfrifoldeb i ddwy ferch arall yn y dosbarth. Amser egwyl, fe wnaeth Deryn Du graffitio rhif ffon Y Goeden ar y grisiau, a fe aeth Merry off on one, a marchio bant... a pan welon ni hi eto yn Saesneg, fe roedd hi wedi menthyg camera yr adran Gymraeg ar gyfer tynnu'r lluniau.

Doedd dim pwynt dadlau gyda hi, a fel roedd hi'n troi mas, roedd gan y dair ohonom wers rhydd Saesneg arall (roeddent eisioes wedi cael gwers rhydd gwers gyntaf hefyd - fel drodd hi mas, ges i ddim un blydi gwers Dydd Mawrth). Dath Deryn Du a Sempai i ymuno a ni a'r bechgyn (Dafad, Cwlwm Caled, Hobo a'r gweddill) i'r Wers Rydd, a dechreuodd Merry ar ei ffotos.

A dechreues i chwarae cards (Cheat) gyda'r bechgyn. A fi daeth yn ail - er, yn y gem nes i chwarae heddi, des i gyntaf! Fi'n good gyda cards.

Ta beth, amser cinio roeddent yn golygu tynnu lluniau o wahanol flynyddoedd, er mwyn gwneud y gwasanaeth yn apelgar tuag at y niferoedd. Wel, hanner awr roeddwn ni'n bwriadu treulio, a roeddent yn golygu mynd ar ei'n speed ni, OND NA! Roedd Merry am fynd full speed! Doedd dim aros na cloncan i fod! Roedden ni moyn lluniau o bobol yn GWENU ac roeddent am YSGRIFENNU LAWR BETH ROEDD YN GWNEUD IDDYNT. Y rheswm nes i ysgrifennu 'na mewn capitals, odd achos pan aeth Merry off am 1 o'r gloch ymlaen, a fi a Deryn Du wedi mynd off i gael ein cinio, ffealodd hi gyflawnu hynna! So gwffon ni wneud lot o nhw lan, a galle fod yn beryglus iawn i ni... a roedd rhan fwyaf o'i lluniau hi'n blurry, ac roedd hi'n amlwg jyst wedi mynd lan i bobol heb rybudd a mynd "GWENWCH" yn ol golwg shocked rhai o'n models ni. A fe ypsetes i hi yn y gwers gyfrifiaduron dydd Mercher wrth ddweud wrthi "Ni ddim yn defnyddio nhw i gyd, ma' rhan fwyaf ohonynt yn blurry a s'neb yn gwenu!"

Dydd Iau, diwrnod cyn y digwyddiad ac yn ein ail gyfarfod o'r fath, a fe roedd Catrin Phillips a Gethin yn mynnu fod rhaid cael emyn, a nhw'n ennil drosodd JCT achos bod nhw'n gwneud yr ymdrech i beidio edrych yn hollol bored (a dim yn sniffian paper clips afiach - stori hir) yn ystod y gwersi Gramadeg. Wel rhoies i'n nhroed i lawr, gan fod Pero'n digwydd bod off rhywle, a Merry heb ddigon o asgwrn cefn i ddweud dim.
So "NA!" dwedais. "NO WAY! Dim emyn."
Tawelwch.
"Ma powerpoint gyda ni'n barod, a fydd hi rhy drafferthus i gael emyn 'fyd," dwedais.
"Ie..." sylweddolodd JCT.
"So there," gorffenais, wedi ennill y frwydyr.
Dim emyn :)

Ac er fod y ddau yna hefyd wedi penderfynu fod rhaid cael cerdd (a i geisio cadw pethau'n weddol heddychlon yn y grwp tiwtor fe wedon ni fine), dim nhw wnaeth actually ffeindio cerdd. JCT ffeindiodd y gerdd iddyn nhw, er yr holl ffys! Blydi cheek a nhw, jyst achos bod nhw'n neud Drama ac yn mynnu fflauntio ei hunain trwy'r fflipin amser!

Felly nos Iau, roeddwn yn stressed yn hunan - a dydw i byth yn mynd yn stressed - achos fod Merry'n stresso mas ein bod ni heb gael practis eto, a fod dim digon o amser wedi bod, a bod y gerdd ddim yn iawn ayyb. Ar ol bod i McDonalds, es i gwely am ddeg munud i naw. A gysges i drwy'r nos nes 7.

Bore 'ma. Doedd hi ddim yn mynd yn dda. Stopodd y toothbrush (un trydan sy 'da ni) weithio. Panic. Gwffes i just sgrwbo heb help y trydan. Wrth adael y ty, roeddwn wir yn gobeithio fyddai'r bus yn torri lawr... ond na, dyna'r un peth penderfynodd weithio heddiw. Cyrrhaeddais ysgol, a mynd yn syth i'r neuadd lle roeddent i fod ymgasglu, a darganfod Merry oedd yr unig un yna.

Wel stress. Pam na alle hi just bod yn chilled out? Pam na all pawb fod yn chilled out? Fflipin heck, ife fi yw'r unig un yn y byd sydd jyst yn cymryd pethau fel maent yn dod? Ta beth, erbyn i bawb gyrraedd (Mared oedd in charge o ddod a'r cerddoriaeth yn hwyr, gan achosi Merry i sgrechian ataf "CER I NOL Y BACK UP CD! Y BACK UP!" a stresso ni mas), a eistedd ar y llwyfan, y bois sain yn ffidlan da'r microffon, a'r disgyblion yn dechrau llifo mewn, troais at fy buddy cefn llwyfan, sef Pero, a dweud, "Nawr, dwi'n dechrau teimlo'n sick."

Diolch i Dduw, i feddwl nad oedden wedi cael practis a bod un o'r meics yn pallu gweithio, roedden ni wedi gwneud yn dda! A fe aeth y powerpoint lawr yn good - pawb yn chwerthin yn y mannau iawn. A dyna fe, cwarter awr ar lwyfan ar ol wythnos a mwy o stress llwyr.

Ath Pero a fi nol wedyn i'r busnes arferol o beidio bod yn bothered i wneud gwaith cartref, tynnu lluniau o ni'n tynnu gwynebau dwl, pranc callio pobol a dweud taw Sion Corn i ni, gwrando i Dizzie Rascal a gigglan non-stop. Yay!




Saturday 20 September 2008

Oddi Wrth Anwybyddwr.

Sori, dwi eto wedi bod yn neglecto fy mlog - diolch byth taw dim anifail anwes ydyw, neu fydde fe wedi hen drigo.

Dwi jyst yn shattered. Er mod i'm yn gwneud yffach o ddim yn yr ysgol, a dim yn gwneud gymaint a hynny'n fwy yn gwaith (fues i'n glanhau'r ffenestri tu fewn heddi actually... a gwffes i ddysgu wrth y till newydd), ond mae dihuno am saith y bore yn cymryd e mas ohona i.

Dwi'n cerdded rownd fel zombie, a dyw'r annwyd dwi wedi bod yn dioddef ohono ddim wedi helpu. Dwi'n well erbyn nawr, ond dwi dal i swno'n blocked ac wedi colli peth o'r llais, ond fel wedodd Comootion (stori hir) wrtha i dydd Iau, "You sound like an alien" - gymhariaeth spot on i'n ddisgrifio i.

Felly ysgol - wedi bod yn peswch a tisian a chwythu'n trywn a teimlo'n hollol crappy trwy'r wythnos... diolch byth am ffrindiau ffyni sydd yn gwneud i fi werthin though, achos hebddo nhw fydde'r dyddiau yn hir.

Er engraifft, fe fuodd fi a fy Gwers-Rhydd-Bob-Bloc-2 a'n Art Buddy i Sempai yn chwarae rownders gyda peli bach o bapur wedi scryncho lan a'i gwaith Celf hi fel bat!

Fe golles i ysgol dydd Mercher, a fues i gatre yn watcho Frasier etc ar y telly, ac yn paento a gwylio Kill Bill Volume 2 (dwi wedi gwylio'r Tarantino ffilms bron i gyd nawr, ond Jackie Brown s'da fi ar ol, ond Pulp Fiction yw'r favourite still, a fi wedi watcho hwnnw ddwywaith).

O, dydd Mawrth roeddwn yn dioddef yn Coleg y Drindod, achos gaethon ni gwrs gyda Prifysgol Bangor - a rheini'n trial ein brain washo ni i fynd yna ar ol bennu yn y chweched. Fat chance dude, dwi'n mynd i Gaerdydd - mwy o chance i fi fwmpo mewn i Matthew Rhys fan 'na.

Dydd Gwener, trip arall gyda'r adran Gymraeg i Ysgol Preseli, i gael sgriptio gyda'r fenyw 'ma, Manon Rees, oedd arfer ysgrifennu i Pobol Y Cwm cyn iddo fynd down hill. Dwi wedi penderfynu, ar ol gweld prisiau petrol, fod rhaid i fi ysgrifennu good sgript a'i werthu i S4C. Ma'n rhaid i fi gadw fy mabi tlws i ar yr hewl.


A dyna ni. Diwedd. Dwi ddim yn gallu bod yn bothered i wneud unrhyw sense o'r post brysiog hwn, felly off a fi - mae gen i sgript i fennu sgwennu, a arian i'w ennill. A dwi am edrych am luniau o Sid a Nancy... Pam? Wel, mae hynny'n Ddirgelwch ;)

Saturday 13 September 2008

Penblwydd Hapus I Mam... Penblwydd Hapus I Mam...

A finnau wedi blino, basically, dyma restr o'r pethau sydd wedi gwneud heddiw yn ddiwrnod cofiadwy.
  • anrheg mewn bag Blue Banana a bag Borders.
  • Dechre Reservoir Dogs ("dick dick dick dick dick..." - Like A Virgin?)
  • Evil zips.
  • Bwtwnau ddim lot gwell chwaith.
  • Gwelltynnau anweddus.
  • Tri cwrs.
  • Cheesecake melys.
  • Gormod o win.
  • Helpa i'n hunan diolch...
  • No Speeches Allowed.
  • Sight Seeing Tour Of Llanpumsaint.
  • Break.
  • Sugno Soothers.
  • Eistedd tu fas.
  • Haul am unwaith.
  • Smirnoff eto.
  • Torri mewn i dy Mamgu
  • Dusty yn ddwstlyd.
  • Aaaaaaaaaaaaargh scary ceffyl!
  • Miwsig Cymraeg.
  • Pawb arall wedi meddwi.
  • Giggls!
  • Dilwen yn batty!
  • Coesau stiff.
  • Alcaholic Shoe.
  • Alcaholic me... gulp.
  • I'm going to eat you!
  • Hen luniau hilarious.
  • Ffyni ffoot.
  • Demented Cousins yn cyrraedd... a fi'n heglu 'ddi o na.

A dyna ni. Rhestr o digwyddiadau'r dydd. Dwi newydd fod yn gwylio diwedd Reservoir Dogs (er mod i wedi sgipio'r bit lle roedd Vic Vega yn torri clust Martin y Cop off), ac eisiau bod yn effin gangster - o hyd.

Mother - Life begins at 40 xxx

Friday 12 September 2008

Pulp Fiction

Y diwrnod o'r blaen, fe ordres i Quentin Tarantino boxset of HMV.com.

A dwi newydd treulio'r pnawn (fel dwi wedi gweud, es i ddim i Morfa Bay i redeg rownd mewn mwd) yn gwylio Pulp Fiction.

Dwi erioed wedi bod yn un sy'n gwbod straight away beth yw fy hoff ffilm. Ond nawr, dwi'n gwbod. Pulp Fiction. A dwi ddim hyd yn oed wedi gwylio gweddill y boxset eto.

Dwi wastod wedi bod eisiau gweld ffilimiau Tarantino ers gwylio CSI - Grave Danger (Volume 1 a 2). A dwi dal yn dod i ddagrau wrth feddwl am Nick Stokes druan yn y bocs - so ma'n rhaid fod QT yn director eithaf da. Fflipin heck, dwi'n enwi 'nghar i ar ol y dyn. Ond Pulp Fiction...

Ma' fy obsessiwn gyda CSI wedi ngwneud i'n rhyw blood thirsty vampire, achos dwi'n ffeindio pobol yn cael eu saethu ar telly'n fasanating. Bang, bang a ma nhw lawr. It's not real - so it's ok. Se'n i yn mynd rownd yn saethu pobol, wedyn dyle pawb ddechre becso. Ond fe roedd y ffilm hyn rhan fwyaf o'r amser yn dilyn dau hitman y gangster Wallace, felly roedd llofruddiaethau bob man.

Roedd y ffilm jyst yn glyfar - ma QT'n defnyddio "splintered choronologically" - so fe roedd y ffilm yn dechre a gorffen yn yr un lle. Er fod hwnna'n swno'n really gymleth, fe roedd hi'n eitha hawdd dal lan gyda 'ny. Fe roedd y cymeriadau yn lliwgar - Winston Wolf oedd yn un da, y dyn ffoniodd Jools a Vincent ef i glirio lan corff Marvin o garej Jimmie gan fod Vincent wedi accidentally ei saethu fe. A Mia Wallace, gwraig y gangster, menyw blentynaidd a oedd yn gaeth i cocaine ac yn gwisgo siwt ffyni.

A'r cwestiynne heb 'u ateb... Beth oedd yn y ces a oedd mor bwysig? A wnaeth y boi roi foot massage i Mia Wallace? Pam fwyatawodd Jools "hamburger" mewn un darn o'r ffilm, a dweud nad oedd y bwyta bacon mewn darn arall? Pwy oedd Russell, a beth digwyddodd i adael ei "old room" yn wag? A wnaeth Jools droi mewn i "bum" yn y diwedd?

Awesome awesome awesome!

Dwi eisiau bod yn gangster!

A nawr allan a fi i gael Chinese gyda'r merched! - a ydw, dwi'n mynd i wisgo'n gangster shoes!

Thursday 11 September 2008

Parti'r Chweched Dosbarth

Ma'r papurau newydd yn llawn hanesion binge drinkers ifanc Prydain. Mae gwerthoedd y teenagers yn ddychrynllyd, meddai'r holl newyddiadurwyr. Meddwi yw'r unig beth ar eu meddylie. A dwi'n credu fod gan y bobol sy'n ysgrifennu'r holl storie ma bwynt.

Fe wariodd Mystery Man £60 ar gwrw neithiwr. Fe roedd sawl un yn "paraletic", ac fe roedd yfed a smoco'n hollol normal. Roedd pawb yn bragio am pa mor feddw roeddent neithiwr, a sawl un yn gwisgo hangover fel badge of honour.

Neithiwr roedd parti cyntaf y chweched dosbarth - pwnc pob trafodaeth heddiw, hynny yw.

Fancy dress - a dyma fi'n tynnu allan y teits streipiog, y Tenby Pirates T-shirt, a glow sticks (na, dyw mor ladron ddim yn gwisgo glow sticks... ond dwi'n hoffi glow sticks) a off a fi a Pero (wrth gwrs - Pero'n cael lifft gyda fi!), i Savannahs.

Pan gyrrhaeddon ni, fe roedd y lle'n dead. Ambell i ferch o flwyddyn tair ar ddeg yn dawnsio mewn sgertiau byr ar y dancefloor, a criw o fechgyn, a rhanfwya o rheini wedi gwisgo lan fel builders. Pum munud wedyn, a fe roedd y lle yn llawn dop - llawn cyd-ddisgyblion oedd eisioes yn feddw cyn dechre.

Fe daeth Mystery Man lan ataf i a Pero a gofyn "Why aren't you drunk yet?!", felly off a ni i'r bar, i giwio gyda gweddill ein cyfoedion. A wedyn, fe ymunodd Wolfy a Deryn Du a ni. Fe dales i £3 am fotel o Smirnoff. What a flipping rip off, meddyliais. A penderfynais fod yr un fotel na mynd i bara fi drw'r nos! TAIR PUNT - am fotel o rhywbeth oedd yn blasu fel lemonade! (A ges i'r big speech gan Mam, a honno wedi rhoi strict orders i beidio mixo drinks, so doedd dim troi nol).

Roedd y lle'n llawn cymeriadau lliwgar. Fe roedd 'na sawl crayon o gwmpas y lle (Miss Mynd oedd yr un glas, fel gallwch weld!). Roedd yna sawl mor leidr a sawl hula girl, felly roedd bach o theme glan mor yn mynd mlaen. Fe roedd PetVet yn forwr hyd yn oed!

Fel ddwedais yn gynharach, fe roedd un botel o Smirnoff yn £3, felly ond dau ges i drwy'r nos. Gyda pawb yn meddwi o'n gwmpas i (Deryn Du yn tipsy iawn yn gloi iawn, a hithau wrth gwrs wedi cymysgu drinks twt twt), roeddwn yn teimlo bach yn rhy synhwyrol. "Stuff it," meddyliais. "R'un a man i fi jocan mod i'n feddw". A felly wnes. Roedd rhaid mod i'n eitha convincing, gan fod Dafad wedi gweud wrtha i heddi, "You were well pissed you were".

Roedd Deryn Du yn hilarious. Roedd pob bachgen yn "ffit", a roedd hi'n well excited pan gafodd hi llond ceg o un o sideburns Dafad - stori hir. A trial cerdded lawr i'r bar i ol un arall? Wel, unai odd 'i thraed hi wedi stopo gweithio, neu roedd hi wedi dechreu dal hi - cymrodd hi llwybr uffernol o igam-ogam i gyrraedd na.

A fe roedd Deryn Du a finnau yn diawlio absennoldeb Cwlwm Caled.

Felly noson o ddawnsio, edmygu dillad pobol eraill, a trial dirgelu unrhyw potenshal gossip er mwyn ei rannu 'da pawb y diwrnod wedyn. Pawb yn dawnsio gyda pawb, pawb yn yfed gyda'i gilydd.

Er fod y gymdeithas ifanc, yn ol bob son, yn dirywio'n gyflym - dyna beth roeddwn i yn ei alw'n team bondio. Lot gwell na rhedeg rownd mewn fflipin mwd.

Sunday 7 September 2008

Car Bach Fi

Watch out, 23rd of October 2008... Miss Tebot... Coming To A Road Near You!

Heddiw, fe brynodd fy rhieni fy nghar cyntaf i fi. Yn ogystal a kit i'w lanhau o Asda, gan mod i wedi mynnu mynd mlan a mlan fod rhaid i Nhad wisgo bin liner dros ei oferalls os oedd e am ddefnyddio'r car a mod i'n mynd i'w lanhau bob pnawn Sul, fel mae Jeremy Clarkson siwr o fod yn gwneud.

Fy nghar cyntaf - exciting!

Dwi'n berchen (er taw enw Nhad sydd ar y documents a stwff) ar Vauxhall Corsa bach du. Fy nghar bach i!

A dwi wedi penderfynu ei enwi'n Quentin (roedd e rhwng Quentin a Colin, a penderfynodd Tuesday codi'r bys bawd ar Quentin, felly dyna'r dewis wedi ei wneud). Quentin ar ol Quentin Tarantino, obviously.

Fe fydd Domo yn mynd i hongian off y drych yn y blaen... yn ogystal a un o'r air freshners bach na siap coeden er mwyn cadw'r car i smello'n neis.

Bydd dim hawl bwyta yn y car. Dim o gwbwl. Dim hyd yn oed McDonalds. Mae briwsionau yn y car yn bad!

Dwi'n meddwl fe fyddai'n car-proud (gan fod yr ystafell wely'n arwydd clir o'r ffaith nad ydw i'n houseproud o gwbwl). Os a i yn really obsessed gyda cadw fy nghar in mint condition, fe fydd yr hoover yn siwr o ddod mas...

Rhaid i fi aros nes dydd Sul nes i ni ei ol e o'r garej. Dwi moyn Quentin Y Car adref!!! :(

Saturday 6 September 2008

Dydd Sadwrn Arall Yn Shaws

Croeso i mewn i Shaws Caerfyrddin. Os nad yw'r area manager na'r bos ei hun (Petey) i mewn, fe welwch bedair merch mewn ffedogau glas yn cloncan. Os yw'r ddau uchod yn bresennol, ffidlan ambytu'n jocan teidio lan i ni.

Dwy cyd-weithwraig newydd oedd heddi, a fi a Bows wrth gwrs, a doeddwn ddim wedi cwrdd a nhw o'r blaen - ond mi roeddwn nhw'n neis, felly doedd dim problem. A ni wnaeth Mr Shaws alw, felly diwrnod chilled out oedd hi.

Stwffes i ambell gwshin, fues i'n chwarae bach gyda'r tills, a fues i'n cynorthwyo menyw mewn cadair olwyn a oedd yn cael ei wthio rownd gyda rhyw ddyn random a gwallt hir a glassys o Focus. Ffantastic ffact i chi - mae'r boi hyn wastod yn cael ei ginio o Porkys.

Amser cinio, es i Matalan i chwilio am wisg ffansi ar gyfer parti'r chweched sydd nos Fercher. Dwi'n mynd fel mor leidr wedi'r cyfan! Mae gen i sawl math o deits streipiog adref, crys-T Tenby Pirate, scarf a skulls arno, digon o jingelarings, felly roedd rhaid i mi gael sword fach a het. A dyna fi'n gadael Matalan gyda'r sword, het, hook a glow stick yn fy mag. (Dwi just yn hoffi glow sticks, ok?)

Nol i'r gwaith, a doeddwn ddim cweit mor hopeless heddiw - I'm getting the hang of it. Wel, dwi'n credu...

Ta beth, a hithau'n gwarter wedi pump, roedd y bedair ohonom wedi cael hen ddigon, ac wedi dod i'r canlyniad nad oedd y bos mawr yn mynd i alw. Roeddent yn eistedd ar y gweliau (ddim fod neud 'na - naughty!), ac yn sgwrsio. A dwi wedi dysgu fod y lle'n haunted.

Typical fi i lwyddo i gael jobyn mewn lle sy'n fflipin haunted.

"Paid becso, it's a friendly ghost," meddai un o'r lleill i mi.
"O... Casper?"

Mam bigodd fi lan o'r gwaith, a fe fwrodd smel cyfarwydd fy ffroenau... McDONALDS! Roedd hi wedi dod a McChicken Sandwich Meal (un large) A Potato Wedges with dip i fi. Roeddwn wedi cael fy mhecyn pai cyntaf, ac fe roedd y ddwy ohonom yn reit excited. Dwi'n golygu prynu shoes newydd da'r pai cyntaf, a safio'r gweddill i gyd - ond ydw i'n gall, ddarllenwyr? Hehe!

Ac ar y ffordd nol, dwedodd Mam iddi weld Jason o Pobol Y Cwm/Y Phil Bennetts yn dre - roeddwn yn well jealous. Gadawes i neges ar grwp Facebook y band echddo, so spooky coincidence arall, ac fe roeddwn wedi treulio'r diwrnod yn meddwl am Mark Flanagan (sy'n chwarae Jinx) ac yn meddwl pa mor exciting fydde'n ddiwrnod i petai e'n cerdded mewn. Petai Matthew Rhys yn dod mewn, fydden i'n mynd i guddio - mae'r ffedogau'n shameful.

Ta beth, a finnau newydd cicio'n sgidiau i bant, wedi edrych ar beth roedd Mam wedi prynu yn dre, a wedi setlo lawr flaen y telly, daeth Anti-Bionic draw i'n nghoroni yn DJ Miss Tebot ar gyfer penblwydd Mam h.y gweud wrtho fi i roi CDs o ganeuon Cymraeg sydd mor hen a'r arch ar playlist ar fy Ipod er mwyn eu chwarae ar ei phenblwydd.
Fe aeth Mam bach yn hormonol - mae hi'n dal i gredu fod hi'n un ar hugain. Mae paratoadau dathlu'r 40 wedi bod yn bach o sioc.

Dwi'm yn cael parti pan dwi'n ddeunaw. Dwi'n mynd into hiding. Seriously.

Golles i X Factor, ond o wel. Bydd rhaid i mi ei wylio ar ITV 2. Neu ITV 3. Neu ITV 4... Ma' gormod o ITVs.

Dwi'n gwrando i Russell Brand a Matt Morgan, ac yn meddwl am beth ddysges i ddoe am y Bwdha tra mod i adref, ac yn aros i'r Sadwrn droi'n Sul, ac yn gobeithio am fflach o ysbrydoliaeth o rhywle. Over and out.

Friday 5 September 2008

Pero a Bwdj


Meddwl, tra bod y ddwy ohonom adref yn "Facebookio" er i'r trip i Bae Morfa i wneud stwff yn y mwd wedi cael ei ganslo ac yn chwerthin ar ben ein lluniau o'n diwrnod mas yn y Steddfod, baswn yn ysgrifennu blog bach am fy ffrind gorau.

Roedd ei phenblwydd hi ar y diwrnod cyntaf nol i ysgol (3ydd o Fedi) ac er i mi ysgrifennu a gweud ei bod hi'n ffrind ffantastig yn ei charden, doedd dim gymaint o hynny o le ar gerdyn penblwydd roeddwn wedi gwneud iddi fy hunan.

A sori am y llun mawr ar y garden. Dwi'n gwybod nad wyt yn hoffi'r llun yna gan fod yna dwat yn posio tu ol i ti.

Felly, Pero, i feddwl bod y ddwy ohonom wedi cyn hyn casau ein gilydd, nol yn y dyddiau pan roeddent yn mynychu Sgwad Sgwennu, mae hi'n od ei bod ni'n ffrindiau pennaf erbyn hyn. Roedd Mam y ddwy ohonom wedi bod yn ysgol gyda'i gilydd, a finnau'n cofio'n glir Mam yn dod nol i'r car ar ol bod i Morrisons (fi'n credu falle taw Safeway oedd e bryd hynny), a fi wedi bod yn eistedd yn y car yn bwyta McDonalds, a honno'n gweud wrthaf ei bod wedi gweld Pero a'i Mam, ac wedyn bu'n rhaid i mi glywed popeth am Pero bach yn ennill Gameboy Advance - a fe roeddwn yn wel jealous, gan nad oeddwn i'n ennill yffach o ddim byd.

Ond ers tua blwyddyn 8, ni wedi bod yn best buddies. Eistedd ar bwys ein gilydd yn Gwydd, Maths a Cymraeg, a pallu'n deg a stopio gossipo, er fod yr athrawes Gemeg druan yn frustrated ar ein diffyg gallu Gwyddonol ni. Ond yn ol at Maths, gyda'r cwestiynne twp lle gaethom y syniad am ein nicknames diddorol ni. Cofio Goronwy fyd? Pero a Bwdgerigar (pam taw fi odd y fflipin deryn? lol) oedd y ddau gwestiwn mwyaf digri. Galed yw gweithio hebddi yn y gwersi, gan fod Pero fel arfer yn ateb y cwestiynnau drosta i. Diolch am hynny! Haha.

Ni'n rhy debyg for our own good. Mae'r ddwy ohonom yn terrified o adar - yn enwedig colomenod - ac yn dueddol o ddefnyddio Deryn Du fel tarian yn eu herbyn nhw. Mi rydyn ni'n dwy yn crap pam mae hi'n dod i Wyddoniaeth, fel dwedais uchod. Ac fe roedd y ddwy fam (druan a nhw gorfod rhoi lan gyda ni'n dwy!) yn mynd i'r un ysgol (sef Dyffryn Teifi - bwwww), ac roedd y ddwy fam hefyd yn crap pam mae hi'n dod i wyddoniaeth. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy ohonom yn addicted i Rownd a Rownd. Er, dyw Pero ddim wir yn gwerthfawrogi geniws y nofel Dan Gadarn Goncrit fel y fi - ac i dy atgoffa di, mate, ma'n nghopi i dal gyda ti!!!
Ti'n ffrind amazing Pero. Ni ar yr un wavelength. Mae'r ddwy ohonom yn hollol batty, a dyna probably pam rydyn yn dod mlaen mor dda. Dydyn ni ddim really fel pawb arall... a dydy ein gwynebe ni ddim yn oren!
Mae gennom shwd gymaint o atgofion fflipin mental - gwersi Biol yn blwyddyn 9 gyda'r athro seicig, y Cavewoman Cymraeg, V, Y Pods a'r Podlog, ac wrth gwrs, Baba Eifion.
Ti'n seren.
And he knows it!

Wednesday 3 September 2008

Gwylio'r Oriawr yn Hytrach Na'r Teledu

Dwi 'di treulio'r diwrnod yn gwylio'r oriawr ges i wythnos dwethaf o New Look.
Naw o'r gloch.
"Nooo dwi'n colli Frasier!" (a meddyliwch, rhai ddim hyd yn oed wedi clywed am y glasur o raglen!)
Deg o'r gloch.
"Ma' pryd wi'n watshio diwedd Jeremy Kyle! MAE'N RHAID I MI WERTHIN AR PROBLEMAU POBOL ARALL!!!"
Hanner awr wedi deg o'r gloch.
"Y BORE MA! Dwi'n colli THIS MORNING!"
Unarddeg o'r gloch.
"Dyma pryd roeddwn i'n gwylio To Buy Or Not To Buy... cyn i hwnnw fflipin ddiflannu off y BBC. RIP Kristian and Ed!"
Hanner awr wedi deuddeg.
"LOOSE WOMEN! LOOSE WOMEN!"
Dau.
"WHOSE LINE IS IT ANYWAYS? SO WHAT MOD I'N GALLU EI WATSHIO FE TO AM SAITH, FI MOYN WATSIO FE AM DDAAAAU!"

Yn barod, dwi'n ysu am wyliau arall i dreulio yn fy jimjams yn gwylio telly. A dyma'r diwrnod cyntaf nol. Mae'r wisg ysgol newydd yn uffernol - y flowsen yn fflipin stiff, a'r siwmper yn cosi. Dwi'n gobeithio wir eu bod nhw'n mynd i wella ar ol golchad.

Dwi eisiau bwyta whenever, dim just bwyta yn ystod "amser cinio."

Rydym yn treulio'r wythnos yma'n "team bondio", fel esboinais eisioes ddoe. Rydyn ni yn mynd i Goleg Y Drindod fory, i wneud god knows what, a dwi'm yn becso beth ni'n neud dydd Gwener. Glywes i'r geiriau dwr a mwd, a na fe. Fi definatly adref.

A dwi'm yn gwybod, ond ai y fi sydd jyst yn mynd yn desperate o unig, neu ydy ambell fachgen just wedi dod i edrych yn olygus dros y gwyliau? Cwlwm Caled er engraifft - blydi hell. O a peidiwch son am Mystery Man. Mae e 'di tyfu'n dalach 'to a ma' 'da fe'r barf bach mwyaf annwyl. A Mr Tap fyd. Wow.

O, a parti gwisg ffansi wedi ei drefnu ar gyfer nos Fercher nesaf. Dwi'n popo i Matalan yn ystod fy awr ginio dydd Sul i ffeindio gwisg. Mor leidr? Beth chi'n feddwl?

Tuesday 2 September 2008

Diwrnod Olaf O'r Gwyliau

Siwgr. (Fydden i'n gweud gair gwaeth, ond wrth gwrs, ma' 'na'n naughty!)

Lle aeth yr haf? Ac i feddwl, i ddechre, fe roeddwn i'n bored!


Nawr, dwi mynd nol i ysgol, y lle diflas na lle mae pawb yn gorfod gwisgo teis ac yn gorfod dysgu pethau boring. A bellach, dwi'n mynd yn ol i'r chweched, sydd hyd yn oed fwy scary. Ers blwyddyn 7, mae bron pob un wedi breuddwydio o gyrraedd y chweched dosbarth - lolfa eu hunain, free lessons, a dim gorfod ciwio am ginio. Ond nawr, a Mam a finnau wedi bod yn Evans a Wilkins yn replaco'r crys lilac gyda'r crys gwyn, mae'r sefyllfa wedi dod yn real. Chweched dosbarth, i midgets bach blwyddyn saith, mae bod yn y chweched dosbarth yn golygu eich bod chi'n hen. A dim ond dwy flynedd o ysgol sydd ar ol. A s'dim clem 'da fi lle fi'n mynd wedyn.


Peth arall sy'n fy mrawychu, yw gweld fy athro Ffiseg yn lyrcan yn y coridore, yn barod i'n atgoffa i taw dim ond C ges i'n Ffiseg. Mae ganddo'r habit o ddod REIT lan i'ch gwyneb chi, mor agos fod y ddau drwyn bron yn cyffwrdd. Mae e'n creepy. Ond mae gen i ateb da iddo.
"Nes i'n well na naeth Mam yn Ffiseg."
(Roedd e arfer dysgu Mam - ydy, mae e'n ancient.)

Dwi hefyd ddim yn edrych ymlaen i'r cwrs Lefel A, gan fod Mam yn hoffi fy atgoffa i'n gyson pa mor galed yw e. Ac hefyd, rhywbeth arall dwi'm yn edrych mlaen i gael, yw gwaith cartref. A dwi'n gweithio nawr fyd, felly mae'r oriau o amser hamdden yn mynd yn llai ac yn llai.


A dwi dal ddim yn gallu dewis rhwng dau bwnc - Addysg Grefyddol neu Cymdeithaseg?


Plus, wythnos cyntaf nol, rydyn ni neud beth mae'r athrawon yn galw'n "team bonding". Fel blwyddyn, rydyn wedi adnabod ein gilydd ers pum mlynedd, pam yffach mae eisiau bondio fel tim arnynt nawr? Fflipin hec. Hefyd, ar ddydd Gwener, y dull o "team bonding" yw i wneud rhyw assault course mewn mwd a dwr... felly dwi ddim yn mynd. Mwd, a dwr, a rhedeg, a assault course? Fe arosa i adref a gwylio Whose Line Is It Anyway?, diolch yn fawr.


Felly dyma'r diwrnod olaf o Daytime TV. Dihunes i am 9 bore 'ma, a darganfod fod Frasier nol ar S4C, yr wythnos dwi'n mynd nol i'r fflipin ysgol. Dwi'n dwli ar Frasier, felly mae hyn yn cruel. Ac mae Loose Women nol, ond fe gwffes i golli hwnna fyd, gan fy mod i lawr gyda Mamgu.

Beth roeddwn yn gwneud gyda Mamgu? Wel, mae hynny'n top secret - anrheg arbennig ar gyfer Mam ar ei phenblwydd yn 40 (wedes i fod yn athro Ffiseg i'n hen).

A dyna ni. Diwedd yr haf. End of. Finito.

Dwi'n ysu am haf nesaf yn barod :(

Saturday 30 August 2008

Job, Domo a'r Phil Bennetts

Dwi 'di bod yn brysur ers Gogland, a dwi ddim wedi bod yn bothered i sgwennu. Sori... (as if fod unrhyw un really'n darllen anyway). Dwi ffealu bod bothered nawr chwaith... so here you are.
  • Fe es i i Shaws dros y penwythnos, cael application form a wedyn cael cyfweliad dydd Iau... mwy am hwnna wedyn.
  • Es i mas am Indians gyda Wolfy, Miri Fach, Deryn Du a Pero nos Fercher. Nosweth arall o hwyl a sbri gyda fy girlies! Fe fuon ni just yn silly (I mean, Ice Cream has a whoooole different meaning now!). A fytes i gormod 'to.
  • Ath Pero a finnau i Gaerdydd dydd Gwener. Fe roeddwn yn addicted i'r sticker machine yn Tammy, a fe dreulion ni fore yn chwilio am doilet addas am mod fy mhledren i bron a byrstio (roedd queue ym mhob toilet, a'r un yn BHS out of order. Buon ni bron ffealu ffeindio'r un yn Debenhams - ac erbyn hynny, ro'n i'n rhedeg!). Brynes i shws du newydd, cryse-T, watsh newydd, scarf, dyddiadur ar gyfer ysgol, paent, Sharpie marker pens a stickers. A cinio yummy yn yr Hard Rock Cafe! Plus, fuon ni i Spillers Records, y tro cyntaf i'r ddwy ohonon ni, ond ni welon ni neb famous. O'n ni moyn CD Y Phil Bennetts, gan fod Pero'n caru Pobol Y Cwm (yn enwedig Macsen White). Hefyd, fe aethon ni mewn i Blue Banana, a gweld lot o hen fenywod na, oedd yn wierd o ystyried y fath bethau sy'n y siop, a hefyd aethon ni i siop gomics - yr un dwi wastod yn gweld Raa Man! Felly, fe brynes i Raa Man (stori hir arall). Dwi'n ei alw e'n Domo (ei enw swyddogol), a fe yw fy ffrind bach i :)
  • Heddiw - fy niwrnod cyntaf yn gwaith. Oes. Ma' rhywun wedi bod digon twp i 'nghyflogi i. Ond diolch iddyn nhw - arian poced nawr. Dim lot i ddweud, roedd hi fel bod nol ar brofiad gwaith. S'dim cliw gyda fi lle ma dim byd, a fi'm 'di dysgu shwd mae'r till yn gweithio 'to. A fe dath y boss i mewn yn y pnawn ar ol cinio, a hwnnw'n dal ac yn dywyll... ac yn crosseyed. Roedd un cyd-weithwraig wedi fy rhybuddio i o hyn, felly roedd eye contact yn galed! Roedd pawb yn neis 'na, ond fe roedd y diwrnod yn hir. Gweithio eto fory. A dwi'm yn gwybod beth i wario'r arian dwi'n mynd i gael arno!

A dyna ni. Nol i wrando ar Y Phil Bennetts... "tair gwaith ac mae'r byd yn newid, tair gwaith ac mae'r byd yn newid..."

Plus, dwi dal yn trial convinco Anti-Bionic fod chwarae Pass The Parcel ym mhenblwydd 40th Mam yn syniad gwael.

Tuesday 26 August 2008

Gwyliau yn Gogland

Blog, a dy ddarllenwyr, mae'n flin gen i na chafoch rybydd am fy ail holiday haf hyn.

Dwi newydd dychwelyd o holiday i Gogland, i Griccerth. Fi, Mam, Anti-B a Mamgu.

Diwrnod 1
Fe roedd hi'n sefyllfa gyfarwydd, 4 aelod o'r teulu yn squashed mewn Ford Focus llawn sandwiches. Mam yn gyrru, Anti-Bionic yn y blaen, Mamgu 10 a finnau yn y sedd gefn. Fe roedd Nhad yn cymryd y mick.
"Byddwch chi'n byta sandwiches nawr... a fydd y backseat navigator yn dilyn y ffordd ar y map gyda'i bys!"
Wrth gwrs, "Ond dwi'n gwbod y ffordd i Griccerth!" mynnodd Mam.

Fe roeddwn i yn fy myd bach fy hun, diolch i'r Ipod. Ond fe stopion ni yn Aberystwyth i fwyta picnic Mamgu yn y car (brechdanau salmon, neu brechdanau caws a tomato?!). Ac yn weddol gloi, trodd y sgwrs i beth oedd TSV y diwrnod ar QV fflipin C. Fe fydde Nhad wedi bod yn chwerthin ar mhen i, druan bach o fi.

Cawsom stop yn Corris, yn y ganolfan fach grefftau yno am toilet stop, a welodd Mam a finnau bwrdd nodiadau allan o gorcs o foteli gwyn.
"Gallet ti 'neud na," dwedodd Mam.
Shruggan nes i.
"Fydde eisie glue gun arna i."
"Ga i glue gun i ti."
Dwi wastod wedi eisiau glue gun.

Fe roedden yn teithio'n bellach i fyny'r wlad, a fe roedd y tir yn fwy mynyddog a'r caeau wedi eu amlinellu gan welydd cerrig yn hytrach na ffensys. Fe dorrodd Mamgu ar draws y Sugababes er mwyn dweud hyn wrthaf.

Fe benderfynon ni fynd i Cwmnantcol, i weld capel Salem. Os ydych bys chi ar y pyls pan mae'n dod i celfyddyd Cymraeg, fe fyddwch yn ymwybodol o'r llun enwog o'r fenyw yng nghapel Salem. Ond roedd yn rhaid i ni deithio ar lonydd cul dros y mynyddoedd er mwyn gwneud. Wel, fe ddechreuodd y dair arall banico, a stopon ni'r unig gerbyd arall welon ni a gofyn os oeddwn yn mynd y ffordd iawn. Oeddwn, yn ol y fe - doeddwn i ddim really yn canolbwyntio ar ei ateb e though, roedd ganddo sticer ar ochor ei jeep yn dweud "Fat People Are Hard To Kidnap", felly chwerthin yn dawel yn y cefn roeddwn i!

Dwi'n hoffi lonydd cul, cefn gwlad. Rhowch i mi lon gul heb le i ddau gerbyd basio ei gilydd dros heol dair lon a rowndabowt unrhyw ddydd. Dwi'm yn deall pam fod yr hewlydd yma'n drysu dyn y dre. Fe fydd y motorway yn hunllef i fi pan fyddai'n dechrau gyrru. Gadwch fy yn lonydd cefn gwlad, gyda'r caeau gwyrdd yn fy amgylchynu, yng nghanol swn y da a'r defaid yn brefu. Fe fuodd rhaid i mi neidio allan o'r car bob hyn a hyn i agor iete oedd yn bloco'r hewl. Allan a fi, i ganol yr hen Gymru gwledig - wrth agosoi am Cwmnantcol, fe roeddwn yn gweld y ffermdai cerrig, a oedd yn amlwg yn ffermio defaid ar y mynyddoedd.

Cyrrhaeddon gapel Salem, o'r diwedd. A tu allan yn ein croesawu ni, roedd sboner newydd Mamgu - roedd e'n syth yn weddol ffond ohoni. Gwallt gwyn, cyrn ar ei ben... na, dim dyn od oedd e! Ond gafar! Fe alwon ni fe'n Billy.

A felly gyrrhaeddon Criccerth ar ddiwrnod cyntaf ein gwyliau, a bwytaon mewn bwyty fan 'na. A sylweddolodd Mam fod yna lot o siopau antiques yna... damia'r gath.

Diwrnod 2
Fe roedd hi wedi bod yn ddiwrnod eithaf neis y diwrnod cynt, ond ar y dydd Llun, fe roedd yr haul wedi penderfynu cuddio tu ol i'r cymylau. Fe roedd hi'n sych, ond doedd dim byd neis amdani.

I ddefnyddio geiriau Mam, fe roedd Criccerth yn "le bach digon dymunol". Er, roedd hi wedi cael pedair lustre jug arall o 'na, felly fydde hi'n dweud yna.

Ar ol brecwast (ges i sosej, bacwn a scrambled eggs, gan fod y bolgwns wedi cael Full Breakfasts - a stryglo i fyta hwnna naethon nhw! :P), fe aethom straight i'r ffair antiques yn y neuadd. Lustre jug No 1 a No 2. A fe ges i bag vintage (o'r 1960s yn ol y label) coch, a oedd yn lovely am £7. Ar ol y ffair, i'r siopau oedd yn y dre, a dyna Mam yn cael y lustres eraill.

Off a ni wedyn i ymweld a Amgueddfa David Lloyd George. Fe aethom i weld ei fedd e gyntaf, a wedyn i'r amgueddfa. Roedd e'n eithaf diddorol, er fod Anti-B a finnau wedi cwympo mas y nosweth cynt pa ryfel byd roedd Lloyd George yn brif weinidog drwyddo (fi oedd yn iawn - yr un cyntaf. Winston Churchill a Neville rhywbeth oedd yn brif weinedogion yn ystod yr ail rhyfel byd). Roedd y bedd yn goffa enfawr ger yr afon - fe roedd rhaid ei fod e'n foi mowr i gael bedd mor fowr!

Wedyn, aethom o olwg hagwrch cynnydd, ar wyneb trist y gwaith, i bro rhwng mor a mynydd, heb arni staen na chraith, ond lle bu'r arad ar y ffridd, yn rhwygo'r gwanwyn per o'r pridd. Fe roeddwn draw o ymryson ynfyd, a chwerw'r newyddfyd blin... oeddwn, fe roeddwn ni yn y Lon Goed. Yn hafan naturiol R. Williams Parry (y boi oedd yn ffasanated da fflipin cadno), gerddodd Mam a finnau fraich yn fraich - gan adael Mamgu i gerdded yn hamddenol braf, a Anti-B i dynnu llunie non stop gyda'i chamera bach hi) a adrodd Eifionydd.

Fe aethom wedyn i Abersoch... soch soch, a fe fytes i llond pecyn o chips, fel mochyn bach! Soch soch.

A wedyn i Borthmadog am Indians i swper. Passage To India! Roeddwn dal yn Gogland really, ond fe roedd y bwyd yn neis iawn. Ges i chicken tikka korma a oedd yn ffein iawn. Am ryw reswm though, mae waiters bwytai Indians yn fy hoffi i. Dwi wastod yn bennu lan gyda choclates extra gyda'r bill, neu a losin o ryw fath, a doedd neithiwr ddim gwahanol. Cadwes i nhw i Nhad though, gan 1. roedden nhw'n mint chocolates a dwi'm yn keen ar mint, a 2. roedd "Indian Cuisine" ar y pecyn, a dyw Nhad ddim yn lico Indians a 3. mae e wastod yn conan ein bod ni byth yn dod nol a dim iddo fe.

Fe orffenon yn nosweth yn ystafell Mamgu, y dair co yn yfed gwin gwyn, a roeddwn yn watcho Rob Brydon yn cael identity crises. Well... doedd Mamgu ddim yn hoffi Rob Brydon. Mae Uncle Bryn yn legend! Efallai taw hint i ni'n tair adael i'n ystafelloedd ni ein hunan oedd e, pwy wyr. Ond rydyn ni wedi bwgwth prynu DVD Gavin a Stacey iddi Nadolig - neith hi joio na!

Diwrnod 3
Y diwrnod olaf. Yn ystod brecwast, fe dreuliodd Mamgu y pryd bwyd yn gwrando ar y bwrdd drws nesa'n siarad, ond yn methu clywed beth oedd y tywlwth agosa'n dweud...
"Fflipin heck, ma clyw da 'da ti!" dwedais wrthi.

Aethom am wac ar y traeth wedyn, ond heb Mamgu, gan ei bod hi wedi blino, ac am aros yn ei ystafell hi. Fe roedd hi siwr o fod yn gwylio QVC nabod hi. Fe roedd Anti-B yn casglu darnau broc mor, am ei bod hi wedi penderfynu ei bod hi am wneud mobile.

Off a ni wedyn - ta ta Criccerth! - ac i Bortmeirion. Doeddwn i erioed wedi bod yn Portmeirion, felly penderfynodd Mam fod rhaid i fi fynd. Roeddwn i'n disgwyl i'r lle edrych fel y plate (a tryst me, ma' 'da ni llond cwpwrdd o'r plate yn y gegin). Ond fe roedd hi'n bert iawn yno, ac yn llawer fwy lliwgar diolch byth. Mae e'n un o'r llefydd ar fy list o le hoffwn briodi. Mind you, dwi'm yn ffysi, as long as bod y gwr yn ok. Roedd campwaith Clough Williams-Ellis yn brydferth. Trueni fod Llanpumsaint ddim yn edrych fel 'na.

Nol wedyn. Toilet stop yn Machynlleth, a fe brynodd Mam fwy o lustre jugs fan 'na... a that's it wedyn. Dyma fi adref yn ysgrifennu hwn ac yn darllen am Portmeirion ar Wiki. Cysgu drwy'r dydd fory!

Saturday 23 August 2008

Pero a Madonna

Nawr, os nad ydych eisioes yn gwybod, mae gan Pero'r ddawn lwcus o allu ennill pob cystadlaeuaeth ar y radio - mae hi'n Lucky Star.

Wythnos dwetha, fe ennillodd gystadleuaeth ar Radio Carmarthenshire. Tocynne i weld Madonna'n fyw, heno.

Waw! How Vogue! Gweld y Material Girl ei hun yn Stadiwm y Mileniwm. Felly off a Pero a'i mam, dwy Beautiful Stranger i ddinas fowr Gaerdydd. Y ddwy ar Holiday i gwrdd a rhywun ddigon enwog i fod yn Hollywood - mae e Like a Prayer. Hung Up - no way dyw'r dancing shoes na wedi cael fling, er taw newydd daro hanner cant wythnos dwethaf wnaeth Madonna. Me Against The Music, dwi'n guesso mae Pero'n ei ddweud, wrth iddi dawnsio ei socks bach hi off. Like A Virgin - gweld Madonna yn y cnawd for the very first time.

Dwi'n gallu dychmygu'r ddwy ohonyn nhw, Into The Groove, i'r Music. Er, ges i tecst tua five past nine yn dweud fod Madonna heb ddod arno eto. Mae Pero eisie ei slice hi o American Pie. Sooner Or Later, fe ddeith hi. Well iddi ddod gloi, "Papa Don't Preach" fi'n siwr fydd Madonna'n dweud wrth ei ffans - dyw cael row ddim yn beth neis.

O wel, Die Another Day :)

O'n, mi o'n i'n bored! Cymerodd i fwy na 4 Minutes i fi ysgrifennu hwn, tryst me, a hynny heb help Justin Timberlake.

Guyliner - discuss.

Guyliner, rhywun yn ceisio creu marchnad make-up i fechgyn.



Nawr i'r chwith, mae Billie Joe Armstrong o Green Day - lovely lovely - a mae e'n gwisgo eyeliner. A dyw hyn ddim yn ei stopio i werth cannoedd o recordiau, nac yn ei stopio rhag bod yn mega stunning lysh.

Rhywun sydd hefyd yn gwisgo eyeliner yw Russell Brand - lovely lovely arall - a mi roedd e'n entertainio merched gwahanol bob dydd bron (mae e ar y syth a cul nawr, a'n canlyn yn selog gyda rhyw actores o Awstralia), er ei fod yn gwisgo colur.

Nawr, the debate begins. Mae'r ddau ddyn golygus uchod, yn successful, a does neb yn cymryd y mick eu bod nhw'n gwisgo eyeliner - a siwr o fod eyeliner i fenywod, gan fod yr un arbennig yma i ddynion yn beth newydd.

Ond nad ydy e bach yn wierd fod dynion yn gwisgo colur?

Fi'm yn gallu dychmygu Dad yn gwisgo peth... lol!

Dwi'n cofio Dafad yn mynd trwy ei "emo" phase tua blwyddyn neu efallai ddwy - o hilarious oedd hi bryd hynny. Yn ogystal a'r ffaith ei fod e'n gwisgo "skinny jeans" (ond y rhai dewr iawn a coesau neis sy'n cael trial y look yma), penderfynodd ei fod e'n syniad da iddo wisgo eyeliner. Felly gofynnodd i fi unwaith i ddod a'n eyeliner i i mewn i'r ysgol er mwyn ei roi arno iddo. Felly fine, fe wnes i, a dod a nail varnish du fyd am ei fod e eisie peth o hwnnw ar ei winedd fyd. Felly i mewn i'r ysgol, ac eistedd yn ein spotyn bach ni ger drws D, a fe'n eistedd.
"Reit, arosa'n llonydd!" dwedais wrtho.
Ac fe dechreuodd wiglo straight away. A dyma fe'n dechrau gwichan wedyn wrth i fi drial rhoi fe mlan iddo fe.
"Os rhaid iddo fe ddod mor agos i'n lygad i?" gwichodd.
"Wel 'na'r blydi point grwt!" atebais.
Doedd e'm yn gallu aros yn llonydd i fi beintio'r gwinedd chwaith. Felly un bys bach gafodd ei beantio.

Ta beth, embarassing Dafad stories drosodd.

Boys to wear make up, or not to wear make up?

Roeddwn wedi trefnu i gwrdd a Llwyd yn dref heddiw, a cyn cwrdd a fe, fe welais hen ffrind ysgol gynradd, CaiCai. Wel, roedd e gyda'r current girlfriend (dwi'm yn credu fod CaiCai wedi bod yn single ers cyn co), a mae skinny jeans yn siwtio CaiCai... ond fe ges i sioc i weld e'n gwisgo eyeliner.

Nawr, dwi 'di nabod CaiCai ers ei fod e'n bedair, a tryst me, mi roedd yn bach o sioc. Falle dyfyth e mas o guyliner... falle.

Mi roedd Stuart, o'r gyfres bresenol o Big Brother, hefyd yn gwisgo eyeliner, ac mi roedd y peth yn ormod, ac yn gwneud y llygaid mawr brown pert na oedd gyda fe i edrych yn ferchetaidd.

Fues yn trafod y peth gyda Tuesday, a mi rydyn ni wedi dod i ganlyniad, dyw guyliner ddim yn siwtio pawb. So bois, keep away from it. Yn enwedig ti Matthew Rhys!

Thursday 21 August 2008

Mae 'na ymennydd mewn 'na rhywle...

Heddiw, diwrnod canlyniadau TGAU. Eek.

Ma' e dros y news i gyd, so I doubt eich bod chi ddim yn gwybod. Mae pob newyddion yn fy atgoffa i yn gyson, pawb yn ailadrodd y ffaith flynyddol fod merched wedi gwneud yn well na bechgyn unwaith eto, er fod y papur iaith Cymraeg wedi bod yn seiliedig ar fflipin rygbi er mwyn apelio at yr isaf ryw (rhywbeth sydd dal yn fy nghythruddo - y flwyddyn cynt roedd yna stori am Matthew Rhys yn mynd i Batagonia. Please, pam na ges i lun o'r dyn golygus lyfli stunning lysh yn edrych arna i tra mod i'n ceisio ysgrifennu stori byr hollol pointless a trafod arddull? Fflipin heck, fyddai Ioan Gruffudd neu Gethin o Blue Peter wedi gwneud y tro!!!).

Dwi 'di bod lan ers 7. Am ryw reswm, roeddwn wedi llwyddo i ddihuno fy hunan - dwi'n doubtio fyddai'r swn bach tila mae'n ffon symudol i'n ei alw'n larwm wedi lwyddo i'n ddihuno i o gwbwl! So ar ol gwylio Everybody Loves Raymod (er taw Robert yw'r un mwyaf doniol, obviously) lan a fi o'r gwely i wisgo, glanhau dannedd, straightno gwallt etc, etc.

Cyn gadael y ty i fynd off ar ei anturiaethau amaethyddol y bore ma, dwedodd Nhad wrtha i, "Na'n siwr fyddi di ddim yn ffealu, neu fydd dy fam yn rhoi Chinese Burns i ti yr holl ffordd gatre'".

Doedd Mam ddim mewn unrhyw stad i roi Chinese Burns i neb. Roedd honno'n dioddef - hi gafodd y nyrfs yn fy lle i, a diolch byth am hynny. Roeddwn i yno'n gwrando i Brendan Benson ac yn meddwl am Matthew Rhys - y pethau pwysig mewn bywyd - tra bod hi'n gofidio am y canlyniadau TGAU. Dwi'm yn siwr iawn pam nad oedd y canlyniade ma wedi troi'n nghoesau i jeli a wedi clymu fy stumog yn glymau cadarn. Fel 'na mae.

Ta beth, naw o'r gloch y bore, gyrrhaeddais yr ysgol, a aros tu allan i Pero. Doeddwn i ddim yn ffansio mynd i mewn ar ben fy hunan. Roedd pawb arall yn rhedeg mewn, a fi jyst yn aros yna. Ond cyrrhaeddodd hi, so felly dyna ni, mynd i mewn, a derbyn darn o bapur yn cynnwys tua deuddeg llythyren. Big deal.

Ond typical, dwi ddim yn morning person, a fe roedd pobol o'r newyddion yna'n ffilmio. Os oeddwn ar y teledu, seriously, it was not a good look. Yn gofyn i'r athro am fy marc, gofynnodd hwnnw am fy rhif, a shwd yn y fflipin byd o'n i'n cofio beth odd e? (7087 - dwi'n ei gofio fe NAWR). A dyw'r pale and worried look ddim yn edrych yn rhy dda ar y bocs, yn ogystal a bod y sgrin yn adio pump pownd (a dim i'r boced, yn anffodus).

So... y canlyniadau.
4 A* (Celf, Cymraeg Iaith, Cymraeg Llen a Add Gref), 5 A (Maths, Hanes, Drama, English Lit, English Language), 2 B (Bioleg a Cemeg) a C (Ffiseg!!!)

Petawn yn cael B neu fwy ym mhopeth heblaw Ffiseg (doedd dim gobaith da fi gael lot gwell yn hwnnw), roedd f'annwyl Fam wedi addo prynu par o shoes newydd i fi.

So'r peth cynta wedes i wrthi oedd, "Mam, ma' arno ti par o shoes newydd i fi!"

Weles i fy athrawes Saesneg ar y ffordd mas, ECW, a mae hi'n neis iawn, ac yn nabod Mam, a wedodd hi wrthai dylen i weud wrth Mam mod i'n haeddu dau bar newydd hehe!

Straight i Abertawe felly ar ol ffonio Nhad ("Dim Chinese burns Nhad!" gwaeddais lawr y ffon), ar ol i Mam decstio Anti-B, a gadael i honno weud wrth y byd. Achos tryst me, wedodd hi wrtho pawb - hyd yn oed os nad oeddwn i'n 'i nabod nhw (e.e waiter yn y lle gaethon ni ginio).

Fe ffoniodd hi fy great wncwl Rod a anti Rosie, sef brawd Dadcu Pencader, a gadael iddo nhw wbod. Un o gwestiynnau cynta Rod oedd, "So, yn beth ga'th hi'r C?"
"Ffiseg" atebodd Anti-Bionic.
"O," dwedodd Rod. "Newn hi'm chemist ohoni 'to te!"

So siopa, Mam a minnau yn Abertawe. Top newydd a pili pala arno o River Island felly, a jins newydd o TopShop. Top newydd o DP hefyd, yn ogystal a sgert oedd ar sel, a trwser newydd ar gyfer yr ysgol. A wrth gwrs... y sgidiau newydd! Yn barod, mae Nhad wedi dechrau galw nhw'n fy "gangster shoes" i, a un o'r peth cyntaf gofynnodd i fi os oeddwn i'n teimlo fel Al Capone, neu beth?

Mae gen fy sgidiau i gyd enwe (Matthew Rhys shoes i er engraifft, fy Noise Next Door Converse...) a rhein yw Fy Ryan Stiles Shoes, gan ei fod e'n gwisgo par tebyg ar Whose Line? weithiau. Galwch fi'n od, but I don't care!

Felly dyna ni really, gaethon ni Chinese takeaway adref i ddathlu (doeddwn i ddim yn trystio'r teulu i beidio gweud wrth pob Tom, Dic a Harri yn y bwyty mod i wedi llwyddio i basio fy arholiadau TGAU). Chinese, gan fod yna diffyg Chinese burns! Galwodd Mam yn Tesco cyn dod adref, i brynu pink lemonade, a daeth honna mas a botel o Champagne.
"Sori, fi'n gwbod wedes ti fod ti ddim moyn champagne," wedodd honno.
"Fi'm yn lico champagne Mam!"
"... ond odd e half price ta beth."
Charming.

So nawr, dwi'n llawn dop - fy mol bron byrstio - a mae gen i falwn fawr yn yr ystafell fyw. Ddwedes i mod i'm moyn ffys, felly fe nes i'm twtch a'r champagne, a nes i ballu rhoi cardie ymhob man. Ma llawer wedi gwneud yn well na fi, a fi'm yn deall pam bod yr exams ma' gefais shwd hwyl yn ffaffan drwyddo mor bwysig. Jyst llythrenne bach ar ddarn o bapur. Seriously, pan ddaeth hi i fy 18fed i, dwi'n mynd mas o ma. Fi'n cwato am bythefnos.

Ond ta beth, diolch i bawb sydd wedi gweud llongyfarchiadau, a llongyfarchiadau i bawb sydd hefyd wedi gwneud TGAU - dwi'n mynd i ail ddweud am y trydydd tro, dim ond darn bach o bapur yw e.

Dwi'n chuffed, mae'r teulu'n falch... un person dwi'n gwybod fydd ddim yn chuffed, er fod C yn bas, yw Chris James. Syr, dwi ddim yn sori mod i ddim wedi cael dros A, ond fe allwch chi stwffio'r nodiadau Ffiseg rhywle lle dyw'r haul ddim yn sheinio - h.y, ar un o'i annwyl blanedau yn y gofod, lle does dim hyd yn oed disgyrchiant yno. A gobeithio fydd yno ymasiad niwclear yno fyd, beth bynnag yw hwnnw.

Tuesday 19 August 2008

"What colour is Nicola now then?"

Random quote gan fenyw ar y stryd yw'r teitl am heno. Honno a'i ffrind yn gossipan... mae'n troi mas nawr, taw brown yw Nicola nawr.


Diwrnod absoloutly trippy arall yn Abertawe!


The usual suspects oedd hi, fi, Pero a Deryn Du. Rydyn ni wedi sylweddoli'n ddweddar, er bod y dair ohonom wir yn casau anifeiliaid, er mod i'n dwlu ar gathod, bod ein code names yn ein gwneud ni'n anifeiliaid. (Bwdj, sy'n fyr am bwdjerigar, sef bwdji i bobol sydd ddim yn ysgrifennu cwestiynnau Maths, yw fy nickname i). Felly off a ni i fod fel anifeiliaid gwyllt oedd wedi cael eu rhyddhau o'r zoo!


Fyddai'r Sais yn dweud ein bod ni "too random for our own good".

Ar y tren a ni, off i siroedd bell... Bu'n rhaid i ni unwaith eto eistedd gyda'r siwt cesys, gan ein bod ni am eistedd gyda'n gilydd yn hytrach na cael ein gwahanu gan bobol oedd yn mynnu eistedd wrth fwrdd ar ben ei hunain, pan roedd yna setau dwbwl "perfectly adequate" ar gael. Hmff. Ond roedd gan y tri ohonom siwt ces Tomos Y Tanc yn gwmni, felly roeddent wedi cael ein diddanu, beth bynnag.



Off a ni, a straight i beth mae Mamgu Pero'n hoffi ei alw'n "Oxford Street", am ryw reswm. Wel, mae hi'n galw Pero'n Poppy weithiau, a nid dyna beth yw enw'r groten... hmmm... teulu rhyfedd :P a ma Pero'n wir adlewyrchu hynny! (well fi watcho mas nawr though, mae ganddi llun fel own back... eek). Ta beth, siope... a mae'n rhaid i mi ffeindio gwaith. Gormod o ddillad, dim digon o arian... fi'n dilyn 'Nhad. Rhy dyn i brynu dim. Damnia'r gath.


Chi 'di sylwu mod ym mlog i bach yn wierd heno? Dwi wedi. Peidiwch a gofyn pam - s'da fi ddim cliw 'n 'unan.

Jyst i brofi ein bod ni'n hollol mad ac yn hollol random, penderfynom heddiw am ryw reswm, fod Deryn Du yn rhyw blatapws roedd Pero wedi gweld ar y teledu... mae hi'n gwylio gormod o'r Disney Channel honna... wel ta beth, danfonon ein Deryn bach ni i eistedd yng nghanol llawr y sinema a dodwy wy. Yn ol pop son, platapwsus (mwy nag un platapws? Geiriadur plis!) yw'r unig famal sy'n dodwy wyau. Yn ol Pero though, mae gan y platapws mae hi'n gwylio gwahanol "modes". Agent mode a pet mode. Yn pet mode, mae'r platapws ar y teledu yn cerdded "on all fours" a mae ei lygaid e'n edrych yn od... trion ni gael Deryn Du i wneud hyn fyd... but she was having non of that.

A na, dwi'm yn gwybod lle ddaeth hwna o chwaith.


Siopa - gan drio arno ffyni sunglasses a oedd yn gwneud i'r ddwy arall edrych fel Ozzy Osbourne a Elton John yn Primark - a wedyn dechreuais gonan mod i eisiau bwyd, a trion ni fynd i Pizza Hut tua deg munud i ddeuddeg, ond dyw'r lle ddim yn agor nes 12 sharp, ganol dydd. Beth os ydw i moyn pizza i frecwast? A roeddwn i'n starfio. Wel, aethon ni i Blue Banana wedyn, i ddiddanu ein hunain am gwarter awr fach, a yno penderfynodd Pero a finnau brynu goodie bags Blue Banana... ac ynddo mi roedd Toe ring... dwi byth wedi berchen un erioed, a dwi'm yn dangos yn nhraed so bach o wastraff really... breichledau allan o sbrings - sy'n awesome i fflicio at bobol!, a ear cuffs. Ear cuffs? Dyna ddwedodd Deryn Du oedden nhw anyway... ear cuffs, beth bynnag nesa. Ar y tren ar y ffordd adre wnes i jocan mod gen i lip ring dwi ei stretchio t'm bach a'i roi ar yng ngwefus. Oh so emo, you know haha!


Gyda goodie bag arall o Claire's wedyn, sydd drws nesaf, roedd bwyd ar feddyliai'r dair ohonom - dim jyst fi. Felly pizza mawr bendigedig gyda bara garlleg. Calories, pah! Pa calories? wfftiodd y dair ohonom. Doedden ni ddim mor dew a'r ferch druan na yn un o luniau Deryn Du... (mwhahaha).


Ta beth, hanner ffordd drwy llwnc go fawr o'r Pepsi (fe roedd y lle'n cynnig free refills, felly fe wnes gymryd mantais o hyn), fe gyhoeddodd Deryn Du fod hi newydd gael text gan Bleu yn dweud ei fod yn ail liwio'i roots e. Wel, bu bron i dau llond cegaid o Bepsi (un diet, un normal) sprayo dros y bwrdd wrth i Pero a finnau byrstio allan i werthin. Dechreuais dagu fyd. Dyw e ddim yn ananarferol i fachgen dyddie hyn i liwo'i wallt, ond i'w liwo'n felyn llachar, a wedyn ei ail liwio lliw yna... Roeddwn i'n llefen chwerthin. Fel ddwedodd Pero, mae ei wallt e lliw disgysting - fel se rhywun wedi pisio arno!


Off a ni wedyn i siopa bach mwy, a brynais anrheg penblwydd ar gyfer Mam - sy'n top secret, confidential. Os na fydd hi'n ei licio... well, tyff. Dwi'n credu fydd hi though... neu oleia neith hi jocan lico fe.


I'r sinema wedyn, i weld Angus, Thongs and Perfect Snogging, wedi ei selio ar lyfrau Louise Rennison (rhywbeth fel 'na). Nawr, tries i ddarllen y llyfre, ond doeddwn i jyst ddim yn deall beth roedd pawb arall yn meddwl oedd mor fflipin ffantastig amdanynt. I jyst didn't get it. Ond fe roedd y ffilm yn gret. Dyddiaduron merch bedair ar bymtheg oed o'r enw Georgia Nicolson yw'r llyfre, ond jyst dilyn bywyd Goergia trwy ei llygaid hi oedd y ffilm. Yn ol Wikipedia (a girl's best friend!) mae'r cymeriadau wedi newid tipyn, ond dwi'm callach. Fe roedd hi ages yn ol pan dries i ddarllen y llyfre. Ta beth, roedd y ffilm yn gret. Total chick flick. A fe roedd chwaer fach Georgia, Libby, a oedd yn hoffi gwisgo'r gath i fyny, yn hollol batty. Mae Pero a Deryn Du wedi penderfynu, ei bod nhw'n ffansio'r boi oedd yn chwarae Dave The Laugh (oh, pan wnath Georgia weud wrtho bod hi'm yn interested fe odd e'n edrych mor drist, bless!), sef Tommy Bastow, bachgen sydd hefyd yn ymddangos yn hysbesebion BT (y rhai na gyda Kris Marshall off My Family and co?). Mae'n well gen i'r un oedd yn chwarae Robbie, ond er hynny, doedd e'm yn edrych mor ffit a hynny o rai onglau camera... na dyw hwnna ddim yn swno'n reit yn Gymraeg, he didn't look his best at all camera angles. Falle taw fi sy'n ffysi, a fi sydd wedi penderfynu eisioes taw dim ond un dyn sydd i fi.

Ond chick flick perffaith ar gyfer girlie day out!


Roedd y siope'n dechrau cau erbyn hyn, felly jyst cerdded rownd oedden ni - ddim cweit yn barod i gallio a bwrw am adre. Cerddon heibio lle roedd yn cael ei alw, yn ol y llythyrau mawr ar y wal, The Bar Quarters. A dyma Pero, o clever clogs Pero, yn mynd...
"Ond lle mae'r tri chwarter arall?"


O! Y chwerthin. A jyst cyn cario mlaen, cerdded HEIBIO'r bar quarters wnaethon ni, dim mynd i mewn.



Yn ol a ni ar y tren. Dechreuon ni off y dair ohonom yn sgwashed mewn i sedd i ddau, gan fod Pero yn anfodlon eistedd ar bwys unrhyw un dierth, ond rhedon tuag at ford unwaith roedd yna un ar gael! Treulion weddill y siwrne yn edrych ar enwe Bluetooth pobol eto... roedd yna Mike, Errol, Mos ag roedd yna... Catherine Tate. I doubt taw'r Catherine Tate go iawn oedd ar y tren i Gaerfyrddin though...

Monday 18 August 2008

A Look At Books :)

Dwi'n mynd i siarad am lyfre eto. Pam lai. Dwi'n hoffi darllen, a ma' hi'n ddydd Llun, a s'da fi ddim yffach o ddim byd arall i siarad amdano. Yr unig beth dwi wedi bod yn neud trw'r dydd yw gwylio Brothers & Sisters.

Gorffennais ddarllen O Ran gan Mererid Hopwood, ennillydd y medal ryddiaeth leni, dau neu dri diwrnod yn ol, a dwi ffealu cofio os dwi wedi siarad amdano neu beidio. Ges bwl o hiraeth yn Stoke on Trent, ac yn hytrach na cario mlaen gyda Jane Eyre, darllenais y llyfr Cymraeg yma. Yn y nofel, mae Angharad Gwyn yn edrych yn ol ar ei phlentyndod yng Nghaerdydd, a'i pherthynas gyda'i thad. Mae'r pennodau mewn rhannau, yn hytrach na phenodau hir, a mae hyn yn crynhoi'r darllen, a dwi'm yn credu fyddai jyst unrhyw un yn gallu dod bant a gwneud hyn. Short, but sweet, and seriously, she pulls it off. Mae'r stori yn mynd ochr yn ochr a chofiant am Ifan Gwyn, y tad, er fod y ddau gof ohono'n contradictio'i gilydd.
All in all, da iawn.


Tries ddarllen ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, sef Igam Ogam... ond ffealu mynd mewn i hwnna. Dwi'n credu fod hud a lledrith yn involved... Mam yn darllen hwnna nawr ta beth.

Cyn gorffen Jane Eyre, dwi 'di dechre darllen The Devil Wears Prada gan Lauren Weisberger. Dwi'n gobeithio gweld y ffilm ar ol ei orffen e. So ffar, fi ar pennod 2, ag yn pennod un mae Andrea wedi bod yn stryglo i yrru stick shift, ac wedi gorfod pigo cath ei boss hi lan o'r fet. Riveting stuff... Falle wellith e.

Reading reviewer of the year 2008, signing out B-B-Z!

Saturday 16 August 2008

Squiffy - ac nid jyst oherwydd fumes ei ddillad.

A Matthew Rhys wedi dychwelyd i La-La Land, dwi'n chwilio am rhywun arall, rywun mwy realistig efallai.

Siomedig yw'r dewis sydd yn yr ysgol, a rhai sydd werth ei ffansio yn bell o fod yn berffaith. Wrth gwrs, dyw'r looks ddim mor bwysig a'r personoliaeth... ond eto, dydych chi ddim moyn mynd mas gyda rhyw corrach o fachgen a llond ei wyneb o blorrod.

So, wedi i mi groesi pob bachgen yn f'ysgol off y rhestr o gryshes posib, dwi 'di troi at y talent lleol... neu'r diffyg talent lleol. Mae'r bechgyn lleol i gyd, dwi'm yn amau, wrth i fy ysgrifennu hwn, lawr yn y parc yn cymryd cyffuriau - a dwi ddim yn gorddweud. A maent i gyd mewn cariad gyda merch dwi'n mynd i alw'n Penbwl ta beth.

Ond dwi wedi dewis un. :)

Bachgen neis iawn, er y ffaith ei fod wedi ffealu ei brawf gyrru dwy waith o leiaf, efallai dair. Y rate hyn, fe fydda i yn gallu gyrru cyn hwn, a dwi ddim yn 17 nes mis Hydref (23rd - mae presantau yn neis. Diolch).

Mae hen fenywod y pentref i gyd yn dwlu arno, felly I suppose fod hyn yn golygu fod gen i dast hen fenyw... gan eu bod nhw gyd yn hoffi ymgasglu rownd iddo, ac yn hoffi ei alw'n "grwtyn bach neis", a rhoi llond twll o ofan iddo fe druan. Achos tryst me, mae cangen Merched Y Wawr Llanpumsaint yn fflipin scary! (including fy dwy famgu i fan 'na)

Mae Squiffy, fel dwi wedi penderfynu ei alw, wedi bod rownd ers sbel, ers cyn Nadolig dwethaf, a dwi ddim actually wedi ei weld ers New Years Eve (a fe roedd e'n gwisgo crys smart iawn y nosweth 'na, jyst i weud)... ond heddiw, wrth yrru heibio yn y car, roedd e allan tu fas drws y ffrynt yn cael mwgyn, yn y glaw. Problem arall yw'r ysmygu, ond does dim pwynt i mi fod yn ffysi really.

Mae e'n edrych union yr un fath a actor a oedd yn chwarae rhan Eric Birling mewn hen ffilm du a gwyn An Inspector Calls... bu'n rhaid i ni wylio yn Saesneg gyda Miss ECW. Ac ar y pryd roedd Deryn Du a finnau (Inglish bydis ffor leiff eh!), yn ffindio'r term "Squiffy" a oedd yn y ddrama yn hilarious, ac fe roedd gan Eric Birling yffach o gwiff mawr yn ei wallt... fel gallwch chi ddychmygu... "Squiffy Quiffy!"... Dyna esboniad y nickname i chi felly.

Ta beth, roedd e'n edrych yn neis iawn heddiw, a dyma fi'n mynd mlaen am fachgen i'r blog, i'r byd.

Friday 15 August 2008

Mae Gen I Fus Pass Gwyrdd

Mae gen i docyn bws gwyrdd,
Sy'n fy ngalluogi i deithio'r ffyrdd,
I'r ysgol fawr yn Nghroes-y-Ceiliog,
Ar ddiwrnodau glawiog, neu diwrnodau heulog,
Cerdd yw'r blog post hwn, am fy mod yn bored,
A mlog i yw hi, so fel 'na mae hi fod,
Ges i lythyr heddiw gen y cownsil trwy'r post,
A finnau'n meddwl mod i mewn trwbwl ac yn dechre teimlo'n dost,
Ond na! Rhyddhad - dim ond tocyn bws,
A ysgrifen wnes i ddim darllen am ei fod yn ormod o ffws,
Ond fel 'na mae gyda Chyngor Y Dre,
Yn mynd o chwith o hyd, a popeth yn mynd o'i le,
Ta beth, cwmni bws gwahanol sydd yn mynd a fi,
O adref i'r ysgol, i wneud dim byd, heblaw dysg-u,
Oldi gwael? Sori, sori, sori...
Fe wnai ysgrifennu cofnod teidi fory!
Ffarwel felly, i cwmni bysys arferol y gornel wyntog,
Dim rhagor o Slug, y gyrrwr boliog,
A deithiau fel malwoden, un araf iawn o ran hynny,
A oedd yn gwylltio'n gacwn pan roedd rhywun yn sefyll i fyny.
Dim rhagor o Happy Huw,
Y dyn mwyaf blin yng Nghymru, I'm telling you!
Ond dim rhagor o godi llaw ar Colin Clen,
Dim Dai, a dim rhagor o Owain, oedd yn olygus ond eto'n men,
A adawodd WC, i ddreifio gyda bysys Cyntaf.
Nawr dwi'n teithio gydag un o'r cwmniau bys glanaf,
A'r rhai druta - dwi'n teithio mewn steil,
A hynny am dua ddeuddeg mile,
I'r ysgol yn y dre, i ddioddef diwrnod arall,
Mewn lle sy'n ceisio fy ngwneud i'n ferch fach gall.
Ceisio.
Nid yn llwyddo!

Thursday 14 August 2008

Tai bach bisexual...Ydw, dwi nooooool!

Ydw, dwi nol. A'n syth bin dyma fi'n sgwennu am fy nghwyliau ultra rock and roll yn Stoke on Trent.

Fe roedd hi'n siwrne eithaf hir, ag i ni, hambons sydd wedi arfer a lonydd cul cefn gwlad, fe roedd y hewlydd sawl lon yn ddrysfa llwyr. Roeddent yn chwilio am George's Hotel (pwy bynnag oedd George), yn Swan Square, yn rhan o'r ddinas or enw Burslem...

"O na... gallwn ni fyth fod yn aros fan hyn," oedd ymateb Mam.

Fe roedd y lle yn dipyn o dwll. Roedd yna ffatri enfawr Royal Doulton, a honno bellach yn adfail. Roedd y ffenestri wedi torri, y to yn cwympo i mewn... yr adfail o adeilad oedd calon yr ardal, a'r galon honno bellach yn ddi-werth ac yn ddi-ddim... Diolch byth, meddyliais, mod wedi gorfod dod a fy nhreinars gwyn Reebok... Dwi'n siwr fyddai rhywun wedi fy stabio petawn i'n gwisgo fy Converse arferol... Dim o ddewis roeddwn yn gwisgo fy chavvy trainers, jyst i adael i chi wybod. Mi roedd Mam wedi mynnu golchi fy Converse, ar ol fy stalkio ddydd Sadwrn dwethaf, a doeddent ddim yn sych, ac fe roedd fy Vans druan hefyd yn drwch o fwd... Felly Reeboks gwyn, llachar, plastig. How lovely.

Ta beth, er yr ardal anffodus, fe roedd yr hotel yn lovely - chandalier yn y dderbynfa a chwbwl a papur wal posh iawn!

Sylwodd Nhad fod yna scales pwyso yn tai bach y menywod - pam yr oedd e'n edrych mewn yn y fan honna, dwi ddim yn gwybod - a gofynnodd i Mam, a honno ar ei ffordd yno, "Wyt ti moyn 20p i hwpo yn y scales?"
Mae Mam yn benderfynol o golli saith pownd cyn cyrraedd 40 (sydd ar y 13th o Fedi).
Felly dyma fi'n ychwanegu, "Os wnei di roi digon o 20ps mewn, fyddi di wedi colli saith pownd!"
Saith pownd... as in £ pownd a pownd pownd... geddit?!?

Yn ystod ein gwyliau byr, fe fuon i lot o lefydd rownd ffor 'na... roedd y rhanfwyaf ohonynt yr un peth, a ni welon dim byd gwefreiddiol.

Oo, fe roedd yna amgueddfa mewn hen dy o oes y Tuduriaid yn Stafford, a dwi'n hoffi amgueddfeudd, os nad ydych chi, sgipiwch y paragraff yma. Fel ddwedais, mewn hen dy o oes y Tuduriaid, a oedd yn cynnwys tri llawr o ystafelloedd yn cynnwys gwahanol oesau. Fe roedd yn "Victorian Room", i enwi un, a oedd yn cynnwys dodrefn Victorianaidd a hen ffrog borffor. Roedd yna hefyd "Civil War Room", "Stuart Room" ("O drych, stafell Stuart!" - ha, ha Mam.) ayyb. Roedd pob ystafell yn cynnwys gwrddrychau o'r cyfnod, wrth reswm. Un darn fasanating oedd y papur wal Tuduraidd! OK, dyna'n History Watch rant i drosodd. Dwi'n hoffi museums - dwi'n meddwl fod hynny'n fy ngwneud i'n cool!

Hefyd ar ein trip, fe wnaethom ddarganfod though, fod Nhad yn ageist... roedd pob un a oedd yn mynnu croesi'r hewl tra'i fod e'n gyrru yn digwydd bod yn hen, ac felly datblygodd casineb yn eu herbyn. Dryan a'r henoed weda i. Tra'n pasio siop elusen "Help The Aged", dwedodd fy Nhad "...put them down!". Ond dyw e'n lyfli?

Un moment digri arall, oedd yn Cafe Nero, pan stopion ni yno am goffi (fi am Coca Cola, obvs). Roedd Nhad am fynd i'r ty bach, a Mam eisioes wedi bod.
"Ma'r tai bach fan hyn yn neis," dwedodd. "Dy'n nhw ddim fel y rhai yng Nghaerdydd... Ma'r rhai merched a bechgyn ar wahan fan hyn... rhai bisexual sydd yn Caerdydd..."
Unisex roedd hi'n meddwl... dwi'n gobeithio.


Ar ein noson olaf yn SoT... roeddwn yn cerdded tuag at y gwesty o'r lle parcio, a pasion ni fan yn berchen i dynion gas... O dyna ddigri fyddai petai yna broblem fach yn y gwesty!
"We've had a gas leak... sooo..."
Typical, really.

Fe roedd y gwesty'n saff though, so nol a ni i'r stafelloedd, er cafom wybod efallai na fyddai brecwast y bore wedyn, a fod dim siawns o gael dwr twym y noson honno. O wel, nol a ni, a fe droies i'r telly mlan, a watcho How Clean Is Your House? (MAE E NOL AR Y TELEDU! O'R DIWEDD!!!) a darllen ennillydd y Fedal Ryddiaith - O Ran gan Mererid Hopwood, gan adael gorffen y cwpwl bennodau o Jane Eyre sydd gennyf ar ol nes diwrnod arall. Llyfyr good so far.

A felly nawr, dyma fi adref. Diolch byth, dwi 'di blino... Stoke yn neis iawn, ond plis... gadwch i fi fynd i LA!

Dwi'n mynd i orffen gyda cerdd fach ysgrifennais (inspired by Stoke on Trent! Ha!).

Burslem Blues
All shut up, all closed down,
Is this dere lict part of town,
Once the prosperous area of the city on the Trent,
The time went, the fortune having been spent,
Rainbow streets of graffiti and grime,
Berslum is waiting for a better time.

Monday 11 August 2008

Off ar wyliau.

Tawel fydd hi am ddiwrnod neu ddau - dwi off ar wyliau.

Ers i ni ddod nol o Amsterdam adeg Pasg, a'r Iseldiroedd ar y pryd yn drwch o eira (roeddwn i yn fy element - ma' eira'n fflipin awesome! A hefyd dwi'm yn ffan o haul ta beth), mae Mam wedi dweud ei bod hi am fynd bant ar wylie eto, ond i rywle twym er mwyn iddi gael sun tan.

Ond ar y pryd, mewn ffordd hollol derfynol, dywedodd Nhad taw dyna'r tro dwethaf odd e'n fodlon hedfan leni.

O diar.

Wel, fe wnaeth Mam ddweud gall y ddwy ohonon ni fynd i rywle fel Sbaen, neu Ffrainc, a gadael Dad adref gyda'r seilej neu whatever mae e'n neud wrth ffermio. Oh la la, meddylais, dande esta el raton? Fydde hynny'n eithaf cool, a felly dechreuais bractiso fy ieithoedd. Legumes! Dwi'n lico gweld llefydd newydd, ac roeddwn ar y pryd yn rhagweld haf, hir diflas o fi'n gwneud eff all.

Mae'r tri ohonom yn mynd ar wyliau nawr, yn dechrau bant yfory, yn gynnar gynnar yn bore...

Rydyn ni'n mynd i Staffordshire.

No aeroplanes involved.

Mae Mam wedi darganfod fod sawl siop antiques yno, felly fydd Nhad a finnau yn cael ein llusgo rownd tra bod Mam yn inspecto pob dim, ac yn gosod unrhywbeth sydd a chrafad neu chip ynddo yn ol ar y silff, a prynu unrhyw jwg lustre arall geith hi afael arno. Mae hi hefyd am fynd rownd y potteries yn Stoke-On-Trent. A dwi wedi checio - does dim H&M yn S-o-T.

Dwi ddim yn gwybod pam fod eisiau mynd mor bell i weld potteries - ma' Gwili Pottery jyst lawr yr hewl.

Wel, esboniad o lle dwi'n mynd i chi. Felly hwyl fawr nes tua Dydd Gwener!

Beth oedd yn bod a mynd a fi i LA i gael fy nyrsio gan Matthew Rhys?!?!
(Mae fy annwyd yn well heddiw, diolch am ofyn, ond still, ges i'm yn dendio gan hync o ddyn o Gaerdydd...)

Sunday 10 August 2008

Chwilio am nyrs gwryw, golygus...

Ar ol y trydydd diwrnod yn y glaw, dwi wedi dal annwyd.

I fod yn onest, roedd e i'w ddisgwyl. Dyw bod mas gymaint yn y glaw yn glwychu i'r croen ddim yn syniad da.

Y symptomau - mae fy nhrwyn i'n rhedeg (dwedodd Mam, gwyliwch mas am hyn, ddylai hon ddod yn ddigrifwr stand up, "Rhed ar i ol e te!"... Ha. Ha. Not.), dwi'n cadw tisian, ac mae'r llygaid yn dwrhau a'r pen yn teimlo'n drwm.
Annwyd. Gret. Not attractive.

Petawn i'n ddoctor (a fe ddwedodd Scum unwaith fydden ni'n neud yffach o ddoctor da, gan mod i'n rhwydd i siarad a), fe fyddwn yn prescribo nyrs arbennig i fi fy hun, i edrych ar yn ol i.

Matthew Rhys, i'n nyrsio i ac i gusanu pob clwyf!

Yn sydyn reit, ma'r corff i gyd yn dost...

Saturday 9 August 2008

Dwi wedi gwneud ffrind newydd =)

Ail ddiwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd.

Roeddwn wedi cael dewis - siopa gyda Mam a Mamgu 10, neu diwrnod yn y Steddfod gyda Anti-B, PC Larwm a merch un o ffrindiau'r PC, Ashlee. Es i siopa. Roeddwn yn meddwl i ddechrau mod wedi gwneud dewis da. Fydden i dan do rhan fwyaf o amser, ac fe roedd hi'n pisio i lawr y glaw (ma'r tywydd wedi dechrau vendetta yn f'erbyn yn ddweddar - bob tro dwi adre, fel ddoe, pan wrthodais y cyfle i fynd i Tenby am ddiwrnod arall, roedd hi'n sych!).

Felly dechreuodd y dydd yn normal. Cymeron mantais o'r park and ride o Ikea, a off a ni i ddechrau diwrnod o siopa. Coffi stop gynta, yn Cafe Nero, drws nesa i'r siop sydd yn gwerthu Raa Men (stori hir - gofynnwch i Tuesday), a wedyn ath Mamgu off i Laura Ashley ag i'r siopie na ma hi'n lico, ag ath Mam a fi ar ein ffordd i H&M. H&M yw highlight mynd i siopa mewn tref neu ddinas fawr. Does dim H&M i gael yn Gaerfyrddin, does dim hyd yn oed un i gael yn Abertawe - felly mae mynd i H&M yn exciting... galwch fi'n sad. Felly ar y ffordd i'r Capitol, galwon gyntaf yn Miss Selfridge, Dorothy Perkins, Principles (shop Mam odd honna!), River Island... roeddwn yn cario T-shirt Batman pinc newydd a CD live y Dropkick Murphy's yn fy mag, ac roedd Mam yn mynnu mynd i weld Per Una yn M&S, pan ddaeth neges destun ar y ffon.

"Ma fe ma yn cwcan byrgyrs ar bbc. Fi ar ffordd na nawr. X"

Sighting. Roedd yr ysbiwyr wedi bod yn gwneud eu gwaith! Roedd rhaid mynd - nawr! Stwffio'r siopa - dwi'm hyd yn oed yn hoffi siopa ta beth!

Roedd rhaid i mi gyrraedd maes yr Eisteddfod. Doedd e'm yn rhy bell, ond yn ddigon pell. Rhuthrais o M&S - a bu bron i mi fwrw sawl un i lawr ar fy ffordd. Doedd gen i ddim amser i oedi! Roeddwn wedi croesi dros yr afon, ac ar y llwybr wrth gerddi Soffia. Ges i alwad ffon - ond fe golles i honno - ac wrth gerdded trwy'r maes parcio sylweddolais fod gen i Answer Phone Message (a dwi'n casau'r negeseuon a chas chasineb. Ma' nhw'n byta fy ngredit i!).

Roeddent wedi cael eu llun wedi tynnu gyda fe.

Roeddwn yn mynd yn gynt eto. Roedd rhaid i mi gyrraedd y maes! Bu bron i mi ddechrau rhedeg, ond yn un a oedd fel arfer yn sceifio PE os oedd hynny'n bosib, doedd rhedeg ddim yn opsiwn. Cyflymodd y cam. Roeddwn yn chwysu, a finnau ddim yn arfer a mynd mor gloi. Pallais rhoi i fyny ag oedi, roeddwn yn benderfynol o gyrraedd yno, ac roedd hynny yn fy ngyrru ymlaen.

Pan gyrrhaeddais y fynedfa, roeddwn yn wlyb domen. Roedd fy nghot glaw Adidas yn useless, ac yn gadael y glaw i mewn, ond chwarae teg i honno, 7 5 yw'r dosbarth cofrestri sydd ar y label, felly mae hi'n bum mlwydd oed. Roedd gwealodion fy jins yn fy mhwyso i lawr, gan gynorthwyo disgyrchiant yn ei waith.

"TOCYN MYFYRIWR OS GWELWCH YN DDA!" bu bron i mi weiddi'n ffrantig at y fenyw oedd yn y booth gwerthu tocynne.

Roeddwn ar y ffordd i mewn, pan rewais. Roedd y dyn tocynnau yn syllu arna i'n od.
"Ti'n dod mewn te?"

Dim eto. Roeddwn wedi gweld rhywun.



Y dyn ei hun - Matthew Rhys.

Roeddwn i ar y ffordd i mewn, a fe roedd e ar ffordd mas! Mae hyn yn dechrau dod yn habit, digwyddodd yr un peth nol ym mis Mehefin - fe ar y ffordd mas, fi ar y ffordd mewn (neu am fod ar y ffordd mewn bryd hynny).

Ta beth, roedd e mewn cot dywyll, a sgarff dywyll rownd ei wddf, a het fach giwt ar ei ben, ac yn gwisgo jins tywyll a bwts. Cwympodd fy ngheg ar agor, am yr ail dro.

Roedd e ar ben ei hun, a cyn i mi gael gyfle i ail feddwl, gofynnais "Esgusoda fi, galla i gal llun gyda ti plis?"

"Ie, iawn, dim problem," oedd ei ateb e.

Roedd e'n lyfli. Gan mod i ar ben fy hun, a fod Anti-Bionic yn aros amdanai'r ochor arall, bu rhaid i mi dynnu'r llun fy hunan - emo style!
"Fi'n rybbish am 'neud hyn," ddwedais, gan rhoi'r ffon (defnyddiais camera'r ffon chi'n gweld) yn y lle iawn.

Roedd fy nwylo i'n crynu fel deilen, a fel ddwedais i wrtho fe, dwi'n rybbish am dynnu lluniau o fy hun, fy hun. Ond daeth y llun mas yn neis, a fe ofynnodd Matthew Rhys os oedd y llun yn iawn cyn mynd. Ydy, atebais... cyn sylweddoli...

"Oh my god!" ebychais. "Ngwallt i!"

Roeddwn i'n socan, a ngwallt i'n diferu - ag unwaith eto, roeddwn wedi gwastraffu cwarter awr yn ei straightno y bore 'ny. Damnit! meddyliais. Chwerthin wnaeth e, gan wenu'n bert eto. Diolchais iddo. Ac off a fe, gan fy adael i sgipio tuag at Anti-B, a oedd yn ffrantig yn fy ffonio i gan ei bod hi'n gallu gweld Matthew Rhys yn gadael ond doeddwn i yn un man i'w weld.

"Beat you to it," dwedais wrthi, a dangos y llun.

Roeddwn i mor chuffed.

Treuliais gweddill y diwrnod yn sgipio o gwmpas y lle, a hymian (gan nad ydwyf yn gallu canu) "Singing In The Rain", a becso dim mod i'n glwychu i 'nghroen. Textiais y llun i bawb, obviously - mae gan bawb yn address book fy ffon i llun o fi gyda Matthew Rhys. (Llun uffernol o fi, ond o wel, gwrddes i Matthew a fe roedd e'n lyfli so who cares).

Ond dwi dal mewn tipyn o sioc mod i wedi llwyddo i siarad yn gall ag e yn deidi heb ddechrau mynd yn mega mega excited a dechrau sgrechian yn ei wyneb a crio a gweud gymaint dwi'n ei garu e...

Dwi definatly mynd i ddal annwyd tro hyn though. Dwi'n teimlo'n nhrwyn i'n rhedeg yn barod (yr unig rhan o 'nghorff sy'n actually gallu rhedeg!)

A phan gyrrheaddais adref, dwedodd fy Nhad, yr un sydd wedi dweud dro ar ol dro nad wyf yn cael priodi neb sydd heb dractor, (rhaid i'n Nhad gael mab yng nghyfraith sy'n ffermio), a thinc o falchder yn ei lais, "Ma' gobaith... ma 'i hat e'n eitha farmery."

Tuesday 5 August 2008

Eisteddfod Genedlaethol 2008 : Caerdydd

Dydw i ddim yn cael llawer o lwc gyda'r tywydd.

Codais y bore 'ma (dihuno fy hun am bum munud wedi saith - a oedd yn wyrth!), neidio i'r gawod bron yn syth... dylen i ddim fod wedi botheran.
1. Ges i gawod arall - gawod o law.
a 2. Ni wnes gwrdd a Matthew Rhys anyway.

Roeddwn i'n dressed to impress. Y gwallt yn ei le, y colur yn cwato'r drwg i gyd. Fy jins gore, a'r top newydd o Top Shop (t-shirt bach ciwt gyda coler bach a bwtwns!). Gwisgais top du o dan honno, gan fod hi'n edrych yn oer, a cariais fy nghot glaw. Pigodd Mam a finnau Pero i fyny o'i thy am 9 o'r gloch (ok 5 past - dwi'n slow yn bore), ac fe roedd hi'n pisio i lawr y glaw.

Eto. Yn gyntaf diwrnod glwyb yn Nimbych Y Pysgod, nawr diwrnod ofnadwy (o ran tywydd) arall yn y Steddfod.

O wel. Roedd hi'n ddiwrnod gret ta beth.

Bob blwyddyn, mae Pero a finnau'n benderfynol o "Celeb Spotio" mewn Eisteddfod. Does dim dal - un yr Urdd neu'r Genedlaethol - fe fyddwn yn mynd i oleiaf un Eisteddfod bob blwyddyn. Nawr, yn amlwg, dydyn ni ddim yn mynd i weld Britney Spears neu rhyw A-lister yn camu allan o'r pafiliwn pinc (well, you never know, ma'r pobol yma o LA yn loopy. They call it La-La land for a reason don't you know?!)... ni jyst yn licio gweld faint o ser Pobol Y Cwm rydyn yn gallu cyfri, a pa rai o gyflwynwyr Planed Plant rydyn yn gallu gweld.

Felly dyma'r list.
  1. Tara Bethan - dyma'r person ddwetha welon ni wrth adael, ac felly'r un cyntaf dwi'n cofio.
  2. Macs O Pobol Y Cwm - God knows beth yw ei enw iawn e. Blondie, mab Sion White. Mae Pero a finnau'n dal i gwmpo mas os ydyw e'n good looking neu beidio (ydy! mae e - surfer boy looks, that kinda thing. Cytunwch gyda FI pobol call!)
  3. Barri o Rownd a Rownd (Gwion Tegid) a Jonathon o Rownd a Rownd (Rhydian Lewis) a Sion o Rownd a Rownd (blah blah boy) - Roedd y tri yma gyda'i gilydd. Dwi'n syprised wnaethon nhw ddim ein adnabod ni'n syth bin. Ni oedd y ddwy od i ofyn am luniau gyda nhw yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Mae'r babell binc yn ei atynnu nhw aton ni! Wel, wrth gwrs, ar ol gweld rhein, fe wnaeth Pero mynnu stalkio nhw - cerdded heibio yn esgus edrych yn cool, tra ei bod hi'n syllu arnynt, fel petain yn aliyns o blanet Zog (fe wnes i dextio Mam neges SOS i ddweud fod Pero wedi mynd yn crazy)... wrth gwrs, mae gan Pero mega crush ar Gwion Tegid. Poor dab a fe. Fe wnaeth hi wichan pan welodd hi nhw... fi'n syrprised nad oeddent wedi dechrau rhedeg!
  4. Alun a Anthony o Stwffio - STWFF-IO! O'r excitment, pan i'r ddwy ohonom frysio mewn i stand y cynulliad i gysgodi rhag y glaw... ond i ffeindio Anthony yno'n gwneud smoothies! A phan ofynnodd i'r gynulleidfa "Unrhyw un ohonoch yn gwbod beth yw rasberries yn Gymrag?" - roedd gweddill y gynulleidfa dan chwech oed - fe aeth y ddwy ohonom yn well excited pan sylwoddolon ein bod ni'n gwbod... "MAFON!". Fe welon ni Alun wedyn, tra fod Pero'n pipo rownd y drws yn stondyn S4C (neu S4/C - whatever!), dechreuodd hi hyperventilato a mynd yn proper excited. "A...A...ALUN!" sgrechiodd. Mae ganddi thing am Alun, er y tro dwethaf i ni ei weld e roedd e wedi mynd yn rhy excited gyda'r fake tan - roedd e mor oren a tanjarin. Fe welon ni nhw to, a hefyd fe welon ni nhw ar y ffordd allan fyd, cyn i ni weld TB (Tara Bethan, dim mad cow disease).
  5. BABA EIFION a Catherine o Rownd a Rownd - Nawr, Catherine o Rownd a Rownd, no explanation needed. Ond Baba Eifion... well, running joc Pero a finnau, ar ol i ni weld yr actor (sydd probably tua 40+) fel plentyn yn y ffilm Traed Mewn Cyffion (ych a fi ffilm mwyaf boring a diflas... a tries i ddarllen y llyfr, a doedd hwnna'm lot gwell, Sori Kate Roberts). Roedd e'n chwarae rhan Eifion o Rownd a Rownd. Roedd e'n gwisgo wellies a hat oedd yn matshio.
  6. Branwen Gwyn - cyflwynwraig Wedi 7, a chyd-gyflwynor OFN! (gyda'r ffantastig Rhodri Owen!). Roedd hon yn gwisgo heels. Sili i feddwl fod arwyneb y llawr yn stwdj i gyd.
  7. Nia Parry - Miss Dwy Ieithog ei hun! Roedd hi'n gwisgo cot felyn llachar, ac, dipyn callach na Branwen Gwyn, yn gwisgo wellies baby pinc. Roedd hon yn tanned, ac mi roedd ei dannedd hi'n wyn, wyn... roeddech ond yn disgwyl am y... TING!
  8. Angharad Mair - Miss Ffrizz ei hun. Cuddio dan ymbarel. Doedd hi ddim yn ddiddorol iawn.
  9. Ifan o Rownd a Rownd - roedd hwn yn ei siorts, ac yn jwmpo mewn pyddles. Darling, that was so last Thursday!
  10. Jac Y Jwc - dwi'n gwrthod meddwl taw Ken o Rownd a Rownd yw Jac Y Jwc, beth bynnag wedith Pero. Pan yn groten fach, roeddwn ni'n meddwl taw'n Nhad oedd Jac Y Jwc... roedd fy logic plentyn yn gwiethio allan "Reit, ma' Dadi'n dal, a ma' Jac Y Jwc yn dal. A ma'r ddau yn bwrw 'i penne wrth fynd trw' dryse bach!". Obviously, dwi'n gwbod gwell nawr. Ond na, dim Ken Walsh o Rownd a Rownd yw Jac Y Jwc!
  11. Dafydd Iwan - roedd hwnnw'n perfformio set yn rhyw thing RANDO. Ooo swnio'n weird fan na... fe garia i mlan. Dwi'n siwr fod Mam yn jealous, ond yn pallu dangos hynny. Ta beth, DI, y dyn ei hun, yn gwisgo trwser lliw golau - big mistec tywydd yma Daf bach. Big mistake.
  12. Alex Jones - HIP NEU SGIP? Mae Alex yn hip! Welon ni hi pan yn eistedd yn y stondin S4C, pan oedd Pero'n mynnu aros i fod ym mhresenoldeb Alun.
  13. Meical o Rownd a Rownd (Emyr Gibson) - hwn oedd yn canu ar ol Dafydd Iawn, ar y stand thing.
  14. Gwyneth o Pobol Y Cwm (Llinor ap Gwynedd) - roedd hi'n gwisgo Fit Flops. Fel ma'n fam yn gwisgo. A mae hi'n ferch i un o'r supply teachers yn ysgol (Mrs ap Gwynedd - mae hi'n reit lyfli, a welon ni hi fyd, pan oedd hi'n cael reid ar un o'r golf carts S4C)
  15. Ken o Rownd a Rownd - DIM FE YW JAC Y JWC!
  16. Sion Ifan - efallai eich bod chi'n ei adnabod fel y boi na off Con Passionate. Yr un newydodd ar ol cyfres un. Ar y llaw arall, mae Pero a finnau yn ei adnabod fel... PIPO! (stori hir, hir arall). Yffach o lais canu da...
  17. Chris o Rownd a Rownd - "MAE CHRIS WEDI ATGYFODI!" oedd fy ymateb ar ol i Pero, gan ddefnyddio ei llygaid craff, sylwi ar Chris o Rownd a Rownd yn cerdded heibio. (Mae e wedi marw yn y gyfres, os nad ydych yn gwylio R&R - chi'n gallu gweld ein bod ni'n obsessed 'da'r gyfres)
  18. Mam Barry o Rownd a Rownd - Mam sgrin Barry, sef Iris, o Rownd a Rownd. Nawr... roedd hon wedi steilio ei gwallt yn ffynni, ac wedi gwisgo fel clown pink - ac felly bach yn frawychus ei edrychiad. Am ryw reswm, dim ond fi a Pero oedd yn confused gan hon.
  19. Deinol a Catherine Ayres (JoJo o Cowbois ac Injans) - roedd y ddau hyn fraich yn fraich dan ymbarel! O dyna braf!
  20. Ac yn olaf... GARETH - GARETH O CYW! GARETH A WNAETH EIN SARHAU YN Y SIOE FRENHINOL. GARETH DRWG.
    Fe aeth y ddwy ohonom, "YYYYYYYYYYYYY" wrth ei weld. Gareth... Dwi'n poeri yn syth ar old dweud ei enw!

A dyna ni wedyn. Seleb Spotting list. Welon ni hefyd y dyn cyfarwydd yna o'r teledu, a fe roedd e'n gwisgo het capten llong... ond doedd yr un ohonon ni'n cofio ei enw e.

Dim Matthew felly. Na Ioan Gruffudd chwaith. Fe wnaeth postr mawr y tro... Ond still, os ydy'r cynnig dal yn mynd, dwi'n gobeithio mynd eto dydd Sadwrn gyda Anti-B a PC Larwm!

Ein traed yn wlyb, a fy nghwallt wedi hen mynd yn gwrliog, roeddent wedi blino erbyn tua pedwar. Felly treuliodd Pero a finnau hanner awr dwethaf yn derbyn negeseuon Bluetooth wrth yr Eisteddfod! Roedd e'n class! Gethon ni lun bach ma o larwm tan yn dawnsio, a rhyw code hyn oedd fel loteri, a llun bach "CROESO I'R EISTEDDFOD". Roeddent hefyd yn searchio am Bluetooth pobol eraill - yr enwau ddaeth lan!
The glynster, Wiwar, Antiann... Roeddent yn hilarious!

A wedyn daeth diwedd ein diwrnod yn yr Eisteddfod. Diwedd ar ddiwrnod gwlyb arall. Ond nid oedd y ddwy ohonom yn wlyb ein ysbryd o gwbwl!