Thursday 11 September 2008

Parti'r Chweched Dosbarth

Ma'r papurau newydd yn llawn hanesion binge drinkers ifanc Prydain. Mae gwerthoedd y teenagers yn ddychrynllyd, meddai'r holl newyddiadurwyr. Meddwi yw'r unig beth ar eu meddylie. A dwi'n credu fod gan y bobol sy'n ysgrifennu'r holl storie ma bwynt.

Fe wariodd Mystery Man £60 ar gwrw neithiwr. Fe roedd sawl un yn "paraletic", ac fe roedd yfed a smoco'n hollol normal. Roedd pawb yn bragio am pa mor feddw roeddent neithiwr, a sawl un yn gwisgo hangover fel badge of honour.

Neithiwr roedd parti cyntaf y chweched dosbarth - pwnc pob trafodaeth heddiw, hynny yw.

Fancy dress - a dyma fi'n tynnu allan y teits streipiog, y Tenby Pirates T-shirt, a glow sticks (na, dyw mor ladron ddim yn gwisgo glow sticks... ond dwi'n hoffi glow sticks) a off a fi a Pero (wrth gwrs - Pero'n cael lifft gyda fi!), i Savannahs.

Pan gyrrhaeddon ni, fe roedd y lle'n dead. Ambell i ferch o flwyddyn tair ar ddeg yn dawnsio mewn sgertiau byr ar y dancefloor, a criw o fechgyn, a rhanfwya o rheini wedi gwisgo lan fel builders. Pum munud wedyn, a fe roedd y lle yn llawn dop - llawn cyd-ddisgyblion oedd eisioes yn feddw cyn dechre.

Fe daeth Mystery Man lan ataf i a Pero a gofyn "Why aren't you drunk yet?!", felly off a ni i'r bar, i giwio gyda gweddill ein cyfoedion. A wedyn, fe ymunodd Wolfy a Deryn Du a ni. Fe dales i £3 am fotel o Smirnoff. What a flipping rip off, meddyliais. A penderfynais fod yr un fotel na mynd i bara fi drw'r nos! TAIR PUNT - am fotel o rhywbeth oedd yn blasu fel lemonade! (A ges i'r big speech gan Mam, a honno wedi rhoi strict orders i beidio mixo drinks, so doedd dim troi nol).

Roedd y lle'n llawn cymeriadau lliwgar. Fe roedd 'na sawl crayon o gwmpas y lle (Miss Mynd oedd yr un glas, fel gallwch weld!). Roedd yna sawl mor leidr a sawl hula girl, felly roedd bach o theme glan mor yn mynd mlaen. Fe roedd PetVet yn forwr hyd yn oed!

Fel ddwedais yn gynharach, fe roedd un botel o Smirnoff yn £3, felly ond dau ges i drwy'r nos. Gyda pawb yn meddwi o'n gwmpas i (Deryn Du yn tipsy iawn yn gloi iawn, a hithau wrth gwrs wedi cymysgu drinks twt twt), roeddwn yn teimlo bach yn rhy synhwyrol. "Stuff it," meddyliais. "R'un a man i fi jocan mod i'n feddw". A felly wnes. Roedd rhaid mod i'n eitha convincing, gan fod Dafad wedi gweud wrtha i heddi, "You were well pissed you were".

Roedd Deryn Du yn hilarious. Roedd pob bachgen yn "ffit", a roedd hi'n well excited pan gafodd hi llond ceg o un o sideburns Dafad - stori hir. A trial cerdded lawr i'r bar i ol un arall? Wel, unai odd 'i thraed hi wedi stopo gweithio, neu roedd hi wedi dechreu dal hi - cymrodd hi llwybr uffernol o igam-ogam i gyrraedd na.

A fe roedd Deryn Du a finnau yn diawlio absennoldeb Cwlwm Caled.

Felly noson o ddawnsio, edmygu dillad pobol eraill, a trial dirgelu unrhyw potenshal gossip er mwyn ei rannu 'da pawb y diwrnod wedyn. Pawb yn dawnsio gyda pawb, pawb yn yfed gyda'i gilydd.

Er fod y gymdeithas ifanc, yn ol bob son, yn dirywio'n gyflym - dyna beth roeddwn i yn ei alw'n team bondio. Lot gwell na rhedeg rownd mewn fflipin mwd.

No comments: