Monday 6 October 2008

Rhoi'r Blaenoriaeth I Gerddoriaeth - Stuff That, Rhowch I Mi Huw Evans!

O, dyna ddiwrnod da fu'r 6ed o Hydref 2008 (a just i atgoffa pawb, 17 o ddiwrnodau nes mod i'n troi'n 17 - 15 diwrnod o heddiw).

Treuliodd hanner ucha'r ysgol y prynhawn yn neuadd yr ysgol yn rocio gyda Taith Bandit! A chi'n gwybod pwy sy'n cyflwyno Bandit...
Ie! Pishyn o'r enw Huw Evans! (Ma Huw Stephens yn cyflwyno fyd, ond mae e'n sinsir ac yn tubby ac yn edrych fel Dafad - sori).





Ta beth, dim ond Pero a Deryn Du a finnau oedd yn excited am ymweliad Bandit. Gaethon ni "chat" 'da Mrs John y dirprwy brif athrawes y diwrnod canlynol (sef ddoe) a ddwedodd "Nawr, dwi'n gwybod taw scifo'r prynhawn roedd y rhan fwyaf o chi'r Chweched, pan sylweddolais i fod mwy o bobol yn mynd i'r deintydd nag oedd o ddeintyddion yn y dref!" A fe wnaeth llawer ohonyn nhw (Sempai included) treulio'r prynhawn yn y Llyfrgell. (Cell y llyfrau, seriously, just me, or doesn't that round like a prison?). Beth oedd yn bod a Bandit?

Doedd Ashokan (criw o ddoctoriaid o ardal Castell Nedd) ddim mor wael a hynny os bosib? I mean, dechreuon nhw Wall of Death yn neuadd yr ysgol!

Efallai nad yw diwylliant Cymraeg ddigon "cool"? Wel, dwi'n meddwl fod e'n awesome, felly twll tin bob un sy'n dweud ffor' arall.

Friday 3 October 2008

Y Gwasanaeth

Dylen i ddweud, don't go there, ond mae angen rant fach arnaf. So off we go.

Dydd Mercher dwethaf, cyhoeddodd fy annwyl athrawes cofrestru, the one and only Jac Codi Tail, ein bod ni yn gyfrifol am gwasanaeth y dydd Gwener hwn, y 3ydd o Hydref (h.y, heddiw). Yr un pryd, dwedodd Huey G wrth ei ddosbarth eu bod nhw'n gyfrifol am gwasanaeth... ond fe gethon nhw fflipin mis o rybudd.



A felly oedd hi, a dim son am neb yn gwneud yffach o ddim byd, a doedd neb a unrhyw syniadau chwaith... a JCT wedi penderfynu ein bod ni 'i fod ysgrifennu'r peth ein hunain... Gwers 4, dydd Gwener dwethaf, a ni ddigon ffodus i gael y wers Saesneg yn rhydd, fe aeth Pero, Merry a finnau i ysgrifennu.

Wel, ble yffach i ddechrau? Really, gallen ni fod wedi cael gwasanaeth am Tiddly Winks a wedi cannu Karma Chameleon fel emyn, fydde neb ddim callach - ma' pawb yn dal yn cysgu amser 'na o'r bore. Gath Merry y syniad o "Memories" a hefyd daflon ni'r syniad o "Newid" i lawr ar bapur, er mwyn i ni alle dangos lluniau doniol Blwyddyn 7 pobol o'r Chweched. Dal ddim yn keen ar y syniade though, halon ni Merry off i'r Llyfrgell (Cell Llyfre - swnio bach fel torture chamber, ond yw e?) i chwilio am pethau hanesyddol neu diwrnodau pwysig oedd yn ystod yr wythnos yna. Roedd Pero a fi dal yna'n pendroni... a daeth e i ni.

Hapusrwydd.

Felly aeth Pero i hol Merry, a dweud wrth honno, a oedd heb ffeindio unrhywbeth anyway, i ddod nol, bod thema i gael 'da ni. Doedd hi'm yn hoffi'r thema na, ond "Tough shit" wedes i wrthi. Roedd amser yn prinhau, a felly doedd dim dewis. Aeth hi 'mlan bach to am sut o'dd hi moyn rhoi hen luniau... ond erbyn hyn roedd Pero a finnau wedi dechrau ysgrifennu'r gwasanaeth, so a'th hi i bwdi yn y cornel. A gadawon ni hi wrthi.

Fi cafodd y job o teipo'r peth lan, ond a fi'n gweithio yn Shaws DRWY'R penwythnos (digwydd bod, roedd fy enw i lawr ar gyfer y dydd Sul yn ogystal a'r dydd Sadwrn er mwyn i High Allmighty yr area manager gael diwrnod off), gofynais yn garedig i Mami dearest i deipo fe lan. So fair play iddi, fe wnaeth i wneud.

Dydd Llun, des i a fe i'r ysgol.
"BLWYDDYN 12! Os un ohonoch chi wedi ysgrifennu gwasanaeth? NA?! CHI MOYN MYND AR Y LLWYFAN 'NA A DWEUD DIM BYD?"
Gath Merry fynd a dangos e iddi, er iddi hi wneud dim byd ond pwdu.

Amser egwyl, roedd rhaid cael cyfarfod, a fuodd Jac Codi Tail ddigon call i ddweud fod e'n good - fydde Pero a finne wedi ei chrogi hi otherwise.

Doedd hi ddim yn wasanaeth rhy wael, er fod y caws yn dripian off y weddi. (O Arglwydd, diolch i ti am rhoi'r gallu i ni fod yn hapus, blah blah blah.) Roeddwn wedi trefnu cael powerpoint yn cynnwys lluniau o ddisgyblion ag athrawon yn gwenu ac yn hapus a speech bubble bach yn dweud beth oedd yn eu gwneud nhw'n hapus. DIM EMYN! Does neb eisiau canu amser na o'r bore, a roedd pawb a oedd yn y cyfarfod cyntaf yn cytuno 'da hynny.

Daeth Catrin Phillips i mewn yn hwyr wedyn, a cyhoeddodd honno fod hi a Gethin (dau wannabe actor/cantorion o fri) eu bod eisiau cerdd. Fine, as long as bod hi'n berthnasol, dwedon ni. A dyna ni - heb ddewis pwy oedd yn gwneud beth na dim.

Dydd Mawrth.
Fe roedd Merry wedi cael e i'w phen ei bod hi moyn tynnu'r lluniau, er yn y cyfarfod ein bod wedi cytuno rhoi'r cyfrifoldeb i ddwy ferch arall yn y dosbarth. Amser egwyl, fe wnaeth Deryn Du graffitio rhif ffon Y Goeden ar y grisiau, a fe aeth Merry off on one, a marchio bant... a pan welon ni hi eto yn Saesneg, fe roedd hi wedi menthyg camera yr adran Gymraeg ar gyfer tynnu'r lluniau.

Doedd dim pwynt dadlau gyda hi, a fel roedd hi'n troi mas, roedd gan y dair ohonom wers rhydd Saesneg arall (roeddent eisioes wedi cael gwers rhydd gwers gyntaf hefyd - fel drodd hi mas, ges i ddim un blydi gwers Dydd Mawrth). Dath Deryn Du a Sempai i ymuno a ni a'r bechgyn (Dafad, Cwlwm Caled, Hobo a'r gweddill) i'r Wers Rydd, a dechreuodd Merry ar ei ffotos.

A dechreues i chwarae cards (Cheat) gyda'r bechgyn. A fi daeth yn ail - er, yn y gem nes i chwarae heddi, des i gyntaf! Fi'n good gyda cards.

Ta beth, amser cinio roeddent yn golygu tynnu lluniau o wahanol flynyddoedd, er mwyn gwneud y gwasanaeth yn apelgar tuag at y niferoedd. Wel, hanner awr roeddwn ni'n bwriadu treulio, a roeddent yn golygu mynd ar ei'n speed ni, OND NA! Roedd Merry am fynd full speed! Doedd dim aros na cloncan i fod! Roedden ni moyn lluniau o bobol yn GWENU ac roeddent am YSGRIFENNU LAWR BETH ROEDD YN GWNEUD IDDYNT. Y rheswm nes i ysgrifennu 'na mewn capitals, odd achos pan aeth Merry off am 1 o'r gloch ymlaen, a fi a Deryn Du wedi mynd off i gael ein cinio, ffealodd hi gyflawnu hynna! So gwffon ni wneud lot o nhw lan, a galle fod yn beryglus iawn i ni... a roedd rhan fwyaf o'i lluniau hi'n blurry, ac roedd hi'n amlwg jyst wedi mynd lan i bobol heb rybudd a mynd "GWENWCH" yn ol golwg shocked rhai o'n models ni. A fe ypsetes i hi yn y gwers gyfrifiaduron dydd Mercher wrth ddweud wrthi "Ni ddim yn defnyddio nhw i gyd, ma' rhan fwyaf ohonynt yn blurry a s'neb yn gwenu!"

Dydd Iau, diwrnod cyn y digwyddiad ac yn ein ail gyfarfod o'r fath, a fe roedd Catrin Phillips a Gethin yn mynnu fod rhaid cael emyn, a nhw'n ennil drosodd JCT achos bod nhw'n gwneud yr ymdrech i beidio edrych yn hollol bored (a dim yn sniffian paper clips afiach - stori hir) yn ystod y gwersi Gramadeg. Wel rhoies i'n nhroed i lawr, gan fod Pero'n digwydd bod off rhywle, a Merry heb ddigon o asgwrn cefn i ddweud dim.
So "NA!" dwedais. "NO WAY! Dim emyn."
Tawelwch.
"Ma powerpoint gyda ni'n barod, a fydd hi rhy drafferthus i gael emyn 'fyd," dwedais.
"Ie..." sylweddolodd JCT.
"So there," gorffenais, wedi ennill y frwydyr.
Dim emyn :)

Ac er fod y ddau yna hefyd wedi penderfynu fod rhaid cael cerdd (a i geisio cadw pethau'n weddol heddychlon yn y grwp tiwtor fe wedon ni fine), dim nhw wnaeth actually ffeindio cerdd. JCT ffeindiodd y gerdd iddyn nhw, er yr holl ffys! Blydi cheek a nhw, jyst achos bod nhw'n neud Drama ac yn mynnu fflauntio ei hunain trwy'r fflipin amser!

Felly nos Iau, roeddwn yn stressed yn hunan - a dydw i byth yn mynd yn stressed - achos fod Merry'n stresso mas ein bod ni heb gael practis eto, a fod dim digon o amser wedi bod, a bod y gerdd ddim yn iawn ayyb. Ar ol bod i McDonalds, es i gwely am ddeg munud i naw. A gysges i drwy'r nos nes 7.

Bore 'ma. Doedd hi ddim yn mynd yn dda. Stopodd y toothbrush (un trydan sy 'da ni) weithio. Panic. Gwffes i just sgrwbo heb help y trydan. Wrth adael y ty, roeddwn wir yn gobeithio fyddai'r bus yn torri lawr... ond na, dyna'r un peth penderfynodd weithio heddiw. Cyrrhaeddais ysgol, a mynd yn syth i'r neuadd lle roeddent i fod ymgasglu, a darganfod Merry oedd yr unig un yna.

Wel stress. Pam na alle hi just bod yn chilled out? Pam na all pawb fod yn chilled out? Fflipin heck, ife fi yw'r unig un yn y byd sydd jyst yn cymryd pethau fel maent yn dod? Ta beth, erbyn i bawb gyrraedd (Mared oedd in charge o ddod a'r cerddoriaeth yn hwyr, gan achosi Merry i sgrechian ataf "CER I NOL Y BACK UP CD! Y BACK UP!" a stresso ni mas), a eistedd ar y llwyfan, y bois sain yn ffidlan da'r microffon, a'r disgyblion yn dechrau llifo mewn, troais at fy buddy cefn llwyfan, sef Pero, a dweud, "Nawr, dwi'n dechrau teimlo'n sick."

Diolch i Dduw, i feddwl nad oedden wedi cael practis a bod un o'r meics yn pallu gweithio, roedden ni wedi gwneud yn dda! A fe aeth y powerpoint lawr yn good - pawb yn chwerthin yn y mannau iawn. A dyna fe, cwarter awr ar lwyfan ar ol wythnos a mwy o stress llwyr.

Ath Pero a fi nol wedyn i'r busnes arferol o beidio bod yn bothered i wneud gwaith cartref, tynnu lluniau o ni'n tynnu gwynebau dwl, pranc callio pobol a dweud taw Sion Corn i ni, gwrando i Dizzie Rascal a gigglan non-stop. Yay!