Showing posts with label darllen. Show all posts
Showing posts with label darllen. Show all posts

Monday, 18 August 2008

A Look At Books :)

Dwi'n mynd i siarad am lyfre eto. Pam lai. Dwi'n hoffi darllen, a ma' hi'n ddydd Llun, a s'da fi ddim yffach o ddim byd arall i siarad amdano. Yr unig beth dwi wedi bod yn neud trw'r dydd yw gwylio Brothers & Sisters.

Gorffennais ddarllen O Ran gan Mererid Hopwood, ennillydd y medal ryddiaeth leni, dau neu dri diwrnod yn ol, a dwi ffealu cofio os dwi wedi siarad amdano neu beidio. Ges bwl o hiraeth yn Stoke on Trent, ac yn hytrach na cario mlaen gyda Jane Eyre, darllenais y llyfr Cymraeg yma. Yn y nofel, mae Angharad Gwyn yn edrych yn ol ar ei phlentyndod yng Nghaerdydd, a'i pherthynas gyda'i thad. Mae'r pennodau mewn rhannau, yn hytrach na phenodau hir, a mae hyn yn crynhoi'r darllen, a dwi'm yn credu fyddai jyst unrhyw un yn gallu dod bant a gwneud hyn. Short, but sweet, and seriously, she pulls it off. Mae'r stori yn mynd ochr yn ochr a chofiant am Ifan Gwyn, y tad, er fod y ddau gof ohono'n contradictio'i gilydd.
All in all, da iawn.


Tries ddarllen ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, sef Igam Ogam... ond ffealu mynd mewn i hwnna. Dwi'n credu fod hud a lledrith yn involved... Mam yn darllen hwnna nawr ta beth.

Cyn gorffen Jane Eyre, dwi 'di dechre darllen The Devil Wears Prada gan Lauren Weisberger. Dwi'n gobeithio gweld y ffilm ar ol ei orffen e. So ffar, fi ar pennod 2, ag yn pennod un mae Andrea wedi bod yn stryglo i yrru stick shift, ac wedi gorfod pigo cath ei boss hi lan o'r fet. Riveting stuff... Falle wellith e.

Reading reviewer of the year 2008, signing out B-B-Z!

Thursday, 24 July 2008

Trafod arddull - diolch am ladd darllen.

Fel rhywun sy'n aml yn ysgrifennu storiau a blogiau ei hun, dwi'n sylweddoli fod llawer o waith ac ymdrech yn mynd mewn i ysgrifennu rhywbeth gwerth ei ddarllen (er fe wnes i ennill y goron - neu rhywbeth oedd yn fwy tebyg i glustog piniua - yn yr Eisteddfod Ysgol ar ol rhoi stori wnes ysgrifennu mewn ugain munud ar ol dod adref o ddisgo ysgol am unarddeg yn y nos i mewn). Ond fe wnaeth gwaith cwrs trafod arddull ladd darllen i fi.

Roeddwn arfer darllen lot. Ond yn ddweddar dwi wedi dod nol i mewn i'r habit, gan fod gen i ddyddiau o wneud dim i lanw i fyny. Dwi'm yn gwybod os ydy diogi teenager yn unrhywbeth i wneud a'r ffaith nad wyf yn darllen gymaint bellach, ond dwi yn sicr fod y ffaith fod rhaid i fi drafod a thrafod arddull, neu yn y gwersi Saesneg "language", wedi effeithio ar ddarllen.

Dwi'n darllen Jane Eyre ar y foment, y glasur o nofel gan Charlotte Bronte. Mae hi'n stori dda, am merch ifanc sydd yn misunderstood yng nghyfnod y frenhines Victoria... ond bob tro dwi'n darllen, dwi'n meddwl "wel, jiw jiw, am gymhariaeth dda!" neu "Waw, na ansoddair ffandabydooby!" Dwi'n edrych allan am drosiad da, ac yn meddwl, "well, dylen ni wneud nodiadau..."

Mae e r'un peth gyda gwylio ffilmiau neu'r teledu, ar ol astudio Llunyddiaeth (LLUN yn lle LLEN, wel na glyfar...). Ar ol gorfod astudio wep salw Sian James (mae hi'n wirioneddol edrych fel Moonmin. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw Moonmin - your loss!), mewn sawl saethiad agos iawn, dwi nawr yn gwylio teledu ac yn enwi'r gwahanol fathau o saethiadau. "OOO SAETHIAD DAU LEFEL! Ooo Mam drych, ond dyw 'wnna'n clever!?!!!" (Mae hyn yn gyrru Mam yn nyts pan dwi'n torri ar draws Pobol Y Cwm i son am y cyfarwyddo)

Saethiadau agos, saethiadau pell, trosiadau, cymhariaethau, ansoddeiriau... oedd darllen a gwylio ffilmiau'n well nol yn y dyddiau nad oeddwn yn deall yr holl dechnegau?

Neu ai'r Famous Five oedd jyst yn really good i gymharu a'r holl bethau dwi di ddarllen nawr?

Tuesday, 17 June 2008

Lle Llen

Llongyfarchiadau i fi, am greu cyflythreniad mor original, i ddechrau pethau. A sorri bod dim to am y "llen". Fi'm yn gallu bod yn bothered i chwilio am "insert...symbol" a wedyn chwilio am yr un cywir. Stuff it. Dychmygwch fod un 'na.

Yn ail, rwyf am son am y llyfyr dwethaf darllenais - sef, Girl With A Pearl Earring gan Tracy Chevalier. Fe wnes ei fwynhau, felly dyma fi'n ysgrifennu review bach amdano. Llyfyr hanesyddol (wedi ei selio ar adeg y pla), am baentiad enwog yr arlunydd Johannes Vermeer o'r Iseldiroedd, a'r amgylchiadau tu ol i'r paentiad The Girl With A Pearl Earring (wrth gwrs, amgylchiadau ffuglennol, gan nad oes yna lawer o wybodaeth am y paentiad hwn). Cawn weld teulu Vermeer, drwy lygaid Griet, y forwyn newydd, a'r ferch sydd yn y darlun. Griet yw'r un sy'n cael y swydd o lanhau'r stiwdio - mae'n rhaid iddi osod popeth yn ei le yn ofalus, a gwneud yn siwr nad yw hi'n amharu ar unrhywbeth, rhag ofn iddi newid y llun. Mae Griet yn gweld ei hun yn cwympo mewn cariad gyda ddau ddyn - ei meistr - yr arlunydd ei hun - a mab y cigydd, Pieter. Mae'r Pieter ifanc, golygus, yn ei charu hi, ond caru ei gelf yn unig mae'r arlunydd. Mae'r arlunydd, yn dad o chwech (dad o unarddeg erbyn diwedd y nofel), yn ffafrio'r ferch ifanc, ac yn gofyn iddi ei helpu yn y gweithdy - drwy falu lliwiau paent a siopa ar ei gyfer ayyb - ond nid yw'n dweud wrth ei wraig. Roeddwn yn mwynhau'r llyfyr, ac yn hoff o gymeriad dirgel yr arlunydd - nad oedd braidd byth yn cael ei enwi gan Griet yn y nofel, gan wneud iddo ymddangos yn gymeriad mysterious iawn - ac yn hoffi'r ffaith ei fod yn ymddangos fel petai wir yn teimlo rhywbeth am Griet, ac am ei ychwanegu hi i'w fyd ef yn y stiwdio, er ei fod yn mynnu cadw ei wraig a'i deulu o'r byd hwnnw. Er, annoyed oeddwn ei fod yn cadw cael plant gyda Catherina, er ei fod yn amlwg yn siwtio Griet yn well. Roedd y llyfyr yn werth ei ddarllen. Dwi'n ei recommendo. Gweld y ffilm fi moyn neud nawr.

Yn drydydd, yn ogystal a ceisio gwneud i fy hun deimlo'n well (gwddf tost, dechrau annwyd - sympathy is welcome), drwy ail ddarllen The World According To Clarkson: And Another Thing... (gan... wel guesswch!), dwi'n meddwl dechrau darllen Lladd Amser, gan Lyn Ebenezer. Dwi'm di cyrraedd lot pellach na diwedd y rhagair eto... o wel. Dechreuais ddarllen Cysgod Y Cryman 'fyd pyddyrnod, gan fod Mam wedi mynd mlan a mlan dylen ei ddarllen yn yr haf pan fydde digon o amser 'da fi ers ages... ond mi roedd y dudalen cyntaf mor fflipin boring mae ei dal ar fwrdd y gegin. Felly Lladd Amser amdani. Gobethio neith e'm troi mas i fod yn Wastraff Amser, dyna i gyd weda i.

Os oes gan rhywun enw llyfyr da i fi ddarllen, mae gen i ddigon y amser. Reccomendations would be most welcome.
A dyna ni. Diwedd pennod arall... nes y llyfyr nesaf.