Showing posts with label glaw. Show all posts
Showing posts with label glaw. Show all posts

Saturday, 9 August 2008

Dwi wedi gwneud ffrind newydd =)

Ail ddiwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd.

Roeddwn wedi cael dewis - siopa gyda Mam a Mamgu 10, neu diwrnod yn y Steddfod gyda Anti-B, PC Larwm a merch un o ffrindiau'r PC, Ashlee. Es i siopa. Roeddwn yn meddwl i ddechrau mod wedi gwneud dewis da. Fydden i dan do rhan fwyaf o amser, ac fe roedd hi'n pisio i lawr y glaw (ma'r tywydd wedi dechrau vendetta yn f'erbyn yn ddweddar - bob tro dwi adre, fel ddoe, pan wrthodais y cyfle i fynd i Tenby am ddiwrnod arall, roedd hi'n sych!).

Felly dechreuodd y dydd yn normal. Cymeron mantais o'r park and ride o Ikea, a off a ni i ddechrau diwrnod o siopa. Coffi stop gynta, yn Cafe Nero, drws nesa i'r siop sydd yn gwerthu Raa Men (stori hir - gofynnwch i Tuesday), a wedyn ath Mamgu off i Laura Ashley ag i'r siopie na ma hi'n lico, ag ath Mam a fi ar ein ffordd i H&M. H&M yw highlight mynd i siopa mewn tref neu ddinas fawr. Does dim H&M i gael yn Gaerfyrddin, does dim hyd yn oed un i gael yn Abertawe - felly mae mynd i H&M yn exciting... galwch fi'n sad. Felly ar y ffordd i'r Capitol, galwon gyntaf yn Miss Selfridge, Dorothy Perkins, Principles (shop Mam odd honna!), River Island... roeddwn yn cario T-shirt Batman pinc newydd a CD live y Dropkick Murphy's yn fy mag, ac roedd Mam yn mynnu mynd i weld Per Una yn M&S, pan ddaeth neges destun ar y ffon.

"Ma fe ma yn cwcan byrgyrs ar bbc. Fi ar ffordd na nawr. X"

Sighting. Roedd yr ysbiwyr wedi bod yn gwneud eu gwaith! Roedd rhaid mynd - nawr! Stwffio'r siopa - dwi'm hyd yn oed yn hoffi siopa ta beth!

Roedd rhaid i mi gyrraedd maes yr Eisteddfod. Doedd e'm yn rhy bell, ond yn ddigon pell. Rhuthrais o M&S - a bu bron i mi fwrw sawl un i lawr ar fy ffordd. Doedd gen i ddim amser i oedi! Roeddwn wedi croesi dros yr afon, ac ar y llwybr wrth gerddi Soffia. Ges i alwad ffon - ond fe golles i honno - ac wrth gerdded trwy'r maes parcio sylweddolais fod gen i Answer Phone Message (a dwi'n casau'r negeseuon a chas chasineb. Ma' nhw'n byta fy ngredit i!).

Roeddent wedi cael eu llun wedi tynnu gyda fe.

Roeddwn yn mynd yn gynt eto. Roedd rhaid i mi gyrraedd y maes! Bu bron i mi ddechrau rhedeg, ond yn un a oedd fel arfer yn sceifio PE os oedd hynny'n bosib, doedd rhedeg ddim yn opsiwn. Cyflymodd y cam. Roeddwn yn chwysu, a finnau ddim yn arfer a mynd mor gloi. Pallais rhoi i fyny ag oedi, roeddwn yn benderfynol o gyrraedd yno, ac roedd hynny yn fy ngyrru ymlaen.

Pan gyrrhaeddais y fynedfa, roeddwn yn wlyb domen. Roedd fy nghot glaw Adidas yn useless, ac yn gadael y glaw i mewn, ond chwarae teg i honno, 7 5 yw'r dosbarth cofrestri sydd ar y label, felly mae hi'n bum mlwydd oed. Roedd gwealodion fy jins yn fy mhwyso i lawr, gan gynorthwyo disgyrchiant yn ei waith.

"TOCYN MYFYRIWR OS GWELWCH YN DDA!" bu bron i mi weiddi'n ffrantig at y fenyw oedd yn y booth gwerthu tocynne.

Roeddwn ar y ffordd i mewn, pan rewais. Roedd y dyn tocynnau yn syllu arna i'n od.
"Ti'n dod mewn te?"

Dim eto. Roeddwn wedi gweld rhywun.



Y dyn ei hun - Matthew Rhys.

Roeddwn i ar y ffordd i mewn, a fe roedd e ar ffordd mas! Mae hyn yn dechrau dod yn habit, digwyddodd yr un peth nol ym mis Mehefin - fe ar y ffordd mas, fi ar y ffordd mewn (neu am fod ar y ffordd mewn bryd hynny).

Ta beth, roedd e mewn cot dywyll, a sgarff dywyll rownd ei wddf, a het fach giwt ar ei ben, ac yn gwisgo jins tywyll a bwts. Cwympodd fy ngheg ar agor, am yr ail dro.

Roedd e ar ben ei hun, a cyn i mi gael gyfle i ail feddwl, gofynnais "Esgusoda fi, galla i gal llun gyda ti plis?"

"Ie, iawn, dim problem," oedd ei ateb e.

Roedd e'n lyfli. Gan mod i ar ben fy hun, a fod Anti-Bionic yn aros amdanai'r ochor arall, bu rhaid i mi dynnu'r llun fy hunan - emo style!
"Fi'n rybbish am 'neud hyn," ddwedais, gan rhoi'r ffon (defnyddiais camera'r ffon chi'n gweld) yn y lle iawn.

Roedd fy nwylo i'n crynu fel deilen, a fel ddwedais i wrtho fe, dwi'n rybbish am dynnu lluniau o fy hun, fy hun. Ond daeth y llun mas yn neis, a fe ofynnodd Matthew Rhys os oedd y llun yn iawn cyn mynd. Ydy, atebais... cyn sylweddoli...

"Oh my god!" ebychais. "Ngwallt i!"

Roeddwn i'n socan, a ngwallt i'n diferu - ag unwaith eto, roeddwn wedi gwastraffu cwarter awr yn ei straightno y bore 'ny. Damnit! meddyliais. Chwerthin wnaeth e, gan wenu'n bert eto. Diolchais iddo. Ac off a fe, gan fy adael i sgipio tuag at Anti-B, a oedd yn ffrantig yn fy ffonio i gan ei bod hi'n gallu gweld Matthew Rhys yn gadael ond doeddwn i yn un man i'w weld.

"Beat you to it," dwedais wrthi, a dangos y llun.

Roeddwn i mor chuffed.

Treuliais gweddill y diwrnod yn sgipio o gwmpas y lle, a hymian (gan nad ydwyf yn gallu canu) "Singing In The Rain", a becso dim mod i'n glwychu i 'nghroen. Textiais y llun i bawb, obviously - mae gan bawb yn address book fy ffon i llun o fi gyda Matthew Rhys. (Llun uffernol o fi, ond o wel, gwrddes i Matthew a fe roedd e'n lyfli so who cares).

Ond dwi dal mewn tipyn o sioc mod i wedi llwyddo i siarad yn gall ag e yn deidi heb ddechrau mynd yn mega mega excited a dechrau sgrechian yn ei wyneb a crio a gweud gymaint dwi'n ei garu e...

Dwi definatly mynd i ddal annwyd tro hyn though. Dwi'n teimlo'n nhrwyn i'n rhedeg yn barod (yr unig rhan o 'nghorff sy'n actually gallu rhedeg!)

A phan gyrrheaddais adref, dwedodd fy Nhad, yr un sydd wedi dweud dro ar ol dro nad wyf yn cael priodi neb sydd heb dractor, (rhaid i'n Nhad gael mab yng nghyfraith sy'n ffermio), a thinc o falchder yn ei lais, "Ma' gobaith... ma 'i hat e'n eitha farmery."

Tuesday, 5 August 2008

Eisteddfod Genedlaethol 2008 : Caerdydd

Dydw i ddim yn cael llawer o lwc gyda'r tywydd.

Codais y bore 'ma (dihuno fy hun am bum munud wedi saith - a oedd yn wyrth!), neidio i'r gawod bron yn syth... dylen i ddim fod wedi botheran.
1. Ges i gawod arall - gawod o law.
a 2. Ni wnes gwrdd a Matthew Rhys anyway.

Roeddwn i'n dressed to impress. Y gwallt yn ei le, y colur yn cwato'r drwg i gyd. Fy jins gore, a'r top newydd o Top Shop (t-shirt bach ciwt gyda coler bach a bwtwns!). Gwisgais top du o dan honno, gan fod hi'n edrych yn oer, a cariais fy nghot glaw. Pigodd Mam a finnau Pero i fyny o'i thy am 9 o'r gloch (ok 5 past - dwi'n slow yn bore), ac fe roedd hi'n pisio i lawr y glaw.

Eto. Yn gyntaf diwrnod glwyb yn Nimbych Y Pysgod, nawr diwrnod ofnadwy (o ran tywydd) arall yn y Steddfod.

O wel. Roedd hi'n ddiwrnod gret ta beth.

Bob blwyddyn, mae Pero a finnau'n benderfynol o "Celeb Spotio" mewn Eisteddfod. Does dim dal - un yr Urdd neu'r Genedlaethol - fe fyddwn yn mynd i oleiaf un Eisteddfod bob blwyddyn. Nawr, yn amlwg, dydyn ni ddim yn mynd i weld Britney Spears neu rhyw A-lister yn camu allan o'r pafiliwn pinc (well, you never know, ma'r pobol yma o LA yn loopy. They call it La-La land for a reason don't you know?!)... ni jyst yn licio gweld faint o ser Pobol Y Cwm rydyn yn gallu cyfri, a pa rai o gyflwynwyr Planed Plant rydyn yn gallu gweld.

Felly dyma'r list.
  1. Tara Bethan - dyma'r person ddwetha welon ni wrth adael, ac felly'r un cyntaf dwi'n cofio.
  2. Macs O Pobol Y Cwm - God knows beth yw ei enw iawn e. Blondie, mab Sion White. Mae Pero a finnau'n dal i gwmpo mas os ydyw e'n good looking neu beidio (ydy! mae e - surfer boy looks, that kinda thing. Cytunwch gyda FI pobol call!)
  3. Barri o Rownd a Rownd (Gwion Tegid) a Jonathon o Rownd a Rownd (Rhydian Lewis) a Sion o Rownd a Rownd (blah blah boy) - Roedd y tri yma gyda'i gilydd. Dwi'n syprised wnaethon nhw ddim ein adnabod ni'n syth bin. Ni oedd y ddwy od i ofyn am luniau gyda nhw yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Mae'r babell binc yn ei atynnu nhw aton ni! Wel, wrth gwrs, ar ol gweld rhein, fe wnaeth Pero mynnu stalkio nhw - cerdded heibio yn esgus edrych yn cool, tra ei bod hi'n syllu arnynt, fel petain yn aliyns o blanet Zog (fe wnes i dextio Mam neges SOS i ddweud fod Pero wedi mynd yn crazy)... wrth gwrs, mae gan Pero mega crush ar Gwion Tegid. Poor dab a fe. Fe wnaeth hi wichan pan welodd hi nhw... fi'n syrprised nad oeddent wedi dechrau rhedeg!
  4. Alun a Anthony o Stwffio - STWFF-IO! O'r excitment, pan i'r ddwy ohonom frysio mewn i stand y cynulliad i gysgodi rhag y glaw... ond i ffeindio Anthony yno'n gwneud smoothies! A phan ofynnodd i'r gynulleidfa "Unrhyw un ohonoch yn gwbod beth yw rasberries yn Gymrag?" - roedd gweddill y gynulleidfa dan chwech oed - fe aeth y ddwy ohonom yn well excited pan sylwoddolon ein bod ni'n gwbod... "MAFON!". Fe welon ni Alun wedyn, tra fod Pero'n pipo rownd y drws yn stondyn S4C (neu S4/C - whatever!), dechreuodd hi hyperventilato a mynd yn proper excited. "A...A...ALUN!" sgrechiodd. Mae ganddi thing am Alun, er y tro dwethaf i ni ei weld e roedd e wedi mynd yn rhy excited gyda'r fake tan - roedd e mor oren a tanjarin. Fe welon ni nhw to, a hefyd fe welon ni nhw ar y ffordd allan fyd, cyn i ni weld TB (Tara Bethan, dim mad cow disease).
  5. BABA EIFION a Catherine o Rownd a Rownd - Nawr, Catherine o Rownd a Rownd, no explanation needed. Ond Baba Eifion... well, running joc Pero a finnau, ar ol i ni weld yr actor (sydd probably tua 40+) fel plentyn yn y ffilm Traed Mewn Cyffion (ych a fi ffilm mwyaf boring a diflas... a tries i ddarllen y llyfr, a doedd hwnna'm lot gwell, Sori Kate Roberts). Roedd e'n chwarae rhan Eifion o Rownd a Rownd. Roedd e'n gwisgo wellies a hat oedd yn matshio.
  6. Branwen Gwyn - cyflwynwraig Wedi 7, a chyd-gyflwynor OFN! (gyda'r ffantastig Rhodri Owen!). Roedd hon yn gwisgo heels. Sili i feddwl fod arwyneb y llawr yn stwdj i gyd.
  7. Nia Parry - Miss Dwy Ieithog ei hun! Roedd hi'n gwisgo cot felyn llachar, ac, dipyn callach na Branwen Gwyn, yn gwisgo wellies baby pinc. Roedd hon yn tanned, ac mi roedd ei dannedd hi'n wyn, wyn... roeddech ond yn disgwyl am y... TING!
  8. Angharad Mair - Miss Ffrizz ei hun. Cuddio dan ymbarel. Doedd hi ddim yn ddiddorol iawn.
  9. Ifan o Rownd a Rownd - roedd hwn yn ei siorts, ac yn jwmpo mewn pyddles. Darling, that was so last Thursday!
  10. Jac Y Jwc - dwi'n gwrthod meddwl taw Ken o Rownd a Rownd yw Jac Y Jwc, beth bynnag wedith Pero. Pan yn groten fach, roeddwn ni'n meddwl taw'n Nhad oedd Jac Y Jwc... roedd fy logic plentyn yn gwiethio allan "Reit, ma' Dadi'n dal, a ma' Jac Y Jwc yn dal. A ma'r ddau yn bwrw 'i penne wrth fynd trw' dryse bach!". Obviously, dwi'n gwbod gwell nawr. Ond na, dim Ken Walsh o Rownd a Rownd yw Jac Y Jwc!
  11. Dafydd Iwan - roedd hwnnw'n perfformio set yn rhyw thing RANDO. Ooo swnio'n weird fan na... fe garia i mlan. Dwi'n siwr fod Mam yn jealous, ond yn pallu dangos hynny. Ta beth, DI, y dyn ei hun, yn gwisgo trwser lliw golau - big mistec tywydd yma Daf bach. Big mistake.
  12. Alex Jones - HIP NEU SGIP? Mae Alex yn hip! Welon ni hi pan yn eistedd yn y stondin S4C, pan oedd Pero'n mynnu aros i fod ym mhresenoldeb Alun.
  13. Meical o Rownd a Rownd (Emyr Gibson) - hwn oedd yn canu ar ol Dafydd Iawn, ar y stand thing.
  14. Gwyneth o Pobol Y Cwm (Llinor ap Gwynedd) - roedd hi'n gwisgo Fit Flops. Fel ma'n fam yn gwisgo. A mae hi'n ferch i un o'r supply teachers yn ysgol (Mrs ap Gwynedd - mae hi'n reit lyfli, a welon ni hi fyd, pan oedd hi'n cael reid ar un o'r golf carts S4C)
  15. Ken o Rownd a Rownd - DIM FE YW JAC Y JWC!
  16. Sion Ifan - efallai eich bod chi'n ei adnabod fel y boi na off Con Passionate. Yr un newydodd ar ol cyfres un. Ar y llaw arall, mae Pero a finnau yn ei adnabod fel... PIPO! (stori hir, hir arall). Yffach o lais canu da...
  17. Chris o Rownd a Rownd - "MAE CHRIS WEDI ATGYFODI!" oedd fy ymateb ar ol i Pero, gan ddefnyddio ei llygaid craff, sylwi ar Chris o Rownd a Rownd yn cerdded heibio. (Mae e wedi marw yn y gyfres, os nad ydych yn gwylio R&R - chi'n gallu gweld ein bod ni'n obsessed 'da'r gyfres)
  18. Mam Barry o Rownd a Rownd - Mam sgrin Barry, sef Iris, o Rownd a Rownd. Nawr... roedd hon wedi steilio ei gwallt yn ffynni, ac wedi gwisgo fel clown pink - ac felly bach yn frawychus ei edrychiad. Am ryw reswm, dim ond fi a Pero oedd yn confused gan hon.
  19. Deinol a Catherine Ayres (JoJo o Cowbois ac Injans) - roedd y ddau hyn fraich yn fraich dan ymbarel! O dyna braf!
  20. Ac yn olaf... GARETH - GARETH O CYW! GARETH A WNAETH EIN SARHAU YN Y SIOE FRENHINOL. GARETH DRWG.
    Fe aeth y ddwy ohonom, "YYYYYYYYYYYYY" wrth ei weld. Gareth... Dwi'n poeri yn syth ar old dweud ei enw!

A dyna ni wedyn. Seleb Spotting list. Welon ni hefyd y dyn cyfarwydd yna o'r teledu, a fe roedd e'n gwisgo het capten llong... ond doedd yr un ohonon ni'n cofio ei enw e.

Dim Matthew felly. Na Ioan Gruffudd chwaith. Fe wnaeth postr mawr y tro... Ond still, os ydy'r cynnig dal yn mynd, dwi'n gobeithio mynd eto dydd Sadwrn gyda Anti-B a PC Larwm!

Ein traed yn wlyb, a fy nghwallt wedi hen mynd yn gwrliog, roeddent wedi blino erbyn tua pedwar. Felly treuliodd Pero a finnau hanner awr dwethaf yn derbyn negeseuon Bluetooth wrth yr Eisteddfod! Roedd e'n class! Gethon ni lun bach ma o larwm tan yn dawnsio, a rhyw code hyn oedd fel loteri, a llun bach "CROESO I'R EISTEDDFOD". Roeddent hefyd yn searchio am Bluetooth pobol eraill - yr enwau ddaeth lan!
The glynster, Wiwar, Antiann... Roeddent yn hilarious!

A wedyn daeth diwedd ein diwrnod yn yr Eisteddfod. Diwedd ar ddiwrnod gwlyb arall. Ond nid oedd y ddwy ohonom yn wlyb ein ysbryd o gwbwl!

Thursday, 31 July 2008

Pysgod yn Nimbych Y Pysgod

Nodyn o rybudd i ddarllenwyr... Dyw mynd i'r traeth pan mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn byth yn syniad da.

Ers wythnos i ddydd Mawrth dwethaf, a ni yn y Sioe Frenhinol, roeddent wedi bwriadu mynd i Tenby. A hithau mor lyfli dydd Llun a dydd Mawrth, cyffroes oedd y dair ohonom i fynd i'r traeth. Wnaethom hefyd wahaodd Bleu, i
wneud y parti'n bedwar, gan fod Wolfy'n gweitho.

Wel, doedd yr arwyddion ddim yn dda. Neithiwr dextiodd Pero i ddweud ei bod hi gorfod mynd allan gyda'i mamgu, felly ond tri ohonom oedd yn mynd. Ond ta beth, roeddent wedi trefnu. Tren 10.40 i Tenby o Gaerfyrddin. Felly y tri ohonom oedd yn mynd. Dechreuodd hi fwrw ddoe 'fyd... ond na, roeddent yn benderfynol fydde hi'n hidda...

Diflas oedd hi pan ddaeth Mam i nihuno hi am naw, felly phewph, meddyliais. Wellyth hi erbyn pnawn... Ond cwympo mas arna i bore ma, a Mam yn mynnu fod RHAID gadael am 10.10, a finnau'n meddwl fod hynny'n stiwpid ac yn mynnu treulio pum munud ychwanegol yn straightno fy ngwallt (pointless really, erbyn diwedd).

Roedd Bleu yn disgwyl amdanaf yn yr orsaf, a dim son am Deryn Du. Tynnodd y tren i mewn i'r station... "O diar!"... Ond na, cyrrhaeddodd hi mewn pryd, a croeson ni'r trac i neidio ar y tren o blatform 2. Doedd dim byd gwefreiddiol am y tren, dim really... tren, choo choo, dyna ni. Fe aethom yn ein blaen, stopio yn Narberth, a dyma fi'n cynnig stopio yn Narberth yn hytrach na Tenby gan fod hi'n bwrw... petawn ond wedi... Saundersfoot bach wedyn, a dyma'r tri ohonom yn cytuno taw crappy oedd y lle yna... a Tenby.

Roedd hi'n bwrw. Roedd y ddau ymbrela lan yn syth (fi oedd yr un twp oedd yn mynnu "I don't DO brollies"), a cuddiais tu fewn i hood fy hoodie ddu... a oedd yn gwneud i fi edrych fel, you guessed it, hoodie!

Nawr, ffeindio Get Stuffed Pizza i ginio oedd y bwriad... ond, doedden ddim really'n gwybod y ffordd allan o'r orsaf drenau. Jyst dilyn y crowd wnaethon ni, a diolch i Dduw wnaeth rheina ein arwain ni i'r stryd fawr... ac o fan 'na, benderfynon ni ein bod ni moyn mynd i'r traeth!

Wel, erbyn i ni gyrraedd un o'r traethau (peidiwch gofyn pa un, fi'm yn gwybod. Yr un bach ar bwys Cauldey Island, o dan y mynachdy?), roedd hi'n pisio i lawr. Roedd Bleu am gerdded lan y steps i gyd i'r mynachdy, ond NA! pendant oedd yr ateb. Roedd hi'n ddigon cwshti iddo fe, fydde fe'n gallu mynd mewn ato nhw! Mas am y glaw fydde Deryn Du a fi, a ninnau'n ddigon anffodus i fod yn ferched!

Roedd y boliau yn dechrau gofyn am fwyd. Felly wrth gwrs, Get Stuffed Pizza! Roedd gan Deryn Du ffrind dwi'n mynd i alw'n Mr Ice Cream Man sy'n byw yn Nimbych Y Pysgod, a fe roedd hi'n gofyn am ei help e... Roeddent bellach yn Lower Frog Street - wedi mynd mewn a dod mas o siop sgods a sglods am fod Bleu yn benderfynol o ffeindio'r lle pizza, er for Deryn Du a finnau jyst am gysgodi o'r glaw. Fe fuodd rhaid i'r tri o ni ddeifio i mewn i Joys of Tenby, a cysgodu fan na, a cyhuddodd Mr Ice Cream Man ni o fod yn uffernol o touristy via text, ond wfft, petai e ond wedi rhoi cyfeiriadau da i ni! (Efallai taw ni oedd rhy twp i ddeall... o wel...).

Fe roedd y strydoedd wedi boddi mewn dwr glaw, ar unig bobl ddigon twp i fod allan yn rhedeg am rhywle sych. Roedd llawer, yn disgwyl diwrnod da, wedi dod mewn dillad haf - o pa mor gutted oedden nhw, pam heb got na ymbarel, yr oeddent yn gwlychu'n stecs. Roedd afonydd o ddwr yn llifo lawr y strydoedd, yr awyr yn do diflas o liw llwyd yn gollwng glaw ar bawb a phopeth... Mewn caffi roedd Mr Ice Cream Man, ar diwedd y stryd, ond pa stryd? Can taw cross roads oeddent yn gwynebu o ddrws y siop souvenirs, ac felly roedd yna bedwar ffordd a oedd yn bosib.

Nes i Bleu wneud rhywbeth call.
"Excuse me, can you tell us the way to Get Stuffed Pizza place?" gofynnodd i fenyw'r siop.
"To the left and carry on."
Typical. Doedd e ddim yn bell o gwbwl.

Y sgrechfeydd o gyffro wrth ei weld - cysgod o'r diwedd!

Dau medium pizza, potato wedges with sweet chili dip a un bara garlleg wedyn, roeddent yn stuffed (haha yr un hen joc), ac wedi sychu tambach. Nol mas i'r glaw a ni. Am ryw reswm, i gadw'n sych, roedd gan y ddau arall ponchos... un melyn i Bleu, un gwyrdd i Deryn Du... ac fe roedd un coch yn sbar i fi.

Gallwch ddychmygu ein golwg ni. Tri ffigwr a wisgai ponchos a oedd yn fwy tebyg i bin liners lliwgar. Fe welon rhywun mewn poncho glas wedyn, ac i hwnnw ddwedond "Ha! Ein brawd coll!". Ond eto, a hithau'n bwrw o hyd, roeddent lan i'n pigwrnau mewn dwr... Wellingtons oedd y dewis gorau o esgidiau. Roeddwn yn gwisgo Converse trainers. Bwriad rheina yw bod yn cool, dim i ddal dwr. Roeddent yn well, rhaid gweud, na'r dolly shoes bach o satin porffor fues i bron a gwisgo...

Ta beth, roedd hi'n bwrw'n drymach wrth i ni fynd yn agosach i'n mor, ac ar un tro, fe cuddiodd y tri ohonom mewn bocs ffon. Dwi'm yn amau fod hynny'n edrych braidd yn od. Roedd Deryn Du a finnau hefyd wedi prynu crysau-T "TENBY PIRATES" erbyn hyn fyd, o'r Pownd Shop (am £1 cofiwch!).

Penderfynon fyd yn ol at yr orsaf, a cysgodi yno. Dyna oedd orau. Felly nol a ni... i geisio ffeindio'r lle. Roeddent yn wlyb sopen. Roedd fy jins yn wlyb lan i fy mhliniau - a doeddent ddim hyd yn oed wedi bod yn agos i'r mor. Felly, wfft! meddyliais, a neidiais mewn i un o'r puddles dyfna fi 'di gweld erioed. SPLASH!

Pam lai?

Cyrraedd yr orsaf, a ceisio gweithio allan pa blatform roeddent yn dal y tren o oedd nesaf. Roedd gennym hanner awr, felly doedd dim panic... Ond doedd dim screens teledu yno, fel sydd yn rhanfwyaf o orsafoedd eraill... felly ble? Es i double checkio'r amserlen... ac edrychais o'm mlaen. Ar bolyn fyddai'r rhan fwyaf o bobl call yn gweld cyn gynted fyddent yn camu i mewn i gysgod yr orsaf oedd arwydd oedd yn pwyntio i ddau gwahanol ffordd. "PLATFORM FOR SWANSEA" "PLATFORM FOR WEST WALES". Idiots a ni.

Felly, dechrau dros y bont a ni. Sylwais ar buddle dwr mawr ar lawr a oedd yn fwy tebyg i lyn bach... a gan mod i'n wlyb yn barod... SPLASH! Bu rhaid i mi redeg lan dros y bont i'r platform arall wedyn, er fod yn nhrwser i'n drwm diolch i'r dwr, i osgoi cael fy ngwlychu nol 'da'r ddau arall!

Eisteddom ar darn o lawr sych y platfform, a'i wlychu gyda'n dillad a'r poncho's gwlyb. Wnaethom hefyd sylwu fod y ferch freaky o'r flwyddyn o dan yn un ni yno... a honno'n wel weird... I mean, pam cael fringe os oedd hi'n mynnu ei hwpo nol gyda band gwallt? A roedd hi'n gweud helo i fi yn y corridore ac yn edrych yn od ar bobol arall... hmm... ta beth, roedd honno yn syllu arnon ni, ond who cares.

Daeth y tren yn brydlon, a jwmpo arno wnaethom ni. Dyw tren o Tenby ar ddiwrnod gwlyb yn ddim byd tebyg i dren o Abertawe neu Caerdydd yn ystod Rush Hour. Doedd hi ddim yn wag, ond eto doedd dim un ohonom yn darganfod ein hunain yn sownd yn y ty bach, yn ofn cwympo mewn unrhyw eiliad. Roeddent dal yn wlyb... Roedd fy ngwallt wedi mynd yn gwrls i gyd, fy nillad yn wlyb stecs, fy nhrwyn yn dechrau rhedeg... ond roeddent dal wedi cael shwd gymaint o laugh.

Ond dioddef fyddwn ni fory... yn ein gweliau, yn boddi mewn pentwr o dissws snotlyd, a llond dos o fflipin annwyd.