Showing posts with label siopa. Show all posts
Showing posts with label siopa. Show all posts

Tuesday, 19 August 2008

"What colour is Nicola now then?"

Random quote gan fenyw ar y stryd yw'r teitl am heno. Honno a'i ffrind yn gossipan... mae'n troi mas nawr, taw brown yw Nicola nawr.


Diwrnod absoloutly trippy arall yn Abertawe!


The usual suspects oedd hi, fi, Pero a Deryn Du. Rydyn ni wedi sylweddoli'n ddweddar, er bod y dair ohonom wir yn casau anifeiliaid, er mod i'n dwlu ar gathod, bod ein code names yn ein gwneud ni'n anifeiliaid. (Bwdj, sy'n fyr am bwdjerigar, sef bwdji i bobol sydd ddim yn ysgrifennu cwestiynnau Maths, yw fy nickname i). Felly off a ni i fod fel anifeiliaid gwyllt oedd wedi cael eu rhyddhau o'r zoo!


Fyddai'r Sais yn dweud ein bod ni "too random for our own good".

Ar y tren a ni, off i siroedd bell... Bu'n rhaid i ni unwaith eto eistedd gyda'r siwt cesys, gan ein bod ni am eistedd gyda'n gilydd yn hytrach na cael ein gwahanu gan bobol oedd yn mynnu eistedd wrth fwrdd ar ben ei hunain, pan roedd yna setau dwbwl "perfectly adequate" ar gael. Hmff. Ond roedd gan y tri ohonom siwt ces Tomos Y Tanc yn gwmni, felly roeddent wedi cael ein diddanu, beth bynnag.



Off a ni, a straight i beth mae Mamgu Pero'n hoffi ei alw'n "Oxford Street", am ryw reswm. Wel, mae hi'n galw Pero'n Poppy weithiau, a nid dyna beth yw enw'r groten... hmmm... teulu rhyfedd :P a ma Pero'n wir adlewyrchu hynny! (well fi watcho mas nawr though, mae ganddi llun fel own back... eek). Ta beth, siope... a mae'n rhaid i mi ffeindio gwaith. Gormod o ddillad, dim digon o arian... fi'n dilyn 'Nhad. Rhy dyn i brynu dim. Damnia'r gath.


Chi 'di sylwu mod ym mlog i bach yn wierd heno? Dwi wedi. Peidiwch a gofyn pam - s'da fi ddim cliw 'n 'unan.

Jyst i brofi ein bod ni'n hollol mad ac yn hollol random, penderfynom heddiw am ryw reswm, fod Deryn Du yn rhyw blatapws roedd Pero wedi gweld ar y teledu... mae hi'n gwylio gormod o'r Disney Channel honna... wel ta beth, danfonon ein Deryn bach ni i eistedd yng nghanol llawr y sinema a dodwy wy. Yn ol pop son, platapwsus (mwy nag un platapws? Geiriadur plis!) yw'r unig famal sy'n dodwy wyau. Yn ol Pero though, mae gan y platapws mae hi'n gwylio gwahanol "modes". Agent mode a pet mode. Yn pet mode, mae'r platapws ar y teledu yn cerdded "on all fours" a mae ei lygaid e'n edrych yn od... trion ni gael Deryn Du i wneud hyn fyd... but she was having non of that.

A na, dwi'm yn gwybod lle ddaeth hwna o chwaith.


Siopa - gan drio arno ffyni sunglasses a oedd yn gwneud i'r ddwy arall edrych fel Ozzy Osbourne a Elton John yn Primark - a wedyn dechreuais gonan mod i eisiau bwyd, a trion ni fynd i Pizza Hut tua deg munud i ddeuddeg, ond dyw'r lle ddim yn agor nes 12 sharp, ganol dydd. Beth os ydw i moyn pizza i frecwast? A roeddwn i'n starfio. Wel, aethon ni i Blue Banana wedyn, i ddiddanu ein hunain am gwarter awr fach, a yno penderfynodd Pero a finnau brynu goodie bags Blue Banana... ac ynddo mi roedd Toe ring... dwi byth wedi berchen un erioed, a dwi'm yn dangos yn nhraed so bach o wastraff really... breichledau allan o sbrings - sy'n awesome i fflicio at bobol!, a ear cuffs. Ear cuffs? Dyna ddwedodd Deryn Du oedden nhw anyway... ear cuffs, beth bynnag nesa. Ar y tren ar y ffordd adre wnes i jocan mod gen i lip ring dwi ei stretchio t'm bach a'i roi ar yng ngwefus. Oh so emo, you know haha!


Gyda goodie bag arall o Claire's wedyn, sydd drws nesaf, roedd bwyd ar feddyliai'r dair ohonom - dim jyst fi. Felly pizza mawr bendigedig gyda bara garlleg. Calories, pah! Pa calories? wfftiodd y dair ohonom. Doedden ni ddim mor dew a'r ferch druan na yn un o luniau Deryn Du... (mwhahaha).


Ta beth, hanner ffordd drwy llwnc go fawr o'r Pepsi (fe roedd y lle'n cynnig free refills, felly fe wnes gymryd mantais o hyn), fe gyhoeddodd Deryn Du fod hi newydd gael text gan Bleu yn dweud ei fod yn ail liwio'i roots e. Wel, bu bron i dau llond cegaid o Bepsi (un diet, un normal) sprayo dros y bwrdd wrth i Pero a finnau byrstio allan i werthin. Dechreuais dagu fyd. Dyw e ddim yn ananarferol i fachgen dyddie hyn i liwo'i wallt, ond i'w liwo'n felyn llachar, a wedyn ei ail liwio lliw yna... Roeddwn i'n llefen chwerthin. Fel ddwedodd Pero, mae ei wallt e lliw disgysting - fel se rhywun wedi pisio arno!


Off a ni wedyn i siopa bach mwy, a brynais anrheg penblwydd ar gyfer Mam - sy'n top secret, confidential. Os na fydd hi'n ei licio... well, tyff. Dwi'n credu fydd hi though... neu oleia neith hi jocan lico fe.


I'r sinema wedyn, i weld Angus, Thongs and Perfect Snogging, wedi ei selio ar lyfrau Louise Rennison (rhywbeth fel 'na). Nawr, tries i ddarllen y llyfre, ond doeddwn i jyst ddim yn deall beth roedd pawb arall yn meddwl oedd mor fflipin ffantastig amdanynt. I jyst didn't get it. Ond fe roedd y ffilm yn gret. Dyddiaduron merch bedair ar bymtheg oed o'r enw Georgia Nicolson yw'r llyfre, ond jyst dilyn bywyd Goergia trwy ei llygaid hi oedd y ffilm. Yn ol Wikipedia (a girl's best friend!) mae'r cymeriadau wedi newid tipyn, ond dwi'm callach. Fe roedd hi ages yn ol pan dries i ddarllen y llyfre. Ta beth, roedd y ffilm yn gret. Total chick flick. A fe roedd chwaer fach Georgia, Libby, a oedd yn hoffi gwisgo'r gath i fyny, yn hollol batty. Mae Pero a Deryn Du wedi penderfynu, ei bod nhw'n ffansio'r boi oedd yn chwarae Dave The Laugh (oh, pan wnath Georgia weud wrtho bod hi'm yn interested fe odd e'n edrych mor drist, bless!), sef Tommy Bastow, bachgen sydd hefyd yn ymddangos yn hysbesebion BT (y rhai na gyda Kris Marshall off My Family and co?). Mae'n well gen i'r un oedd yn chwarae Robbie, ond er hynny, doedd e'm yn edrych mor ffit a hynny o rai onglau camera... na dyw hwnna ddim yn swno'n reit yn Gymraeg, he didn't look his best at all camera angles. Falle taw fi sy'n ffysi, a fi sydd wedi penderfynu eisioes taw dim ond un dyn sydd i fi.

Ond chick flick perffaith ar gyfer girlie day out!


Roedd y siope'n dechrau cau erbyn hyn, felly jyst cerdded rownd oedden ni - ddim cweit yn barod i gallio a bwrw am adre. Cerddon heibio lle roedd yn cael ei alw, yn ol y llythyrau mawr ar y wal, The Bar Quarters. A dyma Pero, o clever clogs Pero, yn mynd...
"Ond lle mae'r tri chwarter arall?"


O! Y chwerthin. A jyst cyn cario mlaen, cerdded HEIBIO'r bar quarters wnaethon ni, dim mynd i mewn.



Yn ol a ni ar y tren. Dechreuon ni off y dair ohonom yn sgwashed mewn i sedd i ddau, gan fod Pero yn anfodlon eistedd ar bwys unrhyw un dierth, ond rhedon tuag at ford unwaith roedd yna un ar gael! Treulion weddill y siwrne yn edrych ar enwe Bluetooth pobol eto... roedd yna Mike, Errol, Mos ag roedd yna... Catherine Tate. I doubt taw'r Catherine Tate go iawn oedd ar y tren i Gaerfyrddin though...

Tuesday, 8 July 2008

Pero, Deryn Du a finnau'n cael adventures yn Abertawe


Heddiw, fe es i, Pero a Deryn Du ar antur i Abertawe.
Mamgu 10 cafodd y fraint o fynd a fi a Pero i'r statison, a fuon yn anlwcus ar y ffordd. Roeddent yn styc tu ol yr hen Audi slow 'ma (a few wnaeth Mamgu actually mynd a'i basio - mi roeddwn yn stunned), a wedyn mynnu ein stopio oedd pob golau coch. Ond fe gyrrheaddon ar amser, er fod y tren yn hollol llawn. Sefyll roeddwn ar y ffordd i fyny, a hynny reit tu allan i'r toiledau. Roedd yna seddi - er eu bod yn brin - ond doedd dim tri ar bwys ei gilydd. Felly sefom yn gwasgu'r botwm i agor drws i ty bach i'r rhai nad oedd yn ddigon siarp i'w ffeindio.
Y siop gyntaf aethom i mewn i oedd TKMaxx - i'r rhai oedd yn becso. Ac yn fan na, daethom ar draws hyrdl cyntaf y dydd. Y grisiau a arweiniau i unman. Honnodd Pero am eiliad nad oedd yn hoffi escalators - er ei bod hi wedi mynd ymlaen i'w defnyddio wedyn trwy'r dydd - felly aethom i fyny'r grisiau... ac yn y fan honno, dechreuodd ein diwrnod crazy. Ceisiom fynd trwy'r drysau dwbwl a arweiniau i'r siop... ond nid oeddent yn agor! A nid oeddent yn gallu mynd i fyny'r grisiau'n bellach, gan fod yna wal mowr melyn yna, a un or arwyddion 'na gydag ebychnod arno yna! Felly nol lawr a ni, (ar ol posio am luniau) a defnyddio'r escalators. ESCALATORS. Sori, dwi'n hoffi sillafu'r gair.

Primark oedd un o'r stops nesaf. Fi'n gwybod bod yna sgandal ynglun a Primark ar Panorama yn ddweddar, am hawliau gweithwyr, ond dwi methu boicotio'r lle. Dwi'n hoffi bargain. Sori. Des i o na a breichled fach berliog (pearls, i bobol normal), crys-T serennog a sgidiau sgleniog. Roeddwn wedi ffansio'r trainers tro dwethaf o'n i yn Primark, ac fe wnaeth hyd yn oed fy anti sy'n prynu pob peth drud ddweud ei bod nhw'n neis.

Ar ol pip yn Topshop, off a ni i'r edrychiad newydd... New Look. Yno, brynais siaced newydd, am £10, lawr o £20. A dyna'r twenty pownd rhoiodd yn Nhad i fi wedi mynd straight off. Ta beth, yno penderfynnodd Deryn Du a finnau drial ffroge mlaen. Pallodd Pero - she's not a dress person. Felly ath hi off i gael look ar y jingelarings. Tries i ffrog borffor arno, a dewisodd Deryn Du un du a gwyn. Er fod yr un dewisais yn size 14 (sydd fel arfer yn rhy fach) doedd gen i'm or bust i ddal y ffrog lan, a galed oedd hi ceisio cael llun o'r ddwy ohonom mewn booth newid.

Off a ni o'r fan honno wedyn, a fi'n dechrau achwyn mod i'n starfo. Ma'n mola i'n fwy pwysig na'r wardrobe. Felly i McDs! Chicken Sandwich Meal i fi wrth gwrs - un MAWR! Nawr, fe cafom sbort yn McDonalds. Aethom lan lofft i eistedd, yn llawn atgofion o'r tro cyntaf i ni fynd i Abertawe gydam gilydd - am ryw reswm fe wnaeth Pero a finnau ffilmio Deryn Du yn dod allan o'r toiledau. Ta beth, yno, cawsom llond twll o ofan wrth wylio un o'r gweithwyr yn cadw checio toiledau'r merched! Cafodd e llond twll o ofan though wrth i rywun ddod mas! Hefyd, yn McDonalds, daeth yna lu o bobl Spaeneg i mewn - pob yn braidd henach na 12 - a dyma Pero a Deryn Du, sydd wrth gwrs wedi cymryd gwersi yn yr ysgol, yn ceisio deall beth roeddent yn dweud. Roedd e beyond fi, so fe wnes i ganolbwyntio ar yfed fy Nghoca-Cola, nes iddynt fyrstio mas i werthin.
"Hello?" oedd fy ymateb i (ma'r ddwy arall yn eithaf scary)
"Ma' un o'r rhai draw fan 'na yn eyeo ti lan!"
Wel ych. Roeddent way rhy ifanc, a doedd dim un ohonynt yn edrych ddim byd tebyg i Matthew Rhys na Eric Szmanda. Forget it.

Hefyd, yn McDonalds, cwrddon a bachgen ifanc diddorol iawn. Gossipan roedden ni'n tair - roedd y bwyd wedi hen fynd i'm stymogau - a dyma'r bachgen bach, tair mlwydd oed efallai, yn cerdded o amgylch y bwyty yn cario un o'r coniau WET FLOOR rownd y lle! Hilariws. Roedd y con plastig yn fwy na fe! A dyma ni'n tair wrth gwrs a'r ffonau symudol mas yn tynnu ei lun! Fi'n credu roedd e bach yn camera shy, a dyma fe'n dychwelyd a pacyn gwag o chips ac yn ei daflu at Pero! Roedd hynny'n ddoniol fyd, achos fe roedd yn ymddangos yn ddiniwed ac yn ciwt cyn hynny! Cafodd Pero dipyn o sioc!

Ar ol stwffio'n boliau, off i'r sinema. Ac yno, wrth gwrs, roedd rhaid cael popcorn. Hancock roeddwn yna i weld - dyw e ddim mor dodgy a mae'n swno, dim fel roedd Mamgu yn syth bin yn meddwl! Stori am superhero nad oedd quite yn deall sut i drin pobol. Roedd hi'n stori brilliant, a gallai ddim dweud mwy rhag ofn iddo sbwylio'r stori. Ond gweth gweld, dwi'n addo. Ta beth, yn eistedd yn y tywyllwch, dyma'r glowsticks yn dod yn mega bright, a bu'n rhaid i ni eu cuddio nhw - trenu fyd, roeddent yn edrych mor pretty. Fyd, tra fod Deryn Du wedi confiscato'r popcorn gan mod i'n cadw'u byta nhw, fuodd hi'n ddigon clumsy i dipo peth dros y llawr! Es i a nhw nol yn ddigon cloi! Ddwedais fy mod i yn mynd i'w cadw nhw'n saff... ac felly wnes i... eu cadw nhw'n saff yn fy mola!

Ar ol y ffilm, roeddent am ddychwelyd nol i siopa, felly dyna wnaethom ni. Dychwelon i'r Quadrant, ac i mewn i HMV a ni. Yno, bu'n ymdrech galed i geisio stopio fy hun rhag prynu albwm Ashlee Simpson (Ashlee Simpson-Wentz, sori) gyda gweddil fy arian. Fe lwyddais i fynd o na. Ac i mewn i ni i Qube wedyn, a dechreuodd Pero lafoerio dros y Babyshams (make esgidiau, dim alcahol), a bu'n rhaid i ni fynd o na'n weddol gyflym, cyn i Pero foddi'r siop yn ei phoer (ych a fi lol). Ceisiais chwilio am y dyn Big Issue eto - cyfweliad gyda Matthew Rhys! Ond nid oedd y dyn budr i'w weld yn unman.

Allan a ni o'r Quadrant, allan ar bwys lle mae WH Smiths, ac yno, roeddem yn agos iawn i Blue Banana. Doedd Pero erioed wedi bod yna... shocked oedd Deryn Du a minnau. Yn amlwg, doedd Pero erioed wedi mynd trwy phase "Goth" na "Punk" na "Emo". Druan a hi - deprived childhood. Bu Deryn Du a fi yn y phases na yn ein hieuenctid.

Aethom wedyn i lawr tuag at Poundland, gan fod Deryn Du am becyn o glowsticks fyd. Wedyn, i Peacocks a ni, a doedd dim byd o werth yno. Roedd y British Heart Foundation yno, a dyma fi'n dechrau ar y stori Simple Plan. Am dro, sbel yn ol, gyda Mamgu 10, fe lusgodd hi fi i mewn i un o siopau elusen Llanelli - The British Heart Foundation - ac yno, cefais hyd i CD Simple Plan am 99p. Ers hynny, dwi 'di colli'r CD, a dwi'n pallu prynu un arall gan ei fod fel arfer yn oleiaf £5.99 yn y siopiau CDs. A heddiw... yn y British Heart Foudation... bues yn lwcus unwaith eto!!! Sum 41 CD am 99p! O'n i'n well chuffed.

Yn y siop elusen, cefais syniad wych. Fel fflach mellten, daeth i mi o nunlle. Charity Shop Challenge! Grwp ohonom yn erbyn ein gilydd yn ceisio prynu'r outfit orau drwy ddefnyddio siopiau elusen yn unig! Good idea, no? Fi'n gwbod fod e bach yn smelly, ond mi rydych yn gallu cael ambell i good find yno. Go me!

Ac yna, amser dychwelyd adref. Roedd popeth erbyn hyn yn dechrau cau. Cyn mynd, er mwyn cymryd y mick o'r ffaith fod Pero a minnau'n terrified o ran fwyaf o adar, fe cawsom ein llun wedi tynnu yn edrych yn horrified o'r wylan hyn oedd yn y ffenest yn River Island! Mae hi bellach yn official - ni'n mad.

Yn ol i'r orsaf drenau a ni! A tu fas yr orsaf drenau, pwy oedd yno... rhywun yn gwethu'r Big Issue! Menyw oedd hon, a rhaid dweud, glan oedd ei dwylo hi, a mi roedd hi'n reit serchog. Yn anffodus iddi though, roedd gen i ddarn pumdeg ceiniog, a ffrindiau digon amyneddgar i aros amdanai! A er yr holl gyffro o actually ffeindio rhywun oedd yn gwerthu'r Big Issue, a helpu'r llai ffodus, roedd gen i'r blydi issue'n wrong. Dim cyfweliad gyda Matthew Rhys. Daminit all.

Ta beth, ni oedd y cyntaf ar y tren ar y ffordd nol - felly dim sefyll i'r dair hyn. Dewison y seddi gorau, a ploncio'n pen olau i lawr yno. Roedd hi'n neis gael gorffwyso ein traed blinedig am bach! Roeddent yn dal i siarad non-stop, ac fe roedden nhw'n chwerthin ar ben fy obsessiwn ac yn meimio i Viva La Radio. Yna, dyma fi, Miss Good Ideas, yn cael syniad hollol bril arall. Mae Pero wedi bod ymlaen am oesau ei bod hi am wneud enw i'w hun ar YouTube, ac fy syniad i oedd i greu rhaglennu teledu ein hunain! Creu 24 awr o deledu ffuglennol! Roeddent yn credu fyd mod yn idea i yn blydi good.
Felly dyna beth i ni lot mynd i wneud drwy'r haf. Rhedeg rownd a fideo camera yn ffilmio rhaglennu teledu. Mae'r rhanfwyaf o teenagers yn mynd mas rownd dre bob nos Sadwrn, mynd i house parties, gwneud pethau fel 'na... ond ni - no way. Mae rhaid i ni fod yn blydi od.

Roedd y diwrnod mor ffab, doeddwn ddim am fynd adref, ond stopio yng ngorsaf Caerfyrddin wnaeth y tren. Off a ni. Roedd yn fam i yn sgwrsio i mam Pero, a unwaith iddyn nhw stopio clebran, adref a ni. Roeddwn yn edrych mlaen i jyst ymlacio o flaen Whose Line Is It Anyway? ond na... 8fed o Orffennaf, 2008 oedd y dyddiad... h.y, blwyddyn yn union i'r diwrnod cafodd fy nghefnder bychan ei eni. Roedd rhaid mynd i visito felly.

A dyna orffennodd fy nydd - ym mharti penblwydd fy nghefnder. Tra'n eistedd yno yn dipio cucumber mewn i Onion and Garlic dip (stinco fydd yn anadl i fory), roeddwn yn eithaf distyrbed i feddwl fod ei fam e'n twrio trwy ei gachu ef a chrib man. Hmm.