Showing posts with label Pero. Show all posts
Showing posts with label Pero. Show all posts

Sunday, 9 November 2008

Mrs Kevin Jonas

Ers wythnos nawr, dwi'n siwr i chi glywed Pero a fi yn sgrechian unrhyw bryd mae'r "Jonas Brothers" yn popio i fyny mewn sgwrs. Ers i mi decstio hi i chwerthin am y ffaith fod y tri brawd yn gwisgo "purity rings" (dwi'n gwbod - :), rydyn ni wedi bod yn obsessed.

Honco yn mynd mor bell a dweud ei bod hi'n fodlon aros nes ei bod hi'n Mrs Joe Jonas er mwyn... you know.

Well, ar noson Calan Gaeaf, penblwydd Deryn Du, fe wnaeth y ddwy ohonom fachu clwstwr o Glow Sticks a creu purity rings ein hunen a'u rhoi o gwmpas ein pennau, fel halo's angylion bach.

A dyna ddechrau pigo "That's The Way We Roll" fel ein "Best Friend Song" ni, a dyna ddechrau canu "I'm hooot, and you're coooooold," yn ddiddiwedd, a mynd ar nerfau Deryn Du drwy mynd "Nooooo waaaaaaaaaay John Taylor!" mewn acen Americanedd. Mae DD, erbyn hyn, yn falch iawn ei bod hi wedi mynd off gyda'r gerddorfa i rhyw twll o le i gael chwarae bassoon.

Os yn mynychu'r un ysgol a ni, fi'n siwr fe sylwch chi fod Pero a minnau wedi dechrau treulio ein cyfnodau rhydd (pan yn cuddio rhag gorfod helpu paentio'r set ar gyfer y sioe) yn darllen rhyw llyfr am y Jonas Brother prynodd hi o'r Works.
Dwi wedi darganfod nad yw Kevin yn hoffi merched "foul mouthed" (shit), na merched sydd a ffrindiau "odd" neu "crazy", gan bod eu ffordd nhw'n dueddol o rhwbo off (felly bye bye Pero! hehe!).

A nawr, dwi'n gwylio fideos o Kevin Jonas ar Youtube. Dechreuodd y peth fel joc - "Well I shall like Kevin, because nobody does!". Bellach, dwi methu hyd yn oed edrych ar y cwrls a'r sideburns heb i 'nghoesau droi i jeli. Dwi'n becso braidd.

A sylwch... petawn yn priodi Kevin Jonas, dim ond un llefariad (sef yr e i'r a) fydde'n rhaid i fi newid yn fy nghyfenw i!

Friday, 5 September 2008

Pero a Bwdj


Meddwl, tra bod y ddwy ohonom adref yn "Facebookio" er i'r trip i Bae Morfa i wneud stwff yn y mwd wedi cael ei ganslo ac yn chwerthin ar ben ein lluniau o'n diwrnod mas yn y Steddfod, baswn yn ysgrifennu blog bach am fy ffrind gorau.

Roedd ei phenblwydd hi ar y diwrnod cyntaf nol i ysgol (3ydd o Fedi) ac er i mi ysgrifennu a gweud ei bod hi'n ffrind ffantastig yn ei charden, doedd dim gymaint o hynny o le ar gerdyn penblwydd roeddwn wedi gwneud iddi fy hunan.

A sori am y llun mawr ar y garden. Dwi'n gwybod nad wyt yn hoffi'r llun yna gan fod yna dwat yn posio tu ol i ti.

Felly, Pero, i feddwl bod y ddwy ohonom wedi cyn hyn casau ein gilydd, nol yn y dyddiau pan roeddent yn mynychu Sgwad Sgwennu, mae hi'n od ei bod ni'n ffrindiau pennaf erbyn hyn. Roedd Mam y ddwy ohonom wedi bod yn ysgol gyda'i gilydd, a finnau'n cofio'n glir Mam yn dod nol i'r car ar ol bod i Morrisons (fi'n credu falle taw Safeway oedd e bryd hynny), a fi wedi bod yn eistedd yn y car yn bwyta McDonalds, a honno'n gweud wrthaf ei bod wedi gweld Pero a'i Mam, ac wedyn bu'n rhaid i mi glywed popeth am Pero bach yn ennill Gameboy Advance - a fe roeddwn yn wel jealous, gan nad oeddwn i'n ennill yffach o ddim byd.

Ond ers tua blwyddyn 8, ni wedi bod yn best buddies. Eistedd ar bwys ein gilydd yn Gwydd, Maths a Cymraeg, a pallu'n deg a stopio gossipo, er fod yr athrawes Gemeg druan yn frustrated ar ein diffyg gallu Gwyddonol ni. Ond yn ol at Maths, gyda'r cwestiynne twp lle gaethom y syniad am ein nicknames diddorol ni. Cofio Goronwy fyd? Pero a Bwdgerigar (pam taw fi odd y fflipin deryn? lol) oedd y ddau gwestiwn mwyaf digri. Galed yw gweithio hebddi yn y gwersi, gan fod Pero fel arfer yn ateb y cwestiynnau drosta i. Diolch am hynny! Haha.

Ni'n rhy debyg for our own good. Mae'r ddwy ohonom yn terrified o adar - yn enwedig colomenod - ac yn dueddol o ddefnyddio Deryn Du fel tarian yn eu herbyn nhw. Mi rydyn ni'n dwy yn crap pam mae hi'n dod i Wyddoniaeth, fel dwedais uchod. Ac fe roedd y ddwy fam (druan a nhw gorfod rhoi lan gyda ni'n dwy!) yn mynd i'r un ysgol (sef Dyffryn Teifi - bwwww), ac roedd y ddwy fam hefyd yn crap pam mae hi'n dod i wyddoniaeth. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy ohonom yn addicted i Rownd a Rownd. Er, dyw Pero ddim wir yn gwerthfawrogi geniws y nofel Dan Gadarn Goncrit fel y fi - ac i dy atgoffa di, mate, ma'n nghopi i dal gyda ti!!!
Ti'n ffrind amazing Pero. Ni ar yr un wavelength. Mae'r ddwy ohonom yn hollol batty, a dyna probably pam rydyn yn dod mlaen mor dda. Dydyn ni ddim really fel pawb arall... a dydy ein gwynebe ni ddim yn oren!
Mae gennom shwd gymaint o atgofion fflipin mental - gwersi Biol yn blwyddyn 9 gyda'r athro seicig, y Cavewoman Cymraeg, V, Y Pods a'r Podlog, ac wrth gwrs, Baba Eifion.
Ti'n seren.
And he knows it!

Saturday, 30 August 2008

Job, Domo a'r Phil Bennetts

Dwi 'di bod yn brysur ers Gogland, a dwi ddim wedi bod yn bothered i sgwennu. Sori... (as if fod unrhyw un really'n darllen anyway). Dwi ffealu bod bothered nawr chwaith... so here you are.
  • Fe es i i Shaws dros y penwythnos, cael application form a wedyn cael cyfweliad dydd Iau... mwy am hwnna wedyn.
  • Es i mas am Indians gyda Wolfy, Miri Fach, Deryn Du a Pero nos Fercher. Nosweth arall o hwyl a sbri gyda fy girlies! Fe fuon ni just yn silly (I mean, Ice Cream has a whoooole different meaning now!). A fytes i gormod 'to.
  • Ath Pero a finnau i Gaerdydd dydd Gwener. Fe roeddwn yn addicted i'r sticker machine yn Tammy, a fe dreulion ni fore yn chwilio am doilet addas am mod fy mhledren i bron a byrstio (roedd queue ym mhob toilet, a'r un yn BHS out of order. Buon ni bron ffealu ffeindio'r un yn Debenhams - ac erbyn hynny, ro'n i'n rhedeg!). Brynes i shws du newydd, cryse-T, watsh newydd, scarf, dyddiadur ar gyfer ysgol, paent, Sharpie marker pens a stickers. A cinio yummy yn yr Hard Rock Cafe! Plus, fuon ni i Spillers Records, y tro cyntaf i'r ddwy ohonon ni, ond ni welon ni neb famous. O'n ni moyn CD Y Phil Bennetts, gan fod Pero'n caru Pobol Y Cwm (yn enwedig Macsen White). Hefyd, fe aethon ni mewn i Blue Banana, a gweld lot o hen fenywod na, oedd yn wierd o ystyried y fath bethau sy'n y siop, a hefyd aethon ni i siop gomics - yr un dwi wastod yn gweld Raa Man! Felly, fe brynes i Raa Man (stori hir arall). Dwi'n ei alw e'n Domo (ei enw swyddogol), a fe yw fy ffrind bach i :)
  • Heddiw - fy niwrnod cyntaf yn gwaith. Oes. Ma' rhywun wedi bod digon twp i 'nghyflogi i. Ond diolch iddyn nhw - arian poced nawr. Dim lot i ddweud, roedd hi fel bod nol ar brofiad gwaith. S'dim cliw gyda fi lle ma dim byd, a fi'm 'di dysgu shwd mae'r till yn gweithio 'to. A fe dath y boss i mewn yn y pnawn ar ol cinio, a hwnnw'n dal ac yn dywyll... ac yn crosseyed. Roedd un cyd-weithwraig wedi fy rhybuddio i o hyn, felly roedd eye contact yn galed! Roedd pawb yn neis 'na, ond fe roedd y diwrnod yn hir. Gweithio eto fory. A dwi'm yn gwybod beth i wario'r arian dwi'n mynd i gael arno!

A dyna ni. Nol i wrando ar Y Phil Bennetts... "tair gwaith ac mae'r byd yn newid, tair gwaith ac mae'r byd yn newid..."

Plus, dwi dal yn trial convinco Anti-Bionic fod chwarae Pass The Parcel ym mhenblwydd 40th Mam yn syniad gwael.

Saturday, 23 August 2008

Pero a Madonna

Nawr, os nad ydych eisioes yn gwybod, mae gan Pero'r ddawn lwcus o allu ennill pob cystadlaeuaeth ar y radio - mae hi'n Lucky Star.

Wythnos dwetha, fe ennillodd gystadleuaeth ar Radio Carmarthenshire. Tocynne i weld Madonna'n fyw, heno.

Waw! How Vogue! Gweld y Material Girl ei hun yn Stadiwm y Mileniwm. Felly off a Pero a'i mam, dwy Beautiful Stranger i ddinas fowr Gaerdydd. Y ddwy ar Holiday i gwrdd a rhywun ddigon enwog i fod yn Hollywood - mae e Like a Prayer. Hung Up - no way dyw'r dancing shoes na wedi cael fling, er taw newydd daro hanner cant wythnos dwethaf wnaeth Madonna. Me Against The Music, dwi'n guesso mae Pero'n ei ddweud, wrth iddi dawnsio ei socks bach hi off. Like A Virgin - gweld Madonna yn y cnawd for the very first time.

Dwi'n gallu dychmygu'r ddwy ohonyn nhw, Into The Groove, i'r Music. Er, ges i tecst tua five past nine yn dweud fod Madonna heb ddod arno eto. Mae Pero eisie ei slice hi o American Pie. Sooner Or Later, fe ddeith hi. Well iddi ddod gloi, "Papa Don't Preach" fi'n siwr fydd Madonna'n dweud wrth ei ffans - dyw cael row ddim yn beth neis.

O wel, Die Another Day :)

O'n, mi o'n i'n bored! Cymerodd i fwy na 4 Minutes i fi ysgrifennu hwn, tryst me, a hynny heb help Justin Timberlake.

Tuesday, 19 August 2008

"What colour is Nicola now then?"

Random quote gan fenyw ar y stryd yw'r teitl am heno. Honno a'i ffrind yn gossipan... mae'n troi mas nawr, taw brown yw Nicola nawr.


Diwrnod absoloutly trippy arall yn Abertawe!


The usual suspects oedd hi, fi, Pero a Deryn Du. Rydyn ni wedi sylweddoli'n ddweddar, er bod y dair ohonom wir yn casau anifeiliaid, er mod i'n dwlu ar gathod, bod ein code names yn ein gwneud ni'n anifeiliaid. (Bwdj, sy'n fyr am bwdjerigar, sef bwdji i bobol sydd ddim yn ysgrifennu cwestiynnau Maths, yw fy nickname i). Felly off a ni i fod fel anifeiliaid gwyllt oedd wedi cael eu rhyddhau o'r zoo!


Fyddai'r Sais yn dweud ein bod ni "too random for our own good".

Ar y tren a ni, off i siroedd bell... Bu'n rhaid i ni unwaith eto eistedd gyda'r siwt cesys, gan ein bod ni am eistedd gyda'n gilydd yn hytrach na cael ein gwahanu gan bobol oedd yn mynnu eistedd wrth fwrdd ar ben ei hunain, pan roedd yna setau dwbwl "perfectly adequate" ar gael. Hmff. Ond roedd gan y tri ohonom siwt ces Tomos Y Tanc yn gwmni, felly roeddent wedi cael ein diddanu, beth bynnag.



Off a ni, a straight i beth mae Mamgu Pero'n hoffi ei alw'n "Oxford Street", am ryw reswm. Wel, mae hi'n galw Pero'n Poppy weithiau, a nid dyna beth yw enw'r groten... hmmm... teulu rhyfedd :P a ma Pero'n wir adlewyrchu hynny! (well fi watcho mas nawr though, mae ganddi llun fel own back... eek). Ta beth, siope... a mae'n rhaid i mi ffeindio gwaith. Gormod o ddillad, dim digon o arian... fi'n dilyn 'Nhad. Rhy dyn i brynu dim. Damnia'r gath.


Chi 'di sylwu mod ym mlog i bach yn wierd heno? Dwi wedi. Peidiwch a gofyn pam - s'da fi ddim cliw 'n 'unan.

Jyst i brofi ein bod ni'n hollol mad ac yn hollol random, penderfynom heddiw am ryw reswm, fod Deryn Du yn rhyw blatapws roedd Pero wedi gweld ar y teledu... mae hi'n gwylio gormod o'r Disney Channel honna... wel ta beth, danfonon ein Deryn bach ni i eistedd yng nghanol llawr y sinema a dodwy wy. Yn ol pop son, platapwsus (mwy nag un platapws? Geiriadur plis!) yw'r unig famal sy'n dodwy wyau. Yn ol Pero though, mae gan y platapws mae hi'n gwylio gwahanol "modes". Agent mode a pet mode. Yn pet mode, mae'r platapws ar y teledu yn cerdded "on all fours" a mae ei lygaid e'n edrych yn od... trion ni gael Deryn Du i wneud hyn fyd... but she was having non of that.

A na, dwi'm yn gwybod lle ddaeth hwna o chwaith.


Siopa - gan drio arno ffyni sunglasses a oedd yn gwneud i'r ddwy arall edrych fel Ozzy Osbourne a Elton John yn Primark - a wedyn dechreuais gonan mod i eisiau bwyd, a trion ni fynd i Pizza Hut tua deg munud i ddeuddeg, ond dyw'r lle ddim yn agor nes 12 sharp, ganol dydd. Beth os ydw i moyn pizza i frecwast? A roeddwn i'n starfio. Wel, aethon ni i Blue Banana wedyn, i ddiddanu ein hunain am gwarter awr fach, a yno penderfynodd Pero a finnau brynu goodie bags Blue Banana... ac ynddo mi roedd Toe ring... dwi byth wedi berchen un erioed, a dwi'm yn dangos yn nhraed so bach o wastraff really... breichledau allan o sbrings - sy'n awesome i fflicio at bobol!, a ear cuffs. Ear cuffs? Dyna ddwedodd Deryn Du oedden nhw anyway... ear cuffs, beth bynnag nesa. Ar y tren ar y ffordd adre wnes i jocan mod gen i lip ring dwi ei stretchio t'm bach a'i roi ar yng ngwefus. Oh so emo, you know haha!


Gyda goodie bag arall o Claire's wedyn, sydd drws nesaf, roedd bwyd ar feddyliai'r dair ohonom - dim jyst fi. Felly pizza mawr bendigedig gyda bara garlleg. Calories, pah! Pa calories? wfftiodd y dair ohonom. Doedden ni ddim mor dew a'r ferch druan na yn un o luniau Deryn Du... (mwhahaha).


Ta beth, hanner ffordd drwy llwnc go fawr o'r Pepsi (fe roedd y lle'n cynnig free refills, felly fe wnes gymryd mantais o hyn), fe gyhoeddodd Deryn Du fod hi newydd gael text gan Bleu yn dweud ei fod yn ail liwio'i roots e. Wel, bu bron i dau llond cegaid o Bepsi (un diet, un normal) sprayo dros y bwrdd wrth i Pero a finnau byrstio allan i werthin. Dechreuais dagu fyd. Dyw e ddim yn ananarferol i fachgen dyddie hyn i liwo'i wallt, ond i'w liwo'n felyn llachar, a wedyn ei ail liwio lliw yna... Roeddwn i'n llefen chwerthin. Fel ddwedodd Pero, mae ei wallt e lliw disgysting - fel se rhywun wedi pisio arno!


Off a ni wedyn i siopa bach mwy, a brynais anrheg penblwydd ar gyfer Mam - sy'n top secret, confidential. Os na fydd hi'n ei licio... well, tyff. Dwi'n credu fydd hi though... neu oleia neith hi jocan lico fe.


I'r sinema wedyn, i weld Angus, Thongs and Perfect Snogging, wedi ei selio ar lyfrau Louise Rennison (rhywbeth fel 'na). Nawr, tries i ddarllen y llyfre, ond doeddwn i jyst ddim yn deall beth roedd pawb arall yn meddwl oedd mor fflipin ffantastig amdanynt. I jyst didn't get it. Ond fe roedd y ffilm yn gret. Dyddiaduron merch bedair ar bymtheg oed o'r enw Georgia Nicolson yw'r llyfre, ond jyst dilyn bywyd Goergia trwy ei llygaid hi oedd y ffilm. Yn ol Wikipedia (a girl's best friend!) mae'r cymeriadau wedi newid tipyn, ond dwi'm callach. Fe roedd hi ages yn ol pan dries i ddarllen y llyfre. Ta beth, roedd y ffilm yn gret. Total chick flick. A fe roedd chwaer fach Georgia, Libby, a oedd yn hoffi gwisgo'r gath i fyny, yn hollol batty. Mae Pero a Deryn Du wedi penderfynu, ei bod nhw'n ffansio'r boi oedd yn chwarae Dave The Laugh (oh, pan wnath Georgia weud wrtho bod hi'm yn interested fe odd e'n edrych mor drist, bless!), sef Tommy Bastow, bachgen sydd hefyd yn ymddangos yn hysbesebion BT (y rhai na gyda Kris Marshall off My Family and co?). Mae'n well gen i'r un oedd yn chwarae Robbie, ond er hynny, doedd e'm yn edrych mor ffit a hynny o rai onglau camera... na dyw hwnna ddim yn swno'n reit yn Gymraeg, he didn't look his best at all camera angles. Falle taw fi sy'n ffysi, a fi sydd wedi penderfynu eisioes taw dim ond un dyn sydd i fi.

Ond chick flick perffaith ar gyfer girlie day out!


Roedd y siope'n dechrau cau erbyn hyn, felly jyst cerdded rownd oedden ni - ddim cweit yn barod i gallio a bwrw am adre. Cerddon heibio lle roedd yn cael ei alw, yn ol y llythyrau mawr ar y wal, The Bar Quarters. A dyma Pero, o clever clogs Pero, yn mynd...
"Ond lle mae'r tri chwarter arall?"


O! Y chwerthin. A jyst cyn cario mlaen, cerdded HEIBIO'r bar quarters wnaethon ni, dim mynd i mewn.



Yn ol a ni ar y tren. Dechreuon ni off y dair ohonom yn sgwashed mewn i sedd i ddau, gan fod Pero yn anfodlon eistedd ar bwys unrhyw un dierth, ond rhedon tuag at ford unwaith roedd yna un ar gael! Treulion weddill y siwrne yn edrych ar enwe Bluetooth pobol eto... roedd yna Mike, Errol, Mos ag roedd yna... Catherine Tate. I doubt taw'r Catherine Tate go iawn oedd ar y tren i Gaerfyrddin though...

Tuesday, 29 July 2008

Elspeth, Felicity a Perdita rownd dre - a dim Woofydoodles, plis.

Nawr, fe esbonia i y teitl wedyn. Am nawr, Deryn Du yw Elspeth, fi yw Felicity, a Pero yw Perdy.

Roeddent off i dre. Ein bwriad oedd i wneud y Charity Shop Challenge wnaethom son amdano ar ein trip i Abertawe ages nol... ond roedden ni ffealu bod yn bothered.

Felly jyst trip rownd dre oedd hi.

Fe roedd Pero a finnau yn rhedeg braidd yn hwyr (roedd hi'n rhannu lifft gyda fi), ac wrth i ni frysio i fyny heibio Woolworths, dyma ni'n bwrw mewn i Llwyd. Dwi'm di gweld Llwyd ers ages - dim ers cyn TGAU pan fydde fe a fi yn sgwrsio bob bore fel dwy hen fenyw wrth drws A - ac fe roedd e'n gwisgo shades pan weles i fe so doedden i ddim yn ei adnabod i ddechrau! Pam nad ydych chi wedi disgwyl gweld rhywun y foment rydych chi'n gweld nhw, ife jyst fi yw e, neu ydyw e'n really galed gwybod beth i'w ddweud? Anyway, neis oedd gweld e eto, er ei fod yn breif encounter (of the alien kind... haha!), a un o'r pethau ddwedodd oedd "Fi newydd gerdded heibio'ch ffrind chi... fi'm yn gwbod ei henw hi?" "Yr un a specs?" gofynnais. "Ie! Na hi!" "Deryn Du," dwedodd Pero a finnau.

Brysio eto, a gweld Deryn Du'n gwynebu y ffordd arall... BOO! Gath hi bach o ofan i gael fi a Pero'n neidio i fyny tu ol iddi!

Y peth cyntaf wnaethom oedd cerdded dros bont y dref, bont y Mileniwm neu pa bynnag enw twp rhoddodd dynion cownsul y dre iddi. Roedd rhaid i ni weld pryd roedd y trenau'n mynd i Ddinbych y Pysgod. Tenby = trip dydd Iau! Wedyn, a ni wedi methu deall yr timetables trenau (er fod Deryn Du i fod yn Mathematical genius, a honno wedi penderfynu gwneud y pwnc i Lefel A), gerddon ni i Matalan, a ni wedi'r cwbwl ochor yna o'r afon anyway. Mewn a mas o fan 'na a gweld ffrind i ni, a fe yn sydyn wedi mynd yn dal iawn - a roedd y tair ohonom yn edrych ar y cawr yma sydd newydd ddatblygu o'r bachgen.

Eisteddon ni wrth y bus stop wrth yr orsaf drenau wedyn, yn edrych fel real proper hoodies, er fod hi llawer rhy dwym i wisgo siacedi o'r fath. Er, yn agos, yn y bys stop, fe roedd yna ddau fotel gwag o gwrw, a un botel ddwr llawn rhywbeth uffernol o suspicious yr olwg (rhywun yn amlwg wedi bod yn rhy desperate i hyd yn oed ffeinidio ty bach)... felly roedden ni'n gallu gweld fod Deryn Du wedi bod yno o'r blaen!

Nol dros y bont, a fe ymwelon a phob siop elusen yn dre. Roedden yn dechrau teimlo fel Mamgu 10 erbyn diwedd, achos mae hi'n byw a bod yn y llefydd. Ges i llyfyr - The Devil Wears Prada - am £1.99 or British Heart Foundation. Ha! Stori ddigri am y siop na - stori Pero. Nawr, yn wahanol a Deryn Du a finnau, sy'n ddigon hapus i scroungo arian off y rhieni yn hytrach na chwilio am jobs (d'oh, mae'n dal rhaid i mi orffen y application form Morrisons), aeth Pero allan i chwilio am job. Wrth gwrs, mae hi'n gweithio yn Bon Marche erbyn hyn, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Air Ambulence fyd. Ond ar ei thaith rownd dre yn chwilio am waith, fe roedd hi wedi cael cyfweliad am jobyn yn y British Heart Foundation (maent yn cynnig gwaith cyflog yn ogystal a gwirfoddol). Wel, wedi'r cyfweliad... gath hi wbod fod hi wedi cael ei gwrthod am ei bod hi braidd rhy ifanc - sy'n fair enough (hen fenywod sydd wastod tu ol y tills mewn siopau o'r fath!)... ond... a un ohonynt wedi bod yn rude i'w mamgu hi pan aeth hi ar ymweliad yno... a honno'n cario'i ffon, dechreuodd hi fwrw hwnnw ar y llawr - TAP TAP TAP - fel mae hi yn ol Pero'n dueddol o wneud pan mae hi'n colli hi, a cyhuddo'r British Heart Foundation o fod yn ageist!

Wel, wedi'r cwbwl, ond hen bobol sy'n cael heart attacks really. (JOKE! sori.)

Dechreuodd y bola siarad yn uwch na'r geg wedi hyn, a dyma fi'n cael y syniad da o fynd am pizza! Excited oedd y dair ohonom, a ninnau heb fod i'r bwytu Get Stuffed Pizza ers sbel, dyma ni'n mynd yno. Two Squirt pizza mawr rhwng y dair ohonom! Yuuuuuuuuuuummm. Yn Get Stuffed, bennodd y dair o ni lan yn stuffed!

Bu rhaid i Deryn Du ein gadael ni wedyn, i hedfan adref tua hanner awr wedi tri (dim really, daeth y teulu i'w hol hi), o'r bont unwaith eto. A ond fi a Pero ar ol, dyma'r ddwy ohonom yn mynd bach yn loopy. Penderfynodd y ddwy ohonom skipio dros y bont (fydd y fideo yna siwr o fod ar Youtube cyn bo hir).

Hefyd, darganfyddais fod fy ffrind gorau yn aml yn galw cwn yn "Woofydoodles" (a hynny am i ni ond jyst lwyddo i osgoi lwmpyn o gachu ci, o dog doo doo, o woopsie woofydoodle!). Dwi'n siwr gallwch ddychmygu'r chwerthin. Woofydoodles. Woofydoodles? WOOFYDOODLES!

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod rownd dre. I orffen, rhybydd i bawb... watchwch mas am woofydoodles.