Sori, dwi eto wedi bod yn neglecto fy mlog - diolch byth taw dim anifail anwes ydyw, neu fydde fe wedi hen drigo.
Dwi jyst yn shattered. Er mod i'm yn gwneud yffach o ddim yn yr ysgol, a dim yn gwneud gymaint a hynny'n fwy yn gwaith (fues i'n glanhau'r ffenestri tu fewn heddi actually... a gwffes i ddysgu wrth y till newydd), ond mae dihuno am saith y bore yn cymryd e mas ohona i.
Dwi'n cerdded rownd fel zombie, a dyw'r annwyd dwi wedi bod yn dioddef ohono ddim wedi helpu. Dwi'n well erbyn nawr, ond dwi dal i swno'n blocked ac wedi colli peth o'r llais, ond fel wedodd Comootion (stori hir) wrtha i dydd Iau, "You sound like an alien" - gymhariaeth spot on i'n ddisgrifio i.
Felly ysgol - wedi bod yn peswch a tisian a chwythu'n trywn a teimlo'n hollol crappy trwy'r wythnos... diolch byth am ffrindiau ffyni sydd yn gwneud i fi werthin though, achos hebddo nhw fydde'r dyddiau yn hir.
Er engraifft, fe fuodd fi a fy Gwers-Rhydd-Bob-Bloc-2 a'n Art Buddy i Sempai yn chwarae rownders gyda peli bach o bapur wedi scryncho lan a'i gwaith Celf hi fel bat!
Fe golles i ysgol dydd Mercher, a fues i gatre yn watcho Frasier etc ar y telly, ac yn paento a gwylio Kill Bill Volume 2 (dwi wedi gwylio'r Tarantino ffilms bron i gyd nawr, ond Jackie Brown s'da fi ar ol, ond Pulp Fiction yw'r favourite still, a fi wedi watcho hwnnw ddwywaith).
O, dydd Mawrth roeddwn yn dioddef yn Coleg y Drindod, achos gaethon ni gwrs gyda Prifysgol Bangor - a rheini'n trial ein brain washo ni i fynd yna ar ol bennu yn y chweched. Fat chance dude, dwi'n mynd i Gaerdydd - mwy o chance i fi fwmpo mewn i Matthew Rhys fan 'na.
Dydd Gwener, trip arall gyda'r adran Gymraeg i Ysgol Preseli, i gael sgriptio gyda'r fenyw 'ma, Manon Rees, oedd arfer ysgrifennu i Pobol Y Cwm cyn iddo fynd down hill. Dwi wedi penderfynu, ar ol gweld prisiau petrol, fod rhaid i fi ysgrifennu good sgript a'i werthu i S4C. Ma'n rhaid i fi gadw fy mabi tlws i ar yr hewl.
A dyna ni. Diwedd. Dwi ddim yn gallu bod yn bothered i wneud unrhyw sense o'r post brysiog hwn, felly off a fi - mae gen i sgript i fennu sgwennu, a arian i'w ennill. A dwi am edrych am luniau o Sid a Nancy... Pam? Wel, mae hynny'n Ddirgelwch ;)
Showing posts with label Gwaith. Show all posts
Showing posts with label Gwaith. Show all posts
Saturday, 20 September 2008
Saturday, 6 September 2008
Dydd Sadwrn Arall Yn Shaws
Croeso i mewn i Shaws Caerfyrddin. Os nad yw'r area manager na'r bos ei hun (Petey) i mewn, fe welwch bedair merch mewn ffedogau glas yn cloncan. Os yw'r ddau uchod yn bresennol, ffidlan ambytu'n jocan teidio lan i ni.
Dwy cyd-weithwraig newydd oedd heddi, a fi a Bows wrth gwrs, a doeddwn ddim wedi cwrdd a nhw o'r blaen - ond mi roeddwn nhw'n neis, felly doedd dim problem. A ni wnaeth Mr Shaws alw, felly diwrnod chilled out oedd hi.
Stwffes i ambell gwshin, fues i'n chwarae bach gyda'r tills, a fues i'n cynorthwyo menyw mewn cadair olwyn a oedd yn cael ei wthio rownd gyda rhyw ddyn random a gwallt hir a glassys o Focus. Ffantastic ffact i chi - mae'r boi hyn wastod yn cael ei ginio o Porkys.
Amser cinio, es i Matalan i chwilio am wisg ffansi ar gyfer parti'r chweched sydd nos Fercher. Dwi'n mynd fel mor leidr wedi'r cyfan! Mae gen i sawl math o deits streipiog adref, crys-T Tenby Pirate, scarf a skulls arno, digon o jingelarings, felly roedd rhaid i mi gael sword fach a het. A dyna fi'n gadael Matalan gyda'r sword, het, hook a glow stick yn fy mag. (Dwi just yn hoffi glow sticks, ok?)
Nol i'r gwaith, a doeddwn ddim cweit mor hopeless heddiw - I'm getting the hang of it. Wel, dwi'n credu...
Ta beth, a hithau'n gwarter wedi pump, roedd y bedair ohonom wedi cael hen ddigon, ac wedi dod i'r canlyniad nad oedd y bos mawr yn mynd i alw. Roeddent yn eistedd ar y gweliau (ddim fod neud 'na - naughty!), ac yn sgwrsio. A dwi wedi dysgu fod y lle'n haunted.
Typical fi i lwyddo i gael jobyn mewn lle sy'n fflipin haunted.
"Paid becso, it's a friendly ghost," meddai un o'r lleill i mi.
"O... Casper?"
Mam bigodd fi lan o'r gwaith, a fe fwrodd smel cyfarwydd fy ffroenau... McDONALDS! Roedd hi wedi dod a McChicken Sandwich Meal (un large) A Potato Wedges with dip i fi. Roeddwn wedi cael fy mhecyn pai cyntaf, ac fe roedd y ddwy ohonom yn reit excited. Dwi'n golygu prynu shoes newydd da'r pai cyntaf, a safio'r gweddill i gyd - ond ydw i'n gall, ddarllenwyr? Hehe!
Ac ar y ffordd nol, dwedodd Mam iddi weld Jason o Pobol Y Cwm/Y Phil Bennetts yn dre - roeddwn yn well jealous. Gadawes i neges ar grwp Facebook y band echddo, so spooky coincidence arall, ac fe roeddwn wedi treulio'r diwrnod yn meddwl am Mark Flanagan (sy'n chwarae Jinx) ac yn meddwl pa mor exciting fydde'n ddiwrnod i petai e'n cerdded mewn. Petai Matthew Rhys yn dod mewn, fydden i'n mynd i guddio - mae'r ffedogau'n shameful.
Ta beth, a finnau newydd cicio'n sgidiau i bant, wedi edrych ar beth roedd Mam wedi prynu yn dre, a wedi setlo lawr flaen y telly, daeth Anti-Bionic draw i'n nghoroni yn DJ Miss Tebot ar gyfer penblwydd Mam h.y gweud wrtho fi i roi CDs o ganeuon Cymraeg sydd mor hen a'r arch ar playlist ar fy Ipod er mwyn eu chwarae ar ei phenblwydd.
Fe aeth Mam bach yn hormonol - mae hi'n dal i gredu fod hi'n un ar hugain. Mae paratoadau dathlu'r 40 wedi bod yn bach o sioc.
Dwi'm yn cael parti pan dwi'n ddeunaw. Dwi'n mynd into hiding. Seriously.
Golles i X Factor, ond o wel. Bydd rhaid i mi ei wylio ar ITV 2. Neu ITV 3. Neu ITV 4... Ma' gormod o ITVs.
Dwi'n gwrando i Russell Brand a Matt Morgan, ac yn meddwl am beth ddysges i ddoe am y Bwdha tra mod i adref, ac yn aros i'r Sadwrn droi'n Sul, ac yn gobeithio am fflach o ysbrydoliaeth o rhywle. Over and out.

Saturday, 30 August 2008
Job, Domo a'r Phil Bennetts
Dwi 'di bod yn brysur ers Gogland, a dwi ddim wedi bod yn bothered i sgwennu. Sori... (as if fod unrhyw un really'n darllen anyway). Dwi ffealu bod bothered nawr chwaith... so here you are.
- Fe es i i Shaws dros y penwythnos, cael application form a wedyn cael cyfweliad dydd Iau... mwy am hwnna wedyn.
- Es i mas am Indians gyda Wolfy, Miri Fach, Deryn Du a Pero nos Fercher. Nosweth arall o hwyl a sbri gyda fy girlies! Fe fuon ni just yn silly (I mean, Ice Cream has a whoooole different meaning now!). A fytes i gormod 'to.
- Ath Pero a finnau i Gaerdydd dydd Gwener. Fe roeddwn yn addicted i'r sticker machine yn Tammy, a fe dreulion ni fore yn chwilio am doilet addas am mod fy mhledren i bron a byrstio (roedd queue ym mhob toilet, a'r un yn BHS out of order. Buon ni bron ffealu ffeindio'r un yn Debenhams - ac erbyn hynny, ro'n i'n rhedeg!). Brynes i shws du newydd, cryse-T, watsh newydd, scarf, dyddiadur ar gyfer ysgol, paent, Sharpie marker pens a stickers. A cinio yummy yn yr Hard Rock Cafe! Plus, fuon ni i Spillers Records, y tro cyntaf i'r ddwy ohonon ni, ond ni welon ni neb famous. O'n ni moyn CD Y Phil Bennetts, gan fod Pero'n caru Pobol Y Cwm (yn enwedig Macsen White). Hefyd, fe aethon ni mewn i Blue Banana, a gweld lot o hen fenywod na, oedd yn wierd o ystyried y fath bethau sy'n y siop, a hefyd aethon ni i siop gomics - yr un dwi wastod yn gweld Raa Man! Felly, fe brynes i Raa Man (stori hir arall). Dwi'n ei alw e'n Domo (ei enw swyddogol), a fe yw fy ffrind bach i :)
- Heddiw - fy niwrnod cyntaf yn gwaith. Oes. Ma' rhywun wedi bod digon twp i 'nghyflogi i. Ond diolch iddyn nhw - arian poced nawr. Dim lot i ddweud, roedd hi fel bod nol ar brofiad gwaith. S'dim cliw gyda fi lle ma dim byd, a fi'm 'di dysgu shwd mae'r till yn gweithio 'to. A fe dath y boss i mewn yn y pnawn ar ol cinio, a hwnnw'n dal ac yn dywyll... ac yn crosseyed. Roedd un cyd-weithwraig wedi fy rhybuddio i o hyn, felly roedd eye contact yn galed! Roedd pawb yn neis 'na, ond fe roedd y diwrnod yn hir. Gweithio eto fory. A dwi'm yn gwybod beth i wario'r arian dwi'n mynd i gael arno!
A dyna ni. Nol i wrando ar Y Phil Bennetts... "tair gwaith ac mae'r byd yn newid, tair gwaith ac mae'r byd yn newid..."
Plus, dwi dal yn trial convinco Anti-Bionic fod chwarae Pass The Parcel ym mhenblwydd 40th Mam yn syniad gwael.
Subscribe to:
Posts (Atom)