Showing posts with label ysgol. Show all posts
Showing posts with label ysgol. Show all posts

Monday, 6 October 2008

Rhoi'r Blaenoriaeth I Gerddoriaeth - Stuff That, Rhowch I Mi Huw Evans!

O, dyna ddiwrnod da fu'r 6ed o Hydref 2008 (a just i atgoffa pawb, 17 o ddiwrnodau nes mod i'n troi'n 17 - 15 diwrnod o heddiw).

Treuliodd hanner ucha'r ysgol y prynhawn yn neuadd yr ysgol yn rocio gyda Taith Bandit! A chi'n gwybod pwy sy'n cyflwyno Bandit...
Ie! Pishyn o'r enw Huw Evans! (Ma Huw Stephens yn cyflwyno fyd, ond mae e'n sinsir ac yn tubby ac yn edrych fel Dafad - sori).





Ta beth, dim ond Pero a Deryn Du a finnau oedd yn excited am ymweliad Bandit. Gaethon ni "chat" 'da Mrs John y dirprwy brif athrawes y diwrnod canlynol (sef ddoe) a ddwedodd "Nawr, dwi'n gwybod taw scifo'r prynhawn roedd y rhan fwyaf o chi'r Chweched, pan sylweddolais i fod mwy o bobol yn mynd i'r deintydd nag oedd o ddeintyddion yn y dref!" A fe wnaeth llawer ohonyn nhw (Sempai included) treulio'r prynhawn yn y Llyfrgell. (Cell y llyfrau, seriously, just me, or doesn't that round like a prison?). Beth oedd yn bod a Bandit?

Doedd Ashokan (criw o ddoctoriaid o ardal Castell Nedd) ddim mor wael a hynny os bosib? I mean, dechreuon nhw Wall of Death yn neuadd yr ysgol!

Efallai nad yw diwylliant Cymraeg ddigon "cool"? Wel, dwi'n meddwl fod e'n awesome, felly twll tin bob un sy'n dweud ffor' arall.

Friday, 3 October 2008

Y Gwasanaeth

Dylen i ddweud, don't go there, ond mae angen rant fach arnaf. So off we go.

Dydd Mercher dwethaf, cyhoeddodd fy annwyl athrawes cofrestru, the one and only Jac Codi Tail, ein bod ni yn gyfrifol am gwasanaeth y dydd Gwener hwn, y 3ydd o Hydref (h.y, heddiw). Yr un pryd, dwedodd Huey G wrth ei ddosbarth eu bod nhw'n gyfrifol am gwasanaeth... ond fe gethon nhw fflipin mis o rybudd.



A felly oedd hi, a dim son am neb yn gwneud yffach o ddim byd, a doedd neb a unrhyw syniadau chwaith... a JCT wedi penderfynu ein bod ni 'i fod ysgrifennu'r peth ein hunain... Gwers 4, dydd Gwener dwethaf, a ni ddigon ffodus i gael y wers Saesneg yn rhydd, fe aeth Pero, Merry a finnau i ysgrifennu.

Wel, ble yffach i ddechrau? Really, gallen ni fod wedi cael gwasanaeth am Tiddly Winks a wedi cannu Karma Chameleon fel emyn, fydde neb ddim callach - ma' pawb yn dal yn cysgu amser 'na o'r bore. Gath Merry y syniad o "Memories" a hefyd daflon ni'r syniad o "Newid" i lawr ar bapur, er mwyn i ni alle dangos lluniau doniol Blwyddyn 7 pobol o'r Chweched. Dal ddim yn keen ar y syniade though, halon ni Merry off i'r Llyfrgell (Cell Llyfre - swnio bach fel torture chamber, ond yw e?) i chwilio am pethau hanesyddol neu diwrnodau pwysig oedd yn ystod yr wythnos yna. Roedd Pero a fi dal yna'n pendroni... a daeth e i ni.

Hapusrwydd.

Felly aeth Pero i hol Merry, a dweud wrth honno, a oedd heb ffeindio unrhywbeth anyway, i ddod nol, bod thema i gael 'da ni. Doedd hi'm yn hoffi'r thema na, ond "Tough shit" wedes i wrthi. Roedd amser yn prinhau, a felly doedd dim dewis. Aeth hi 'mlan bach to am sut o'dd hi moyn rhoi hen luniau... ond erbyn hyn roedd Pero a finnau wedi dechrau ysgrifennu'r gwasanaeth, so a'th hi i bwdi yn y cornel. A gadawon ni hi wrthi.

Fi cafodd y job o teipo'r peth lan, ond a fi'n gweithio yn Shaws DRWY'R penwythnos (digwydd bod, roedd fy enw i lawr ar gyfer y dydd Sul yn ogystal a'r dydd Sadwrn er mwyn i High Allmighty yr area manager gael diwrnod off), gofynais yn garedig i Mami dearest i deipo fe lan. So fair play iddi, fe wnaeth i wneud.

Dydd Llun, des i a fe i'r ysgol.
"BLWYDDYN 12! Os un ohonoch chi wedi ysgrifennu gwasanaeth? NA?! CHI MOYN MYND AR Y LLWYFAN 'NA A DWEUD DIM BYD?"
Gath Merry fynd a dangos e iddi, er iddi hi wneud dim byd ond pwdu.

Amser egwyl, roedd rhaid cael cyfarfod, a fuodd Jac Codi Tail ddigon call i ddweud fod e'n good - fydde Pero a finne wedi ei chrogi hi otherwise.

Doedd hi ddim yn wasanaeth rhy wael, er fod y caws yn dripian off y weddi. (O Arglwydd, diolch i ti am rhoi'r gallu i ni fod yn hapus, blah blah blah.) Roeddwn wedi trefnu cael powerpoint yn cynnwys lluniau o ddisgyblion ag athrawon yn gwenu ac yn hapus a speech bubble bach yn dweud beth oedd yn eu gwneud nhw'n hapus. DIM EMYN! Does neb eisiau canu amser na o'r bore, a roedd pawb a oedd yn y cyfarfod cyntaf yn cytuno 'da hynny.

Daeth Catrin Phillips i mewn yn hwyr wedyn, a cyhoeddodd honno fod hi a Gethin (dau wannabe actor/cantorion o fri) eu bod eisiau cerdd. Fine, as long as bod hi'n berthnasol, dwedon ni. A dyna ni - heb ddewis pwy oedd yn gwneud beth na dim.

Dydd Mawrth.
Fe roedd Merry wedi cael e i'w phen ei bod hi moyn tynnu'r lluniau, er yn y cyfarfod ein bod wedi cytuno rhoi'r cyfrifoldeb i ddwy ferch arall yn y dosbarth. Amser egwyl, fe wnaeth Deryn Du graffitio rhif ffon Y Goeden ar y grisiau, a fe aeth Merry off on one, a marchio bant... a pan welon ni hi eto yn Saesneg, fe roedd hi wedi menthyg camera yr adran Gymraeg ar gyfer tynnu'r lluniau.

Doedd dim pwynt dadlau gyda hi, a fel roedd hi'n troi mas, roedd gan y dair ohonom wers rhydd Saesneg arall (roeddent eisioes wedi cael gwers rhydd gwers gyntaf hefyd - fel drodd hi mas, ges i ddim un blydi gwers Dydd Mawrth). Dath Deryn Du a Sempai i ymuno a ni a'r bechgyn (Dafad, Cwlwm Caled, Hobo a'r gweddill) i'r Wers Rydd, a dechreuodd Merry ar ei ffotos.

A dechreues i chwarae cards (Cheat) gyda'r bechgyn. A fi daeth yn ail - er, yn y gem nes i chwarae heddi, des i gyntaf! Fi'n good gyda cards.

Ta beth, amser cinio roeddent yn golygu tynnu lluniau o wahanol flynyddoedd, er mwyn gwneud y gwasanaeth yn apelgar tuag at y niferoedd. Wel, hanner awr roeddwn ni'n bwriadu treulio, a roeddent yn golygu mynd ar ei'n speed ni, OND NA! Roedd Merry am fynd full speed! Doedd dim aros na cloncan i fod! Roedden ni moyn lluniau o bobol yn GWENU ac roeddent am YSGRIFENNU LAWR BETH ROEDD YN GWNEUD IDDYNT. Y rheswm nes i ysgrifennu 'na mewn capitals, odd achos pan aeth Merry off am 1 o'r gloch ymlaen, a fi a Deryn Du wedi mynd off i gael ein cinio, ffealodd hi gyflawnu hynna! So gwffon ni wneud lot o nhw lan, a galle fod yn beryglus iawn i ni... a roedd rhan fwyaf o'i lluniau hi'n blurry, ac roedd hi'n amlwg jyst wedi mynd lan i bobol heb rybudd a mynd "GWENWCH" yn ol golwg shocked rhai o'n models ni. A fe ypsetes i hi yn y gwers gyfrifiaduron dydd Mercher wrth ddweud wrthi "Ni ddim yn defnyddio nhw i gyd, ma' rhan fwyaf ohonynt yn blurry a s'neb yn gwenu!"

Dydd Iau, diwrnod cyn y digwyddiad ac yn ein ail gyfarfod o'r fath, a fe roedd Catrin Phillips a Gethin yn mynnu fod rhaid cael emyn, a nhw'n ennil drosodd JCT achos bod nhw'n gwneud yr ymdrech i beidio edrych yn hollol bored (a dim yn sniffian paper clips afiach - stori hir) yn ystod y gwersi Gramadeg. Wel rhoies i'n nhroed i lawr, gan fod Pero'n digwydd bod off rhywle, a Merry heb ddigon o asgwrn cefn i ddweud dim.
So "NA!" dwedais. "NO WAY! Dim emyn."
Tawelwch.
"Ma powerpoint gyda ni'n barod, a fydd hi rhy drafferthus i gael emyn 'fyd," dwedais.
"Ie..." sylweddolodd JCT.
"So there," gorffenais, wedi ennill y frwydyr.
Dim emyn :)

Ac er fod y ddau yna hefyd wedi penderfynu fod rhaid cael cerdd (a i geisio cadw pethau'n weddol heddychlon yn y grwp tiwtor fe wedon ni fine), dim nhw wnaeth actually ffeindio cerdd. JCT ffeindiodd y gerdd iddyn nhw, er yr holl ffys! Blydi cheek a nhw, jyst achos bod nhw'n neud Drama ac yn mynnu fflauntio ei hunain trwy'r fflipin amser!

Felly nos Iau, roeddwn yn stressed yn hunan - a dydw i byth yn mynd yn stressed - achos fod Merry'n stresso mas ein bod ni heb gael practis eto, a fod dim digon o amser wedi bod, a bod y gerdd ddim yn iawn ayyb. Ar ol bod i McDonalds, es i gwely am ddeg munud i naw. A gysges i drwy'r nos nes 7.

Bore 'ma. Doedd hi ddim yn mynd yn dda. Stopodd y toothbrush (un trydan sy 'da ni) weithio. Panic. Gwffes i just sgrwbo heb help y trydan. Wrth adael y ty, roeddwn wir yn gobeithio fyddai'r bus yn torri lawr... ond na, dyna'r un peth penderfynodd weithio heddiw. Cyrrhaeddais ysgol, a mynd yn syth i'r neuadd lle roeddent i fod ymgasglu, a darganfod Merry oedd yr unig un yna.

Wel stress. Pam na alle hi just bod yn chilled out? Pam na all pawb fod yn chilled out? Fflipin heck, ife fi yw'r unig un yn y byd sydd jyst yn cymryd pethau fel maent yn dod? Ta beth, erbyn i bawb gyrraedd (Mared oedd in charge o ddod a'r cerddoriaeth yn hwyr, gan achosi Merry i sgrechian ataf "CER I NOL Y BACK UP CD! Y BACK UP!" a stresso ni mas), a eistedd ar y llwyfan, y bois sain yn ffidlan da'r microffon, a'r disgyblion yn dechrau llifo mewn, troais at fy buddy cefn llwyfan, sef Pero, a dweud, "Nawr, dwi'n dechrau teimlo'n sick."

Diolch i Dduw, i feddwl nad oedden wedi cael practis a bod un o'r meics yn pallu gweithio, roedden ni wedi gwneud yn dda! A fe aeth y powerpoint lawr yn good - pawb yn chwerthin yn y mannau iawn. A dyna fe, cwarter awr ar lwyfan ar ol wythnos a mwy o stress llwyr.

Ath Pero a fi nol wedyn i'r busnes arferol o beidio bod yn bothered i wneud gwaith cartref, tynnu lluniau o ni'n tynnu gwynebau dwl, pranc callio pobol a dweud taw Sion Corn i ni, gwrando i Dizzie Rascal a gigglan non-stop. Yay!




Saturday, 20 September 2008

Oddi Wrth Anwybyddwr.

Sori, dwi eto wedi bod yn neglecto fy mlog - diolch byth taw dim anifail anwes ydyw, neu fydde fe wedi hen drigo.

Dwi jyst yn shattered. Er mod i'm yn gwneud yffach o ddim yn yr ysgol, a dim yn gwneud gymaint a hynny'n fwy yn gwaith (fues i'n glanhau'r ffenestri tu fewn heddi actually... a gwffes i ddysgu wrth y till newydd), ond mae dihuno am saith y bore yn cymryd e mas ohona i.

Dwi'n cerdded rownd fel zombie, a dyw'r annwyd dwi wedi bod yn dioddef ohono ddim wedi helpu. Dwi'n well erbyn nawr, ond dwi dal i swno'n blocked ac wedi colli peth o'r llais, ond fel wedodd Comootion (stori hir) wrtha i dydd Iau, "You sound like an alien" - gymhariaeth spot on i'n ddisgrifio i.

Felly ysgol - wedi bod yn peswch a tisian a chwythu'n trywn a teimlo'n hollol crappy trwy'r wythnos... diolch byth am ffrindiau ffyni sydd yn gwneud i fi werthin though, achos hebddo nhw fydde'r dyddiau yn hir.

Er engraifft, fe fuodd fi a fy Gwers-Rhydd-Bob-Bloc-2 a'n Art Buddy i Sempai yn chwarae rownders gyda peli bach o bapur wedi scryncho lan a'i gwaith Celf hi fel bat!

Fe golles i ysgol dydd Mercher, a fues i gatre yn watcho Frasier etc ar y telly, ac yn paento a gwylio Kill Bill Volume 2 (dwi wedi gwylio'r Tarantino ffilms bron i gyd nawr, ond Jackie Brown s'da fi ar ol, ond Pulp Fiction yw'r favourite still, a fi wedi watcho hwnnw ddwywaith).

O, dydd Mawrth roeddwn yn dioddef yn Coleg y Drindod, achos gaethon ni gwrs gyda Prifysgol Bangor - a rheini'n trial ein brain washo ni i fynd yna ar ol bennu yn y chweched. Fat chance dude, dwi'n mynd i Gaerdydd - mwy o chance i fi fwmpo mewn i Matthew Rhys fan 'na.

Dydd Gwener, trip arall gyda'r adran Gymraeg i Ysgol Preseli, i gael sgriptio gyda'r fenyw 'ma, Manon Rees, oedd arfer ysgrifennu i Pobol Y Cwm cyn iddo fynd down hill. Dwi wedi penderfynu, ar ol gweld prisiau petrol, fod rhaid i fi ysgrifennu good sgript a'i werthu i S4C. Ma'n rhaid i fi gadw fy mabi tlws i ar yr hewl.


A dyna ni. Diwedd. Dwi ddim yn gallu bod yn bothered i wneud unrhyw sense o'r post brysiog hwn, felly off a fi - mae gen i sgript i fennu sgwennu, a arian i'w ennill. A dwi am edrych am luniau o Sid a Nancy... Pam? Wel, mae hynny'n Ddirgelwch ;)

Wednesday, 3 September 2008

Gwylio'r Oriawr yn Hytrach Na'r Teledu

Dwi 'di treulio'r diwrnod yn gwylio'r oriawr ges i wythnos dwethaf o New Look.
Naw o'r gloch.
"Nooo dwi'n colli Frasier!" (a meddyliwch, rhai ddim hyd yn oed wedi clywed am y glasur o raglen!)
Deg o'r gloch.
"Ma' pryd wi'n watshio diwedd Jeremy Kyle! MAE'N RHAID I MI WERTHIN AR PROBLEMAU POBOL ARALL!!!"
Hanner awr wedi deg o'r gloch.
"Y BORE MA! Dwi'n colli THIS MORNING!"
Unarddeg o'r gloch.
"Dyma pryd roeddwn i'n gwylio To Buy Or Not To Buy... cyn i hwnnw fflipin ddiflannu off y BBC. RIP Kristian and Ed!"
Hanner awr wedi deuddeg.
"LOOSE WOMEN! LOOSE WOMEN!"
Dau.
"WHOSE LINE IS IT ANYWAYS? SO WHAT MOD I'N GALLU EI WATSHIO FE TO AM SAITH, FI MOYN WATSIO FE AM DDAAAAU!"

Yn barod, dwi'n ysu am wyliau arall i dreulio yn fy jimjams yn gwylio telly. A dyma'r diwrnod cyntaf nol. Mae'r wisg ysgol newydd yn uffernol - y flowsen yn fflipin stiff, a'r siwmper yn cosi. Dwi'n gobeithio wir eu bod nhw'n mynd i wella ar ol golchad.

Dwi eisiau bwyta whenever, dim just bwyta yn ystod "amser cinio."

Rydym yn treulio'r wythnos yma'n "team bondio", fel esboinais eisioes ddoe. Rydyn ni yn mynd i Goleg Y Drindod fory, i wneud god knows what, a dwi'm yn becso beth ni'n neud dydd Gwener. Glywes i'r geiriau dwr a mwd, a na fe. Fi definatly adref.

A dwi'm yn gwybod, ond ai y fi sydd jyst yn mynd yn desperate o unig, neu ydy ambell fachgen just wedi dod i edrych yn olygus dros y gwyliau? Cwlwm Caled er engraifft - blydi hell. O a peidiwch son am Mystery Man. Mae e 'di tyfu'n dalach 'to a ma' 'da fe'r barf bach mwyaf annwyl. A Mr Tap fyd. Wow.

O, a parti gwisg ffansi wedi ei drefnu ar gyfer nos Fercher nesaf. Dwi'n popo i Matalan yn ystod fy awr ginio dydd Sul i ffeindio gwisg. Mor leidr? Beth chi'n feddwl?

Tuesday, 2 September 2008

Diwrnod Olaf O'r Gwyliau

Siwgr. (Fydden i'n gweud gair gwaeth, ond wrth gwrs, ma' 'na'n naughty!)

Lle aeth yr haf? Ac i feddwl, i ddechre, fe roeddwn i'n bored!


Nawr, dwi mynd nol i ysgol, y lle diflas na lle mae pawb yn gorfod gwisgo teis ac yn gorfod dysgu pethau boring. A bellach, dwi'n mynd yn ol i'r chweched, sydd hyd yn oed fwy scary. Ers blwyddyn 7, mae bron pob un wedi breuddwydio o gyrraedd y chweched dosbarth - lolfa eu hunain, free lessons, a dim gorfod ciwio am ginio. Ond nawr, a Mam a finnau wedi bod yn Evans a Wilkins yn replaco'r crys lilac gyda'r crys gwyn, mae'r sefyllfa wedi dod yn real. Chweched dosbarth, i midgets bach blwyddyn saith, mae bod yn y chweched dosbarth yn golygu eich bod chi'n hen. A dim ond dwy flynedd o ysgol sydd ar ol. A s'dim clem 'da fi lle fi'n mynd wedyn.


Peth arall sy'n fy mrawychu, yw gweld fy athro Ffiseg yn lyrcan yn y coridore, yn barod i'n atgoffa i taw dim ond C ges i'n Ffiseg. Mae ganddo'r habit o ddod REIT lan i'ch gwyneb chi, mor agos fod y ddau drwyn bron yn cyffwrdd. Mae e'n creepy. Ond mae gen i ateb da iddo.
"Nes i'n well na naeth Mam yn Ffiseg."
(Roedd e arfer dysgu Mam - ydy, mae e'n ancient.)

Dwi hefyd ddim yn edrych ymlaen i'r cwrs Lefel A, gan fod Mam yn hoffi fy atgoffa i'n gyson pa mor galed yw e. Ac hefyd, rhywbeth arall dwi'm yn edrych mlaen i gael, yw gwaith cartref. A dwi'n gweithio nawr fyd, felly mae'r oriau o amser hamdden yn mynd yn llai ac yn llai.


A dwi dal ddim yn gallu dewis rhwng dau bwnc - Addysg Grefyddol neu Cymdeithaseg?


Plus, wythnos cyntaf nol, rydyn ni neud beth mae'r athrawon yn galw'n "team bonding". Fel blwyddyn, rydyn wedi adnabod ein gilydd ers pum mlynedd, pam yffach mae eisiau bondio fel tim arnynt nawr? Fflipin hec. Hefyd, ar ddydd Gwener, y dull o "team bonding" yw i wneud rhyw assault course mewn mwd a dwr... felly dwi ddim yn mynd. Mwd, a dwr, a rhedeg, a assault course? Fe arosa i adref a gwylio Whose Line Is It Anyway?, diolch yn fawr.


Felly dyma'r diwrnod olaf o Daytime TV. Dihunes i am 9 bore 'ma, a darganfod fod Frasier nol ar S4C, yr wythnos dwi'n mynd nol i'r fflipin ysgol. Dwi'n dwli ar Frasier, felly mae hyn yn cruel. Ac mae Loose Women nol, ond fe gwffes i golli hwnna fyd, gan fy mod i lawr gyda Mamgu.

Beth roeddwn yn gwneud gyda Mamgu? Wel, mae hynny'n top secret - anrheg arbennig ar gyfer Mam ar ei phenblwydd yn 40 (wedes i fod yn athro Ffiseg i'n hen).

A dyna ni. Diwedd yr haf. End of. Finito.

Dwi'n ysu am haf nesaf yn barod :(

Thursday, 21 August 2008

Mae 'na ymennydd mewn 'na rhywle...

Heddiw, diwrnod canlyniadau TGAU. Eek.

Ma' e dros y news i gyd, so I doubt eich bod chi ddim yn gwybod. Mae pob newyddion yn fy atgoffa i yn gyson, pawb yn ailadrodd y ffaith flynyddol fod merched wedi gwneud yn well na bechgyn unwaith eto, er fod y papur iaith Cymraeg wedi bod yn seiliedig ar fflipin rygbi er mwyn apelio at yr isaf ryw (rhywbeth sydd dal yn fy nghythruddo - y flwyddyn cynt roedd yna stori am Matthew Rhys yn mynd i Batagonia. Please, pam na ges i lun o'r dyn golygus lyfli stunning lysh yn edrych arna i tra mod i'n ceisio ysgrifennu stori byr hollol pointless a trafod arddull? Fflipin heck, fyddai Ioan Gruffudd neu Gethin o Blue Peter wedi gwneud y tro!!!).

Dwi 'di bod lan ers 7. Am ryw reswm, roeddwn wedi llwyddo i ddihuno fy hunan - dwi'n doubtio fyddai'r swn bach tila mae'n ffon symudol i'n ei alw'n larwm wedi lwyddo i'n ddihuno i o gwbwl! So ar ol gwylio Everybody Loves Raymod (er taw Robert yw'r un mwyaf doniol, obviously) lan a fi o'r gwely i wisgo, glanhau dannedd, straightno gwallt etc, etc.

Cyn gadael y ty i fynd off ar ei anturiaethau amaethyddol y bore ma, dwedodd Nhad wrtha i, "Na'n siwr fyddi di ddim yn ffealu, neu fydd dy fam yn rhoi Chinese Burns i ti yr holl ffordd gatre'".

Doedd Mam ddim mewn unrhyw stad i roi Chinese Burns i neb. Roedd honno'n dioddef - hi gafodd y nyrfs yn fy lle i, a diolch byth am hynny. Roeddwn i yno'n gwrando i Brendan Benson ac yn meddwl am Matthew Rhys - y pethau pwysig mewn bywyd - tra bod hi'n gofidio am y canlyniadau TGAU. Dwi'm yn siwr iawn pam nad oedd y canlyniade ma wedi troi'n nghoesau i jeli a wedi clymu fy stumog yn glymau cadarn. Fel 'na mae.

Ta beth, naw o'r gloch y bore, gyrrhaeddais yr ysgol, a aros tu allan i Pero. Doeddwn i ddim yn ffansio mynd i mewn ar ben fy hunan. Roedd pawb arall yn rhedeg mewn, a fi jyst yn aros yna. Ond cyrrhaeddodd hi, so felly dyna ni, mynd i mewn, a derbyn darn o bapur yn cynnwys tua deuddeg llythyren. Big deal.

Ond typical, dwi ddim yn morning person, a fe roedd pobol o'r newyddion yna'n ffilmio. Os oeddwn ar y teledu, seriously, it was not a good look. Yn gofyn i'r athro am fy marc, gofynnodd hwnnw am fy rhif, a shwd yn y fflipin byd o'n i'n cofio beth odd e? (7087 - dwi'n ei gofio fe NAWR). A dyw'r pale and worried look ddim yn edrych yn rhy dda ar y bocs, yn ogystal a bod y sgrin yn adio pump pownd (a dim i'r boced, yn anffodus).

So... y canlyniadau.
4 A* (Celf, Cymraeg Iaith, Cymraeg Llen a Add Gref), 5 A (Maths, Hanes, Drama, English Lit, English Language), 2 B (Bioleg a Cemeg) a C (Ffiseg!!!)

Petawn yn cael B neu fwy ym mhopeth heblaw Ffiseg (doedd dim gobaith da fi gael lot gwell yn hwnnw), roedd f'annwyl Fam wedi addo prynu par o shoes newydd i fi.

So'r peth cynta wedes i wrthi oedd, "Mam, ma' arno ti par o shoes newydd i fi!"

Weles i fy athrawes Saesneg ar y ffordd mas, ECW, a mae hi'n neis iawn, ac yn nabod Mam, a wedodd hi wrthai dylen i weud wrth Mam mod i'n haeddu dau bar newydd hehe!

Straight i Abertawe felly ar ol ffonio Nhad ("Dim Chinese burns Nhad!" gwaeddais lawr y ffon), ar ol i Mam decstio Anti-B, a gadael i honno weud wrth y byd. Achos tryst me, wedodd hi wrtho pawb - hyd yn oed os nad oeddwn i'n 'i nabod nhw (e.e waiter yn y lle gaethon ni ginio).

Fe ffoniodd hi fy great wncwl Rod a anti Rosie, sef brawd Dadcu Pencader, a gadael iddo nhw wbod. Un o gwestiynnau cynta Rod oedd, "So, yn beth ga'th hi'r C?"
"Ffiseg" atebodd Anti-Bionic.
"O," dwedodd Rod. "Newn hi'm chemist ohoni 'to te!"

So siopa, Mam a minnau yn Abertawe. Top newydd a pili pala arno o River Island felly, a jins newydd o TopShop. Top newydd o DP hefyd, yn ogystal a sgert oedd ar sel, a trwser newydd ar gyfer yr ysgol. A wrth gwrs... y sgidiau newydd! Yn barod, mae Nhad wedi dechrau galw nhw'n fy "gangster shoes" i, a un o'r peth cyntaf gofynnodd i fi os oeddwn i'n teimlo fel Al Capone, neu beth?

Mae gen fy sgidiau i gyd enwe (Matthew Rhys shoes i er engraifft, fy Noise Next Door Converse...) a rhein yw Fy Ryan Stiles Shoes, gan ei fod e'n gwisgo par tebyg ar Whose Line? weithiau. Galwch fi'n od, but I don't care!

Felly dyna ni really, gaethon ni Chinese takeaway adref i ddathlu (doeddwn i ddim yn trystio'r teulu i beidio gweud wrth pob Tom, Dic a Harri yn y bwyty mod i wedi llwyddio i basio fy arholiadau TGAU). Chinese, gan fod yna diffyg Chinese burns! Galwodd Mam yn Tesco cyn dod adref, i brynu pink lemonade, a daeth honna mas a botel o Champagne.
"Sori, fi'n gwbod wedes ti fod ti ddim moyn champagne," wedodd honno.
"Fi'm yn lico champagne Mam!"
"... ond odd e half price ta beth."
Charming.

So nawr, dwi'n llawn dop - fy mol bron byrstio - a mae gen i falwn fawr yn yr ystafell fyw. Ddwedes i mod i'm moyn ffys, felly fe nes i'm twtch a'r champagne, a nes i ballu rhoi cardie ymhob man. Ma llawer wedi gwneud yn well na fi, a fi'm yn deall pam bod yr exams ma' gefais shwd hwyl yn ffaffan drwyddo mor bwysig. Jyst llythrenne bach ar ddarn o bapur. Seriously, pan ddaeth hi i fy 18fed i, dwi'n mynd mas o ma. Fi'n cwato am bythefnos.

Ond ta beth, diolch i bawb sydd wedi gweud llongyfarchiadau, a llongyfarchiadau i bawb sydd hefyd wedi gwneud TGAU - dwi'n mynd i ail ddweud am y trydydd tro, dim ond darn bach o bapur yw e.

Dwi'n chuffed, mae'r teulu'n falch... un person dwi'n gwybod fydd ddim yn chuffed, er fod C yn bas, yw Chris James. Syr, dwi ddim yn sori mod i ddim wedi cael dros A, ond fe allwch chi stwffio'r nodiadau Ffiseg rhywle lle dyw'r haul ddim yn sheinio - h.y, ar un o'i annwyl blanedau yn y gofod, lle does dim hyd yn oed disgyrchiant yno. A gobeithio fydd yno ymasiad niwclear yno fyd, beth bynnag yw hwnnw.

Friday, 15 August 2008

Mae Gen I Fus Pass Gwyrdd

Mae gen i docyn bws gwyrdd,
Sy'n fy ngalluogi i deithio'r ffyrdd,
I'r ysgol fawr yn Nghroes-y-Ceiliog,
Ar ddiwrnodau glawiog, neu diwrnodau heulog,
Cerdd yw'r blog post hwn, am fy mod yn bored,
A mlog i yw hi, so fel 'na mae hi fod,
Ges i lythyr heddiw gen y cownsil trwy'r post,
A finnau'n meddwl mod i mewn trwbwl ac yn dechre teimlo'n dost,
Ond na! Rhyddhad - dim ond tocyn bws,
A ysgrifen wnes i ddim darllen am ei fod yn ormod o ffws,
Ond fel 'na mae gyda Chyngor Y Dre,
Yn mynd o chwith o hyd, a popeth yn mynd o'i le,
Ta beth, cwmni bws gwahanol sydd yn mynd a fi,
O adref i'r ysgol, i wneud dim byd, heblaw dysg-u,
Oldi gwael? Sori, sori, sori...
Fe wnai ysgrifennu cofnod teidi fory!
Ffarwel felly, i cwmni bysys arferol y gornel wyntog,
Dim rhagor o Slug, y gyrrwr boliog,
A deithiau fel malwoden, un araf iawn o ran hynny,
A oedd yn gwylltio'n gacwn pan roedd rhywun yn sefyll i fyny.
Dim rhagor o Happy Huw,
Y dyn mwyaf blin yng Nghymru, I'm telling you!
Ond dim rhagor o godi llaw ar Colin Clen,
Dim Dai, a dim rhagor o Owain, oedd yn olygus ond eto'n men,
A adawodd WC, i ddreifio gyda bysys Cyntaf.
Nawr dwi'n teithio gydag un o'r cwmniau bys glanaf,
A'r rhai druta - dwi'n teithio mewn steil,
A hynny am dua ddeuddeg mile,
I'r ysgol yn y dre, i ddioddef diwrnod arall,
Mewn lle sy'n ceisio fy ngwneud i'n ferch fach gall.
Ceisio.
Nid yn llwyddo!