Thursday, 31 July 2008
Pysgod yn Nimbych Y Pysgod
Ers wythnos i ddydd Mawrth dwethaf, a ni yn y Sioe Frenhinol, roeddent wedi bwriadu mynd i Tenby. A hithau mor lyfli dydd Llun a dydd Mawrth, cyffroes oedd y dair ohonom i fynd i'r traeth. Wnaethom hefyd wahaodd Bleu, i
wneud y parti'n bedwar, gan fod Wolfy'n gweitho.
Wel, doedd yr arwyddion ddim yn dda. Neithiwr dextiodd Pero i ddweud ei bod hi gorfod mynd allan gyda'i mamgu, felly ond tri ohonom oedd yn mynd. Ond ta beth, roeddent wedi trefnu. Tren 10.40 i Tenby o Gaerfyrddin. Felly y tri ohonom oedd yn mynd. Dechreuodd hi fwrw ddoe 'fyd... ond na, roeddent yn benderfynol fydde hi'n hidda...
Diflas oedd hi pan ddaeth Mam i nihuno hi am naw, felly phewph, meddyliais. Wellyth hi erbyn pnawn... Ond cwympo mas arna i bore ma, a Mam yn mynnu fod RHAID gadael am 10.10, a finnau'n meddwl fod hynny'n stiwpid ac yn mynnu treulio pum munud ychwanegol yn straightno fy ngwallt (pointless really, erbyn diwedd).
Roedd Bleu yn disgwyl amdanaf yn yr orsaf, a dim son am Deryn Du. Tynnodd y tren i mewn i'r station... "O diar!"... Ond na, cyrrhaeddodd hi mewn pryd, a croeson ni'r trac i neidio ar y tren o blatform 2. Doedd dim byd gwefreiddiol am y tren, dim really... tren, choo choo, dyna ni. Fe aethom yn ein blaen, stopio yn Narberth, a dyma fi'n cynnig stopio yn Narberth yn hytrach na Tenby gan fod hi'n bwrw... petawn ond wedi... Saundersfoot bach wedyn, a dyma'r tri ohonom yn cytuno taw crappy oedd y lle yna... a Tenby.
Roedd hi'n bwrw. Roedd y ddau ymbrela lan yn syth (fi oedd yr un twp oedd yn mynnu "I don't DO brollies"), a cuddiais tu fewn i hood fy hoodie ddu... a oedd yn gwneud i fi edrych fel, you guessed it, hoodie!
Nawr, ffeindio Get Stuffed Pizza i ginio oedd y bwriad... ond, doedden ddim really'n gwybod y ffordd allan o'r orsaf drenau. Jyst dilyn y crowd wnaethon ni, a diolch i Dduw wnaeth rheina ein arwain ni i'r stryd fawr... ac o fan 'na, benderfynon ni ein bod ni moyn mynd i'r traeth!
Wel, erbyn i ni gyrraedd un o'r traethau (peidiwch gofyn pa un, fi'm yn gwybod. Yr un bach ar bwys Cauldey Island, o dan y mynachdy?), roedd hi'n pisio i lawr. Roedd Bleu am gerdded lan y steps i gyd i'r mynachdy, ond NA! pendant oedd yr ateb. Roedd hi'n ddigon cwshti iddo fe, fydde fe'n gallu mynd mewn ato nhw! Mas am y glaw fydde Deryn Du a fi, a ninnau'n ddigon anffodus i fod yn ferched!
Roedd y boliau yn dechrau gofyn am fwyd. Felly wrth gwrs, Get Stuffed Pizza! Roedd gan Deryn Du ffrind dwi'n mynd i alw'n Mr Ice Cream Man sy'n byw yn Nimbych Y Pysgod, a fe roedd hi'n gofyn am ei help e... Roeddent bellach yn Lower Frog Street - wedi mynd mewn a dod mas o siop sgods a sglods am fod Bleu yn benderfynol o ffeindio'r lle pizza, er for Deryn Du a finnau jyst am gysgodi o'r glaw. Fe fuodd rhaid i'r tri o ni ddeifio i mewn i Joys of Tenby, a cysgodu fan na, a cyhuddodd Mr Ice Cream Man ni o fod yn uffernol o touristy via text, ond wfft, petai e ond wedi rhoi cyfeiriadau da i ni! (Efallai taw ni oedd rhy twp i ddeall... o wel...).
Fe roedd y strydoedd wedi boddi mewn dwr glaw, ar unig bobl ddigon twp i fod allan yn rhedeg am rhywle sych. Roedd llawer, yn disgwyl diwrnod da, wedi dod mewn dillad haf - o pa mor gutted oedden nhw, pam heb got na ymbarel, yr oeddent yn gwlychu'n stecs. Roedd afonydd o ddwr yn llifo lawr y strydoedd, yr awyr yn do diflas o liw llwyd yn gollwng glaw ar bawb a phopeth... Mewn caffi roedd Mr Ice Cream Man, ar diwedd y stryd, ond pa stryd? Can taw cross roads oeddent yn gwynebu o ddrws y siop souvenirs, ac felly roedd yna bedwar ffordd a oedd yn bosib.
Nes i Bleu wneud rhywbeth call.
"Excuse me, can you tell us the way to Get Stuffed Pizza place?" gofynnodd i fenyw'r siop.
"To the left and carry on."
Typical. Doedd e ddim yn bell o gwbwl.
Y sgrechfeydd o gyffro wrth ei weld - cysgod o'r diwedd!
Dau medium pizza, potato wedges with sweet chili dip a un bara garlleg wedyn, roeddent yn stuffed (haha yr un hen joc), ac wedi sychu tambach. Nol mas i'r glaw a ni. Am ryw reswm, i gadw'n sych, roedd gan y ddau arall ponchos... un melyn i Bleu, un gwyrdd i Deryn Du... ac fe roedd un coch yn sbar i fi.
Gallwch ddychmygu ein golwg ni. Tri ffigwr a wisgai ponchos a oedd yn fwy tebyg i bin liners lliwgar. Fe welon rhywun mewn poncho glas wedyn, ac i hwnnw ddwedond "Ha! Ein brawd coll!". Ond eto, a hithau'n bwrw o hyd, roeddent lan i'n pigwrnau mewn dwr... Wellingtons oedd y dewis gorau o esgidiau. Roeddwn yn gwisgo Converse trainers. Bwriad rheina yw bod yn cool, dim i ddal dwr. Roeddent yn well, rhaid gweud, na'r dolly shoes bach o satin porffor fues i bron a gwisgo...
Ta beth, roedd hi'n bwrw'n drymach wrth i ni fynd yn agosach i'n mor, ac ar un tro, fe cuddiodd y tri ohonom mewn bocs ffon. Dwi'm yn amau fod hynny'n edrych braidd yn od. Roedd Deryn Du a finnau hefyd wedi prynu crysau-T "TENBY PIRATES" erbyn hyn fyd, o'r Pownd Shop (am £1 cofiwch!).
Penderfynon fyd yn ol at yr orsaf, a cysgodi yno. Dyna oedd orau. Felly nol a ni... i geisio ffeindio'r lle. Roeddent yn wlyb sopen. Roedd fy jins yn wlyb lan i fy mhliniau - a doeddent ddim hyd yn oed wedi bod yn agos i'r mor. Felly, wfft! meddyliais, a neidiais mewn i un o'r puddles dyfna fi 'di gweld erioed. SPLASH!
Pam lai?
Cyrraedd yr orsaf, a ceisio gweithio allan pa blatform roeddent yn dal y tren o oedd nesaf. Roedd gennym hanner awr, felly doedd dim panic... Ond doedd dim screens teledu yno, fel sydd yn rhanfwyaf o orsafoedd eraill... felly ble? Es i double checkio'r amserlen... ac edrychais o'm mlaen. Ar bolyn fyddai'r rhan fwyaf o bobl call yn gweld cyn gynted fyddent yn camu i mewn i gysgod yr orsaf oedd arwydd oedd yn pwyntio i ddau gwahanol ffordd. "PLATFORM FOR SWANSEA" "PLATFORM FOR WEST WALES". Idiots a ni.
Felly, dechrau dros y bont a ni. Sylwais ar buddle dwr mawr ar lawr a oedd yn fwy tebyg i lyn bach... a gan mod i'n wlyb yn barod... SPLASH! Bu rhaid i mi redeg lan dros y bont i'r platform arall wedyn, er fod yn nhrwser i'n drwm diolch i'r dwr, i osgoi cael fy ngwlychu nol 'da'r ddau arall!
Eisteddom ar darn o lawr sych y platfform, a'i wlychu gyda'n dillad a'r poncho's gwlyb. Wnaethom hefyd sylwu fod y ferch freaky o'r flwyddyn o dan yn un ni yno... a honno'n wel weird... I mean, pam cael fringe os oedd hi'n mynnu ei hwpo nol gyda band gwallt? A roedd hi'n gweud helo i fi yn y corridore ac yn edrych yn od ar bobol arall... hmm... ta beth, roedd honno yn syllu arnon ni, ond who cares.
Daeth y tren yn brydlon, a jwmpo arno wnaethom ni. Dyw tren o Tenby ar ddiwrnod gwlyb yn ddim byd tebyg i dren o Abertawe neu Caerdydd yn ystod Rush Hour. Doedd hi ddim yn wag, ond eto doedd dim un ohonom yn darganfod ein hunain yn sownd yn y ty bach, yn ofn cwympo mewn unrhyw eiliad. Roeddent dal yn wlyb... Roedd fy ngwallt wedi mynd yn gwrls i gyd, fy nillad yn wlyb stecs, fy nhrwyn yn dechrau rhedeg... ond roeddent dal wedi cael shwd gymaint o laugh.
Ond dioddef fyddwn ni fory... yn ein gweliau, yn boddi mewn pentwr o dissws snotlyd, a llond dos o fflipin annwyd.
Tuesday, 29 July 2008
Elspeth, Felicity a Perdita rownd dre - a dim Woofydoodles, plis.

Roeddent off i dre. Ein bwriad oedd i wneud y Charity Shop Challenge wnaethom son amdano ar ein trip i Abertawe ages nol... ond roedden ni ffealu bod yn bothered.
Felly jyst trip rownd dre oedd hi.
Fe roedd Pero a finnau yn rhedeg braidd yn hwyr (roedd hi'n rhannu lifft gyda fi), ac wrth i ni frysio i fyny heibio Woolworths, dyma ni'n bwrw mewn i Llwyd. Dwi'm di gweld Llwyd ers ages - dim ers cyn TGAU pan fydde fe a fi yn sgwrsio bob bore fel dwy hen fenyw wrth drws A - ac fe roedd e'n gwisgo shades pan weles i fe so doedden i ddim yn ei adnabod i ddechrau! Pam nad ydych chi wedi disgwyl gweld rhywun y foment rydych chi'n gweld nhw, ife jyst fi yw e, neu ydyw e'n really galed gwybod beth i'w ddweud? Anyway, neis oedd gweld e eto, er ei fod yn breif encounter (of the alien kind... haha!), a un o'r pethau ddwedodd oedd "Fi newydd gerdded heibio'ch ffrind chi... fi'm yn gwbod ei henw hi?" "Yr un a specs?" gofynnais. "Ie! Na hi!" "Deryn Du," dwedodd Pero a finnau.
Brysio eto, a gweld Deryn Du'n gwynebu y ffordd arall... BOO! Gath hi bach o ofan i gael fi a Pero'n neidio i fyny tu ol iddi!
Y peth cyntaf wnaethom oedd cerdded dros bont y dref, bont y Mileniwm neu pa bynnag enw twp rhoddodd dynion cownsul y dre iddi. Roedd rhaid i ni weld pryd roedd y trenau'n mynd i Ddinbych y Pysgod. Tenby = trip dydd Iau! Wedyn, a ni wedi methu deall yr timetables trenau (er fod Deryn Du i fod yn Mathematical genius, a honno wedi penderfynu gwneud y pwnc i Lefel A), gerddon ni i Matalan, a ni wedi'r cwbwl ochor yna o'r afon anyway. Mewn a mas o fan 'na a gweld ffrind i ni, a fe yn sydyn wedi mynd yn dal iawn - a roedd y tair ohonom yn edrych ar y cawr yma sydd newydd ddatblygu o'r bachgen.
Eisteddon ni wrth y bus stop wrth yr orsaf drenau wedyn, yn edrych fel real proper hoodies, er fod hi llawer rhy dwym i wisgo siacedi o'r fath. Er, yn agos, yn y bys stop, fe roedd yna ddau fotel gwag o gwrw, a un botel ddwr llawn rhywbeth uffernol o suspicious yr olwg (rhywun yn amlwg wedi bod yn rhy desperate i hyd yn oed ffeinidio ty bach)... felly roedden ni'n gallu gweld fod Deryn Du wedi bod yno o'r blaen!
Nol dros y bont, a fe ymwelon a phob siop elusen yn dre. Roedden yn dechrau teimlo fel Mamgu 10 erbyn diwedd, achos mae hi'n byw a bod yn y llefydd. Ges i llyfyr - The Devil Wears Prada - am £1.99 or British Heart Foundation. Ha! Stori ddigri am y siop na - stori Pero. Nawr, yn wahanol a Deryn Du a finnau, sy'n ddigon hapus i scroungo arian off y rhieni yn hytrach na chwilio am jobs (d'oh, mae'n dal rhaid i mi orffen y application form Morrisons), aeth Pero allan i chwilio am job. Wrth gwrs, mae hi'n gweithio yn Bon Marche erbyn hyn, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Air Ambulence fyd. Ond ar ei thaith rownd dre yn chwilio am waith, fe roedd hi wedi cael cyfweliad am jobyn yn y British Heart Foundation (maent yn cynnig gwaith cyflog yn ogystal a gwirfoddol). Wel, wedi'r cyfweliad... gath hi wbod fod hi wedi cael ei gwrthod am ei bod hi braidd rhy ifanc - sy'n fair enough (hen fenywod sydd wastod tu ol y tills mewn siopau o'r fath!)... ond... a un ohonynt wedi bod yn rude i'w mamgu hi pan aeth hi ar ymweliad yno... a honno'n cario'i ffon, dechreuodd hi fwrw hwnnw ar y llawr - TAP TAP TAP - fel mae hi yn ol Pero'n dueddol o wneud pan mae hi'n colli hi, a cyhuddo'r British Heart Foundation o fod yn ageist!
Wel, wedi'r cwbwl, ond hen bobol sy'n cael heart attacks really. (JOKE! sori.)
Dechreuodd y bola siarad yn uwch na'r geg wedi hyn, a dyma fi'n cael y syniad da o fynd am pizza! Excited oedd y dair ohonom, a ninnau heb fod i'r bwytu Get Stuffed Pizza ers sbel, dyma ni'n mynd yno. Two Squirt pizza mawr rhwng y dair ohonom! Yuuuuuuuuuuummm. Yn Get Stuffed, bennodd y dair o ni lan yn stuffed!
Bu rhaid i Deryn Du ein gadael ni wedyn, i hedfan adref tua hanner awr wedi tri (dim really, daeth y teulu i'w hol hi), o'r bont unwaith eto. A ond fi a Pero ar ol, dyma'r ddwy ohonom yn mynd bach yn loopy. Penderfynodd y ddwy ohonom skipio dros y bont (fydd y fideo yna siwr o fod ar Youtube cyn bo hir).
Hefyd, darganfyddais fod fy ffrind gorau yn aml yn galw cwn yn "Woofydoodles" (a hynny am i ni ond jyst lwyddo i osgoi lwmpyn o gachu ci, o dog doo doo, o woopsie woofydoodle!). Dwi'n siwr gallwch ddychmygu'r chwerthin. Woofydoodles. Woofydoodles? WOOFYDOODLES!
A dyna ddiwedd ar ddiwrnod rownd dre. I orffen, rhybydd i bawb... watchwch mas am woofydoodles.
Monday, 28 July 2008
Dechrau Wythnos Brysur Arall
Heddiw, dechreuodd fy wythnos brysur. Mi fues yn siopa yng Nghaerdydd.
Ar tren saith a ni. Dwi ddim yn "morning person". O gwbwl. Doedd e ddim wedi helpu mod i wedi mynnu gwylio Bridget Jones: The Edge Of Reason nes oriau man y bore am mod i am gweld Hugh Grant a Colin Firth yn ymladd fel merched. Dyna fy hoff ddarn o'r ffilm! Ta beth, wedi bod lan ers cwarter i chwech o'r gloch (meddyliwch, dyw S4C ddim hyd yn oed ar ddihun yr amser yna o'r bore!!!), roedden i bach yn grumpy ac yn groggy. Dychmygwch fi pan fyddai alcahol yn dod i mewn i bethau... oh heck.
Roedd Caerdydd, yr un peth a arfer. Siopa oedd y bwriad. Fi'm yn gwbod... dwi wedi mynd off siopa. A dwi'n ferch, dylai hynny fod yn amhosib. Ond ar ol awr, dwi'n bored. A mae Mam yn cerdded rownd siope mor araf. Dwi'n teimlo fel rhoi ddi ar gefn ceffyl a rhoi yffach i gic i'r creuadur, ai weld yn saethu off. (Cyn eich bod chi'n ffonio RSPCA, fyddai'r ceffyl yn rhoi yffach o gic i fi heb feddwl dwy waith... sori pobol horsy sy'n darllen a.k.a Wolfy)
Ond ta beth, ges i dau dop newydd - un du fel yr un wisgodd Deryn Du i'r Sioe Frenhinol (o'n i'n really lico fe - sorri! plus, imitation is the nicest form of flattery!), a un coch a ffrils a bwtwne bach du o Monsoon - plus ges i sgert extra uber cool o H&M. Un streipiau fertigol llwyd a du. Dwi wedi cwympo mewn cariad a sgert (OK, na, gorddweud. Ni allaf gymharu sgert a MR. MR... gwneud i dyn mwyaf golygus y byd swnio fel rhyw afiechyd. Sorri Matthew).
A fytes i gormod.
Wedyn aethon ni adref ar y tren.
A that's it really. Dechreuodd hi darfu yn nos wedyn, a hithau 'di bod yn ddiwrnod crasboeth. Mellt a tharanau, a wnaeth am eiliad dorri bant y letric, yr union foment tra mod i'n ceisio gwylio Whose Line Is It Anyway? Was not amused.
Ond daeth e nol, so fe wnaeth Colin Mochrie a Ryan Stiles amuso i eto drwy wneud i fi werthin.
Saturday, 26 July 2008
Mamma Mia, mae Mamma Miriam yn cael syniadau silly!

Thursday, 24 July 2008
Trafod arddull - diolch am ladd darllen.
Roeddwn arfer darllen lot. Ond yn ddweddar dwi wedi dod nol i mewn i'r habit, gan fod gen i ddyddiau o wneud dim i lanw i fyny. Dwi'm yn gwybod os ydy diogi teenager yn unrhywbeth i wneud a'r ffaith nad wyf yn darllen gymaint bellach, ond dwi yn sicr fod y ffaith fod rhaid i fi drafod a thrafod arddull, neu yn y gwersi Saesneg "language", wedi effeithio ar ddarllen.
Dwi'n darllen Jane Eyre ar y foment, y glasur o nofel gan Charlotte Bronte. Mae hi'n stori dda, am merch ifanc sydd yn misunderstood yng nghyfnod y frenhines Victoria... ond bob tro dwi'n darllen, dwi'n meddwl "wel, jiw jiw, am gymhariaeth dda!" neu "Waw, na ansoddair ffandabydooby!" Dwi'n edrych allan am drosiad da, ac yn meddwl, "well, dylen ni wneud nodiadau..."
Mae e r'un peth gyda gwylio ffilmiau neu'r teledu, ar ol astudio Llunyddiaeth (LLUN yn lle LLEN, wel na glyfar...). Ar ol gorfod astudio wep salw Sian James (mae hi'n wirioneddol edrych fel Moonmin. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw Moonmin - your loss!), mewn sawl saethiad agos iawn, dwi nawr yn gwylio teledu ac yn enwi'r gwahanol fathau o saethiadau. "OOO SAETHIAD DAU LEFEL! Ooo Mam drych, ond dyw 'wnna'n clever!?!!!" (Mae hyn yn gyrru Mam yn nyts pan dwi'n torri ar draws Pobol Y Cwm i son am y cyfarwyddo)
Saethiadau agos, saethiadau pell, trosiadau, cymhariaethau, ansoddeiriau... oedd darllen a gwylio ffilmiau'n well nol yn y dyddiau nad oeddwn yn deall yr holl dechnegau?
Neu ai'r Famous Five oedd jyst yn really good i gymharu a'r holl bethau dwi di ddarllen nawr?
Wednesday, 23 July 2008
Diwrnod i'r Brenin yn y Sioe Frenhinol!


Sunday, 20 July 2008
Radio:ACTIVE!
Radio:ACTIVE, albwm newydd McFly, yr un wnaethon nhw contraversially (sillafu eto, sori), rhoi am ddim gyda'r Mail on Sunday. Yn osygtal a'r ffaith fod y CD am ddim, hwn yw fy hoff albwm so far oherwydd fod y caneuon yn neud i fi eisiau jwmpo i fy nhraed a dawnsio a neidio am byty!
A ma' pawb sy'n fy nabod i yn gwybod fod McFly wedi llwyddo i gyflawnu'r amhosib. Dwi'm yn gallu dawnsio i safio'n fywyd.
Fy hoff track yw'r sengl newydd, One For The Radio, a dwi'n dwlu ar y neges yn y gan Smile. Yn gwrando ar yr album hyn, dwi'n teimlo'r un rush o ieuenctid a bywiogrwydd ro'n i'n teimlo yn ei album cyntaf, ac yn y gan 5 Colours In Her Hair. Roedd eu ail albwm nhw, Wonderland, yn rubbish, a'r pedwar ohonynt yn ceisio cael pobol i'w cymryd o ddifri. Roedd Motion In The Ocean yn well, ond roedd dal rhywbeth ar goll. Ond ma' nhw wedi llwyddo i gael y peth yna oedd ar goll nol! Yay!
A sylwais ar y cefn, fod James Bourne, gynt o Busted (love of my life gynt 'fyd), yn ei helpu nhw! Roedd e'n ysgrifennu llawer o'r caneuon ar Room On The Third Floor, ac roedd Tom o McFly yn ysgrifennu ar gyfer ail albwm Busted - A Present For Everyone. Doedd e ddim i'w weld ar y ddau albwm dwethaf, a dwi'n credu actually fod hynna 'di gwneud gwahaniaeth. O wel, GO JAMES!
Radio:ACTIVE - yr albwm gorau i wneud i un wenu. Dwi'm yn credu fydd yr albwm yn cael ei gyfri fel un o'r Top 10 albums, gan ei fod e am ddim gyda'r papur, ond dwi'n meddwl ei fod e'n haeddu No 1 slot. Dim mod i'n biased ac yn ffansio Harry na dim felly...
Here's another song for the radio!
Saturday, 19 July 2008
Englyn - amhosib.
Neithiwr, fe ddaeth Mam adref yn cario englyn wnaeth dalu £60 am i fardd eithaf enwog (wedi ennill y gadair neu'r goron neu whatever) i ysgrifennu i'w ffrind sy'n ymddeuol. Wel, doedd Nhad a finnau ddim mor impressed a oedd hi. Sixty quid am bedair llinell? Rip off.
Ond, gwelais fod llawer o arian yn involved, felly dwi 'di treulio'r ddwy awr ddwethaf yn ceisio ysgrifennu englyn... a mae e'n fflipin galed. Lliwgar bu'r iaith, wrth i mi sylweddoli nad oedd e mor rhwydd ag o'n i'n ddisgwyl, a nad oeddwn yn mynd i allu cyfansoddi un cyfan, let alone un da.
Triwch chi fe, seriously. Mae ysgrifennu englyn yn impossible. Fydde fe siwr o fod yn rhwyddach i fi ddysgu hedfan.
Thursday, 17 July 2008
Ydy Rhydian Bowen Phillips yn hoyw?

A dyma fi nawr, yn hytrach na gwneud rhywbeth defnyddiol, fel darllen pethau addysgiadol etc, yn creu dadl i fy hun. Felly...
Ydy Rhydian Bowen Phillips yn hoyw?
- O Blaid
- Mae e'n gwybod ei fod yn rhannu ei benblwydd gyda Gary Barlow o Take That. Dyw dynion ddim yn hoffi Take That! (Ond son am Gary Barlow, love of life Pero, a'i mam hi actually, llongyfarchiadau - mae ei wraig yn disgwyl plentyn arall!)
- Roedd e arfer bod mewn boyband. Or enw Mega. Boybands - enough said.
- Mae e'n gwisgo cardigans, a dyw e ddim yn ddadcu, a dim Roy Cropper off Corrie yw e. Dwi'n meddwl fod cardigans yn gay, hyd yn oed ar Pipo.
- Mae e wedi canu ar Can I Gymru. Yn solo. Dwi'm yn trystio solo singers. Dim hyd yn oed Ronan Keating. Can eithaf poppy or enw Mi Glywais. A mi rwyf yn gwybod hyn am fod y gan ar fy Ipod... Sori.
- Mae hi'n edrych fel petai e'n treulio mwy o amser yn gwneud ei wallt na fi. (Dros hanner awr iddo fe felly.)
- Fel ddwedais i ddechreu, mae'n ymddangos fel petai'n sengl, a gall dyn mor olygus a na fyth fod yn sengl. Mae'n rhaid fod e "in the closet" o hyd.
- Mae e'n mynd i'r gym - arwydd ei fod bach yn vain, ac bob tro dwi'n meddwl am gyms dwi'n meddwl am Matthew Rhys yn ei ran fel Kevin ar Brothers & Sisters yn mynd i'r gym, ac yn cwrdd ag un o'i gariadon, Chad, neu Chip... who cares, Kevin yw'r un golygus... sori! Nol i Rhyds...
- Mae e o'r Rhondda. Dyw e ddim yn edrych fel eich typical Rhondda Valley boi... dyw e jyst ddim digon chavvy. Felly rhywbeth not quite right.
- Yn Erbyn
- Petai'n cael dewis 3 person i ymuno ag ef i gael parti, fyddai Sarah Michelle Geller yn un o'r tri. Dwi'm yn ei gweld hi fel fag hag. Ma' rhaid fod ganddo thing amdani?
- Fe oedd e'n mynd allan gyda Catherine Ayres, a oedd yn mynd i capel gyda ni. Gay men don't date women, fel pwyntodd Mam allan i fi.
- Dwi wedi ffeindio llun ohono yn chwarae pel droed. A hefyd dwi wedi darllen ei fod yn ffan o'r Bluebirds ac o dim Lerpwl. Mae e'n mynd i gwylio gemau bant fyd. That's not a stereotypically gay thing to do.
- Dwi'n mynd i ail adrodd y pwynt uchod, gan ei fod yn siarad am bel-droed non stop ar ei flog Uned 5. Mae e'n edrych yn fwy syth wrth i fi ddarllen ymlaen.
Wel, efallai fod e'n gay, efallai ddim. Mewn byd lle mae hi'n politically incorrect i fod yn stereotypical (sy'n cweit right fyd!), dyw fy mhwyntiau i ddim gwerth llawer. Fel fyddai Drew Carey'n aml yn dweud ar ddechrau Whose Line Is It Anyway? "the points don't matter".
Efallai fod e bach yn hen i fi, ond please Duw, er fy mwyn i, na'n siwr fod Rhydian Bowen Phillips yn "syth".
Ladies of Leisure in Llandeilo!
Gan fod y tywydd yn ddiflas, roedd Gerddi Aberglesny (llisafu, god ma'n sillafu i'n wael, ydy Aberglesny'n iawn?) allan o'r cwestiwn, ond aethom, fel roeddent wedi bwriadu i Laaaaandeilo! Cawsom wir, ddiwrnod pleserus dros ben.
Roedd Anti-Bionic, y coat-aholic, am brynu got Barbour, gan eu bod nhw 30% off yn y siop Pinc yn y stryd fawr. Nawr, efallai nad ydych yn gwybod, ar bob trip siopa, mae Anti-B yn dueddol o brynu cot. Dwi'm yn gwbod, efallai fod ganddi coat fetish neu rhywbeth, who am I to judge? Wel heddiw, gadawodd y siop gyda dwy got mewn bag. Felly mae ganddi dipyn o esbonio i wneud i PC Larwm heno! Dwi'n credu fod ambell ddeg fach mynd i ddod off y pris!
Ta beth, gan ei fod hi hefyd am ryw item arall dwi ddim yn cael enwi, mewn siop nad wyf fod trafod (dwi wedi cael warning fod y cynnwys yn naughty). A tra'n gadael y siop nwyddau yma dwi ddim yn cael son am, dyma Anti-B yn adrodd y stori rhyfedda wrtha i! Yn ol pob son, er fod y cwpwl sy'n rhedeg y lle yn briod...wait for it... mae e'n gay, a hi'n lesbian, a maent yn cael raves mawr. Nawr os ydy hyn yn wir, mae hynna'n hilarious! Meddyliwch dyn a menyw hoyw yn priodi, rhedeg siop sydd ddim hyd yn oed yn gwerthu glowsticks yn cael raves. Lle yn y byd mae Anti-B yn cael ei gossip o, dwi ddim yn gwybod!
Gwrddon a Mam am goffi yn yr Angel, a hithau'n rhydd i adael gwaith gan fod y cleaners a gweithwyr fel 'na ar streic. Gath hi sandwich. Roedd Anti-B a finnau eisioes wedi cael brecwast... byrgyr a egg roll o Byrger Fan Gorau Cymru yn Llangadog! Woooo! Fydd Nhad mor jealous pan weda i wrtho fe ein bod ni wedi bod yn cael byrgers na hebddo fe.
A gorffennodd ein outing yn Toast. A finnau wedi mwynhau dianc o'r ty am fore, fe wnes hefyd elwa o bling ring newydd oddi wrth Anti-B (mae hi wastod yn gwisgo bling rings yn ogystal a llu o bling things!), a treatodd Mam fi i sgert. Mae hi bach yn fawr, ond mae hi'n neis, a fi hefyd yn gallu ei gwisgo hi fel ffrog os dwi'n bod yn creative gyda belt!
Daeth Mamgu 10 i'n nol i wedyn, a mynd a fi adref. Doedd hi ffealu dod gyda ni bore ma... Roedd Beauty Day ar QVC. Colli diwrnod mas, oherwydd QVC?!?!?!?! O well, pawb at y peth a bo, sbo.
Wednesday, 16 July 2008
Dylan Thomas a fi.
Ar y Dylan Thomas trail a ni... wel, rhan ohoni, gan ei bod hi'n drip eithaf hir a cymleth i fynd nol dros yr holl lefydd a fu yn ei fywyd. Felly i Talachern (neu fel dwi'n hoffi ei alw, LARN!) a ni!
Gan adael fy Nhad o flaen Homes Under The Hammer, fe aeth Mamgu a fi off i Morrisons (MORRISONS! Hello Richard Hammond!) i gwrdd a Anti-Bionic. A daeth hi a presants i fi, sydd wastod yn neis (diolch yn fawr iawn xxx) - dau tlws ar gyfer hongian off y ffon symudol, un siap mefusen, a un siap M, a hefyd roedd hi wedi prynu scarf mega ciwt i fi o Tesco. A dwi'n bwriadu gwisgo hwnnw i fynd mas i drampan fory, ond yn ol a ni i heddiw.
Ta beth, yn LARN, roedd yn car boot sale yn y maes parcio, felly fuon yn pocio rownd fan 'na am bach. Wedyn, dyma ni'n dilyn y llwybr heibio i'r castell ac tuag at y Boathouse, a'i sied. Dwi'n credu dylen ni gael sied fel un Dylan Thomas. Dwi wastod wedi eisie sied bach actually. Ta beth, roedd hi'n rhyfedd camu nol i'r pumdegau, i mewn i nirfana'r bardd o fri, a gweld y ty lle treuliodd y bardd flynyddoedd dwethaf ei fywyd byr, ag ysgrifennu Under Milk Wood. Roedd yna hen luniau o'r teulu, yn ogystal a hen genel Mably, annwyl anifail anwes Dylan Thomas.
A dwi hefyd wedi darganfod fod fy modryb a fy mamgu yn "aspiring photographers". Seriously, o'n i'n meddwl nol pan aethon ni i'r briodas, "flippin heck, llun arall?" yn aml, ond mewn priodas, mae hynny'n ddealladwy. Ond heddiw - roeddent yn gofyn am luniau ym mhob man; llun ger y castell, llun ger y mor, llun ger y boathouse, llun ger y shed, llun yng nghaffi'r Boathouse, llun yn Hurst House, llun ger bedd Dylan a Caitlin Thomas - flippin heck. Fel ddwedes i wrtho nhw, "Ma'n rhaid i mi dechrau codi fee am yr holl photo ops 'ma!".
Bwyd oedd y stop nesaf. Roedd Anti-B eisiau mynd i lle o'r enw Hurst House Hotel i gael bwyd, a fe roedd yn le neis iawn yng nghanol y wlad, gyda cae llawn ceffylau gyferbyn. Ges i fish and chips, a crab cakes i starters (crab cakes, nid crap cakes!) a nawr dwi bron a byrstio. Dylen i ddim byta gymaint, seriously.
Gorffen lle wnaeth y dyn ei hyn orffen wnaethon ni - y stop dwethaf oedd i weld ei fedd e a Caitlin Thomas. Roedd y groes wen yn glir yng nghanol rhesi o gerryg llwyd, yn sefyll allan, fel gwnaethon nhw, dwi'm yn amau. Cyn mynd heddiw, awgrymodd Anti-Bionic ein bod ni'n prynu blodau i roi ar y bedd, ond fe ddwedes i fydde, o beth o'n i'n ddeall o The Edge of Love, well gan y ddau beint yn lle 'ny. Wel, roedd rhywun eisioes wedi meddwl am hynny - yn ogystal a sawl tisw fechan o flodau, roedd yna botel fach y wisgi.
A dyma fi adref. I shall not go gentle into that good night.
Tuesday, 15 July 2008
Sut wnaeth Top Gear fy berswadio i lanw i fyny application form am job yn Morrisons.

Sunday, 13 July 2008
Nothing sweet about me...
Strawberry laces a squash pinc oedd i frecwast bore 'ma. Am y tro cyntaf ers dydd Mercher, dyma fi'n cael bach o lie in. Ceisiodd Mam fy ffonio am ddeg, a'r peth cyntaf ddwedais wrthi oedd "FI'N CYSGU!". Dyw hi byth yn ffonio'r amser iawn. Ond ta beth, strawberry laces oedd ar ol wedi'r trip i'r sinema ddoe oedd fy "mhryd bwyd" cyntaf... fydde un yn meddwl eu bod nhw'n disgusting peth cyntaf yn bore (wel, am hanner awr wedi deg... ), ond na. Brecwast blasus iawn.
Sausage rolls special Mamgu Nantglas wedyn, fel eleven o clock snack (fi'n dweud wrthoch chi, ma' chwcan hi'n amazing - yn enwedig y scrambled eggs), a cheese and onion crisps i fynd gyda nhw. A dyma fi'n mentro i mewn i'r drar pethau melys, a chwilio am yr Aero... o bu bron i mi lefain y glaw pan sylweddolais, wedi bwyta'r bar o siocled a oedd wedi ffloatio i lawr o'r nefoedd, taw dyna'r un ddwethaf. Fe fetiai chi fyddai'n dioddef o cold turckey nawr, heb Aeros.
A addawodd Mam fyddai Chinese i swper heno. A hithau'n dathlu ei bod adref o Gogland, ordrais beth dwi wastad yn ordero - Sweet and Sour chicken. Cyw iar sur a melys... Yummy. Ond eto, pethau melys. Melys, melys, melys!
Ac o melys, i mefys. Fe ffoniodd Anti-Bionic bore 'ma, jyst am chat. Ni'n golygu mynd am Dylan Thomas trip i Laurghne (pam sillafu'r peth mewn ffordd mor complicated, pam jyst ei sillafu "LARN", sy'n lot rhwyddach!) wythnos nesaf. Ta beth, ar y ffon, a finnau wedi son eisioes mod i eisiau galw'r car welais o'r blaen yn Strawberry ar fy mlog, dwedodd hi fod ganddi anrheg i mi. Ges i bach o sioc i feddwl ei bod hi'n cofio am hyn, gan mod i ddim actually yn. Anyway, ddwedodd fod hi wedi cael mobile phone charm siap mefusen i mi! Dyna sweet ohoni!
Wedi'r holl fwyd llawn calories dwi 'di bwyta heddiw, ma'n rhaid mod i o leia pedwar dress size yn fwy... ond tough. Joies i bob un losinen. A hefyd, sylwch mod i wedi bod yn ddigon clyfar i linco popeth i sweets. Yn y ffordd Americanaidd, "Sweeeeeet!".
Whant pacyn o Haribos arna i nawr.
Saturday, 12 July 2008
Eto, boddi yn mewn pwll o gariad rwyf fi... ac yn methu dianc rhag Hannah Montana

Chwerthin ar ben Tuesday roeddwn arfer gwneud, a honno'n mynnu mynd i weld Rupert Grint yn yr ail Harry Potter eto, ag eto... ag unwaith eto. O leiaf dyw Matthew Rhys ddim yn ginger...
Do, fe es i i weld The Edge of Love unwaith eto. Dal yn olygus mae Matthew Rhys - er fod Pero, a ddaeth gyda fi, yn chwerthin am fy mhen ac yn ei alw'n "minger". Ma' angen specs ar y groten, dwi'n gweud wrthoch chi. Ac ar ol y ffilm "dim mor wael a o'n i'n feddwl fydde fe" oedd ei ferdict hi. Dyw "arty films" fel galwodd hi The Edge Of Love, ddim really yn apelio at hi fel arfer. Fe wnes i fwynhau'r ffilm hyd yn oed yn fwy tro hun actually, a finnau eisioes yn gwbod pa bits roedd Matthew Rhys yn ymddangos ynddo, ac yn gallu mynd "ooo ma Matthew'n dod yn y bit nesaf". Roedd fy ngwertfawrogiad o'r stori ac o'r saethiadau a'r production a'i gwisgoedd yn fwy eto'r tro yma. Honestly, dwi moyn par o wellies fel rhai Sienna Miller. Ac fe roedd acen Kiera Knightley yn tyfu arnaf erbyn y diwedd.
Wolfy a Deryn Du oedd actually moyn gweld y ffilm, a Pero ddwedodd daethe hi, am nad oedd hi am deimlo'n left out. Ond, a Deryn Du off yn three counties orchestra band (or whatever), a dim son wrth Wolfy, antur bach arall i Pero a Bwdj oedd hi. Excuse i fynd eto felly, er mwyn i Wolfy a Deryn Du gael ei weld... o diar, dwi wir yn obse

Fe wnaeth Pero a finnau gyfarfod yn dre, ac fell cerdded rownd fuon ni rhwng deuddeg a dau, ac yn bron bob siop... daethom ar draws arch nemesis Pero... HANNAH MONTANA! Doedden ni ddim yn gallu dianc rhag y dannedd gwyn, gwyn, a'r gwallt blonde, blonde. Fe roedd hi ym mhob man! Claire's, Partners (neu Rymans nawr, sori... ych, PARTNERS), Woolworths, Game, Wilkinsons, WH Smiths... DOEDDECH DDIM YN GALLU DIANC! Fydde hynny'n good plot ar gyfer ffilm arswyd... methu dianc rhag Hannah Montana... dwi'n credu fod Pero'n dwlu arni really.
Erbyn hanner awr wedi un, roeddent wedi cael digon o'r dre. A hithau'n ddydd Sadwrn, a ni fel arfer yn mynd i drampan yn ystod yr wythnos, roedd hi'n brysur yno. Tra'n Accesorize, cafom ddim cyfle i fynd unrhyw le'n agos i'r stand oedd yn dal y jinglarings hanner pris, gan fod gormod o bobl o'r ffordd. Hefyd, roedd hi'n od gweld rhanfwyaf o'n cyd ddisgyblion ni'n gweithio. Ma' Pero newydd gael jobyn dydd Sadwrn nawr yn Bon Marche (dylai fod acen ar yr e, ond fel rydych yn sylwu, dwi rhy ddiog i hwpo to's ar fy llythrennau, heb son am chwilio am acenion) - a fe wnes i ffeindio mas eich bod chi actually fod ei yngan Bon Marsh-eh, nid jyst Bon Marsh... Dysges i rhywbeth newydd heddiw.
Ni oedd y cyntaf i gyrraedd y sinema - yna am ddau, ar y dot, wedi bod yn CoOp yn prynu sweets (3 packets for a £1 - gymeron fantais o'r fargen yna) a pop. Wedi eistedd mewn seddau da yng nghanol y lle, dyma lu o bensiynwyr yn dod mewn, tra bod Pero a finnau'n bwyta strawberry laces. Ac ymhlith y torf o hen bobol... dyma ni'n gweld Anti Marian o Pobol Y Cwm!!! Edrych ar ein gilydd wnaeth Pero a finnau, gyda fi'n mynd "Paid ti mentro gweud dim... neu dechre chwerthin wna i... a wedyn fyddai'n ffaelu stopo!"
Ac i orffen, soniaf am ddiwrnod arall heb Mam. Wrth gwrs, bore 'ma, wedi dod mas o'r cawod ac wedi gwisgo (fy nghrys-T serennog newydd o Primark a jeans, i'r rhai sydd am wybod), fy nghwallt yn wlyb (obviously) ac yn diferu... dyma fi'n mynd at y GHDs ar sychwr gwallt... i ddarganfod fod hi wedi mynd a'r fflipin hair dryer gyda hi i GogLand!!! Panic oedd hi felly, gan fod rhaid i mi sychu'r trwch o wallt sydd gen i a tywel, a'i gael yn sych mewn dwy awr. Rhyw ffordd, fe lwyddais i, ond doeddwn dal ddim yn amused fod y sychwr gwallt wedi mynd. Hefyd, i swper, yn hytrach na gadael i Nhad a finnau fynd i McDonalds eto, gadawodd hi rhyw Chinese Chicken Cyri a oedd ar sale yn Tesco i ni... inau fod unrhywbeth mae Nhad yn ceisio "coginio" yn troi mas yn ych, neu disgusting oedd y stwff anyway. Cawsom dext wrth Mam yn dweud ei bod hi a'i ffrindiau yn mwynhau Indians yn Nefyn. Pam ddarllenais y text allan i Nhad, "tra bod ni'n bwyta f*****g sh*t" oedd ei ymateb. McDonalds nos fory, gobeithio.
Ac felly off a fi i orffen gwylio Carry On Camping 'da Nhad. Actorion Carry On films = legends.
Friday, 11 July 2008
Miss Tebot a Mamgu / USB, MP3, lle wyt ti?

Wednesday, 9 July 2008
Mr Bioleg ar y fish and chips!

Bu Biko-Eco'n ddigon anlwcus i gael gwyneb ein hen athro Bioleg ar ei chips e. Fel gallwch weld, dyw e ddim yn lot o looker.
McHedfan

Os ydych yn adnabod y pedwar dyn yn y llun, felly does dim suspence. Cefais freuddwyd oedd yn cynnwys McFly!
Ers i'r band ddechrau yn nol yn 2004, maent wedi bod yn amlwg iawn yn fy mreuddwydion. Pan ddechreuon nhw mas, roeddwn yn mega ffan, yn totally obsessed. Tom oedd fy ffefryn yn yr hen ddyddiau, tra bod Tuesday yn dwlu ar Harry, gan fod ganddi thing am drummers. Roeddwn i'n addoli'r albwm cyntaf, Room On The Third Floor, ac yn ei chwarae drosodd a drosodd. Dwi dal yn meddwl taw Met This Girl yw'r gan orau.
Ta beth, dwi'n cofio unwaith cael breuddwyd ohonynt lle wnaeth y rhaglen fore Sadwrn Ministry of Mayhem (theme tune by Noise Next Door aaaaw bechgyn) ddod i ffilmio yn fy nghartref i! Ac am ryw reswm, fe roedd y conservatory'n gollwng (yn amlwg doedd Mam ddim yna, achos fydde'n hysterical se na'n actually digwydd), ac roedd McFly yno, yn wlyb sopen. Ac fe roeddwn felly am autograph... a dyma fi'n dechrau chwilio'r ty am bapur... dyna lle droiodd breuddwyd lyfli mewn i hunllef. DIM FFLIPIN PAPUR YN UN MAN! Dwi'n cofio wedyn fi cael gafael ar Danny o McFly, a clingo i'w grys-T gwlyb a sgrechain "I DON'T HAVE ANY PAPER! DON'T GOOOOOOOOOO!"
Cefais hefyd freuddwyd rhywbryd am y pedwar ohonynt yn fy achub pan es ar goll rhywbryd - a rhoi lifft adref i mi mewn limo. Mae 'na lu o freuddwydion amdanynt wedi dod ataf yn fy nghwsg, ond heb fod list ysgrifenedig o'm mlaen i, dwi ddim yn ei cofio nhw.
Mae McFly ar fin rhyddhau'r pedwerydd albwm, ac yn hytrach na'i werthu yn y siopiau fel pob band normal, maent yn ei ddosbarthu am ddim gyda rhyw bapur dydd Sul (Times neu Telegraph neu whatever). Ac er mod i wedi prynu keyring 99p off Ebay a'i lun arno, dydw i bellach ddim yn ffansio Tom Fletcher.
Ta beth, neithiwr... wel, bore ma. Dwi wastod yn breuddwydio reit cyn dihuno, ac yn ol y ffaith mod i'n clywed y toilet yn cael ei fflyshio, roedd ei bod hi cyn wyth. Anyway, oll o'r freuddwyd dwi'n cofio yw eistedd yng nghaffi Marks & Spencers, a McFly yn dod i eistedd wrth y bwrdd drws nesaf.
Beth yw'r pwynt adrodd y stori hon, meddech chwi?
Wel, yn ol beth dwi i wedi darllen, pan rydych yn breuddwydio am bobol enwog, fel arfer rydych am i bobol yn eich bywyd chi fod fel y person/pobol enwog yna. Hynny dwi ddim yn deall. Mae gen i growd o bobol amazing yn fy mywyd - rhieni gorau'r byd, teulu sydd yn hollol mad, a ffrindiau sy'n awesome. Pam mod i eisiau newid unrhyw un ohonynt?
Falle taw rybbish yw'r holl dream interpretation thing wedi'r cwbwl. Mae eraill yn gweud taw just y pethau mae un yn meddwl amdano yn swyrlio rownd yn y pen sy'n achosi breuddwydion... felly, dwi'n meddwl am Marks & Spencers a McFly...
Ond mae rhaid gweud, petai yna sboner sy'n edrych fel Harry o McFly, neu hyd yn oedd Harry ei hunan, yn dod i mewn i'm mywyd, dwi'm yn credu fydden i'n conan. Petai unrhyw un ohonynt yn ymddangos, i ddweud y gwir...
Tuesday, 8 July 2008
Pero, Deryn Du a finnau'n cael adventures yn Abertawe


Yn y siop elusen, cefais syniad wych. Fel fflach mellten, daeth i mi o nunlle. Charity Shop Challenge! Grwp ohonom yn erbyn ein gilydd yn ceisio prynu'r outfit orau drwy ddefnyddio siopiau elusen yn unig! Good idea, no? Fi'n gwbod fod e bach yn smelly, ond mi rydych yn gallu cael ambell i good find yno. Go me!

Roedd y diwrnod mor ffab, doeddwn ddim am fynd adref, ond stopio yng ngorsaf Caerfyrddin wnaeth y tren. Off a ni. Roedd yn fam i yn sgwrsio i mam Pero, a unwaith iddyn nhw stopio clebran, adref a ni. Roeddwn yn edrych mlaen i jyst ymlacio o flaen Whose Line Is It Anyway? ond na... 8fed o Orffennaf, 2008 oedd y dyddiad... h.y, blwyddyn yn union i'r diwrnod cafodd fy nghefnder bychan ei eni. Roedd rhaid mynd i visito felly.
Monday, 7 July 2008
Diwrnod arall adref.
Cefais alwad ffon bore 'ma - wel, yng nghanol Loose Women actually, so pnawn, ond ro'n ni dal yn fy myjamas ar y pryd - wrth Anti-Bionic. A hithau newydd ddarganfod fy mlog, fe roedd hi'n teimlo y dylai fy rhybuddio am beryglon y rhyngrwyd. Chwarae teg iddi wir. Roedd hi hefyd yn poeni fyddai'r Goeden yn ei ddarllen, ac yn poeni am ei ymateb - a fyddai honno'n gwnedu bywyd yn galed i fi? Na, licen i ei gweld hi'n trial. Tryst me Anti-B, y peth gweatha alle honna neud i fi yw eistedd arno fi.
Hefyd, mi rwyf wedi bod yn ymarfer signiture fy Nhad. Dwi'n golygu "menthyg" ei cheque book! Joke! Na, ma' gwneud pethau fel 'na yn naughty. Ond ma rhaid dweud, mae fy fersiwn i o'i signiture yn well na'i un ef! Odd e'n wel impressed. Wedodd e wrthai gallaf drial emptio ei account, ond anodd fyddai gwneud, gan ei fod yn wag yn barod.
Un stori ddigri arall i orffen felly - bu fy nghefnder bychan yng ngofal fy modryb dros y penwythnos, tra bod Mr a Ms Merkwürdiges Pferd yn mynd off i Cilycwm (CILYCWM.COM! Yndyfe'n Nhad!?). I ddechrau, cafodd Mam text bore ddoe i gael gwbod fod Dafydd Iwan mas o diwn y noson honno. Doedd Mam ddim yn bles. Mae Mam yn caru Dafydd Iwan mwy na mae hi'n caru Rhys Ifans, felly roedd hi'n wel offended. Ac yn ol i fy nghefnder, a oedd yng ngofal fy modryb. Cafom wybod gan ffynhonnell dibynadwy iawn (Mamgu Nantglas) fod Ms Merkwürdiges Pferd wedi gofyn i'n fodryb (yr un magodd fy demented cousins) beth oedd hi wedi bod yn bwydo ei thywysog bach hi, gan fod ei gachu yn wahanol lliw i'r arfer. Ath Nhad reit off ei gyri ar ol adrodd y stori i ni. Rhaid i mi gytuno, fod hynny braidd yn disturbing.
Dyna ni felly. Dydd Llun lliwgar arall.
Fi off ar Pero a Bwdj Adventure arall fory! Woop woop!
Portread o Marian Birmingham
Sunday, 6 July 2008
Does 'na un man yn debyg i adra...
Gan ein bod yn siarad am fwyd, fe wnaf hefyd son am obsesiwn fy mamgu a serfio darn o kitchen roll gyda pob snac. Daeth hi a rolyn o kitchen roll gyda hi, ac ar y ffordd fyny, cyn i ni gael ei byrgers, dyma hi'n dechrau torri darnau ohono allan "er mwyn bod yn barod". Dwi ddim yn deall y peth. Pam gwario arian ychwanegol ar kitchen roll pan gallwch sychu dwylo seimllyd ar eich jeans? Dyna ydw i'n gwneud.
Roedd hi'n briodas lyfli, er y diffyg alcahol. Roedd speech y best man yn hilarious - fair play i nghefnder i (un arall, sef brawd henach yr un oedd yn priodi. Mae nhw'n bedwar o frodyr i gyd). Fel pob priodas (well, heblaw am ambell un rydych yn clywed am yn y Real Life magazines - "MY BRIDE LEFT ME AT THE ALTAR" ayyb), roedd pawb yn hapus ac yn mwynhau. Yn wahanol i ran fwyaf o briodasau doedd dim dawnswyr meddw na dim fel 'na. Roedd popeth wedi gorffen erbyn 9, ac am yr awr dwethaf, dim ond tua pymtheg o ni oedd yna.
Tua wyth, diflannodd PC Larwm i'r toiledau, a Nhad yn dilyn yn weddol gloi ar ei ol e. Basiodd hanner awr cyn i ni sylwu nad oedd y ddau nol. Wel am naw, dyma'r parti'n gorffen wrth gwrs, a'r hanner dwsin ohonom oedd yn weddill yn mynd allan i'r dderbynfa i ddweud ffarwel. Dyma ni gyd yn gweld y ddau ddyn yn eistedd wrth y bar a bobi beint! Felly, wedi i bawb fynd... yn syth i'r bar aeth Mam, Anti-B, Mamgu 10 a finnau. Wedi'r trip hir i fyny dydd Gwener, a hynny heb Sat Nav (fyddai llais robotig yn well na'r ddwy co yn cwympo mas er fod PC Larwm a Anti-B wedi cael trafferth gyda'i un nhw) fe droiais i i'r alcahol erbyn hanner awr wedi. Malibu a coke - dwi'n dwli ar goconuts, so roeddwn i wrth fy modd.
Roedd hi'n ddeuddeg arnom yn dychwelyd i'r ystafell wely. Nawr, er mod i dan lot o stress, un drinc ges i. Odd y rest o nhw'n hammered. Mynnodd Mam fy hebrwn i fy ystafell (roedd gen i stafell yn hunan yn y gwesty hyn - diolch i Dduw, dim chwyrnu!), a roedd hi mor feddw, bu rhaid i mi ysgrifennu rhif ei hystafell hi (366) ar ei llaw. Dwi ddim yn dweud celwydd. Menyw sydd ar drothwy ei phedwar deg, a'i merch 16 oed yn gorfod ysgrifennu rhif ei hystafell hi ar ei llaw am ei bod hi'n pissed. Yn gynharach heno, tra'n gwylio Tipyn o Stad, gofynnodd yn fam, "shwd ot ti'n teimlo ar ol cael drinc neithiwr? a oedd y malibu yn neud i ti deimlo'n ben ysgafn?" - roedd hi yn amlwg yn poeni mod i'n mynd i fynd off the rails ar ol un diod. Bu'n rhaid i mi ei hatgoffa o pa mor feddw oedd hi, ar ol sawl glasied o win gwyn, ond ateb honno oedd "Fi'm yn dda 'da nymbers!". As if.
Bore ma, dechreuom adref, ar ol brecwast yn y gwesty. Comment Anti-Bionic oedd "ma fe bach yn bland". Wedai un peth, doedd y scrambled eggs na ddim cwarter mor ffein a rhai Mamgu Nantglas. Ond gallwch chi byth maeddu scrambled eggs Mamgu Nantglas. Os wnewch chi, chi'n haeddu rhuban glas (stori hir arall, newn ni ddim mynd 'na).
Ac yn ol i'r car a ni. A fe deithiom nol trwy'r Cotswolds. Ym mis Mai aeth Mam a fi a Nhad i'r Cotswolds, gan fod Mam eisiau mynd i rhyw antique fair yn Glouster (dwi ffealu sillafu sori) i chwilio am rhagor o lustre jugs. Ma' Mam yn casglu jwgiau lustre. Dwi dal ddim yn deall pam. Jwgiau bach browni/copri sgleiniog - uffernol o salw yn fy marn i. Ond ma Mam a Mamgu Nantglas yn crazy amdanyn nhw. OK, ma'n nhw'n antique a codi mewn gwerth ma' nhw... ond still... Gobeithio taw fi sy'n etifeddu nhw, gan fy mod i wedi cael yn llusgo rownd sawl blydi antique/bric y brac/jync shop i chwilio amdanyn nhw. Ma'n rhaid i rhywbeth dalu am y care homes i'r ddau ohonyn nhw. Fel unig blentyn, mae'r pwysau i gyd ar fy ysgwyddau i! Ta beth, heddiw eto, dyma fi'n treulio diwrnod yn mynd rownd siopau antiques. O leia wnaethon nhw actually llwyddo i ffeindio 4 lustre jug heddiw. Ar y weekend 'na nol yn ystod hanner tymor mis Mai, wnaethon nhw'm ffeindio dim un. Ond wnaethon nhw, i'm gadw yn dawel, dreifio trwy "Jeremy Clarkson Land" - hy, Chipping Norton. (Ac, i ychwanegu, ar Top Gear heno, ceisiodd y tri brofi fod Alfa Romaeo's yn ffab - a ffaelu really. Hilarious. Ac mae James May wedi torri ei wallt!)
Mewn un siop antiques, roedd yna cabinet o hen ddrylliau - immensly ffasinating. Fe wnaeth y stress o'r holl ffysian a'r thought o orfod bwyta sandwiches ddoe yn ormod iddo... cafodd suicidal moment fach... gan ddweud "Fi'n credu bod eisiau un o rheina arnon ni."
Tawel oedd hi wedi hynny - O! heblaw am y bwnis yna ar y rowndabowt, a oedd yn weird... meddwl ei fod yn werth son amdano - bwni's mewn rowndabowt, mi roedd yn ciwt. Ta beth, ar y siwrne hir adref, roedd pawb wedi blino gormod i siarad. Roeddwn i'n plugged mewn i'r Ipod. Eto, diolch byth i rhywun yn Apple i feddwl am y syniad o gynllunio'r Ipod. Roeddwn yn fy myd bach fy hun, Planet Teapot. Doedd dim rhaid i mi wrando i'r ddwy navigator, ac roeddwn yn cael llonydd i feddwl. Hefyd, rydych yn gallu storio lluniau ar fy annwyl Ipod i... roedd rhaid i mi edrych ar Matthew Rhys. Roeddwn wedi mynd dros 24 heb Googlo ei enw na gwylio Brothers & Sisters. Fe wnaeth yr alcahol leddfu'r boen.
Ac felly adref. Fe fydd y ffrog ffansi yn cael eu gosod yn ol yn wardrob fy rhieni, a'r sgidiau yn ol yn y bocs (mae fy nhraed yn agony) am wythnos o leiaf, cyn i mi fentro ei gwisgo eto. Dwi'n dal i ddiawlio nad oedd unrhyw lanc ifanc, golygus yn y briodas, ac adref, mae gennyf wely fy hun yn f'ystafell fy hun. Fel ddwedodd/canodd Gwyneth Glyn, *acen gog ymlaen* "Does 'na un man yn debyg i adra...". Ac mae hynny'n hollol wir.
A cyn gorffen, ymddiheiriad. Sarjent yw rhingyll. Petai JB Preistley wedi penderfynu ysgrifennu'r ddrama, A Sargent Calls... (sori arall mod i ffealu llisafu...sillafu!), byddai fy joke bach i wedi gweithio. Damnit all.