Tuesday 2 September 2008

Diwrnod Olaf O'r Gwyliau

Siwgr. (Fydden i'n gweud gair gwaeth, ond wrth gwrs, ma' 'na'n naughty!)

Lle aeth yr haf? Ac i feddwl, i ddechre, fe roeddwn i'n bored!


Nawr, dwi mynd nol i ysgol, y lle diflas na lle mae pawb yn gorfod gwisgo teis ac yn gorfod dysgu pethau boring. A bellach, dwi'n mynd yn ol i'r chweched, sydd hyd yn oed fwy scary. Ers blwyddyn 7, mae bron pob un wedi breuddwydio o gyrraedd y chweched dosbarth - lolfa eu hunain, free lessons, a dim gorfod ciwio am ginio. Ond nawr, a Mam a finnau wedi bod yn Evans a Wilkins yn replaco'r crys lilac gyda'r crys gwyn, mae'r sefyllfa wedi dod yn real. Chweched dosbarth, i midgets bach blwyddyn saith, mae bod yn y chweched dosbarth yn golygu eich bod chi'n hen. A dim ond dwy flynedd o ysgol sydd ar ol. A s'dim clem 'da fi lle fi'n mynd wedyn.


Peth arall sy'n fy mrawychu, yw gweld fy athro Ffiseg yn lyrcan yn y coridore, yn barod i'n atgoffa i taw dim ond C ges i'n Ffiseg. Mae ganddo'r habit o ddod REIT lan i'ch gwyneb chi, mor agos fod y ddau drwyn bron yn cyffwrdd. Mae e'n creepy. Ond mae gen i ateb da iddo.
"Nes i'n well na naeth Mam yn Ffiseg."
(Roedd e arfer dysgu Mam - ydy, mae e'n ancient.)

Dwi hefyd ddim yn edrych ymlaen i'r cwrs Lefel A, gan fod Mam yn hoffi fy atgoffa i'n gyson pa mor galed yw e. Ac hefyd, rhywbeth arall dwi'm yn edrych mlaen i gael, yw gwaith cartref. A dwi'n gweithio nawr fyd, felly mae'r oriau o amser hamdden yn mynd yn llai ac yn llai.


A dwi dal ddim yn gallu dewis rhwng dau bwnc - Addysg Grefyddol neu Cymdeithaseg?


Plus, wythnos cyntaf nol, rydyn ni neud beth mae'r athrawon yn galw'n "team bonding". Fel blwyddyn, rydyn wedi adnabod ein gilydd ers pum mlynedd, pam yffach mae eisiau bondio fel tim arnynt nawr? Fflipin hec. Hefyd, ar ddydd Gwener, y dull o "team bonding" yw i wneud rhyw assault course mewn mwd a dwr... felly dwi ddim yn mynd. Mwd, a dwr, a rhedeg, a assault course? Fe arosa i adref a gwylio Whose Line Is It Anyway?, diolch yn fawr.


Felly dyma'r diwrnod olaf o Daytime TV. Dihunes i am 9 bore 'ma, a darganfod fod Frasier nol ar S4C, yr wythnos dwi'n mynd nol i'r fflipin ysgol. Dwi'n dwli ar Frasier, felly mae hyn yn cruel. Ac mae Loose Women nol, ond fe gwffes i golli hwnna fyd, gan fy mod i lawr gyda Mamgu.

Beth roeddwn yn gwneud gyda Mamgu? Wel, mae hynny'n top secret - anrheg arbennig ar gyfer Mam ar ei phenblwydd yn 40 (wedes i fod yn athro Ffiseg i'n hen).

A dyna ni. Diwedd yr haf. End of. Finito.

Dwi'n ysu am haf nesaf yn barod :(

No comments: