Saturday 6 September 2008

Dydd Sadwrn Arall Yn Shaws

Croeso i mewn i Shaws Caerfyrddin. Os nad yw'r area manager na'r bos ei hun (Petey) i mewn, fe welwch bedair merch mewn ffedogau glas yn cloncan. Os yw'r ddau uchod yn bresennol, ffidlan ambytu'n jocan teidio lan i ni.

Dwy cyd-weithwraig newydd oedd heddi, a fi a Bows wrth gwrs, a doeddwn ddim wedi cwrdd a nhw o'r blaen - ond mi roeddwn nhw'n neis, felly doedd dim problem. A ni wnaeth Mr Shaws alw, felly diwrnod chilled out oedd hi.

Stwffes i ambell gwshin, fues i'n chwarae bach gyda'r tills, a fues i'n cynorthwyo menyw mewn cadair olwyn a oedd yn cael ei wthio rownd gyda rhyw ddyn random a gwallt hir a glassys o Focus. Ffantastic ffact i chi - mae'r boi hyn wastod yn cael ei ginio o Porkys.

Amser cinio, es i Matalan i chwilio am wisg ffansi ar gyfer parti'r chweched sydd nos Fercher. Dwi'n mynd fel mor leidr wedi'r cyfan! Mae gen i sawl math o deits streipiog adref, crys-T Tenby Pirate, scarf a skulls arno, digon o jingelarings, felly roedd rhaid i mi gael sword fach a het. A dyna fi'n gadael Matalan gyda'r sword, het, hook a glow stick yn fy mag. (Dwi just yn hoffi glow sticks, ok?)

Nol i'r gwaith, a doeddwn ddim cweit mor hopeless heddiw - I'm getting the hang of it. Wel, dwi'n credu...

Ta beth, a hithau'n gwarter wedi pump, roedd y bedair ohonom wedi cael hen ddigon, ac wedi dod i'r canlyniad nad oedd y bos mawr yn mynd i alw. Roeddent yn eistedd ar y gweliau (ddim fod neud 'na - naughty!), ac yn sgwrsio. A dwi wedi dysgu fod y lle'n haunted.

Typical fi i lwyddo i gael jobyn mewn lle sy'n fflipin haunted.

"Paid becso, it's a friendly ghost," meddai un o'r lleill i mi.
"O... Casper?"

Mam bigodd fi lan o'r gwaith, a fe fwrodd smel cyfarwydd fy ffroenau... McDONALDS! Roedd hi wedi dod a McChicken Sandwich Meal (un large) A Potato Wedges with dip i fi. Roeddwn wedi cael fy mhecyn pai cyntaf, ac fe roedd y ddwy ohonom yn reit excited. Dwi'n golygu prynu shoes newydd da'r pai cyntaf, a safio'r gweddill i gyd - ond ydw i'n gall, ddarllenwyr? Hehe!

Ac ar y ffordd nol, dwedodd Mam iddi weld Jason o Pobol Y Cwm/Y Phil Bennetts yn dre - roeddwn yn well jealous. Gadawes i neges ar grwp Facebook y band echddo, so spooky coincidence arall, ac fe roeddwn wedi treulio'r diwrnod yn meddwl am Mark Flanagan (sy'n chwarae Jinx) ac yn meddwl pa mor exciting fydde'n ddiwrnod i petai e'n cerdded mewn. Petai Matthew Rhys yn dod mewn, fydden i'n mynd i guddio - mae'r ffedogau'n shameful.

Ta beth, a finnau newydd cicio'n sgidiau i bant, wedi edrych ar beth roedd Mam wedi prynu yn dre, a wedi setlo lawr flaen y telly, daeth Anti-Bionic draw i'n nghoroni yn DJ Miss Tebot ar gyfer penblwydd Mam h.y gweud wrtho fi i roi CDs o ganeuon Cymraeg sydd mor hen a'r arch ar playlist ar fy Ipod er mwyn eu chwarae ar ei phenblwydd.
Fe aeth Mam bach yn hormonol - mae hi'n dal i gredu fod hi'n un ar hugain. Mae paratoadau dathlu'r 40 wedi bod yn bach o sioc.

Dwi'm yn cael parti pan dwi'n ddeunaw. Dwi'n mynd into hiding. Seriously.

Golles i X Factor, ond o wel. Bydd rhaid i mi ei wylio ar ITV 2. Neu ITV 3. Neu ITV 4... Ma' gormod o ITVs.

Dwi'n gwrando i Russell Brand a Matt Morgan, ac yn meddwl am beth ddysges i ddoe am y Bwdha tra mod i adref, ac yn aros i'r Sadwrn droi'n Sul, ac yn gobeithio am fflach o ysbrydoliaeth o rhywle. Over and out.

1 comment:

Anonymous said...

Wyt ti#n ca'l conishwn am y link >>>>>>>>>>>>>

XX? ?