Saturday 28 June 2008

Ymyl cariad? Mi rwyf yn nwfn ym mherfeddion cariad!


The Edge Of Love - dwi definatly yn mynd i weld y ffilm yna eto.

O'n i'n meddwl fod e'n ffilm brilliant. O'dd yn fam a Anti-Bionic ddim mor impressed. Ces i fy nghyhuddo o fod yn biased (fi? biased? just achos fod Matthew Rhys yndo fe? ha!).

Ond o'n i yn actually meddwl fod e'n ffilm brilliant. Falle gallen nhw wedi dyfeisio gwell stori, ond o'n i'n meddwl fod y cymeriadau yn amazing, a'r actio yn brilliant (heblaw am accent Cymraeg Keira Knightley - sori, er fod Richard a Judy yn ei gamol i'r cymyle, odd rhywbeth jyst ddim quite yn iawn). Odd y production yn rhagorol - y saethiadau agos yn amazing, a saethiadau a thechnegau ffilmio gwahanol oedd yn rhoi twist unigryw i'r ffordd roedd y stori'n cael ei adrodd. Ro'n i hefyd yn hoffi'r ffordd roedd hen ffilmiau o'r rhyfel yn cael eu gwae i mewn i'r rhan o'r ffilm oedd yn adrodd stori Dylan, Caitlin, Vera a William yn Llundain.

O'n i hefyd yn meddwl fod nhw wedi dal y cyfnod yn dda. Mi roedd y gwisgoedd a'r setiau i gyd yn spot on, o beth dwi'n gwbod (o'n i'm exactly'n fyw yn y 40au). Fi nawr wedi penderfynu mod i moyn siwmper wlanog, patrymog - un vintage. O ble dwi'n mynd i gael un, fi'm yn gwbod.
Gallaf ddweud a balchder fod rhannau o'r ffilm wedi cael eu ffilmio'n agos i fy nghartref i - rhannau yn orsaf drenau Bronwydd, reit lawr yr hewl, a rhan fwyaf o'r ffilm yn Cei Newydd, sydd hefyd lawr yr hewl, ond tipyn pellach ac i'r cyfeiriad arall. Er mod i wedi bod yn galw Cei'n twll o le erioed, heb ddim yna ond traeth a siopau fish and chips, dwi nawr yn mynd i werthfawrogi'r lle llawer fwy. Sori am fod mor gas Cei Newydd!
Hefyd, i fynd yn ol i drafod y ffilm - close ups o Matthew Rhys, ar sgrin faaaaaaaaaaaaaawr. Yumyumyumyumyumyumyuuuuuuuummmm!
Es i braidd yn eiddigeddus o Sienna Miller erbyn diwedd... cuddles 'da Matthew Rhys trwy'r amser, oh my god, dwlen i gael yn nhalu i neud 'na trwy'r dydd. Er mod i wastod wedi bod yn ddirmygus o Sienna Miller ers y Jude Law thing, dwi nawr yn gwybod ei bod wir yn actores dda, ac yn haeddu'r rhan. Lindsay Lohan yn actio rhan Caitlin Thomas? Fydde hi'n ffilm hollol wahanol. Fydde hi probably'n rubbish.

Nes i mentiono'r saethiadau agos o Matthew Rhys? Yumyumyumyumyumyumyumyumyuuuuuuummm!

A daeth fy Brothers & Sisters DVD trwy'r post heddiw. Felly yfory, fyddwch chi'n gwybod ble fyddai.

Rho'r remote control 'na lawr am awr!

Neithiwr, roeddwn yn bwriadu ysgrifennu review bach personol am y gyfres newydd o Top Gear. (Ro'n i wedi ei golli e dydd Sul, so watcho'r repeat neithiwr wnes i a Nhad). Ond a oedd y cyfrifiadur yn fodlon gweithio? O nag oedd.




Felly dyma fi'n ei ysgrifennu fe bore 'ma, cyn i fi fynd i weld The Edge Of Love (Matthew Rhys, Matthew Rhys, Matthew Rhys) yn y sinema.

Dyw'r rhaglen sy'n cynnwys commentry witty Clarkson, byth yn mynd yn hen. Dwi'm yn meddwl 'ny ta beth - a fi'n rywun sydd yn gwybod dim am geir.

Tri dyn canol oed, ceir cyflym, a weirdo cudd mewn siwt wen o'r enw THE STIG. Ar bapur, dyw e ddim yn swnio'n impressive.

Ond roedd y rhaglen yn brilliant - fel arfer. Diolch i Dduw ei fod e nol ar y telly, na gyd weda i. Mae Jeremy Clarkson, James May a Richard Hammond, yn legends (yn ddiwedd coesau, i geisio bod yn ddoniol). Ar y rhaglen, ceisiodd y ddau ohonon nhw greu ceir heddlu eu hunain, gan brynu ceir ail law am bris o dan £1,000, gan fod gan yr heddlu ofn smashio'r ceir newydd sbon a drud sy 'da nhw wrth ddilyn dihirod. Am laugh - Fiat Coupe oedd gan Clarkson, roedd May wedi dewis Lexus, ac roedd Hammond wedi mynd am y Suzuki Vitaro gwyn - gan achosi'r ddau arall i werthin ar ei ben e a gwneud jokes megis "the Barbie Brigade has arrived!". Roedd Hammond hefyd wedi llwyddo i roi "Call 999 For Details" arno erbyn y diwedd... a o'n i'n meddwl fod hwnna'n genius!

Dwi wedi eu colli nhw ar y telly bob nos Sul (fi'n gwbod, nos Wener, ond chi'n deall). Dyw gwylio'r repeats ar Dave ddim yn llawer o sbri. Ma' rhai o'r episodes maent yn dangos mor hen, ma' gwallt James May yn fyr. A rhaid dweud, neithiwr, nes i - fi sy'n meddwl fod bechgyn sydd a gwallt hir yn iawn (yn wahanol i'n Nhad sy'n credu dylent gael gwalltiau byr, sydd braidd yna - skinheads, ych-a-fi) - hyd yn oed ddweud fod angen i Mr May dorri ei wallt.

Hefyd, tra'n gwylio'r teledu gyda Nhad neithiwr, tra fod Philip Schofield yn cyflwyno dathliadau 90 oed Nelson Mandela (Penblwydd Hapus i'r Black Pimpernel!), crwydrodd meddyliau Nhad i fand gastrig Fern Britton.

"I wonder os yw Fern yn gallu mynd PING gyda'i gastric band?" gofynnodd.

Bu bron i mi wlychu'n hunan yn chwerthin.

"Nhad, GASTRIC band yw e, dim elastic band!"

Thursday 26 June 2008

"Drumroll please... I was taller than a vet!"

Heddiw, dwi'n mynd i siarad am ddoe, gan fy mod wedi dychwelyd adref ymhell dros fy amser gwely, ac wedi neidio i fewn i ganol y canfasau du a glas, a cysgu straight away.

I ddechrau felly...

Parti Penblwydd Miss Mynd!
Fi oedd y cyntaf i gyrraedd yr orsaf drenau. Fel arfer, dwi wastod yn gynnar, a ma' hi fel arfer yn hwyr. Ta beth, dath ffrind di-godename i ymuno â fi. Roedd y tren yn y station erbyn hyn, a'r ddwy ohonom yn meddwl taw tren douddeg yn hytrach na tren unarddeg fydden yn gorfod dal. Ond dyma pawb yn troi lan yn y diwedd - ond heb amser i brynu ticket yn yr orsaf.

Cymrodd y bump ohonom seddi, a gwrandais i'r holl gossip oedd gan y lleill am beach parti cawsom yn Saundersfoot - hoff destination Merched Y Wawr, neu beth? - ddydd Llun. Yn ôl pob son, aeth un o'r bechgyn yn totally nyts a dechrau rhwbio moisturiser dros teledu carafan un o'r merched, ac yna torri'r hoover. Tra ein bod yn siarad, daeth y dyn tocynne rownd - ac fe roedd e'n dipyn o dwat.
"Why didn't you buy your tickets at the station?" gofynnodd yn siarp ar ôl iddynt ofyn am brynu tocynnau.
Wel soooori. Pa fusnes oedd hi iddo ef ta beth?!?!
Felly, dyma'r pedair (odd gan un ohonom docyn yn barod) ohonom yn prynu child's ticket, yn hytrach na adult.
"You're all fifteen? Are you sure?"
"Yeeeeeees."
Twll 'i din e.

Cyrraedd Abertawe, ac i'r siope - wedi cinio yn McDonaldswrth gwrs! River Island, a'r holl dillad stunning i ddechrau. Petwan ond sawl maint yn llai, ac yn berchennog ar bar o goesau hir a thenau, fydden i wedi prynu'r siop gyfan. A wedyn off a ni i Primark. A weles i par o siorts serennog fanna fyd, se'n berffaith se nhw good modfedd neu ddwy yn hirrach. Mi roedd Miss Mynd a dwy o'r lleill yn golygu mynd i barti chweched QE High, a hithau'n fancy dress, felly roeddent yn twrio ymusg y dillad rhad am bethau pinc a sparkly - gan eu bod yn golygu mynd fel tylwyth teg.

Cyn mynd i'r sinema erbyn dau, galwon yn Claire's ac mewn siop ffansi dress... a prynais rhywbeth i mi. Ar y ffordd i'r sinema, roedd yna hen hobo â dwylo brwnt yn gwerthu'r Big Issue. Fel arfer, dwi byth yn botheran, a mae'r rhai sy'n gwerthu'r Big Issue yn nre Caerfyrddin yn wel dodgy. I mean, pam fod menyw a dant o aur yn honni ei bod hi'n ddigartref er mwyn gwerthu'r Big Issue?! Ta beth - hen hobo, dwylo brwnt, ond roedd yn rhaid i fi stopio i brynu'r Big Issue. Dwedais wrtho i gadw'r newid, a brysiais i ddal lan gyda'r lleill gyda chopi o'r Big Issue... copi â llun o Matthew Rhys a Keira Knightley ar y blaen. Does dim eisiau dweud mwy felly.

I sinema'r Vue aethom i weld Sex and the City. Yr un yn Parc Tawe roeddwn i fel arfer yn mynd i, felly profiad newydd. Doedd e ddim yn bell o westy'r Morgans, ac yn dawel bach, fe es i'n emosiynol iawn, gan feddwl am Matthew Rhys yn brysio i ffwrdd o'r ffotograffwyr drwy ddrws yr ochor. Anyway, y ffilm! Er mod i erioed wedi gweld y gyfres deledu, roedd hi'n brilliant! Chick flicky ofnadwy, ond dwi'n sucker am y math 'na o ffilm. Stori am Carrie, Charlotte, Miranda a Samantha, yn son am gariad a maddeuant. Roedd hi'n brilliant, braidd yn predictable, ond dyna hi, dwi'n hoffi meddwl mod i'n glyfar ac yn gallu guessio'r diwedd. Er, doedd dim un o'r dynion mor olygus a 'ny i berson ifanc. (h.y dim Matthew Rhys - dim hyd yn oed trailer The Edge Of Love ar ddechrau'r ffilm cofiwch!)

Roedd yn rhaid i ni wir frysio i ddal y tren adre, a hyd yn oed wedyn, mi roedd hi'n packed! Fi wedi gweld fideo off Youtube ar Richard and Judy, rhywle yn Japan, pobl sydd yn cael eu talu i wthio pobl i mewn i'r tren, a'i stwffio nhw i mewn, gan ei bod hi mor brysur a shwd gymaint o bobl am ddefnyddio'r tren ar yr un pryd. Roedd eisiau'r rheina yn Abertawe ddoe. Lwcus mod i'm yn claustrophic, neu fydden i wedi cael ffit yn y fan a'r lle (roeddwn yn sefyll reit o flaen y cwpwrdd First Aid, felly fydden i wedi bod yn OK really). Doedd braidd dim lle i symud, roeddent fel sardines mewn tin. Ond o leiaf doeddwn i ddim reit ar bwys y toilet, fel tro dwethaf fues i'n teithio mewn tren a oedd yn torri pob rheol Health And Safety (boo, hiss!) - achos dwi'n cofio'n iawn i mi neidio mas o 'ngroen wedi i mi wasgu'r bwtwn fflysh yn ddamweiniol!

Cyrhaeddom Caerfyrddin eventually, lle roedd Mam yn cael good chat gyda mam Miss Mynd (sy'n fenyw lovely!) tra'n aros amdanon ni. Cefais orchymyn fy mod i fod mynd draw i gael sleepover rhyw bryd. Diolch am y cynnig, ond dwi wir yn casau sleepovers.

Egwyl Rhwng Dau Outing
A minnau off y tren tua chwech, doedd Mam a finnau ddim yn gweld pwynt mynd adref, a dychwelyd nôl i'r dre erbyn hanner awr wedi saith. Off a ni i Morrisons am goffi (Coke i fi, gan nad wyf yn yfed te na coffi). Prynodd Mam bron bob magazine oedd ar gael ar yr un! Gwelon un o ffrindiau Mam, a daeth hi i'n joino ni. Felly eistedd yna yn gwrando ar y ddwy yn gossipo wnes i. A cyn mynd, fe wnaeth Mam yn siwr mod i'n cael Job Application Form. Mae ei hint hi mor subtle... (sylweddolwch taw sarcastig oedd y frawddeg honno).

Indians! - a Timothy Tree
Fe wnaethom bigo Pero lan o'r cyfeiriad dwi'n cael yn anghywir bob tro, sef 53 Sycamore Way, a'r ddwy ohonom cyrraeddodd yn gyntaf. Eisteddom, a daeth Wolfy i ymuno â ni, yn gwisgo ffrog fach haf mega ciwt. Yna Deryn Du, yn gwisgo top oedd hefyd yn lysh.

A off a hi, dros y popadoms a'r cyrris, roeddem yn siarad non-stop - a finnau'n bwyta non-stop. Mae angen i mi stopio bwyta gymaint, achos bore ma roeddwn yn teimlo'n hollol sick ar ôl y wledd neithiwr. Roedd Wolfy, fel y tro dwethaf aethom allan am Indians, ar brofiad gwaith gyda'r vets eto, felly cawsom glywed "The Anecdotes From The Animal Hospital". Clywom am sut roedd hi'n hwpo ei dwylo hi i mewn i anifeiliaid random a sut roedd hi wedi llwyddo i gael cachu ar ei gwyneb (cachu nad oedd yn frown, fel pwdin Pero, on yn wyrdd... fel y stwff coconut 'na roeddwn yn dipio'r popadoms i mewn i)... a fe wnaeth hi gymharu'r Chicken Korma i pus rhyw anifail hefyd. Lovely. Er, ni stopiodd hynna fi rhag bwyta'r stwff.

Caeth Wolfy wybod am fy mhrofiad gyda Matthew Rhys. A fe wnes adrodd stori'r Dyn A'r Big Issue. Mae'r dair arall wedi penderfynu fy mod yn hollol obsessed - bach yn rhy hwyr, gan fy mod i'n gwybod 'na eisioes.
Cafodd y dair ohonom hefyd gyfle i llongyfarch Wolfy i'w gwyneb, am rhoi'r Goeden yn ei lle. Tra'n siarad amdani - daeth atgof rhyfedd iawn i feddwl Pero.
"Oh my god, do you remember Timothy Tree? That used to be in Mothercare or like a baby shop somewhere!"
TIMOTHY TREE!

Yn Mothercare, blynyddoedd yn ôl, a minnau ond wedi dod allan o nappies, roedd yna goeden enfawr yng nghanol y siop. Roedd hi'n ddeleit i mi, fel plentyn, i wasgu'r bwtwn a clywed y goeden fawr plastig yn siarad! Waw... wel... roedd gan Timothy Tree wraig hefyd, cyn iddynt ddiflannu o'r siop... a dyma'r theories yn dechrau!

Y Goeden yw "Secret Love Child" y ddau goeden, a bu'n rhaid iddynt adael i fagu eu plentyn! Am sgandal!

Fe wnaethon ni chwerthin shwd gymaint. A dyma Wolfy, yn eithaf randomly, yn dod allan a'r frawddeg "Drumroll please!... I was taller than a vet!". Roedd hi'n swno mor browd, roedd y dair arall ohonom yn rowlio chwerthin.

Diwedd y noson, aeth y dair ohonom allan i sefyll, a tra'n aros i'n rhieni ein pigo ni fyny, dechreuodd rhyw ddyn diethr gerdded tuag atom o gyfeiriad y mart. A dyma Deryn Du a Pero yn dechrau chantio "he's going to rape us! he's going to rape us!" wrth iddo ein pasio ni i fynd i mewn i'r Indians! Roedd e'n syllu arnom trwy'r ffenest hefyd tra'n bod ni'n siarad gyda mam Wolfy a Percy a Snap y cwn, a oedd bach yn creepy.

A wedyn, a hithau tua ddeg, ac ond wedi dechrau tywyllu - roedd Wolfy bellach wedi mynd - roedd hi'n anffodus, yn amser i fynd adref.

Heddiw
Nes i'm dihuno nes hanner dydd.

A gan mod i neithiwr wedi dweud wrth y lleill fod yn rhaid iddynt ddod ataf i rhyw ddydd, gan fod gennyf Juno a'r DVD, mae'n rhaid i mi wir glanhau'r ystafell wely.

A dyma fi, am ddau o'r gloch, yn eistedd yma yn teipio o hyd, ac ond wedi mynd a dau blat brwnt i'r dishwasher ac wedi gosod un par o jeans ar hanger. Ond wedi newid allan o'n pyjamas ydw i, a fi'm wedi glanhau'n nannedd na wedi neud dim i ngwallt. Mae gen i Look magazine a'n Application Form Morrisons yn fy nghol.

Dyw heddiw ddim yn mynd i fod mor exciting.

Tuesday 24 June 2008

Diwrnod Diflas O Lanhau

Heddiw, dwi gorfod tacluso'r ystafell wely.

Llwyddais i rhoi'r dasg off wythnos dwethaf, a minnau'n cwyno fod gen i wddf tost. Ond a fi'n 100% holliach, dwi gorfod cael gwared o'r holl lanast. Eek.

Nawr, yn bersonol, gallen i fyw yng nghanol y stwff i gyd am fisoedd. S'da fi ddim byd unhygenic yna - dim dillad isaf brwnt sydd wedi bod yn gorwedd ar y llawr am ganrifoedd, a dim bwyd llwyd sy'n tyfu mould drosto. Dim ond dillad a sgidiau a llyfrau ysgol. Fi'n fodlon dringo drosto - dim problem. Fi byth yn gwahodd ffrindie draw, ond dyw hwnna ddim yn broblem i fi chwaith. Yr unig broblem s'da fi am y mess yw mod i'm yn gallu ffeindio fy Westlife CD, ond dyna ni, galla i fyw heb hwnna, a ma' pawb yn meddwl mod i'n mad mod i'n becso lle ma' hwnnw ta beth.

Ond na. Mae'r rhieni yn mynnu. Rhaid glanhau'r ystafell wely.

Felly tra bod Without A Trace yn dechre (nes i'm dihuno'n gynnar iawn, er i mi fynd i'r gwely am gwarter wedi deg), roedd rhaid i mi dwrio trwy'r hen lyfrau ysgol. Wedodd Mam ei bod hi moyn nhw mewn bocs am ryw reswm, ond stuff that - ma' Gwyddoniaeth a Mathemateg a Drama yn cael mynd yn syth... a gwynt teg ar eu hole nhw. Hwyl fawr i Drama, a'r Saer Doliau (drama mwayf crap y ganrif, sori ffans o Gwenlynn Parri), a'r ast o athrawes sydd eisie popeth ffordd ei hun (whatever happened to artistic lisence?), hwyl fawr Mathemateg, y rhifau, y fformiwlau sy'n nofio yn fy mhen ac yn gwneud braidd dim synnwyr, a diolch byth, dim Trigonometry na Pythagoras byth eto, a hwyl fawr Gwyddoniaeth, hwyl fawr Biol gyda'r dyn blin, a dysgu am fflipin ffotosynthesis, hwyl fawr Ffiseg, y dyn diflas, a dysgu am DDISGYRCHIANT (I doubt fod y boi dal heb sylweddoli pa mor boring yw ei bwnc e), a hwyl fawr Cemeg, Cemeg gyda'r athrawes doedd neb yn gwrando i, a Cemeg sydd yn llawn Cemegion, Cemegion nad wyf yn, nag byth yn mynd i allu deall.

Ma' rhanfwyaf o'n stwff Saesneg i wedi cael ffling i'r bin fyd, gan fod yr athrawes yna mor anrhefnus, roedd gen i tua ddeg copy o'r un "Mark Scheme". Gallen i bapuro'n ystafell a'r holl gynlluniau marcio.

Erbyn i Loose Women ddechre, cefais ddigon ar y stwff ysgol, a mae'r bin glas ailgylchu'n hanner llawn erbyn hyn. Symdais ymlaen, roedd hi'n amser i sortio'r sgidiau. Dwi'm yn mynd i ddatgelu'r nifer (lot), ond trystwch fi, ma' 'da fi ddigon i ddechrau siop shoes. Dwi wedi eu gosod mewn rhes tu allan i'r drws, yn y passage am nawr, tra mod i'n sortio pethau mas... much to the parental unit's delight, dwi'n siwr.

Eto, cefais hoi fach i wylio Whose Line Is It Anyway?. Meddwl se bod yn ddoniol yn gwell arf i gael sboner na bod yn daclus... Darllenais bore 'ma fod Matthew Rhys yn daclus. Hei, s'dim eisiau i fi fod yn daclus felly!

Stopiais wedyn i lanw lan y Tesco Application Form, cyn fod rhywun yn ei staenio a cylch cwpan coffi (fel sy'n dieddol o ddigwydd i bopeth yma), ond a'th y tic boxes i gyd yn drech arnaf. Mae e nawr ar agor ar fwrdd y gegin, jyst er mwyn dangos mod i actually wedi ei ddarllen heddiw.

A nawr dyma fi'n 'sgrifennu at fy mlog.

Mae angen i mi sortio'r dillad allan, ac mae'r pentwr o lyfrau a taflennu ysgol dal yn anferth. A dwi dal heb ffeindio fy albwm Westlife... Mae yna fynydd o fess ar yng ngwely - fydd siwr o fod rhaid i mi gysgu ar y soffa heno.

Dylen i wedi mynd i Abertawe gyda Speis a'i gang wedi'r cwbwl, osgoi'r ystafell yn gyfan gwbwl. Dyw cuddio'n ddim sbri.

Monday 23 June 2008

Dudette In Demand


Mae'n ymddangos fel petai pawb moyn fy nghwmni yn ddweddar.
Heddiw, dyma fi a Pero, fel wnaethom drefnu ers spel, fynd i'r dref am dro. Roedd y ddwy ohonom arfer treulio bob dydd Sadwrn yn y siope, yn siopa a gossipo a bod yn girlie. O'dd hi'n hen bryd, a ni'n dwi heb ddim adolygu i wneud, i ddal lan a'r hen ddyddiau!
Cawsom sbort. O'n i 'di anghofio pa mor random a awesome ma' Pero yn gallu bod, a par mor mad ni'n gallu bod yng nghwmni'n gilydd. Wrth gwrs, es i mlan a mlan am fy mhrofiad bythgofiadwy, tra bod hi'n jocan gwrando. Cerddom rown dre - a gallaf ddatgan, nid yw fy esgidiau porffor newydd wedi cael ei gwneud i gerdded long distance. Fi'm yn credu eu bod nhw'n dda iawn ar gyfer short distance chwaith.
Am rhyw reswm, penderfynodd y ddwy ohonom brynu hair extensions lliwgar o Peacocks... a la Taz and Cal, emo style. Ces i rhai coch, gan fy mod yn gwybod fod Jack White ei hunan yn hoff o wallt coch, ac felly mae gwallt coch yn cool, tra prynodd Pero rhai proffor (lliw oedd yn gweddu'n dda 'da'n outfit i), am nad oedd yna rai glas yn y siop.
Hefyd, wrth gwrs, tra'n bod ni yn y dre, roedd rhaid checko yn Poundland am Glowsticks... mae Pero wedi bod yn picio i mewn yna bob hyn a hyn am glowsticks, gan ein bod wedi cael rave yn ysgol unwaith ac wedi cael shwd laugh pan brynodd hi becyn tro dwethaf. Anlwcus bu hi yn ei ymdrechion i gael glowsticks yna o'r blaen, ond y diwrnod yma, diolch i'r lwc a'r karma da sy'n fy amgylchynnu yn ddweddar (I mean, mae'n rhaid mod i wedi bod yn lwcus i achosi dydd Gwener i ddigwydd), dyma ni'n gweld bocs llawn Glowsticks! A ninnau'n Poundland, guesswch baint odd eu pris nhw? Cheap as chips!
Yn ogystal a gorfod mynd i weld y deintydd am bedwar o'r gloch (wedodd hi fod ym mrwsio i'n gwella - diolch i Dduw!), roedd hi'n ddechrau prysur i'r wythnos.
Ond fel mae'r teitl yn dweud, dwi'n "Dudette in Demand" (a dwi heb ddefnyddio'r gair "dudette" am sbel... dwi'n gweld nawr pam dwi'm yn i ddefnyddio'n aml - naff or what?).
Dydd Gwener dwethaf, cefais wahoddiad wnaeth fy synnu, ag achosi i mi gwympo o'r gadair roeddwn yn eistedd arni. Gwahoddiad drwy dext gan Speis i ymuno gyda hi a PetVet a dwy ffrind arall i fynd i Abertawe. Wrth gwrs, mae Matty off yn Canada, ac roeddwn wedi cael syrpries gan fod dim son am Miss Mynd yn cael gwahoddiad... sy'n beth rhyfedd. Ta beth, yn anffodus, bu'n rhaid i mi esgusodi'n hun o'r get-together bach yna, gan fy mod "yn mynd i siopa gyda Anti-Bionic". Falle a i y tro nesaf. Ond dwi'm yn barod i gael Speis yn rhan o'n haf i eto, a fyddai'n rhedeg mas o esgusodion cyn bo hir.
Bore 'ma, cefais wahaddiad i ddathlu penblwydd Miss Mynd. Roedd hi'n 16 ddydd Sadwrn (21st, r'un diwrnod a Prince William). Mynd i weld y ffilm Sex and the City dydd Mercher. Ond wrth gwrs, dwi'n mynd i gael Indians nos Fercher gyda'r merched - a dwi'n mynd ar yr amod bod ni nol yng Nghaerfyrddin erbyn chwech, hanner awr wedi ar yr hwyraf. Felly, dydd Mercher, dwi'n mynd i Abertawe ar y tren (ddim yn siwr faint o'r gloch eto, wneith hi dextio), i siopa a wedyn gweld Sex and the City, a wedyn dod nol i'r dre i fynd i gael Indians gyda Pero, Deryn Du (os ddeith hi nol o Center Parks mewn pryd) a Wolfy. Go, go, go.
Bwmpes i mewn i Miss Mynd a ffrind iddi (un arall heb codename - dwi'm yn gallu enwi pawb!) yn dre gyda Pero. Wedodd hi dextie hi fi gyda'r manylion, gan fod hi'm yn siwr iawn ar y pryd. Dwi dal ddim yn siwr os yw Speis a PetVet wedi cael gwahoddiad, a dwi'm di gofyn. Fi'n edrych mlan. Es i'm i'r parti penblwydd dwethaf, "stumog tost", ac er mod i'n gwybod mod i'n conan fod Miss Mynd yn neglecto fi a'r lleill, r'un a man i fi fynd a joio. Ac wrth gwrs, dim ond ar y ffordd adref meddyliais bydd yn rhaid i fi gael anrheg... a finnau'n dod o'r dref ac yn gorfod cuddio adref fory. D'oh.
Hefyd, dwedodd Anti-Bionic, er mwyn dathlu ei phenblwydd hi (29th...efallai 28th... digon agos!), ni'n mynd i weld The Edge of Love yn y sinema'r penwythnos sy'n dod. Wel, dwi'm yn mynd i wneud esgusodion, fe ai i weld y ffilm 'na os taw dyna'r peth dwethaf dwi'n neud - ni gyd yn gwybod pa hync sy'n y ffilm yna! Mas am swper wedyn i Frankie and Benny's siwr o fod. Neis.
Ma' pawb moyn darn ohonai. Dyw'n social calander erioed wedi bod mor llawn... mae'r peth yn sioc i'r system.
Well i fi rhoi'n nhraed lan nawr, fy nhraed sydd yn sore ac yn flinedig diolch i'r sgidiau, cyn bod rhywun arall yn fy ngwahodd i rhywle.

Sunday 22 June 2008

Fy nghar bach i!

Gan fy mod yn troi'n 17 ym mis Hydref (ar y 23rd - dwi'n hoffi anrhegion hint hint), mae'r rhieni 'na sy' 'da fi wedi dechrau chwilio am gar.

Heno, cefais weld un roeddwn i'n meddwl oedd yn berffaith.

Vauxhall Corsa bach silver, o Lanelli, model 2000, so car bach crwn - dwi'm yn licio'r ceir sgwar 'na. Mae ceir bach crwn fel y KA yn ciwt. Dwi wedi mynd braidd yn emotionally attatched yn barod. Petawn yn cael y car welais heno - am bris o tua £2100 - mae gen i enw'n barod iddi. Strawberry. Strawberry, fy nghar bach i.

Golygaf fynd a pawb am dro yn fy nghar i. Am bob tro mae Mamgu wedi mynd a fi i'r deintydd, dwi 'di addo mynd a hi yn fy nghar. Am bob tro mae Mam wedi mynd a fi am spin yn y car pan dwi'n bored, dwi 'di addo mynd a hi fyd. A dwi hefyd wedi cynnig fy hun fel taxi service, pan fydda nhw moyn sesiwn yn dre. Gallaf fynd ble fyddai moyn, pryd bynnag fyddai moyn. Os fyddai moyn mynd i weld rhyw ffilm yn cynnwys Matthew Rhys yn y sinema, off a fi, gallaf fynd. Os fyddai'n teimlo fel jyst prynu DVD CSI newydd, off a fi, jyst mynd. Gyda'n jobyn dydd Sadwrn yn Tesco (rhaid i fi llanw'r application form mewn gyntaf), gyda Biko-Eco sy'n golygu gweithio na lol, galla i dalu am betrol (petrol oedd y car heno, dim diesel). A off a fi yn fy nghar bach i! Fi ffealu aros!

Dwi hefyd heddiw wedi dechrau trial darllen On The Road gan Jack Kerouac eto. Pan fyddai'n gyrru, I doubt fyddai off the road.

Saturday 21 June 2008

Dal i freuddwydio am y dyn perffaith...


Un problem sydd.
<---

Fydd rhaid i ni ffeindio crys rygbi'r Scarlets iddo fe - GLOI!
Er, mae'r crys na yn i siwtio fe...

Friday 20 June 2008

Matthew Rhys - Yr Ennillydd

Oh. My. God.

Treuliais ddoe yn droolio dros y dyn ei hyn.

Heddiw... dyma fi yn dod yn ddigon agos i fi ei gyffwrdd e.

Roedd Mam wedi bwriadu mynd nol a cardigan goch i Debenhams ers ages, a dyma ni'n trefnu, gan ei bod hi ar gwrs a'n gorffen yn gynnar, bod ni'n mynd pnawn ma. Felly cefais fore i fy hunan yn watcho telly - Jeremy Kyle, Frasier, This Morning, Without a Trace, Loose Women, a bach o Whose Line Is It Anyway? - cyn i Dadcu ddod i'm hol i, dropo i off yn dre. Yn y dre, es i Smiths am Heat magazine a packet o chewing gum, os oeddech am wybod, a wedyn pigodd yn fam i lan i fynd ymlaen i'r ddinas.
Yn y bore, cyn y mynd i'r dre, cefais dext wrth Anti-Bionic, yn gofyn os o'n i'n ffansio mynd i weld The Edge Of Love a/neu Sex and The City Movie dydd Sul. Wel, wrth gwrs, dechreuais ar fy "I LOVE MATTHEW RHYS" thing, ond do fe. A dyma fy annwyl anti yn dweud wrthaf am yr arddangosfa o brops a dillad o'r ffilm yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, a fod chance fod Matthew Rhys 'na.
Doedd dim eisiau dweud mwy.

Yn Abertawe, dyma Mam a fi'n siopa - fi'n hollol bored, achos fi wedi hen benderfynu mod i'm yna i siopa, a dwi'm yn rhy hoff o siopa anyway. Roedd hi'n gorfod edrych ar pob dilledyn, ac yna bigodd cardigan fach frown i brynu, a wedyn dechre'n llusgo i rownd to i chwilio am rhywbeth i fynd gyda'i.
O'r diwedd, dyma ni'n dechrau chwilio am y Ganolfan.

Wel, taith ar droed hir ddaeth nesaf. Boring, boring. Erbyn hynny, doedden ni'm yn meddwl fyddwn i'n cwrdda fe, er mod i'n gwisgo'r "Lucky Bobble Coch" gwisgais drwy gydol yr exams. Cyrhaeddon na, wedi blino a'n chwys domen, ac yn union wrth i ni gyrraedd, dyma na lu o bobol mewn siwtiau yn dod mas. Roedd y ddwy o ni'n darllen yr arwydd amser agor, a dwedodd hwnnw fod y lle'n cau am 4.30, a roedd hi'n anelu at ugain munud i bump pan dechreuon ni na o Debenhams.
A tra bod ni'n dwy'n sefyll yna, dyma fe'n dod allan.
Matthew Rhys.

MATTHEW RHYS!

Fflipin heck, mae e'n lysh ar y teledu, ond yn y cnawd, waw.

Love at first sight, cwympais mewn cariad yn y fan a'r lle. Doedd Mam ddim yn excited o gwbwl, ond yn y car, nath hi gyfaddef i fod hi'n meddwl fod e'n dipyn o hync.

O'n i mor shocked. Odd Matthew Rhys, na o'n flaen i. O'n i'n rhy starstruck i gael llun ohono... Fi'n cico'n hunan nawr. A nath Mam a minne ei wylio'n cerdded lan y stryd, ceisio dianc o'r paparazzi i gyd drwy ddrws ochor Gwesty'r Morgans. O'n i moyn mynd ar ei ol e, a petai Anti-Bionic gyda fi, fydde hi'm wedi meddwl ddwy waith. Ond na, doedd Mam ddim mor keen. Roedd y carpark yn cau am 7. SAITH. Doedd hi'm yn chwech eto, ond na, roedd rhaid mynd am nol.
A ges i'm yn lun wedi tynnu 'da Matthew Rhys. Mi rwyf yn idiot. O'n i bach yn gutted, ond yn falch mod i wedi ei weld e. Ooo... odd e mor, fel fyddai Ami Ymennydd yn dweud, "megastunninlush"!
Cerdded nol, a finnau'n gweiddi lawr y ffon yn hysterical wrth yn anti "WELES I MATTHEW RHYS ON CES I'M CYFLE I GAL YN LUN WEDI TYNNU DA FE A FI YN MEGA IDIOOOOOOOOOOOOOOOOOT!", fe wnaeth Mam yn nhynnu i nol i siopa. Mewn i New Look, a fi'n meddwl am ddim on Matthew Rhys, a'n nhynnu i nol i Debenhams, er ein bod ni eisioes wedi bod rownd y fflipin lot yn barod.
"Meddwl am ddillad haf i ti," wedodd hi gan dynnu'r dilledyn tie-dye a ser ych-a-fi 'ma off hanger. "Neis?"
"FI FFEALLU CONCENTRATO AR SIOPA!"
Gwffes i brynu par newydd o sgidie i cwlo'n hunan lawr.
Pumps bach porffor. Ciwt iawn. Bellach, nhw yw'r unig souvenir sydd gen i gofio'r diwrnod, amazing hwn. Yr unig proof solid ei fod wedi digwydd.
Mae'r diwrnod hyn, fel yr 22ain o Hydref 2006, yn mynd i fod yn y co am byth.
A gan fod Mam wedi cytuno taw Mr Rhys yw'r un golygus, dyma fi wedi ennill y frwydyr. A hefyd, dwedais wrthi fod Rhys Ifans wedi cracio'r joc gweathaf yn y byd - "Why is peadophilia so popular? Cos kids are so damn sexy?" - a ath hi off e'n syth. Diolch byth - sens o'r diwedd.
A dyna ni. Galla i ddim cwyno fod dim byd diddorol yn digwydd i fi. Ces i weld Matthew Rhys heddi. A cafodd yn Nhad wybod, in advance, pwy yw ei fab-yn-nghyfraith.
Mrs Matthew Rhys. Dyw e'm yn swno'n rhy ffol...

Thursday 19 June 2008

Lladd Amser - y llyfr perffaith er mwyn gwneud.

(fi'n gwbod, trydydd post heddi, ond ma' 'da fi lot i weud)

Lladd Amser gan Lyn Ebenezer yw'r llyfr dwi'n darllen ar y foment. Horror, a stori llawn bwci bos. Y cydddigwyddiadau yn y nofel sy'n ei gwneud yn spwci. Mae ambell beth yn dod lan yn aml - y cyfenw Wilson, y pethau ma a'i penne'n cwmpo bant etc. Da, ond dim mor dda a Dan Gadarn Goncrit (nofel orau'r byd end of), dim quite mor contreversial a Bitsh!, ond good. Roedd hi'n gyfoes, a ma hynny'n gwneud hi'n good, ac o'dd hi'n wreiddiol, gan fod y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg yn dueddol o fod yn hen ffasiwn, neu'n llawn secs scenes, er mwyn ei werthu (sydd byth yn gweithio... a ma' pethau fel na yn swno'n ych yn y ffordd ma' awduron Cymraeg yn ysgrifennu). Tafodiaeth y de 'fyd. Change.

Ond, i fynd ymlaen... Neithiwr... Dyma fi'n cwrdd a'r goruwchnaturiol drosof i fy hun... Galwch fi'n mad, dwedwch fod i'n gweld pethau, ond... ges i llond twll o ofan!

Tra'n gorwedd yn y gwely neithiwr (gwely dwbwl hiwj, ma' fe'n brilliant), teimlas y matras yn symud, fel petai rhywun yn ei symud nol. Dyma fi'n stopio, a meddwl o ddifri... na... ond symud yn ol, yn ol... Dychymyg. Troes i'r cyfeiriad roedd y matres yn cael ei dynnu... a dwi'n addo... fi'n siwr i fi weld cysgod mawr ysbryd yno... wel, a hithau'n ganol nos ish, o'n i'm yn credu mod i moyn inspecto bellach, felly neidio i wynebu'r ochr arall, fy llygaid ar gau a'n dal fy nhedi'n dynn wnes i!

(A ydw, fi yn dal i gysgu gyda tedi. Tedi o'r enw Pikachu. Problem?)

Felly dyna fi'n rhannu fy mrhofiad o'r goruwchnaturiol gyda chi. Falle taw aliyns wela i heno. UFO yn gwibio drwy'r awyr. Fy mhrofiad - i'w ddisgrifio, ddefnyddiau linell olaf Y Llwynog gan R Williams Parry
"Digwyddodd, Darfu, Megis Seren Wib".

Rhys Ifans vs Matthew Rhys

Na, dyw Sienna Miller ddim really yn rhan o'r post yma (dwi'm yn ffan) - ond hi ddechreuodd y peth.
Tua wythnos yn ôl, gollyngodd Mam dipyn o bomshell.
"O'n i arfer mynd i meetings Cymdeithas Yr Iaith 'da Rhys Ifans."

Wow. Meddylais. Wow, as in, slow down byt. Ffrindiau gyda Rhys Ifans yn ei heuenctid? A nawr mae hi'n datgelu'r peth? Fi wedi bod yn un sydd a Hollywood connections, ac ddim wedi cael gwybod hynny, nes nawr!

Yn ôl Mam, odd e'n dipyn o rebel, ac yn wladgarol iawn. A doedd hi'm yn synnu darllen yn y papur ei fod wedi mynd ar 24 hour booze cruise, am ei fod yn torri ei galon dros Sienna. Y Sienna Miller, yn ôl y papurau newydd, sydd wedi ei adael am Matthew Rhys.

"Dwi'm yn beio hi," dwedais ar y pryd. "Ma' Matthew Rhys yn well ffit... a drych a hwn. Ma' fe'n edrych fel hobo!"
Gasp, daeth o wefysau'n Fam. "Na! Na! Rhys Ifans!"

A dyma'r rhyfel rhwng Mam a Merch yn dechrau. Rhys Ifans VS Matthew Rhys.

Fel ddwedais, mae Rhys Ifans yn edrych fel hobo. Pam mynd, am un sydd, eto, yn ôl y papurau a'r cylchgronnau, yn paranoid (checkio texts ei gyn-gariad), yn hen, yn scruffy, yn alcaholic (24 hour piss up) ac o achos yr holl alcahol - obviously not a gentleman... pan gallwch ddewis yr anhygoel Matthew Rhys, y dyn perffaith?
Job da ar Brothers & Sister, mop o wallt tywyll sydd yn daclus (ma Rhys Ifans yn edrych fel blydi bwgan brain), llygaid golau, dyn golygus, cyhyrog, natur tawel, mwyn, yn dalentog, glyfar (chwarae rhan Dylan Thomas, I doubt fydde Ifans yn gallu neud na)... ac wrth Googlo ei lun, dwi newydd ffeindio mas taw fe yw llais y Spiderman Cymraeg. A ma pawb yn gwybod taw Spiderman yw fy wir arwr. Ei wir arwr e fyd. Mae hyn jyst yn gwella.

Os yw'r suon yn wir, a bod Sienna wedi dychwelyd i freichiau Mr Rhys, dwi'm yn ei beio hi. Fflipin hec, petawn yn gorfod dewis rhwng Top Gear a Matthew Rhys, yr actor fyddai'n ennill y ffordd dwi'n teimlo nawr.

Fi'n bendant taw fi sy'n ennill Rhys Ifans VS Matthew Rhys.

Ma Mam yn honni taw apel Ifans yw ei fod yn rebel (doedden ni'm yn gwbod cyn hyn fod Mam yn cuddio shwd teimladau am fechgyn drwg!). Ond rebel? C'mon. Mae pob merch yn dysgu'n y diwedd taw ond torri calonnau gall rebel wneud. So there. Matthew Rhys FTW.

A ma Anti-Bionic yn cytuno a fi. Matthew Rhys dros Rhys Ifans unrhyw ddiwrnod.

Ta beth, bwriad y blog yma yw i jyst adael pawb i wybod - ngwr i, ewch o ma. Move on. Dwi wedi clywed fod Rhys Ifans yn sengl!

Y Cyfoes - newidwch eich enw i Y Cymleth

Bechgyn. Os rhaid i mi ddweud mwy?

Y Cyfoes - band tri ffrind i mi, tri ffrind yn cynnwys Dafad a Scum (s'dim nickname 'da fi ar gyfer y llall sorry).
Neithiwr, fel digwyddodd i Busted, bu Bust-up. Dafad yw Charlie. Roedd Charlie yn un o Busted, ac roedd wedi ffurfio band arall, Fightstar. Well, mae gan Dafad "fand" arall - The Red Herrings.
Doedd Scum na'r llall ddim yn bles iawn. Dyw e ddim yn hoffi pobol sydd a dau fand (gobeithio nad yw'n cyfri The Raconteurs!).

Ta beth, pan geisiais gael Scum i fod "yn ffrindiau" gyda Dafad eto, dechreuodd ddyfynnu Shakespeare i mi.

"I hate ingratitude more in a man,
Than lying, vainness, babbling drunkenness,
Or any taint of vice, whose strong corruption
Inhabits our frail blood" (Twelfth Night)

(Mewn geiriau eraill, fyddai dim ots ganddo petai Dafad yn gelwyddgi, yn vain neu'n pisshead, ond ffaith fod e'n meddwl fod Dafad yn anniolchgar, doedd e ddim yn hoffi... ie.)
Ma' Dafad llawer rhy neis. Dyna'i broblem e. Wel, "problem" - ma bod yn rhy neis yn beth da, ac yn beth gwerthfawr yn y byd mawr creulon hwn. Dyw e ddim yn meddwl rhoi dolur na ypseto neb.

A fel ddwedais wrth Scum (fi'n casau galw fe'n na, ond fi'm yn gallu meddwl am code-name gwell iddo fe!), "
with Y Cyfoes, you three have a good thing going" - a oedd yn neud iddynt swno fel threesome... nid rhywbeth dwi'n hoffi ei ddychmygu, ew. (Matthew Rhys, Eric Szmanda a George Eads mewn threesome, gwahanol fyddai'r farn!).

Hefyd, bwyntiais allan fod gan Y Cyfoes lot gwell chance o bara na The Red Herrings. A gan fod Dafad wedi ymuno a BO Joe i ffurfio ei ail band, dwedais, gan fy mod mor witty, "they will stink". "Literally" cytunodd Scum.

Wedyn ceisiodd ddysgu fi sut i sillafu literally'n iawn, gan fy mod wastod yn ei gael yn rong. Sprite Lite Rally!
Gobeithio wneith y bois sorto popeth mas. Er i Dafydd Du ei rhoi nhw'n drydydd yn yr Eisteddfod (prick hen ffasiwn yw e, peidiwch poeni'n ormodol amdano fe), ma' 'da'r bois potensial i wneud yn dda.

So sort it aaawt like.

Wednesday 18 June 2008

Karma

Good karma, bad karma.

Yn hytrach na pydru o flaen y teledu heddiw, es i gyda Nhad ar "deliveries". Yn aml, mae Nhad yn cymryd break o'r byd amaethyddol i ddelifro sleepers a pethe fel na (in other words, god knows what) o fusnes fy anti ag wncwl i'r cwsmeried. Felly heddiw - fi oedd y passenger pert, a eisteddai fel brenhines yn ei sedd (nes i fi orffod ddringo mas i agor blydi iet), yn cael y cyfle i weld y byd... wel, i weld Cymru... Sir Gaerfyrddin (a Llandysul)...

Ar ein delivery cyntaf, dyma'r ddau ohonom yn cwrdd a Norman, ffermwr o ryw le yn dechrau gyda Maes ger Llandysul. Nawr, cyn mynd ymlaen, rhaid esbonio, fod Nhad o'r farn dylai pobol rhoi tips i'r rhai sy'n delivero sleepers h.y. ei dipio ef - er ei fod yn ennill £9 yr awr, a mae'r cwsmer yn talu delivery charge fel rhan o'r bil ta beth. Anyway, Norman. Dyma gawr o ddyn yn dod allan - Sais, gwallt llwyd, yn gwisgo dillad gwyrdd tywyll, wellies, ac roedd ganddo trwch o faw o dan ei winedd (mae'n nhw'n dweud fod mwy o facteria dan y gwinedd nag sydd ar sedd toiled... ych...). Trwy ei ddannedd, sibrydodd fy Nhad "paid a disgwl tip wrtho hwn."

A felly allan a Nhad i'w helpu dynnu'r... i dynnu'r... ok fi'm yn gwbod beth, stwff?... off cefn y lori fechan. Fi'n eistedd yn sedd y passenger, yn clywed dim ond dau ffermwr yn siarad am... ffermwri stwff, fel da... a dom da... Norman yn dweud wrtho Nhad lle i hwpo'r "stwff" glywais nesaf, a wedyn dyma Nhad yn rhoi'r stwff odd yn dal y stwff (sori, lot o stwff ma) wrth yn nhraed i yn y cab... a hol y recipt holl bwysig. Cash. Arian. (wel, cheque.) Wrth gwrs, Norman o'dd yn cael cadw'r recipt gwyn, tra ein bod ni'n cadw'r un pinc. Y tro dwethaf fues gyda'n Nhad yn y lori (ddoe) cafodd e fiver o dip, a'r dyn a ponytail a oedd yn byw ger Brechfa Forest yn dweud wrtho, "have a drink on me mate."

Heddiw, daeth Norman i ffenest y gyrrwr i ddweud ffarwel (a ni wedi dweud wrtho taw i Camarthen Demolition oedd y cheque yn daladwy i), dyma fe'n tynnu punt o'i boced. Ie, punt. Ac yn dweud, "to buy a drink... I'll give it to the goregous girl." Plis, 16 years old, a odd gwallt llwyd gyda fe... A gan fod rhaid i mi ddefnyddio spell check i sillafu goregous pop tro, dwi'm yn trystio neb sy'n defnyddio'r gair. Ond arian yw arian ar ddiwedd y dydd... "Thank you!"

Doedd Nhad ddim yn amused mod i'n mynd a'i dips e. A fuodd e'n gloi i bwyntio mas fod Norman yn amlwg heb fod mas i'r dafarn am ddrinc yn ddweddar, a taw'r peint rhata sydd ar gael dyddie 'ma fel arfer tua £2.80.

Felly dyma ni'n dod i'r pwnc o Karma.

I rhai a ofynnodd fel wnaeth Ian y Spaceman (peidiwch gofyn) i Jason wedi clywed y gair, "whos that?" - karma, yw pan ydych yn gwneud rhywbeth da, mae rhywbeth da yn digwydd i chi. A vice versa. Felly bad karma, gwneud rhywbeth drwg, mae rhywbeth drwg yn digwydd i chi.

Yn pasio Anti Megan yn sefyll tu allan i'w bungalow bach hi, dyma'n Nhad yn dweud "oo, odd hi'n edrych bach yn spwci fanna!". A felly dyma fi'n troi at yr un sy'n hoffi galw pobol tew yn "fatties" neu'n "bouncy castles" ac at y dyn sy'n hoffi commento ar edrychiad pobol eraill, a dweud - "Fi gath y tip 'na, am dy fod di'n cadw gweud pethau cas am bawb. Bad karma. Fi wastad yn gweud ooo ti'n gas, felly good karma, so fi gafodd y tip."

Karma. Syml.

So felly, bob tro odd Nhad yn dweud unrhyw beth negyddol roedd rhaid gweiddi "BAD KARMA!" (e.e, pan galwodd yr Americanwr o Cilycwm na adawodd tip yn prick). A'r r'un peth pan oedd yn dweud rhywbeth caredig, neu bod yn neis, roedd rhaid gweiddi "GOOD KARMA!" (e.e. pan gododd yr holl sleepers off cefn y lorri i'r un Americanwr).

Dyna ni really. End of.

Note to self : Check out Cilycwm.com - gwefan a hysbyswyd ar arwydd y pentref/shithole. I doubt bod nhw'n cael llawer o ymwelwyr... felly, good karma i fi!

Tuesday 17 June 2008

Chwynnwch Y Goeden!

ooo... hanesion yr helynt, dyma ni.

I ddechrau, ar ôl stwffio ein boliau â McDonalds rhwng dwy arholiad, dyma ni'r merched, yn cynnwys Bleu (c'mon, ni gyd yn gwbod fod e bach yn ferchetaidd, gwisgo cryse pinc if you know what I mean), yn dechrau siarad am fechgyn... Fi, Deryn Du, Pero a'r Goeden. Doedden ddim wedi gwahodd Y Goeden. Na Bleu chwaith. Ond oleia nad oedd Bleu yn mynd ar ein fflipin nerfau, nag yn embarassing o salw.

Felly ie, yn ôl i hoff bwnc siarad ni'r merched - bechgyn. A dyma hi'r Goeden yn dechrau siarad am Wolfy, a hithau ddim yna (wedi mynd i Morrisons - wel, y tro dwethaf cyn ny iddi fynd i McDonalds, fuodd hi bron a tagu ar asgwrn ffeindiodd hi yn ei McChicken Legend).

"I can see her trying to pull the fittest guy ever..." peth neis, cyn iddi adio, "...and failing miserably."

Fe glywodd hi nad oedden ni'n impressed. How very dare she, meddyliais i, Pero a Deryn Du ar yr un pryd. (Fi'm yn gallu darllen meddwl Bleu, sori).

Ta beth, cafodd Wolfy wybod. A doedd hi'm yn impressed.
Yn y gorffennol, mae'r Goeden wedi dweud fod Wolfy'n edrych fel "forty year old prostitute" - rhywbeth horrid i ddweud.

A heddiw, dyma'r cwbwl yn cico off!!!

Ffoniodd Y Goeden Deryn Du y pnawn 'ma, gan ddweud wrthi am edrych ar y comment roedd Wolfy wedi ei gadael iddi ar Bebo. A hithau bron yn wyth o'r gloch, a finnau'n eistedd yn gweddio fyddai Mrs Mike actually'n stopio siarad am Mike am ddeg eiliad, dyma Deryn Du yn dweud wrtha i...

"[19:57] Deryn Duf x - Don't accept rides from strange men, and remember that all men are strange.:
have u seen the comment wolfy left on y goeden's bebo?"

So dyma fi'n mynd i gael pip, obviously... a gweld, oddi wrth Wolfy...

"If you've got a problem with me, then why don't you just tell me, instead of bitching about me behind my back. Before you comment on anyone else's appearance, it would be wise to take a look at yourself, since your own appearance is hardly beautiful. Oh, and if I look like a 40-year-old prosthitute, the what does a 20-year-old prosthitute look like? A foetus?xoxoxox"

Dylen i ail enwi Wolfy'n Wordy Woman. Wordy Wonder Woman. Fair play iddi.

Yr unig peth o'dd Y Goeden yn gallu gwneud yn ol iddi (heblaw am ei bwrw a un o'i changau tew) oedd gwasgu'r botwm "Report Abuse"... ond heb ddeg neu fwy o rheina, sneb yn BeboLand yn eu cymryd yn serious, a I doubt ei bod hi'n gwbod na.

A Deryn Du cafodd y fraint o fod yn messenger girl...

"Rhoswen wants me to tell u that she hasnt said anything like that about u and who ever told u that must have said it because it wasnt here.and she has reported u for abouse or sumthin.She's all yours darling xxx"

O, pa mor ddiddorol o peti mae bywyd Y Goeden... Fydd dim un o'r coed eisiau bod yn ffrindiau a hi, a dim un creuadur na unrhyw un yma a code-name am siarad na gwneud dim a hi. Fydd? Pam ydw i'n cyfeirio i'r dyfodol pan ddylen gyfeirio at y presennol? Chwerthynllyd yw hi. Diolch i Dduw ei bod hi'n gadael i fynd i neud Celf yn y Coleg...

Er, mae hi am wneud come-back fel Lesbian Lover Deryn Du yn ystod y Sixth Form Ball.

Eek.

Lle Llen

Llongyfarchiadau i fi, am greu cyflythreniad mor original, i ddechrau pethau. A sorri bod dim to am y "llen". Fi'm yn gallu bod yn bothered i chwilio am "insert...symbol" a wedyn chwilio am yr un cywir. Stuff it. Dychmygwch fod un 'na.

Yn ail, rwyf am son am y llyfyr dwethaf darllenais - sef, Girl With A Pearl Earring gan Tracy Chevalier. Fe wnes ei fwynhau, felly dyma fi'n ysgrifennu review bach amdano. Llyfyr hanesyddol (wedi ei selio ar adeg y pla), am baentiad enwog yr arlunydd Johannes Vermeer o'r Iseldiroedd, a'r amgylchiadau tu ol i'r paentiad The Girl With A Pearl Earring (wrth gwrs, amgylchiadau ffuglennol, gan nad oes yna lawer o wybodaeth am y paentiad hwn). Cawn weld teulu Vermeer, drwy lygaid Griet, y forwyn newydd, a'r ferch sydd yn y darlun. Griet yw'r un sy'n cael y swydd o lanhau'r stiwdio - mae'n rhaid iddi osod popeth yn ei le yn ofalus, a gwneud yn siwr nad yw hi'n amharu ar unrhywbeth, rhag ofn iddi newid y llun. Mae Griet yn gweld ei hun yn cwympo mewn cariad gyda ddau ddyn - ei meistr - yr arlunydd ei hun - a mab y cigydd, Pieter. Mae'r Pieter ifanc, golygus, yn ei charu hi, ond caru ei gelf yn unig mae'r arlunydd. Mae'r arlunydd, yn dad o chwech (dad o unarddeg erbyn diwedd y nofel), yn ffafrio'r ferch ifanc, ac yn gofyn iddi ei helpu yn y gweithdy - drwy falu lliwiau paent a siopa ar ei gyfer ayyb - ond nid yw'n dweud wrth ei wraig. Roeddwn yn mwynhau'r llyfyr, ac yn hoff o gymeriad dirgel yr arlunydd - nad oedd braidd byth yn cael ei enwi gan Griet yn y nofel, gan wneud iddo ymddangos yn gymeriad mysterious iawn - ac yn hoffi'r ffaith ei fod yn ymddangos fel petai wir yn teimlo rhywbeth am Griet, ac am ei ychwanegu hi i'w fyd ef yn y stiwdio, er ei fod yn mynnu cadw ei wraig a'i deulu o'r byd hwnnw. Er, annoyed oeddwn ei fod yn cadw cael plant gyda Catherina, er ei fod yn amlwg yn siwtio Griet yn well. Roedd y llyfyr yn werth ei ddarllen. Dwi'n ei recommendo. Gweld y ffilm fi moyn neud nawr.

Yn drydydd, yn ogystal a ceisio gwneud i fy hun deimlo'n well (gwddf tost, dechrau annwyd - sympathy is welcome), drwy ail ddarllen The World According To Clarkson: And Another Thing... (gan... wel guesswch!), dwi'n meddwl dechrau darllen Lladd Amser, gan Lyn Ebenezer. Dwi'm di cyrraedd lot pellach na diwedd y rhagair eto... o wel. Dechreuais ddarllen Cysgod Y Cryman 'fyd pyddyrnod, gan fod Mam wedi mynd mlan a mlan dylen ei ddarllen yn yr haf pan fydde digon o amser 'da fi ers ages... ond mi roedd y dudalen cyntaf mor fflipin boring mae ei dal ar fwrdd y gegin. Felly Lladd Amser amdani. Gobethio neith e'm troi mas i fod yn Wastraff Amser, dyna i gyd weda i.

Os oes gan rhywun enw llyfyr da i fi ddarllen, mae gen i ddigon y amser. Reccomendations would be most welcome.
A dyna ni. Diwedd pennod arall... nes y llyfyr nesaf.

Saturday 14 June 2008

Stori Fer - Y Rhai O Gymru Yw'r Gweathaf

On today's Jeremy Kyle, we shall be speaking to a family at war...



Ms Merkwürdiges Pferd yw'r cyntaf ar y llwyfan, i ddweud ei ochr hi o'r stori. Yn ol Jeremy Kyle, mae Ms Merkwürdiges Pferd wedi cwympo mas a'i theulu diolch i'w fiance Mr Merkwürdiges Pfer. Teimlai'n unig a heb ffrindiau, gan fod y sboner wedi cwympo mas 'da'i brawd, a bod ei chwaer yn convinced fod ei chariad yn proper control freak.


Nesaf, y dyn ei hun sy'n dod allan. "Ti'n gwbod fod hynna'n load of bull, fi'm yn control freak."


"Are the two of you lonely?" gofynna Mr Cyflwynudd Perffaith iddo. "You don't seem to have any friends?"

"Ydyn. Hi ddwedodd wrth ei ffrind dylei wneud bwyd babi ei hunain, fel ma' HI'n neud, gan ei bod hi mor blydi berffaith... a phan pointodd honno mas, o leia fod hi'n bwydo o'r fron - do'dd hi'm yn lico na!"


Dacw Jezza K yn galw aelod arall o'r teulu i'r llwyfan, chwaer Ms Merkwurdiges Pferd.

"Your a control freak!" mae'n gweiddi. "Wouldn't let me talk to my sister. Called up his mobile when they went on holiday, asked "can I talk to my sister?" and he went, "why do you want to talk to my girlfriend?" "Let me talk to my sister" "No I'm not letting you talk to my girlfriend" - dyn horrible yw e!"

Ma honco'n mynd straight i wyneb cariad ei chwaer, a poeri a rhegi. Dyma'r dyn mowr security yn troi fyny, ei muscles mawr yn blugian allan o'i grys-T.

"SIT DOWN!"

Ooo, mae Jeremy Kyle yn dechrau'r gweiddi.


"My sister had to buy her own engagement ring," dywedodd y Gymraes yn Saesneg, er fod y Gymraeg yn dod iddi'n naturiol.

Mae'r gynulleidfa wedi cael sioc. Daw gasp o enau pob un ohonynt.

A Jeremy Kyle yn gofyn y cwestiwn wrth y dyn... "Your getting married, do you want to?" a fe'n ateb, "Na. Hybrynodd y blydi fodrwy a gweud wrtho fi i ofyn "when you're ready." "Make an honest woman of your son's mum." Pressure or what?"

Gweiddi eto - "THERE IS A CHILD IN THE MIDDLE OF ALL THIS MESS? THINK OF THE CHILD! THINK OF THE POOR CHILD!"

Roedd y geiriau yna'n rhan o'r sgript bellach.

"We know there is a family feud, you have fallen out with Ms Merkwurdiges Pferd's brother and mother. Let's bring both out at the same time."


"Wel," dyma'r brawd yn dechrau ar ol eistedd. "Dechreuodd y peth New Year's Eve yn y pyb. Wedodd hwnco wrtho fi bod fi ddim fod yn ffrindiau gyda fy ffrind gore, achos fod e wedi ypseto'i frawd e. Odd dim problem 'da'i frawd e, odd y feud gath y ddau ohono nhw drosodd, ond na, styran odd hwn... Wedyn, 'ma fi'n cal llythyr wrtho'n whar yn gweud bod hi'm moyn fi wncwl i'w phlentyn hi os on i'n ypseto ei babi bach arall hi."

"OOOOOOOOOOOOOOOO" ymatebodd y gynulleidfa llawn stwidants a pobl di-waith.

"Fe odd tu ol i'r llythyr though," ychwanegodd y chwaer. "Fydde'n whar fach i byth yn neud shwd beth."

A wedyn, dyna'r fam yn hwpo'i thrwyn mowr miwn, "He's a bad lad" dywedodd. "We don't speak anymore. How hard do you think it is to explain to your grandson, Nana doesn't talk to Daddy?"

"YES! SHE HAS A GOOD POINT! YOU NEED TO REMEMBER THERE IS A CHILD IN THE MIDDLE OF ALL THIS!"

"Yes OK, we know about the kid..."

"DON'T MOCK ME! THERE IS A CHILD IN THE MIDDLE OF THIS... THIS... THIS WARZONE! You, you might be a good mother, but stop pretending you are perfect, you're allowed to make mistakes, goodness knows, I've made many. And you, make your mind up. Do you want to marry her or not? And you lot, just get over it. Bloody hell. I'll hand you over to Graham."


Chwarae teg i Graham, fe sy'n neud y gwaith caled i gyd.

Friday 13 June 2008

"Wouldn't it be really funny if I put YOU in the Deaths colum one day?"


Poeni braidd, fyddai rhai, i feddwl am ddwy ferch un ar bymtheg oed yn ysgrifennu Obituaries ei gilydd... yr unig beth wedai yw o'dd e lot gwell na adolygu Cemeg.
----------
Obituary Miss Tebot gan Pero
On the 9th of June 2008, Miss Tebot of Shambo Land tragically died whilst penning a love song for Eric Szmanda, yet some say she was shocked to death by the ongoing reference to rugby in her Welsh Language Exam.
There are many things to be said about this trippy individual. She was often lost in a world of glittery teapots, or watching her beloved CSI. Yes, she cried when Nick Stokes died. Yes, she was obsessed with Eric Szmanda.
Never known as Mimz, she loved her friends, especially her best friend Pero....both shared many a bitchy time and used to be enemies but their love for stalking celebrities brought their friendship together. Their gossipy conversations confused many and no-one ever understood the trem 'Baba Eifion'
Sadly, she never found her Beiro Coch and fell for many a strange lad...Buttons anyone?..Yet, she is now in a better place, currently being serenaded by Joe Calzaghe [song choice being Mustang Sally].
Her true ambition was in the hands of a pregnant Jezza and a short Hamster aka Top Gear presenters as she desperatly wanted to be the new James May.
Miss Tebot..things will never be the same again. HE KNOWS and the fact that you loathed his subject must have contributed to your early death. You were the Pero to the Bwdjerigar and you will be missed by all.
Miss You B-B-Z x
---------
Obituary Pero gan Miss Tebot
Pero, of 53 Sycamore Way, Carmarthen, tragically passed away, overcome by revision for her Chemistry Exam on the 5th of June 2008. She did not even have time to sing SOS by The Jonas Brothers, and call for help, before her sudden death. One could write pages and pages about Miss Pero, daughter of Helen. Pero was a lovely girl, despite her brain going and leaving. Single, she was looking for her very own eco warrior, even though she would take a man that was giving that. She loved her best friend Miss Tebot more than anything, and who wouldn’t? Pero would always sort people out. You never used to mess with Pero, as Peter Reed from Barry discovered. Speaking of Barry, Pero loved nothing more than drooling over Mathew Horne from Gavin and Stacey. The best moment of Pero’s life, before her ill-timed death, was going to see Take That on tour. How excited she was. It brings a tear to one’s eye. All who know Pero, will know that she is in a better place – listening to I Found Heaven by Take That and being fed grapes by a Joe Dempsie look-a-like. Poor Katrina did have many difficult moments in her life – she had seen many things that she did not want to see. She had to cope with falling in love with the wrong person… although that didn’t last long, especially since Miss Tebot kept taking the mick, thank the Lord. She could never make an enemy out of Miss Tebot, and they never argued – Miss Tebot knew far too much! Pero also used to be all-knowing. She knew all the goss, and she wasn’t all bad intellectually. Fluent in Spanish, she was able to ask anyone “Dande etsa el raton?”. She still had much yet to learn, and was determined to do so, despite her brain being absent. Miss Tebot was willing to share her memories of Pero – “Pewoo has been my gossip buddy, my random buddy, my celeb spotting buddy, and I will miss her. No one else pretends to listen to me going on about CSI.”. Both spent many days at the Steddfod during their lives, laughing and joking, and being mad. Miss Tebot claims it will never be the same alone. (Though she’s already trying to get Christian Siriano to be her new best friend). Pero… if you are reading this from the afterlife, all that is left to be said, is, despite your current, unfortunate condition – HE KNOWS, and has known that Cemeg was going to kill you all along.

Wedi goroesi y GCSEs...

Diolch i Dduw!
Dwi'm wedi cael fy nhagu gan TGAU!

Un peth am yr arholiadau 'ma sydd wir wedi fy nghorddu. (Warning, rant alert) Yn ôl yr athrawon, mae time manegment yn ystod arholiad yn bwysig iawn. Ydy'r athrawon hyn, yn sylweddoli wrth weud hynna, fod y damn pobol sydd yn yr arholiad (Caroline Beer yn un ohonynt - seriously, fi'n disgwyl iddi blygu lawr a peswch yn 'y ngwyneb i a ytgan y geiriau "COMPUTER SAYS NO". Cwympodd hi dros ford unwaith. Hilariws) yn mynnu dechrau'r exam ar rhyw amser sy'n fflipin lletchwith - 9.38, dechreuodd yr arholiad Drama y bore 'ma. Fel arfer, ar bapur arholiad awgrymir faint o amser dylen wario ar un cwestiwn (Saesneg. Ni'n darllen faint o amser ddylen hala ar bob cwestiwn, a mae pennaeth yr adran - y fenyw fwya annoying yn a byd - yn MYNNU darllen e mas i ni 'to!). 40 munud, 20 munud, 50 munud. Ydy'r pobl 'ma'n sylweddoli pa mor blydi galed yw hi i witho mas faint o amser sydd wedi mynd ayyb pan maent yn dechrau'r arholiad ar amser mor lletchwith. S'dim byd yn bod a aros DWY funud fach arall iddi gael cyrraedd ugain munud i. For God's sake!

O wel, drosodd nawr. Dim mwy o gael fy weindio lan gan esgidiau uchel yn camu ar lawr y Neuadd. Dim mwy o syllu ar Mr Thomas pan fyddai wedi gorffen arholiad. Dim mwy o gerdded rownd yr ysgol yn fy socs, a cael esgus i wneud hynny.
All in all, dwi'n credu fod popeth wedi mynd yn dda (well i mi gyffwrdd coeden wrth ddweud 'na).

Hefyd, heddiw, ymddangosodd Miss Mynd am y tro cyntaf ers oes pys. Heddiw, roeddwn i a Matty a Speis yn ddigon da. Pan sylweddolodd Miss Mynd fod y croeso braidd yn oer, off a hi, a fel ddwedodd Matty yn syth, "o'dd hi'n disgwyl i ni weud fod ni wedi ei cholli? Oedd hi'n dysgwyl i ni ddweud fod pob anadl wedi bod yn anodd hebddi? Fod bywyd wedi stopio ers iddi fynd off?". Wrth gwrs, sticio lan drosti wnaeth Speis. Ond dyna pam dwi wedi dewis 'i galw hi'n Speis - Wannabe by The Spice Girls.

O well. Er taw bechgyn sydd i fod mynd a dod, mae ffrindiau'n gallu gwneud 'fyd. Falle ddeith Miss Mynd rownd... doubt it though.

Dyna ti felly. Nawr, yr unig beth sydd o 'mlaen i yw dyddiau o hirddydd Haf. Blydi hell. Un ar ddeg wythnos o wneud dim.

Thursday 12 June 2008

Croeso I Planet Teapot

Croeso i'r blog newydd.
Be' sy' 'na i'w ddweud?

Fi yw Miss Tebot (chi'n meddwl fydde'n ni'n rhoi'n enw iawn allan ar y rhyngrwyd i bawb gael gweld?). 16 oed, mynd i ysgol Bro Myrddin blah blah blah. Unig blentyn i Mam a Nhad - rhieni gorau'r byd (a fi ddim jyst yn gweud na i gael fwy o arian poced)
My Fingerprint
Dechreuais y blog yma er mwyn trial bod yn ffyni, a trail gwella'r iaith a'r sillafu (diolch i text culture mae'r sgiliau 'na wedi mynd ar goll rhywle). Felly dyma ni nawr.

Fy hoff raglennu teledu =
1. CSI: Crime Scene Investigation (yr un Las Vegas yw'r gorau!)
2. Whose Line Is It Anyway? (er fod yr un Prydeinig bach yn sych ar adegau)
3. Top Gear (wfft i'r amgylchedd!)
4. ac yn olaf, Project Runway (it's soooo fierce darling! - diolch byth mod i'n gwbod taw Christian
Siriano sy'n ennill)









Ac i symud ymlaen i lenyddiaeth, fy hoff lyfr yn y byd i gyd yw...
Dan Gadarn Goncrit
(mae cymeriadau Mihangel Morgan yn hollol nyts though)
ac ar y foment, dwi'n darllen... (ac mae'n llyfr da iawn 'fyd, nes i roi lan ar Zola i'w ddarllen)



Ac un ffaith ffantastig arall - dwi'n hoffi pili palas.
xxx