Friday 5 September 2008

Pero a Bwdj


Meddwl, tra bod y ddwy ohonom adref yn "Facebookio" er i'r trip i Bae Morfa i wneud stwff yn y mwd wedi cael ei ganslo ac yn chwerthin ar ben ein lluniau o'n diwrnod mas yn y Steddfod, baswn yn ysgrifennu blog bach am fy ffrind gorau.

Roedd ei phenblwydd hi ar y diwrnod cyntaf nol i ysgol (3ydd o Fedi) ac er i mi ysgrifennu a gweud ei bod hi'n ffrind ffantastig yn ei charden, doedd dim gymaint o hynny o le ar gerdyn penblwydd roeddwn wedi gwneud iddi fy hunan.

A sori am y llun mawr ar y garden. Dwi'n gwybod nad wyt yn hoffi'r llun yna gan fod yna dwat yn posio tu ol i ti.

Felly, Pero, i feddwl bod y ddwy ohonom wedi cyn hyn casau ein gilydd, nol yn y dyddiau pan roeddent yn mynychu Sgwad Sgwennu, mae hi'n od ei bod ni'n ffrindiau pennaf erbyn hyn. Roedd Mam y ddwy ohonom wedi bod yn ysgol gyda'i gilydd, a finnau'n cofio'n glir Mam yn dod nol i'r car ar ol bod i Morrisons (fi'n credu falle taw Safeway oedd e bryd hynny), a fi wedi bod yn eistedd yn y car yn bwyta McDonalds, a honno'n gweud wrthaf ei bod wedi gweld Pero a'i Mam, ac wedyn bu'n rhaid i mi glywed popeth am Pero bach yn ennill Gameboy Advance - a fe roeddwn yn wel jealous, gan nad oeddwn i'n ennill yffach o ddim byd.

Ond ers tua blwyddyn 8, ni wedi bod yn best buddies. Eistedd ar bwys ein gilydd yn Gwydd, Maths a Cymraeg, a pallu'n deg a stopio gossipo, er fod yr athrawes Gemeg druan yn frustrated ar ein diffyg gallu Gwyddonol ni. Ond yn ol at Maths, gyda'r cwestiynne twp lle gaethom y syniad am ein nicknames diddorol ni. Cofio Goronwy fyd? Pero a Bwdgerigar (pam taw fi odd y fflipin deryn? lol) oedd y ddau gwestiwn mwyaf digri. Galed yw gweithio hebddi yn y gwersi, gan fod Pero fel arfer yn ateb y cwestiynnau drosta i. Diolch am hynny! Haha.

Ni'n rhy debyg for our own good. Mae'r ddwy ohonom yn terrified o adar - yn enwedig colomenod - ac yn dueddol o ddefnyddio Deryn Du fel tarian yn eu herbyn nhw. Mi rydyn ni'n dwy yn crap pam mae hi'n dod i Wyddoniaeth, fel dwedais uchod. Ac fe roedd y ddwy fam (druan a nhw gorfod rhoi lan gyda ni'n dwy!) yn mynd i'r un ysgol (sef Dyffryn Teifi - bwwww), ac roedd y ddwy fam hefyd yn crap pam mae hi'n dod i wyddoniaeth. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy ohonom yn addicted i Rownd a Rownd. Er, dyw Pero ddim wir yn gwerthfawrogi geniws y nofel Dan Gadarn Goncrit fel y fi - ac i dy atgoffa di, mate, ma'n nghopi i dal gyda ti!!!
Ti'n ffrind amazing Pero. Ni ar yr un wavelength. Mae'r ddwy ohonom yn hollol batty, a dyna probably pam rydyn yn dod mlaen mor dda. Dydyn ni ddim really fel pawb arall... a dydy ein gwynebe ni ddim yn oren!
Mae gennom shwd gymaint o atgofion fflipin mental - gwersi Biol yn blwyddyn 9 gyda'r athro seicig, y Cavewoman Cymraeg, V, Y Pods a'r Podlog, ac wrth gwrs, Baba Eifion.
Ti'n seren.
And he knows it!

No comments: