Thursday 31 July 2008

Pysgod yn Nimbych Y Pysgod

Nodyn o rybudd i ddarllenwyr... Dyw mynd i'r traeth pan mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn byth yn syniad da.

Ers wythnos i ddydd Mawrth dwethaf, a ni yn y Sioe Frenhinol, roeddent wedi bwriadu mynd i Tenby. A hithau mor lyfli dydd Llun a dydd Mawrth, cyffroes oedd y dair ohonom i fynd i'r traeth. Wnaethom hefyd wahaodd Bleu, i
wneud y parti'n bedwar, gan fod Wolfy'n gweitho.

Wel, doedd yr arwyddion ddim yn dda. Neithiwr dextiodd Pero i ddweud ei bod hi gorfod mynd allan gyda'i mamgu, felly ond tri ohonom oedd yn mynd. Ond ta beth, roeddent wedi trefnu. Tren 10.40 i Tenby o Gaerfyrddin. Felly y tri ohonom oedd yn mynd. Dechreuodd hi fwrw ddoe 'fyd... ond na, roeddent yn benderfynol fydde hi'n hidda...

Diflas oedd hi pan ddaeth Mam i nihuno hi am naw, felly phewph, meddyliais. Wellyth hi erbyn pnawn... Ond cwympo mas arna i bore ma, a Mam yn mynnu fod RHAID gadael am 10.10, a finnau'n meddwl fod hynny'n stiwpid ac yn mynnu treulio pum munud ychwanegol yn straightno fy ngwallt (pointless really, erbyn diwedd).

Roedd Bleu yn disgwyl amdanaf yn yr orsaf, a dim son am Deryn Du. Tynnodd y tren i mewn i'r station... "O diar!"... Ond na, cyrrhaeddodd hi mewn pryd, a croeson ni'r trac i neidio ar y tren o blatform 2. Doedd dim byd gwefreiddiol am y tren, dim really... tren, choo choo, dyna ni. Fe aethom yn ein blaen, stopio yn Narberth, a dyma fi'n cynnig stopio yn Narberth yn hytrach na Tenby gan fod hi'n bwrw... petawn ond wedi... Saundersfoot bach wedyn, a dyma'r tri ohonom yn cytuno taw crappy oedd y lle yna... a Tenby.

Roedd hi'n bwrw. Roedd y ddau ymbrela lan yn syth (fi oedd yr un twp oedd yn mynnu "I don't DO brollies"), a cuddiais tu fewn i hood fy hoodie ddu... a oedd yn gwneud i fi edrych fel, you guessed it, hoodie!

Nawr, ffeindio Get Stuffed Pizza i ginio oedd y bwriad... ond, doedden ddim really'n gwybod y ffordd allan o'r orsaf drenau. Jyst dilyn y crowd wnaethon ni, a diolch i Dduw wnaeth rheina ein arwain ni i'r stryd fawr... ac o fan 'na, benderfynon ni ein bod ni moyn mynd i'r traeth!

Wel, erbyn i ni gyrraedd un o'r traethau (peidiwch gofyn pa un, fi'm yn gwybod. Yr un bach ar bwys Cauldey Island, o dan y mynachdy?), roedd hi'n pisio i lawr. Roedd Bleu am gerdded lan y steps i gyd i'r mynachdy, ond NA! pendant oedd yr ateb. Roedd hi'n ddigon cwshti iddo fe, fydde fe'n gallu mynd mewn ato nhw! Mas am y glaw fydde Deryn Du a fi, a ninnau'n ddigon anffodus i fod yn ferched!

Roedd y boliau yn dechrau gofyn am fwyd. Felly wrth gwrs, Get Stuffed Pizza! Roedd gan Deryn Du ffrind dwi'n mynd i alw'n Mr Ice Cream Man sy'n byw yn Nimbych Y Pysgod, a fe roedd hi'n gofyn am ei help e... Roeddent bellach yn Lower Frog Street - wedi mynd mewn a dod mas o siop sgods a sglods am fod Bleu yn benderfynol o ffeindio'r lle pizza, er for Deryn Du a finnau jyst am gysgodi o'r glaw. Fe fuodd rhaid i'r tri o ni ddeifio i mewn i Joys of Tenby, a cysgodu fan na, a cyhuddodd Mr Ice Cream Man ni o fod yn uffernol o touristy via text, ond wfft, petai e ond wedi rhoi cyfeiriadau da i ni! (Efallai taw ni oedd rhy twp i ddeall... o wel...).

Fe roedd y strydoedd wedi boddi mewn dwr glaw, ar unig bobl ddigon twp i fod allan yn rhedeg am rhywle sych. Roedd llawer, yn disgwyl diwrnod da, wedi dod mewn dillad haf - o pa mor gutted oedden nhw, pam heb got na ymbarel, yr oeddent yn gwlychu'n stecs. Roedd afonydd o ddwr yn llifo lawr y strydoedd, yr awyr yn do diflas o liw llwyd yn gollwng glaw ar bawb a phopeth... Mewn caffi roedd Mr Ice Cream Man, ar diwedd y stryd, ond pa stryd? Can taw cross roads oeddent yn gwynebu o ddrws y siop souvenirs, ac felly roedd yna bedwar ffordd a oedd yn bosib.

Nes i Bleu wneud rhywbeth call.
"Excuse me, can you tell us the way to Get Stuffed Pizza place?" gofynnodd i fenyw'r siop.
"To the left and carry on."
Typical. Doedd e ddim yn bell o gwbwl.

Y sgrechfeydd o gyffro wrth ei weld - cysgod o'r diwedd!

Dau medium pizza, potato wedges with sweet chili dip a un bara garlleg wedyn, roeddent yn stuffed (haha yr un hen joc), ac wedi sychu tambach. Nol mas i'r glaw a ni. Am ryw reswm, i gadw'n sych, roedd gan y ddau arall ponchos... un melyn i Bleu, un gwyrdd i Deryn Du... ac fe roedd un coch yn sbar i fi.

Gallwch ddychmygu ein golwg ni. Tri ffigwr a wisgai ponchos a oedd yn fwy tebyg i bin liners lliwgar. Fe welon rhywun mewn poncho glas wedyn, ac i hwnnw ddwedond "Ha! Ein brawd coll!". Ond eto, a hithau'n bwrw o hyd, roeddent lan i'n pigwrnau mewn dwr... Wellingtons oedd y dewis gorau o esgidiau. Roeddwn yn gwisgo Converse trainers. Bwriad rheina yw bod yn cool, dim i ddal dwr. Roeddent yn well, rhaid gweud, na'r dolly shoes bach o satin porffor fues i bron a gwisgo...

Ta beth, roedd hi'n bwrw'n drymach wrth i ni fynd yn agosach i'n mor, ac ar un tro, fe cuddiodd y tri ohonom mewn bocs ffon. Dwi'm yn amau fod hynny'n edrych braidd yn od. Roedd Deryn Du a finnau hefyd wedi prynu crysau-T "TENBY PIRATES" erbyn hyn fyd, o'r Pownd Shop (am £1 cofiwch!).

Penderfynon fyd yn ol at yr orsaf, a cysgodi yno. Dyna oedd orau. Felly nol a ni... i geisio ffeindio'r lle. Roeddent yn wlyb sopen. Roedd fy jins yn wlyb lan i fy mhliniau - a doeddent ddim hyd yn oed wedi bod yn agos i'r mor. Felly, wfft! meddyliais, a neidiais mewn i un o'r puddles dyfna fi 'di gweld erioed. SPLASH!

Pam lai?

Cyrraedd yr orsaf, a ceisio gweithio allan pa blatform roeddent yn dal y tren o oedd nesaf. Roedd gennym hanner awr, felly doedd dim panic... Ond doedd dim screens teledu yno, fel sydd yn rhanfwyaf o orsafoedd eraill... felly ble? Es i double checkio'r amserlen... ac edrychais o'm mlaen. Ar bolyn fyddai'r rhan fwyaf o bobl call yn gweld cyn gynted fyddent yn camu i mewn i gysgod yr orsaf oedd arwydd oedd yn pwyntio i ddau gwahanol ffordd. "PLATFORM FOR SWANSEA" "PLATFORM FOR WEST WALES". Idiots a ni.

Felly, dechrau dros y bont a ni. Sylwais ar buddle dwr mawr ar lawr a oedd yn fwy tebyg i lyn bach... a gan mod i'n wlyb yn barod... SPLASH! Bu rhaid i mi redeg lan dros y bont i'r platform arall wedyn, er fod yn nhrwser i'n drwm diolch i'r dwr, i osgoi cael fy ngwlychu nol 'da'r ddau arall!

Eisteddom ar darn o lawr sych y platfform, a'i wlychu gyda'n dillad a'r poncho's gwlyb. Wnaethom hefyd sylwu fod y ferch freaky o'r flwyddyn o dan yn un ni yno... a honno'n wel weird... I mean, pam cael fringe os oedd hi'n mynnu ei hwpo nol gyda band gwallt? A roedd hi'n gweud helo i fi yn y corridore ac yn edrych yn od ar bobol arall... hmm... ta beth, roedd honno yn syllu arnon ni, ond who cares.

Daeth y tren yn brydlon, a jwmpo arno wnaethom ni. Dyw tren o Tenby ar ddiwrnod gwlyb yn ddim byd tebyg i dren o Abertawe neu Caerdydd yn ystod Rush Hour. Doedd hi ddim yn wag, ond eto doedd dim un ohonom yn darganfod ein hunain yn sownd yn y ty bach, yn ofn cwympo mewn unrhyw eiliad. Roeddent dal yn wlyb... Roedd fy ngwallt wedi mynd yn gwrls i gyd, fy nillad yn wlyb stecs, fy nhrwyn yn dechrau rhedeg... ond roeddent dal wedi cael shwd gymaint o laugh.

Ond dioddef fyddwn ni fory... yn ein gweliau, yn boddi mewn pentwr o dissws snotlyd, a llond dos o fflipin annwyd.

Tuesday 29 July 2008

Elspeth, Felicity a Perdita rownd dre - a dim Woofydoodles, plis.

Nawr, fe esbonia i y teitl wedyn. Am nawr, Deryn Du yw Elspeth, fi yw Felicity, a Pero yw Perdy.

Roeddent off i dre. Ein bwriad oedd i wneud y Charity Shop Challenge wnaethom son amdano ar ein trip i Abertawe ages nol... ond roedden ni ffealu bod yn bothered.

Felly jyst trip rownd dre oedd hi.

Fe roedd Pero a finnau yn rhedeg braidd yn hwyr (roedd hi'n rhannu lifft gyda fi), ac wrth i ni frysio i fyny heibio Woolworths, dyma ni'n bwrw mewn i Llwyd. Dwi'm di gweld Llwyd ers ages - dim ers cyn TGAU pan fydde fe a fi yn sgwrsio bob bore fel dwy hen fenyw wrth drws A - ac fe roedd e'n gwisgo shades pan weles i fe so doedden i ddim yn ei adnabod i ddechrau! Pam nad ydych chi wedi disgwyl gweld rhywun y foment rydych chi'n gweld nhw, ife jyst fi yw e, neu ydyw e'n really galed gwybod beth i'w ddweud? Anyway, neis oedd gweld e eto, er ei fod yn breif encounter (of the alien kind... haha!), a un o'r pethau ddwedodd oedd "Fi newydd gerdded heibio'ch ffrind chi... fi'm yn gwbod ei henw hi?" "Yr un a specs?" gofynnais. "Ie! Na hi!" "Deryn Du," dwedodd Pero a finnau.

Brysio eto, a gweld Deryn Du'n gwynebu y ffordd arall... BOO! Gath hi bach o ofan i gael fi a Pero'n neidio i fyny tu ol iddi!

Y peth cyntaf wnaethom oedd cerdded dros bont y dref, bont y Mileniwm neu pa bynnag enw twp rhoddodd dynion cownsul y dre iddi. Roedd rhaid i ni weld pryd roedd y trenau'n mynd i Ddinbych y Pysgod. Tenby = trip dydd Iau! Wedyn, a ni wedi methu deall yr timetables trenau (er fod Deryn Du i fod yn Mathematical genius, a honno wedi penderfynu gwneud y pwnc i Lefel A), gerddon ni i Matalan, a ni wedi'r cwbwl ochor yna o'r afon anyway. Mewn a mas o fan 'na a gweld ffrind i ni, a fe yn sydyn wedi mynd yn dal iawn - a roedd y tair ohonom yn edrych ar y cawr yma sydd newydd ddatblygu o'r bachgen.

Eisteddon ni wrth y bus stop wrth yr orsaf drenau wedyn, yn edrych fel real proper hoodies, er fod hi llawer rhy dwym i wisgo siacedi o'r fath. Er, yn agos, yn y bys stop, fe roedd yna ddau fotel gwag o gwrw, a un botel ddwr llawn rhywbeth uffernol o suspicious yr olwg (rhywun yn amlwg wedi bod yn rhy desperate i hyd yn oed ffeinidio ty bach)... felly roedden ni'n gallu gweld fod Deryn Du wedi bod yno o'r blaen!

Nol dros y bont, a fe ymwelon a phob siop elusen yn dre. Roedden yn dechrau teimlo fel Mamgu 10 erbyn diwedd, achos mae hi'n byw a bod yn y llefydd. Ges i llyfyr - The Devil Wears Prada - am £1.99 or British Heart Foundation. Ha! Stori ddigri am y siop na - stori Pero. Nawr, yn wahanol a Deryn Du a finnau, sy'n ddigon hapus i scroungo arian off y rhieni yn hytrach na chwilio am jobs (d'oh, mae'n dal rhaid i mi orffen y application form Morrisons), aeth Pero allan i chwilio am job. Wrth gwrs, mae hi'n gweithio yn Bon Marche erbyn hyn, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Air Ambulence fyd. Ond ar ei thaith rownd dre yn chwilio am waith, fe roedd hi wedi cael cyfweliad am jobyn yn y British Heart Foundation (maent yn cynnig gwaith cyflog yn ogystal a gwirfoddol). Wel, wedi'r cyfweliad... gath hi wbod fod hi wedi cael ei gwrthod am ei bod hi braidd rhy ifanc - sy'n fair enough (hen fenywod sydd wastod tu ol y tills mewn siopau o'r fath!)... ond... a un ohonynt wedi bod yn rude i'w mamgu hi pan aeth hi ar ymweliad yno... a honno'n cario'i ffon, dechreuodd hi fwrw hwnnw ar y llawr - TAP TAP TAP - fel mae hi yn ol Pero'n dueddol o wneud pan mae hi'n colli hi, a cyhuddo'r British Heart Foundation o fod yn ageist!

Wel, wedi'r cwbwl, ond hen bobol sy'n cael heart attacks really. (JOKE! sori.)

Dechreuodd y bola siarad yn uwch na'r geg wedi hyn, a dyma fi'n cael y syniad da o fynd am pizza! Excited oedd y dair ohonom, a ninnau heb fod i'r bwytu Get Stuffed Pizza ers sbel, dyma ni'n mynd yno. Two Squirt pizza mawr rhwng y dair ohonom! Yuuuuuuuuuuummm. Yn Get Stuffed, bennodd y dair o ni lan yn stuffed!

Bu rhaid i Deryn Du ein gadael ni wedyn, i hedfan adref tua hanner awr wedi tri (dim really, daeth y teulu i'w hol hi), o'r bont unwaith eto. A ond fi a Pero ar ol, dyma'r ddwy ohonom yn mynd bach yn loopy. Penderfynodd y ddwy ohonom skipio dros y bont (fydd y fideo yna siwr o fod ar Youtube cyn bo hir).

Hefyd, darganfyddais fod fy ffrind gorau yn aml yn galw cwn yn "Woofydoodles" (a hynny am i ni ond jyst lwyddo i osgoi lwmpyn o gachu ci, o dog doo doo, o woopsie woofydoodle!). Dwi'n siwr gallwch ddychmygu'r chwerthin. Woofydoodles. Woofydoodles? WOOFYDOODLES!

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod rownd dre. I orffen, rhybydd i bawb... watchwch mas am woofydoodles.

Monday 28 July 2008

Dechrau Wythnos Brysur Arall

Os ydych am bookio fy nghwmni am yr wythnos yma, dydd Mercher neu Gwener. Otherwise, welwch chi ddim o fi.

Heddiw, dechreuodd fy wythnos brysur. Mi fues yn siopa yng Nghaerdydd.

Ar tren saith a ni. Dwi ddim yn "morning person". O gwbwl. Doedd e ddim wedi helpu mod i wedi mynnu gwylio Bridget Jones: The Edge Of Reason nes oriau man y bore am mod i am gweld Hugh Grant a Colin Firth yn ymladd fel merched. Dyna fy hoff ddarn o'r ffilm! Ta beth, wedi bod lan ers cwarter i chwech o'r gloch (meddyliwch, dyw S4C ddim hyd yn oed ar ddihun yr amser yna o'r bore!!!), roedden i bach yn grumpy ac yn groggy. Dychmygwch fi pan fyddai alcahol yn dod i mewn i bethau... oh heck.

Roedd Caerdydd, yr un peth a arfer. Siopa oedd y bwriad. Fi'm yn gwbod... dwi wedi mynd off siopa. A dwi'n ferch, dylai hynny fod yn amhosib. Ond ar ol awr, dwi'n bored. A mae Mam yn cerdded rownd siope mor araf. Dwi'n teimlo fel rhoi ddi ar gefn ceffyl a rhoi yffach i gic i'r creuadur, ai weld yn saethu off. (Cyn eich bod chi'n ffonio RSPCA, fyddai'r ceffyl yn rhoi yffach o gic i fi heb feddwl dwy waith... sori pobol horsy sy'n darllen a.k.a Wolfy)

Ond ta beth, ges i dau dop newydd - un du fel yr un wisgodd Deryn Du i'r Sioe Frenhinol (o'n i'n really lico fe - sorri! plus, imitation is the nicest form of flattery!), a un coch a ffrils a bwtwne bach du o Monsoon - plus ges i sgert extra uber cool o H&M. Un streipiau fertigol llwyd a du. Dwi wedi cwympo mewn cariad a sgert (OK, na, gorddweud. Ni allaf gymharu sgert a MR. MR... gwneud i dyn mwyaf golygus y byd swnio fel rhyw afiechyd. Sorri Matthew).

A fytes i gormod.

Wedyn aethon ni adref ar y tren.

A that's it really. Dechreuodd hi darfu yn nos wedyn, a hithau 'di bod yn ddiwrnod crasboeth. Mellt a tharanau, a wnaeth am eiliad dorri bant y letric, yr union foment tra mod i'n ceisio gwylio Whose Line Is It Anyway? Was not amused.

Ond daeth e nol, so fe wnaeth Colin Mochrie a Ryan Stiles amuso i eto drwy wneud i fi werthin.

Saturday 26 July 2008

Mamma Mia, mae Mamma Miriam yn cael syniadau silly!

Am ryw reswm, penderfynodd Mam fod yn rhaid iddi hi ac i fi fynd am drip i'r sinema gyda'r ddau demented cousin. Pam? Galla i ddim dweud. Ond yn y fan a'r lle, fe wnes insisto fod ffrind yn ymuno a ni, fel nad oedden i'n outnumbered.

Pero oedd yr un lwcus.

Blog, nid wyt eto wedi bod mor anffodus i gwrdd a'r Demented Cousins. Mab a merch chwaer fy Nhad. Nhw yw fy worst enemies, yn enwedig y ferch deng mlwydd oed. Dwi'n credu taw bwriad Duw oedd i rhoi nhw ar y byd i destio fy amynedd. Mae nhw mooooorrr irritating. Mae'r ddau gyda'i gilydd yn awful - cwympo mas fel ci a chath - ac yn lwcus, fe roedd un ohonynt heddiw yn teimlo'n sick - y bachgen (mae e'n dair ar ddeg). Felly ond y Hi ddaeth.

Y hi... Buodd hi bron iddi ddod yn ei esgidiau Crocs (y pethau disgusting yna) pinc llachar, ond diolch byth fe wnaeth hi newid i trainers. Yn go gloi, fe wnaeth hi fachu fy Ipod o'i guddfan, a mynd "Ti'n lico McFly... yyyy!" - a hynny cyn pigo Pero i fyny. Diolch byth am Pero though, dyna i gyd weda i. I mewn a hi i'r car, a bant a ni i UCI Abertawe.

Mae Mamgu Pero newydd gael cyfrifiadur. £700 am gyfrifiadur sydd yn cynnwys Bluetooth a microphone... a ie, MAMGU Pero wedes i. Fflipin hec, oedd fy ymateb i. Waw. S'dim hyd yn oed ffon symudol gyda'n Famgu Nantglas i! Y peth yw though, dyw Mamgu Pero ddim hyd yn oed yn siwr sut i'w ddefnyddio fe... Mae Pero wedi dweud y bydd hi'n cymryd mantais o'r cyfrifiadur newydd yma.

Cyn mynd, ddwedodd Mam fod hi'n pallu prynu pop a pethau melys i ni yn y sinema, gan eu bod yn rhy ddrud yno, felly stopiodd yn Spar ar y ffordd. Chocolate buttosn i fi wedyn! Ond yno, yn Spar Johnstown, penderfynnodd Pero fod hi'n ciwt. CIWT?!?! CIIIIIIIIWWWWWWWWWWT?!?! Na, dyw hi ddim yn ciwt, ond fe roedd Pero dal yn chwerw am y peth fues i bron a datgelu yn y Royal Welsh. Roedd hi fod ar yn ochor i! Ond na, fe roedd hi o'r farn fod y creuadur na sy'n gefnither i mi yn CIWT.

Off a ni felly, ar gweddill y daith. Eistedd yn y cefn roedd Pero a finnau, ac fe roeddent yn trafod ein "tans" - h.y, llosg haul - dyma Pero'n dweud sut roedd ei un hi'n peelo. A Demented Cousin o'r ffrynt yn mynd "OOO! Croen yn peelo? Na i peelo fe! Dwi'n hoffi peelo fe!". Freaky, or what?

Cyrraedd felly - a diolch byth, doedd neb roeddwn i'n nabod yna. A dyma hi'n dechrau'n pokio i (AW!!!!). Ar ol i Mam brynu'r tocynnau, aeth hi off wedyn, i "helpu" Mam gyda'r popcorn. Ar ol dod adref, dyma Mam yn dweud wrth Nhad, ei bod hi yn go gloi wedi gofyn am un Large, a fod Mam wedi mynnu taw small roedd y ddwy (dyw Pero ddim yn hoffi popcorn) ohonom yn ei gael. Ond na, mynnu cael Large wnaeth hi. Ar yr un pryd, dyma hi'n sylwu ar rhywbeth siap neu lun o baboon, a dyma hi'n gweddu draw ata i - "Drych! Ti!" - a dweud taw Baboon oedd e pam ofynnais beth oedd e.

Bu'n rhaid i Mam roi mewn ag ordero Medium i'r ddwy ohonom. Ac yn ol Mam, fe roedd tipyn o wahaniaeth rhwng y ddau pecyn o bobcorn - fe roedd un ond yn llawn i frim y pecyn, a'r llall bron yn gor-lifo. Guesswch pa un ga'th hi... Little Miss Greedy Guts.

Y Ffilm. Fe wnaeth y dair arall joio mas draw, a'r holl ABBAmania, ond fi... dwi'm yn gwbod. Roedd e rhy cheesy. Roedd y caneuon jyst ddim yn ffitio rhyw ffordd. Doedd e ddim i standard Grease a Hairspray. Ond doedd hi ddim yn wastraff trip. Roedd hi'n weddol ddoniol, ond PG, no way oedd y ffilm yna yn PG! Fydden i wedi ei wneud yn 12A o leiaf. Efallai taw fi sy'n prude though.

Roedd Colin Firth ynddo fe, a (OS NAD YDYCH WEDI EI WELD SKIPIWCH Y BIT HYN) a trodd ei gymeriad e mas i fod yn gay... nawr, roedd Pero yn ei ffeindio'n chwerthynllyd fod gen i bach o thing am Colin Firth... fe yw'r Mr Darcy gwreiddiol, COME ON! Ond dwi'n cytuno ei fod e dal bach yn dodgy pan ddath ei, Pierce Brosnan a'r boi arall whatshisname allan yn gwisgo siwtiau shiny a flares.

(GALLWCH CHI EDRYCH NOL NAWR)

Ond trwy'r ffilm i gyd, fe roedd Pero a finnau'n methu stopio gigglan bob tro roedd Pierce Brosnan yn canu. Roeddent dwy yn disgwyl, "JAAAAAAAAAAAMES BOOOOOOOOOOND, DOOOOOOOOOOOUBLE OOOOOOOOOOOOOOOOOH SEEEEEEEEEEEVEEEEEEEEEEEEN!". Dyw James Bond ddim fod canu!

A tra'n gwylio'r ffilm, ceisiodd Demented Cousin hintio mewn ffordd a oedd mor subtle a bricsen yn hedfan i Mam fod gyda hi syched. Nawr, mae fy nghefnither wedi cael ei sbwylio'n rhacs. Roedd hi'n disgwyl i Mam jyst roi mewn. Pan ddwedodd Mam na doedd hi'm yn cael mynd allan i nol un arall, gofynnodd honno'n blwmp ac yn blaen os alle hi gael Diet Coke Mam i gyd. Gwrthod wnaeth honno, a dweud galle hi gael dwr o'r car (roedd botel o ddwr yn car, dim dwr o'r enjin... dydyn ni ddim mor greulon a na!). Wedyn, gofynnodd i'n Fam petai'n gallu mynd a fy Coca Cola i! Blydi cheek!
Fe wnaeth hi hefyd fflicio dwr ata i a Pero tra yn y ty bach, a dod a'i dwylo gwlyb disgysting hi a'i hwpio nhw reit yn fy ngwyneb i. So long, make up! Not nice.
Ta beth, ar y ffordd nol, roedd Pero a finnau'n siarad am ein hoff raglennu teledu Cymraeg - a hoff un Pero yw O Na! Y Morgans. Mae hi'n hoffi'r ffaith fod merch ei athrawes Spaeneg hi'n chwarae rhan cymeriad o'r enw Panda yn y gyfres! Felly dyma ni yn gofyn, "Dande esta el Panda?!". (yr unig frawddeg Spaeneg dwi'n deall yw Dande esta el raton?)
A wrth siarad, dyma stretch limo mawr yn gyrru heibio, a tynnu sylw Mi Lady yn y sedd ffrynt. "Ooo Limo!" medde hi. "Beta i ti fod ti ddim wedi bod mewn Limo jeep." Nadw, dwi ddim wedi. A i fod yn onest, dwi ddim moyn mynd mewn un. Pan yn cyrraedd henach na tair ar ddeg, mae'r novelty o limo'n wearo off. Petai'n dweud wrtha i ei bod hi wedi bod am spin mewn Buggatti Veyron, wedyn fydden i yn impressed. Ond pan yn 11 oed, ar fy mhemblwydd, trefnodd Mam a Anti-Bionic i fi fynd mas mewn limo am y dydd - limo i KFC yn Abertawe (does dim un i gael yn Caerfyrddin, felly mae KFC, ble bynnag mae e, yn exciting!). Daeth hi gyda fi yr amser 'ny, ac ar yr un diwrnod, fe roedd Speis a finnau'n ceisio chwarae I Spy gyda hi (ond tua pump oed oedd hi ar y pryd), ond doedd hi jyst ddim yn ei ddeall e, a doedd hi ddim yn gallu geisio'n iawn. Wel, tantrym wedyn. "CHI'N TORMENTO FI!" sgrechiodd. "WISE UP YOU TWO! WISE UP!" (Rydyn ni'n dal i chwerthin am y digwyddiad).
Wel, ar ol i mi adrodd y stori yna, roedd rhaid i ni chwarae I Spy wedyn. "I Spy with my little eye..." dechreuodd Demented Cousin. "Something beginning with... M!"
"Ooo," meddai Pero.
"Dim W wedodd hi man," dwedais. "M!"
Chwerthin wnaeth Pero, a honno'n hollol hyper ar ol y ddos anferthol o Abba.
Cynnigodd Mam swper yn McDonalds i ni. Er iddi ddechrau scoffan Maltesers, yn syth fe wnaeth Demented Cousin dderbyn y cynnig o McDonalds. Felly a ninnau ddim yn bell o adref, stopion yn McDonalds.
"Please Dduw," gweddiais. "Please paid gadael i neb dwi'n adnabod fod yno."
Wel, fe aeth Pero a finnau i ddewis sedd, a eistedd lawr.
"Mae hi'n ciwt!" meddai honno.
"Ti fod ar yn ochor i!" atebais. "That's it, Deryn Du sy'n dod gyda fi tro nesa."
"Na, cer a Wolfy," dwedodd Pero. "Fydde Deryn Du probably yn licio hi, ma' DD'n good gyda plant. Fydde Wolfy ddim yn keen."
"Na, mae Wolfy'n hoffi ceffyle... ma hon yn horse mad."
Daeth y Demented Cousin i eistedd.
"Horsy?"
Roeddwn yn ei disgwyl hi i fynd "NEIGH". Mae hi'n reit keen ar ceffylau.
"Mae un 'da ti yn ose," ddwedais wrthi.
"O, ceffyl. Beth yw enw dy geffyl di?" gofynnodd Pero.
"Dusty," atebodd honno.
"Dusty Springfield?!" dwedodd Pero'n syth.
"NAAA!"
"Hey! Dusty, os eisie ei dwsto hi de?!"
Nes i'm meddwl am y linell yna o'r blaen, a hithau wedi bod yn berchen ar Dusty y ceffyl ers Nadolig. One liner brilliant oddi wrtha i fan 'na, roeddwn i'n well chuffed. Chwerthin ei phen hi off wnaeth Pero. Doedd DC ddim yn bles, a off aeth honno i gwyno wrth Mam fod i'n bwli. Medde'r un wnaeth fy mhocio i a'm mwrw i! Hmph.
Amser mynd adref wedyn. Ac wrth fynd fe geisiodd Pero dextio ei mam i ddweud fod hi ar y ffordd adref... ond gan fy enw i'n dechrau gyda M ac reit ar bwys "Mam" felly, textiodd i fi yn lle 'ny! Chwerthin wedyn, wrth i mi dextio now "Dwi ar y ffordd adref fyd!".
Ac felly, Pero adref, a wedyn o'r diwedd, y Demented Cousin, adref. A fi adref, i ddweud wrth Nhad sut wnes annoyo ei nyth wrth insyltio enw ei cheffyl.
Er i'r ffilm fod yn werth ei gweld, dwi'n gobeitho na wneith Mam gael y syniad dwl o "quality time" gyda'r demented cousins eto.

Thursday 24 July 2008

Trafod arddull - diolch am ladd darllen.

Fel rhywun sy'n aml yn ysgrifennu storiau a blogiau ei hun, dwi'n sylweddoli fod llawer o waith ac ymdrech yn mynd mewn i ysgrifennu rhywbeth gwerth ei ddarllen (er fe wnes i ennill y goron - neu rhywbeth oedd yn fwy tebyg i glustog piniua - yn yr Eisteddfod Ysgol ar ol rhoi stori wnes ysgrifennu mewn ugain munud ar ol dod adref o ddisgo ysgol am unarddeg yn y nos i mewn). Ond fe wnaeth gwaith cwrs trafod arddull ladd darllen i fi.

Roeddwn arfer darllen lot. Ond yn ddweddar dwi wedi dod nol i mewn i'r habit, gan fod gen i ddyddiau o wneud dim i lanw i fyny. Dwi'm yn gwybod os ydy diogi teenager yn unrhywbeth i wneud a'r ffaith nad wyf yn darllen gymaint bellach, ond dwi yn sicr fod y ffaith fod rhaid i fi drafod a thrafod arddull, neu yn y gwersi Saesneg "language", wedi effeithio ar ddarllen.

Dwi'n darllen Jane Eyre ar y foment, y glasur o nofel gan Charlotte Bronte. Mae hi'n stori dda, am merch ifanc sydd yn misunderstood yng nghyfnod y frenhines Victoria... ond bob tro dwi'n darllen, dwi'n meddwl "wel, jiw jiw, am gymhariaeth dda!" neu "Waw, na ansoddair ffandabydooby!" Dwi'n edrych allan am drosiad da, ac yn meddwl, "well, dylen ni wneud nodiadau..."

Mae e r'un peth gyda gwylio ffilmiau neu'r teledu, ar ol astudio Llunyddiaeth (LLUN yn lle LLEN, wel na glyfar...). Ar ol gorfod astudio wep salw Sian James (mae hi'n wirioneddol edrych fel Moonmin. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw Moonmin - your loss!), mewn sawl saethiad agos iawn, dwi nawr yn gwylio teledu ac yn enwi'r gwahanol fathau o saethiadau. "OOO SAETHIAD DAU LEFEL! Ooo Mam drych, ond dyw 'wnna'n clever!?!!!" (Mae hyn yn gyrru Mam yn nyts pan dwi'n torri ar draws Pobol Y Cwm i son am y cyfarwyddo)

Saethiadau agos, saethiadau pell, trosiadau, cymhariaethau, ansoddeiriau... oedd darllen a gwylio ffilmiau'n well nol yn y dyddiau nad oeddwn yn deall yr holl dechnegau?

Neu ai'r Famous Five oedd jyst yn really good i gymharu a'r holl bethau dwi di ddarllen nawr?

Wednesday 23 July 2008

Diwrnod i'r Brenin yn y Sioe Frenhinol!

Ddoe, off a fi, Pero, Deryn Du, cefnither Deryn Du, Wolfy a Speis i'r Royal Welsh!
Dwi'm yn cofio'r tro dwethaf i fi fynd i'r sioe, fel arfer ma' Nhad a Mam yn mynd a fi a dwi i a Mam yn gorfod mynd i edrych ar tractors trw'r dydd. Roedd y tro hyn lot mwy o sbri (no offence Nhad).

Roedd rhaid i ni ddal y bws tu fas i Peacocks am wyth o'r gloch... waaaay rhy gynnar i fi! Roeddwn i fel zombie. Dwi ddim yn berson boreau. Ta beth, Pero oedd fy bus buddy, a roeddwn i wedi prynu strawberry laces a Haribos cyn mynd, felly dyna lle roedd y ddwy ohonom ni'n stwffo'n hunain 'da sweets. Surprisingly, naethon ni ddim chwydu. Er i bach yn confused o achos un Cola Bottle o'r pecyn Haribos though, (cofiwch, fe roedd hi'n gynnar yn y bore!) ac fe edrychais arno fe, a dweud "Hmm, dyw hwn ddim yn edrych fel Cola Bottle..." cafodd Pero bip, ond wedyn sylweddolais i, "O... fi'n ei ddala fe upside down..." Hefyd, ar y bws, dwedodd Pero wrthaf am service 118 118. Os ydych chi'n textio'r gair "JOKE" iddyn nhw, mae'n nhw'n hala jokes i chi yn rhad ac am ddim!

What do you call the king of the hankies?
Hanker Chief!

Hefyd, rydych chi'n gallu hala unrhyw gwestiwn iddyn nhw, a textiodd Pero nhw i ofyn lle yn gwmws oedd Matthew Rhys ar y foment honno. Daeth neges destun nol yn dweud ei fod e definatly 'di bod yn Aberystwyth yn ddweddar, a falle fod e dal 'na!
Cyrrhaeddon y sioe tua deg, a syth mewn a ni, dros rhyw bont yma oedd yn eithaf eiddil ei olwg. Benderfynais i, wrth gwrs, to live dangerously, a jwmpo lan a lawr ar y boards pren nes i, tra bod y gweddill yn sgrechian "NA BWDJ PAID!" Y wimps a nhw!

Wel, collon ni Wolfy a Speis yn weddol gloi. Un funud, roedden nhw'n cerdded o'm blaenau ni'n siarad am yr holl bethau pony-related (tra fod Pero a finnau'n pwyntio i mewn i un o'r cylchoedd arddangos ac yn sylwu "Yyych a fi! Mae'r ceffyl na'n pwpian!"), a'r funud nesaf, doedd dim golwg ohonynt.

Felly dechreuodd y diwrnod. Y lle cyntaf aethom i weld oedd y babell S4C - y bedair ohonom am weld os fydden ni'n gallu ffeindio rhywun o Blaned Plant. Wel, pwy welom yn dawnsio ar y llwyfan mewn oferalls... ond Gareth! Nawr, ma Pero a finnau wedi cwrdd a Pero o'r blaen, a hynny'n Eisteddfod Abertawe sbel fawr yn ol. Roedd y ddwy ohonom bryd hynny wedi gofyn i'r fenyw yn y stondin S4C os oedd Alun ac Anthony o Stwffio o gwmpas, ac ateb hithau oedd "Na, ond beth am gael llun 'da Gareth?" ag ateb y ddwy ohonom oedd "Naaah". A ni chawsom groeso cynnes iawn ganddo'r tro 'ma (er dwi'm yn meddwl fydde fe'n cofio), gan ei fod wedi cael llun gyda ambell i blentyn dan bump oed, ond off a fe pan ddaethon ni i flaen y queue (neu Cyw hahahaha!). Ta beth, i weld pa freebies oedd ar gael yno wnaethon ni wedyn, a edrych ar yr holl leaflets oedd 'na... a dyma fi'n gweld... Matthew Rhys! Nid yn y cnawd y tro hyn yn anffodus, ond ar rhyw leaflet Lleisiau, ac fe roedd y llun ar y blaen ohono fe tu allan o'r Ganolfan Dylan Thomas. O!'r cyffro!

I'r stondyn drws nesaf wedyn, Prifysgol Aberystwyth, yn gobeithio gweld llun arall o Matthew Rhys, ond na, boring oedd hi fan 'na, er i ni gael beiro's am ddim. Fe wnaeth y fenyw yno gynnig samples o gaws i ni, a dyma fi'n sylweddoli mod i'n starfio, er yr holl sweets a'r tost ges i frecwast, ac felly bwrw am y Neuadd Fwyd wnaethom wedyn. Doedd dim angen byrger arna i eto - dyna oedd fy nghinio i mynd i fod - ond roedd angen rhywbeth i lenwi twll. Off a ni i ffeindio'r lle wedyn, a cawsom eto mwy o gaws a bach o Waffles Tre-Groes. Mmmm.

Ar y ffordd i'r Neuadd Fwyd though (ar ol i Pero a Deryn Du cael eu llun wedi tynnu ger rhyw ddyn wedi ei wneud o beips), welon Rhodri Owen! Gofynnodd Deryn Du am ei lofnod, ond mae e'n eithaf golygus - ddim mor golygus a Matthew wrth gwrs, ond ail agos - felly es i'n swil i gyd a cuddio.

A dechreuodd y diwrnod o freebie hunting! Mae Eisteddfodau a Sioeau Amaethyddol yn awsome am hyn. Y bwriad yw jyst cael cymaint o bethau am ddim sy'n bosib. Tua hanner awr wedi unarddeg oedd hi pan fwmpio ni mewn i'r ddwy arall, a fe roedd y ddwy arall yn barod am ginio. Roedden nhw wedi dod a ddigon o fwyd i borthi'r pum mil, tra fod sandwiches y dair arall (y plan all along i mi oedd i brynu burger) yn ddigon bach i ffitio mewn i fag llaw, ac felly wedi gadael eu brechdanau gyda rhyw stondin ceffylau. Felly cafodd Pero a finnau burgers (ddwedodd Pero nad oedd hi'n keen iawn ar olwg ei sandwiches hi, er taw hi wnaeth eu gwneud nhw 'i hunan), a'i bwyta nhw mewn rhyw stondin (dwi'm yn cofio'i enw). Roedd Wofly a Speis wedi bod yn PRYNU pethau - mawr syndod i ni'n pedair. Roedd gan y ddwy ohonyn nhw grysau polo, a DIM BYD am ddim!

Gwrddon ni lan gyda mamgu a dadcu Deryn Du a'i chefnither wedyn, a rheina'n edrych lot rhy ifanc i fod yn famgu a dadcu! Roedd y chwiorydd iau gyda nhw hefyd. Ac ar ol hynny gollon ni Wolfy a Speis - off i weld pethau horsy eto siwr o fod, nabod nhw!

Mwy o chwilio am bethau am ddim. Wnaethon hefyd dynnu lot o luniau wrth wneud! Roeddwn i dal i gario'r llyfryn a Matthew Rhys ar y blaen yn fy llaw - lwcus oedd hi i mi ballu ei roi yn fy mag (gewch chi aros am y stori yna). Yn y stondin Cats Protection gath Pero a finnau go ar rhyw fath o lucky dip yma, lle roeddech yn hwpo'ch llaw i mewn i wind machine ac yn dal darn o bapur. Yno ennilles i Pero The Mousy (fe enwodd Pero ei mousy hi ar yn ol i). Roedden ni'n dechrau blino, ac felly ar ol mynd rownd y babell grefftau (lle wnes i ddechrau blackmailio Pero ar ol iddi ngalw i i'n... rhywbeth dwi'm yn hoffi gah! mwhahahaha - sori Pero!), eisteddom o dan goeden am ennyd a bwyta mwy o sweets, ac yna ar ol cael ein nerth yn ol, mwy o edrych rownd. Ffeindio ni sawl llawn pencil case o feiros. Wedyn brynais necklace a pendant siap seren arno - roedd e'n really bert. Felly nes i fynd adref a rhywbeth nad oedd am ddim!

Fe fues i, Deryn Du a Pero yn posio yn yr adeilad BBC Cymru, yn y rhan Coalhouse, mewn blwch ffotos. Roedden ni'n gwisgio hetiau dwl ac yn tynnu gwynebau dwl. Mae'r lluniau yna'n classic! --->

Cawsom rest arall am dri, a hynny ar fancyn tu ol i'r adeilad S4C, ar fancyn reit yng ngholau'r haul. Lle sylwon fod ein breichiau ni wedi troi mewn i lobsters - roeddent wedi llosgi yn yr haul. Roedd hi mor dwym yno, roeddwn i wedi tynnu fy siaced, a dwi byth yn tynnu siacedi na siwperi off. Roedd Wolfy a Speis yn waeth off na ni - gan ei bod nhwch dwy mewn festiau, a Speis mewn shorts byr, byr a fflip fflops. A pan brynodd Speis Wellingtons newydd gan fod ei fflip fflops yn anghyffyrddus (cawsom y fraint o weld y blister ar ei bys troed... ych), roeddech yn gallu gweld yn glir lle roedd hi wedi llosgi ei choesau uwch ben y wellington, a lle roedd y wellington wedi ei amddiffyn hi o'r haul.

Ta beth, fe eisteddom ar y bancyn am ages. Aeth Pero a Deryn Du off am bach, achos eu bod nhw'n stalkio rhyw ddynion golygus ar motobeics. Fe wnaeth fy Mousy i a Mousy Pero ddod yn ffrindiau ("Mousy bums!"). Fwytawon ni fwy o sweets. Penderfynodd Pero fod hi eisiau fideo o hi a Deryn Du yn rhedeg i lawr y bancyn... merch rhyfedd. Roedden wedi bwriadu dychwelyd i adeilad ITV Wales i ffilmio bwletin newyddion ein hunain (rhwng 10 a 12 a 2 a 4 roeddech yn gallu ffilmio bwletin eich hunan mewn copi o'r stiwdio - mega cwl), ond doedd dim amser.

Am dri, cafodd Deryn Du neges destun oddi wrth Speis i'n atgoffa i beidio colli'r bws... a doedd y bws ddim yn gadael nes hanner awr wedi pump... Roedden nhw'n amlwg yn meddwl ein bod ni'n idiots haha! Roedden nhw'n iawn really.

Cawsom un wac fach rownd eto, a dychwelon i'r Neuadd Fwyd gan fod Pero a Deryn Du eisiau ysgytlaeth Daioni. A wedyn off am y wac fach ddwethaf rownd. A dyna pryd sylwais ar y New Holland cyntaf roedden wedi gweld trwy'r dydd! Wrth gwrs, tynnais lun ohono i Nhad. Blino eto - roedd y bagiau llawn freebies yn dechrau trymhau! Cwarter i bump, roedd y bedair ohonom yn eistedd ar bwys y fynedfa, yn aros nes pump er mwyn mynd ar y bys - roeddent yn benderfynol o fynd arno cyn i Wolfy a Speis wneud!

Felly pum munud wedi pump, roeddent wedi dweud wrth Dave Y Driver fod dwy ohonom dal heb ddod (roedd e'n ticio enwau off list), a dechreuon dynnu lluniau o'n hunain yn gwisgo'r masgiau roedd am ddim gyda'r HM Inland Revenue lle. Roedd hi'n ugain munud wedi ar y ddwy arall yn dod ar y bys, a chwerthin a pwyntio ar y rhai oedd yn hwyr wnaethom.
Adref a ni wedyn, ar ol diwrnod llawn hwyl a sbri yn y Sioe Frenhinol!

Roeddwn yn dal i ddala'r llyfrun a Matthew Rhys ar y blaen yn fy llaw... roedd hynny'n fy mecso i bach... dwi'n officially obsessed nawr. Ta beth, hanner ffordd drwy'r daith, dyma Pero yn gofyn os allwn ni wrando i McFly ar fy Ipod i eto, a dyna fi'n plymio i mewn i boced ffrynt fy mag, ac yn tynnu allan fy Ipod... roedd e'n siocled i gyd. "Yyyy mae Mousy wedi pwpian!" meddai Pero. Damnit all - roedd fy mag agored o Organic Chocolate Buttons wedi toddi dros y lle. Felly fu rhaid i mi lio'r holl siocled i ffwrdd... o dyna waith caled! Lwcus nes i'm rhoi'r llyfrun yn y bag - neu fyddai hwnnw'n siocled i gyd fyd!

Adref. Fe fues i bron a cysgu yng nghanol CSI, a hithau'n hanner awr wedi naw. Am ddeg, roeddwn yn fy ngwely, yn ceisio ffeindio ffordd o gysgu na fyddai'n achosi dolur i'r breichiau coch yna sydd nawr gen. Ar peth gweathaf yw, mae gen i ddau fandyn o groen gwyn lle roedd fy watch a'r bandyn melyn flourescent DVLA ges i am ddim!
Ta beth, dwi'n credu mod i wedi ysgrifennu popeth i lawr nawr. Nol i gwely - dwi'n shattered - a nol i rhwto after sun ar y breichiau.

Sunday 20 July 2008

Radio:ACTIVE!

Diolch i'r CD yma, fe rydw i'n mynd i golli o leiaf deg stone.

Radio:ACTIVE, albwm newydd McFly, yr un wnaethon nhw contraversially (sillafu eto, sori), rhoi am ddim gyda'r Mail on Sunday. Yn osygtal a'r ffaith fod y CD am ddim, hwn yw fy hoff albwm so far oherwydd fod y caneuon yn neud i fi eisiau jwmpo i fy nhraed a dawnsio a neidio am byty!

A ma' pawb sy'n fy nabod i yn gwybod fod McFly wedi llwyddo i gyflawnu'r amhosib. Dwi'm yn gallu dawnsio i safio'n fywyd.

Fy hoff track yw'r sengl newydd, One For The Radio, a dwi'n dwlu ar y neges yn y gan Smile. Yn gwrando ar yr album hyn, dwi'n teimlo'r un rush o ieuenctid a bywiogrwydd ro'n i'n teimlo yn ei album cyntaf, ac yn y gan 5 Colours In Her Hair. Roedd eu ail albwm nhw, Wonderland, yn rubbish, a'r pedwar ohonynt yn ceisio cael pobol i'w cymryd o ddifri. Roedd Motion In The Ocean yn well, ond roedd dal rhywbeth ar goll. Ond ma' nhw wedi llwyddo i gael y peth yna oedd ar goll nol! Yay!

A sylwais ar y cefn, fod James Bourne, gynt o Busted (love of my life gynt 'fyd), yn ei helpu nhw! Roedd e'n ysgrifennu llawer o'r caneuon ar Room On The Third Floor, ac roedd Tom o McFly yn ysgrifennu ar gyfer ail albwm Busted - A Present For Everyone. Doedd e ddim i'w weld ar y ddau albwm dwethaf, a dwi'n credu actually fod hynna 'di gwneud gwahaniaeth. O wel, GO JAMES!

Radio:ACTIVE - yr albwm gorau i wneud i un wenu. Dwi'm yn credu fydd yr albwm yn cael ei gyfri fel un o'r Top 10 albums, gan ei fod e am ddim gyda'r papur, ond dwi'n meddwl ei fod e'n haeddu No 1 slot. Dim mod i'n biased ac yn ffansio Harry na dim felly...

Here's another song for the radio!

Saturday 19 July 2008

Englyn - amhosib.

Mae ysgrifennu englyn yn amhosib. Ffaith.

Neithiwr, fe ddaeth Mam adref yn cario englyn wnaeth dalu £60 am i fardd eithaf enwog (wedi ennill y gadair neu'r goron neu whatever) i ysgrifennu i'w ffrind sy'n ymddeuol. Wel, doedd Nhad a finnau ddim mor impressed a oedd hi. Sixty quid am bedair llinell? Rip off.

Ond, gwelais fod llawer o arian yn involved, felly dwi 'di treulio'r ddwy awr ddwethaf yn ceisio ysgrifennu englyn... a mae e'n fflipin galed. Lliwgar bu'r iaith, wrth i mi sylweddoli nad oedd e mor rhwydd ag o'n i'n ddisgwyl, a nad oeddwn yn mynd i allu cyfansoddi un cyfan, let alone un da.

Triwch chi fe, seriously. Mae ysgrifennu englyn yn impossible. Fydde fe siwr o fod yn rhwyddach i fi ddysgu hedfan.

Thursday 17 July 2008

Ydy Rhydian Bowen Phillips yn hoyw?

Dwi wedi bod yn cwestiynnu rhywioldeb Rhydian Bowen Phillips ers tro nawr. Mae e'n ddyn sengl (adroddiad adeg Nadolig dwethaf yn dweud ei fod am ddarn mawr o mistletoe, am ei fod yn sengl, a dwi'n cymryd ei fod e dal yn sengl), ac anaml iawn mae person mor olygus a fe yn sengl, yn enwedig os ydyw e ar y teledu. So meddyliais, hold on, ydy'r hync hyn yn hoyw?

A dyma fi nawr, yn hytrach na gwneud rhywbeth defnyddiol, fel darllen pethau addysgiadol etc, yn creu dadl i fy hun. Felly...


Ydy Rhydian Bowen Phillips yn hoyw?
  • O Blaid
  • Mae e'n gwybod ei fod yn rhannu ei benblwydd gyda Gary Barlow o Take That. Dyw dynion ddim yn hoffi Take That! (Ond son am Gary Barlow, love of life Pero, a'i mam hi actually, llongyfarchiadau - mae ei wraig yn disgwyl plentyn arall!)

  • Roedd e arfer bod mewn boyband. Or enw Mega. Boybands - enough said.

  • Mae e'n gwisgo cardigans, a dyw e ddim yn ddadcu, a dim Roy Cropper off Corrie yw e. Dwi'n meddwl fod cardigans yn gay, hyd yn oed ar Pipo.

  • Mae e wedi canu ar Can I Gymru. Yn solo. Dwi'm yn trystio solo singers. Dim hyd yn oed Ronan Keating. Can eithaf poppy or enw Mi Glywais. A mi rwyf yn gwybod hyn am fod y gan ar fy Ipod... Sori.

  • Mae hi'n edrych fel petai e'n treulio mwy o amser yn gwneud ei wallt na fi. (Dros hanner awr iddo fe felly.)

  • Fel ddwedais i ddechreu, mae'n ymddangos fel petai'n sengl, a gall dyn mor olygus a na fyth fod yn sengl. Mae'n rhaid fod e "in the closet" o hyd.
  • Mae e'n mynd i'r gym - arwydd ei fod bach yn vain, ac bob tro dwi'n meddwl am gyms dwi'n meddwl am Matthew Rhys yn ei ran fel Kevin ar Brothers & Sisters yn mynd i'r gym, ac yn cwrdd ag un o'i gariadon, Chad, neu Chip... who cares, Kevin yw'r un golygus... sori! Nol i Rhyds...

  • Mae e o'r Rhondda. Dyw e ddim yn edrych fel eich typical Rhondda Valley boi... dyw e jyst ddim digon chavvy. Felly rhywbeth not quite right.


  • Yn Erbyn

  • Petai'n cael dewis 3 person i ymuno ag ef i gael parti, fyddai Sarah Michelle Geller yn un o'r tri. Dwi'm yn ei gweld hi fel fag hag. Ma' rhaid fod ganddo thing amdani?

  • Fe oedd e'n mynd allan gyda Catherine Ayres, a oedd yn mynd i capel gyda ni. Gay men don't date women, fel pwyntodd Mam allan i fi.

  • Dwi wedi ffeindio llun ohono yn chwarae pel droed. A hefyd dwi wedi darllen ei fod yn ffan o'r Bluebirds ac o dim Lerpwl. Mae e'n mynd i gwylio gemau bant fyd. That's not a stereotypically gay thing to do.

  • Dwi'n mynd i ail adrodd y pwynt uchod, gan ei fod yn siarad am bel-droed non stop ar ei flog Uned 5. Mae e'n edrych yn fwy syth wrth i fi ddarllen ymlaen.

Wel, efallai fod e'n gay, efallai ddim. Mewn byd lle mae hi'n politically incorrect i fod yn stereotypical (sy'n cweit right fyd!), dyw fy mhwyntiau i ddim gwerth llawer. Fel fyddai Drew Carey'n aml yn dweud ar ddechrau Whose Line Is It Anyway? "the points don't matter".

Efallai fod e bach yn hen i fi, ond please Duw, er fy mwyn i, na'n siwr fod Rhydian Bowen Phillips yn "syth".

Ladies of Leisure in Llandeilo!

Anti-B and Me Day Out Numero Deux.

Gan fod y tywydd yn ddiflas, roedd Gerddi Aberglesny (llisafu, god ma'n sillafu i'n wael, ydy Aberglesny'n iawn?) allan o'r cwestiwn, ond aethom, fel roeddent wedi bwriadu i Laaaaandeilo! Cawsom wir, ddiwrnod pleserus dros ben.

Roedd Anti-Bionic, y coat-aholic, am brynu got Barbour, gan eu bod nhw 30% off yn y siop Pinc yn y stryd fawr. Nawr, efallai nad ydych yn gwybod, ar bob trip siopa, mae Anti-B yn dueddol o brynu cot. Dwi'm yn gwbod, efallai fod ganddi coat fetish neu rhywbeth, who am I to judge? Wel heddiw, gadawodd y siop gyda dwy got mewn bag. Felly mae ganddi dipyn o esbonio i wneud i PC Larwm heno! Dwi'n credu fod ambell ddeg fach mynd i ddod off y pris!

Ta beth, gan ei fod hi hefyd am ryw item arall dwi ddim yn cael enwi, mewn siop nad wyf fod trafod (dwi wedi cael warning fod y cynnwys yn naughty). A tra'n gadael y siop nwyddau yma dwi ddim yn cael son am, dyma Anti-B yn adrodd y stori rhyfedda wrtha i! Yn ol pob son, er fod y cwpwl sy'n rhedeg y lle yn briod...wait for it... mae e'n gay, a hi'n lesbian, a maent yn cael raves mawr. Nawr os ydy hyn yn wir, mae hynna'n hilarious! Meddyliwch dyn a menyw hoyw yn priodi, rhedeg siop sydd ddim hyd yn oed yn gwerthu glowsticks yn cael raves. Lle yn y byd mae Anti-B yn cael ei gossip o, dwi ddim yn gwybod!

Gwrddon a Mam am goffi yn yr Angel, a hithau'n rhydd i adael gwaith gan fod y cleaners a gweithwyr fel 'na ar streic. Gath hi sandwich. Roedd Anti-B a finnau eisioes wedi cael brecwast... byrgyr a egg roll o Byrger Fan Gorau Cymru yn Llangadog! Woooo! Fydd Nhad mor jealous pan weda i wrtho fe ein bod ni wedi bod yn cael byrgers na hebddo fe.

A gorffennodd ein outing yn Toast. A finnau wedi mwynhau dianc o'r ty am fore, fe wnes hefyd elwa o bling ring newydd oddi wrth Anti-B (mae hi wastod yn gwisgo bling rings yn ogystal a llu o bling things!), a treatodd Mam fi i sgert. Mae hi bach yn fawr, ond mae hi'n neis, a fi hefyd yn gallu ei gwisgo hi fel ffrog os dwi'n bod yn creative gyda belt!

Daeth Mamgu 10 i'n nol i wedyn, a mynd a fi adref. Doedd hi ffealu dod gyda ni bore ma... Roedd Beauty Day ar QVC. Colli diwrnod mas, oherwydd QVC?!?!?!?! O well, pawb at y peth a bo, sbo.

Wednesday 16 July 2008

Dylan Thomas a fi.

Heddiw, trip llenyddol i fi, Anti-B a Mamgu.


Ar y Dylan Thomas trail a ni... wel, rhan ohoni, gan ei bod hi'n drip eithaf hir a cymleth i fynd nol dros yr holl lefydd a fu yn ei fywyd. Felly i Talachern (neu fel dwi'n hoffi ei alw, LARN!) a ni!


Gan adael fy Nhad o flaen Homes Under The Hammer, fe aeth Mamgu a fi off i Morrisons (MORRISONS! Hello Richard Hammond!) i gwrdd a Anti-Bionic. A daeth hi a presants i fi, sydd wastod yn neis (diolch yn fawr iawn xxx) - dau tlws ar gyfer hongian off y ffon symudol, un siap mefusen, a un siap M, a hefyd roedd hi wedi prynu scarf mega ciwt i fi o Tesco. A dwi'n bwriadu gwisgo hwnnw i fynd mas i drampan fory, ond yn ol a ni i heddiw.


Ta beth, yn LARN, roedd yn car boot sale yn y maes parcio, felly fuon yn pocio rownd fan 'na am bach. Wedyn, dyma ni'n dilyn y llwybr heibio i'r castell ac tuag at y Boathouse, a'i sied. Dwi'n credu dylen ni gael sied fel un Dylan Thomas. Dwi wastod wedi eisie sied bach actually. Ta beth, roedd hi'n rhyfedd camu nol i'r pumdegau, i mewn i nirfana'r bardd o fri, a gweld y ty lle treuliodd y bardd flynyddoedd dwethaf ei fywyd byr, ag ysgrifennu Under Milk Wood. Roedd yna hen luniau o'r teulu, yn ogystal a hen genel Mably, annwyl anifail anwes Dylan Thomas.


A dwi hefyd wedi darganfod fod fy modryb a fy mamgu yn "aspiring photographers". Seriously, o'n i'n meddwl nol pan aethon ni i'r briodas, "flippin heck, llun arall?" yn aml, ond mewn priodas, mae hynny'n ddealladwy. Ond heddiw - roeddent yn gofyn am luniau ym mhob man; llun ger y castell, llun ger y mor, llun ger y boathouse, llun ger y shed, llun yng nghaffi'r Boathouse, llun yn Hurst House, llun ger bedd Dylan a Caitlin Thomas - flippin heck. Fel ddwedes i wrtho nhw, "Ma'n rhaid i mi dechrau codi fee am yr holl photo ops 'ma!".


Bwyd oedd y stop nesaf. Roedd Anti-B eisiau mynd i lle o'r enw Hurst House Hotel i gael bwyd, a fe roedd yn le neis iawn yng nghanol y wlad, gyda cae llawn ceffylau gyferbyn. Ges i fish and chips, a crab cakes i starters (crab cakes, nid crap cakes!) a nawr dwi bron a byrstio. Dylen i ddim byta gymaint, seriously.


Gorffen lle wnaeth y dyn ei hyn orffen wnaethon ni - y stop dwethaf oedd i weld ei fedd e a Caitlin Thomas. Roedd y groes wen yn glir yng nghanol rhesi o gerryg llwyd, yn sefyll allan, fel gwnaethon nhw, dwi'm yn amau. Cyn mynd heddiw, awgrymodd Anti-Bionic ein bod ni'n prynu blodau i roi ar y bedd, ond fe ddwedes i fydde, o beth o'n i'n ddeall o The Edge of Love, well gan y ddau beint yn lle 'ny. Wel, roedd rhywun eisioes wedi meddwl am hynny - yn ogystal a sawl tisw fechan o flodau, roedd yna botel fach y wisgi.


A dyma fi adref. I shall not go gentle into that good night.

Tuesday 15 July 2008

Sut wnaeth Top Gear fy berswadio i lanw i fyny application form am job yn Morrisons.

Efallai fod y rhanfwyaf ohonoch wedi gweld, ond mae Richard Hammond ar hysbysebion newydd Morrisons.

Ar ol i'r hysbysebion creulon yma dorri ar draws Coronation Street neithiwr, dyma fi'n clywed Shine gan Take That, a'n meddwl, "o gret, Denise Van Outen yn ei wellies hi eto", ac yn ochneidio. Dwi ddim yn gallu clywed y gan Shine nawr, heb feddwl am girlfriend Lee Mead, neu Joseph i'r rhanfwyaf ohonom, na Morrisons. Wel dyma fi'n edrych i fyny, yn barod i wgu arni, ond pwy dwi'n clywed yn siarad am "freshly cut meat" a "only the best organic fruit and veg" a pethau fel 'na... ond Richard Hammond!

A dyma fi'n gweld Richard Hammond yn Morrisons. Am sioc. Roeddwn ni wastod wedi gweld fe a'i wraig fel pobol Tesco yn hunan... obviously not, os ydy ei'n teimlo mor passionate am Morrisons ei fod yn mynd ar y telly box ac yn dod yn seren hysbysebion Morrisons.
Efallai ond y rhai mwyaf craff ohonoch sy'n cofio, ond fe ges i application form ar gyfer job yn Morrisons wythnos, dwy, efallai dair yn ol... a dwi'n bwriadu ei lanw i mewn wedyn!
Mae Richard Hammond wedi llwyddo ing nghael i i lanw'r fform yna i mewn. Da iawn Hamster!
Meddyliwch, diwrnod diflas arall yn y gwaith, a Richard Hammond off Top Gear, wedi parcio ei Porchue tu allan, ac yn rhedeg mewn i nol ond y fruit and veg gore, a'r cig gore, y toilet roll gore (well ma' hyd yn oed rhaid i celebs ddefnyddio'r toilet) a beth bynnag arall mae e'n ei brynu gore (car wax a oil mwy na thebyg... chi'n gallu cael rheina yn Morrisons?).
Fydde hwnna'n cool! Yn syth fydden ni'n gofyn iddo fe os allwn ni gymharu ein uchder, i weld os ydw i actually'n dalach na Hamster. Hefyd, yr ail gwestiwn yw ble cafodd e'r dannedd wedi ei wneud? I doubt ga i'n promoto am fod yn weithiwr da ar ol gwneud hynny though...
(plus, ondyw'r Bugatti Veyron yn beeeeeeeeeeeeautiful. Car cyntaf perffaith i fi, hint hint Nhad!)

Sunday 13 July 2008

Nothing sweet about me...

Dyna ni. Mae'n nannedd i'n mynd i gwmpo mas, diolch i'r holl bethau melys fytes i heddi.

Strawberry laces a squash pinc oedd i frecwast bore 'ma. Am y tro cyntaf ers dydd Mercher, dyma fi'n cael bach o lie in. Ceisiodd Mam fy ffonio am ddeg, a'r peth cyntaf ddwedais wrthi oedd "FI'N CYSGU!". Dyw hi byth yn ffonio'r amser iawn. Ond ta beth, strawberry laces oedd ar ol wedi'r trip i'r sinema ddoe oedd fy "mhryd bwyd" cyntaf... fydde un yn meddwl eu bod nhw'n disgusting peth cyntaf yn bore (wel, am hanner awr wedi deg... ), ond na. Brecwast blasus iawn.

Sausage rolls special Mamgu Nantglas wedyn, fel eleven o clock snack (fi'n dweud wrthoch chi, ma' chwcan hi'n amazing - yn enwedig y scrambled eggs), a cheese and onion crisps i fynd gyda nhw. A dyma fi'n mentro i mewn i'r drar pethau melys, a chwilio am yr Aero... o bu bron i mi lefain y glaw pan sylweddolais, wedi bwyta'r bar o siocled a oedd wedi ffloatio i lawr o'r nefoedd, taw dyna'r un ddwethaf. Fe fetiai chi fyddai'n dioddef o cold turckey nawr, heb Aeros.

A addawodd Mam fyddai Chinese i swper heno. A hithau'n dathlu ei bod adref o Gogland, ordrais beth dwi wastad yn ordero - Sweet and Sour chicken. Cyw iar sur a melys... Yummy. Ond eto, pethau melys. Melys, melys, melys!

Ac o melys, i mefys. Fe ffoniodd Anti-Bionic bore 'ma, jyst am chat. Ni'n golygu mynd am Dylan Thomas trip i Laurghne (pam sillafu'r peth mewn ffordd mor complicated, pam jyst ei sillafu "LARN", sy'n lot rhwyddach!) wythnos nesaf. Ta beth, ar y ffon, a finnau wedi son eisioes mod i eisiau galw'r car welais o'r blaen yn Strawberry ar fy mlog, dwedodd hi fod ganddi anrheg i mi. Ges i bach o sioc i feddwl ei bod hi'n cofio am hyn, gan mod i ddim actually yn. Anyway, ddwedodd fod hi wedi cael mobile phone charm siap mefusen i mi! Dyna sweet ohoni!

Wedi'r holl fwyd llawn calories dwi 'di bwyta heddiw, ma'n rhaid mod i o leia pedwar dress size yn fwy... ond tough. Joies i bob un losinen. A hefyd, sylwch mod i wedi bod yn ddigon clyfar i linco popeth i sweets. Yn y ffordd Americanaidd, "Sweeeeeet!".

Whant pacyn o Haribos arna i nawr.

Saturday 12 July 2008

Eto, boddi yn mewn pwll o gariad rwyf fi... ac yn methu dianc rhag Hannah Montana

Am y tro cyntaf erioed, dwi wedi bod i'r sinema i weld yr un ffilm ddwywaith.

Chwerthin ar ben Tuesday roeddwn arfer gwneud, a honno'n mynnu mynd i weld Rupert Grint yn yr ail Harry Potter eto, ag eto... ag unwaith eto. O leiaf dyw Matthew Rhys ddim yn ginger...

Do, fe es i i weld The Edge of Love unwaith eto. Dal yn olygus mae Matthew Rhys - er fod Pero, a ddaeth gyda fi, yn chwerthin am fy mhen ac yn ei alw'n "minger". Ma' angen specs ar y groten, dwi'n gweud wrthoch chi. Ac ar ol y ffilm "dim mor wael a o'n i'n feddwl fydde fe" oedd ei ferdict hi. Dyw "arty films" fel galwodd hi The Edge Of Love, ddim really yn apelio at hi fel arfer. Fe wnes i fwynhau'r ffilm hyd yn oed yn fwy tro hun actually, a finnau eisioes yn gwbod pa bits roedd Matthew Rhys yn ymddangos ynddo, ac yn gallu mynd "ooo ma Matthew'n dod yn y bit nesaf". Roedd fy ngwertfawrogiad o'r stori ac o'r saethiadau a'r production a'i gwisgoedd yn fwy eto'r tro yma. Honestly, dwi moyn par o wellies fel rhai Sienna Miller. Ac fe roedd acen Kiera Knightley yn tyfu arnaf erbyn y diwedd.

Wolfy a Deryn Du oedd actually moyn gweld y ffilm, a Pero ddwedodd daethe hi, am nad oedd hi am deimlo'n left out. Ond, a Deryn Du off yn three counties orchestra band (or whatever), a dim son wrth Wolfy, antur bach arall i Pero a Bwdj oedd hi. Excuse i fynd eto felly, er mwyn i Wolfy a Deryn Du gael ei weld... o diar, dwi wir yn obsessed.

Fe wnaeth Pero a finnau gyfarfod yn dre, ac fell cerdded rownd fuon ni rhwng deuddeg a dau, ac yn bron bob siop... daethom ar draws arch nemesis Pero... HANNAH MONTANA! Doedden ni ddim yn gallu dianc rhag y dannedd gwyn, gwyn, a'r gwallt blonde, blonde. Fe roedd hi ym mhob man! Claire's, Partners (neu Rymans nawr, sori... ych, PARTNERS), Woolworths, Game, Wilkinsons, WH Smiths... DOEDDECH DDIM YN GALLU DIANC! Fydde hynny'n good plot ar gyfer ffilm arswyd... methu dianc rhag Hannah Montana... dwi'n credu fod Pero'n dwlu arni really.

Erbyn hanner awr wedi un, roeddent wedi cael digon o'r dre. A hithau'n ddydd Sadwrn, a ni fel arfer yn mynd i drampan yn ystod yr wythnos, roedd hi'n brysur yno. Tra'n Accesorize, cafom ddim cyfle i fynd unrhyw le'n agos i'r stand oedd yn dal y jinglarings hanner pris, gan fod gormod o bobl o'r ffordd. Hefyd, roedd hi'n od gweld rhanfwyaf o'n cyd ddisgyblion ni'n gweithio. Ma' Pero newydd gael jobyn dydd Sadwrn nawr yn Bon Marche (dylai fod acen ar yr e, ond fel rydych yn sylwu, dwi rhy ddiog i hwpo to's ar fy llythrennau, heb son am chwilio am acenion) - a fe wnes i ffeindio mas eich bod chi actually fod ei yngan Bon Marsh-eh, nid jyst Bon Marsh... Dysges i rhywbeth newydd heddiw.

Ni oedd y cyntaf i gyrraedd y sinema - yna am ddau, ar y dot, wedi bod yn CoOp yn prynu sweets (3 packets for a £1 - gymeron fantais o'r fargen yna) a pop. Wedi eistedd mewn seddau da yng nghanol y lle, dyma lu o bensiynwyr yn dod mewn, tra bod Pero a finnau'n bwyta strawberry laces. Ac ymhlith y torf o hen bobol... dyma ni'n gweld Anti Marian o Pobol Y Cwm!!! Edrych ar ein gilydd wnaeth Pero a finnau, gyda fi'n mynd "Paid ti mentro gweud dim... neu dechre chwerthin wna i... a wedyn fyddai'n ffaelu stopo!"

Ac i orffen, soniaf am ddiwrnod arall heb Mam. Wrth gwrs, bore 'ma, wedi dod mas o'r cawod ac wedi gwisgo (fy nghrys-T serennog newydd o Primark a jeans, i'r rhai sydd am wybod), fy nghwallt yn wlyb (obviously) ac yn diferu... dyma fi'n mynd at y GHDs ar sychwr gwallt... i ddarganfod fod hi wedi mynd a'r fflipin hair dryer gyda hi i GogLand!!! Panic oedd hi felly, gan fod rhaid i mi sychu'r trwch o wallt sydd gen i a tywel, a'i gael yn sych mewn dwy awr. Rhyw ffordd, fe lwyddais i, ond doeddwn dal ddim yn amused fod y sychwr gwallt wedi mynd. Hefyd, i swper, yn hytrach na gadael i Nhad a finnau fynd i McDonalds eto, gadawodd hi rhyw Chinese Chicken Cyri a oedd ar sale yn Tesco i ni... inau fod unrhywbeth mae Nhad yn ceisio "coginio" yn troi mas yn ych, neu disgusting oedd y stwff anyway. Cawsom dext wrth Mam yn dweud ei bod hi a'i ffrindiau yn mwynhau Indians yn Nefyn. Pam ddarllenais y text allan i Nhad, "tra bod ni'n bwyta f*****g sh*t" oedd ei ymateb. McDonalds nos fory, gobeithio.

Ac felly off a fi i orffen gwylio Carry On Camping 'da Nhad. Actorion Carry On films = legends.

Friday 11 July 2008

Miss Tebot a Mamgu / USB, MP3, lle wyt ti?

(Ond ydw i'n farddonol heno?!)

Ta beth, heddiw fe es i allan am dro gyda Mamgu. Dwi'n wonderan weithiau, beth yn y byd wnethen i heb Mamgu 10? Ma' hi wastod yn fodlon dod yn ei Ford KA bach gwyrdd i fynd a fi i ba bynnag social gathering dwi wedi cael yng ngwahodd i. Hi yw fy taxi service personol, fy chauffer. Felly, pam ofynnodd i fi i fynd gyda hi i Rhiannon, Tregaron, doedden i ddim yn gallu gwrthod. A phan ddwedodd hi ein bod ni'n mynd i gael chips o Lloyd's Llambed, doedden i ddim hyd yn oed eisiau gwrthod.
Felly fel 'na fuodd hi. Daeth hi i'm hôl o adref marcie unarddeg, a off a ni, via Lladysul, i Llambed! Roeddwn i'n starfio, er i mi actually gael tost i frecwast bore 'ma, ac yn edrych mlaen am fy sgod a sglods. Dyna lle'r aethom ni gyntaf, ar ol osgoi cael ein bwrw lawr gan griw o blant ysgol gynradd oedd yn gwneud eu cycling proficiency. A dyma hi'n cytuno a mi, nid fy mai i oedd hi nad ydw i'n gallu reido beic - yng nghuddo i o fod yn rhy wimpy, wnaeth Nhad, pan ddechreuais gonan nad oeddwn yn gallu mynd ar gefn beic. Bai fy rhieni oedd e, am fod yn rhy ddiamynedd, ac am brynu beic, a oedd yn ol Mamgu, yn rhy fawr. Go Mamgu!
O, so chips. Yummy. Ffein. Lysh. Lloyd's yw un o'r siope chips gorau - yn joint orau â Morgans chippy, Caerfyrddin. Roedd Mamgu 10 yn cymryd mantais o'r ffaith ei bod hi'n "senior citizen" ac yn gallu cael y pryd spesial, ar bris special, oedd i gael i'r "henoed" (ma' Mamgu'n eitha touchy am y ffaith nad yw hi'n hen, felly dyna'r dyfynodau). Meddyliais am wneud yr un peth, er mwyn cael pris rhatach (Don't Get Done Get Dom!), ond sylweddolais nad oedd fy ngwallt i digon gwyn, na fy ngefn digon crwca, felly nes i jyst ordero scampi.

Llusgodd Mamgu fi wedyn i'r siopiau elusen i gyd. Fues i'm yn lwcus gyda'r CDs heddiw. Loads o rhai Five yn siop elusen Ty Hafan, ond ma' Five yn boring ta beth. Anheg yw hi i weud actually, taw yn llusgo i mewn wnaeth hi. Ma' mynd i mewn i siopiau elusen yn bach o guilty pleasure... sori. Petai Mam ond yn gwbod, crychu thrwyn fyddai'n gwneud - bach o snob yw Mam pan mae'n dod i ddillad ail-law, er ei bod hi'n twrio trwy pob bag mae Anti-Bionic ar fin hala i Oxfam, ac yn cadw unrhyw beth mae'n lico.
Yn Llambed, prynais jinglarings mewn pecyn bach - bwtwns, beads a jewels plastig - a notebook, dwi wedi yn barod ei fedyddio'n "Dyddiadur 2009" er fod hi ond ym mis Orffennaf, yn y "BARGAIN BOX". Mae'r broses o ddewis dyddiadur - gan mod i'n cadw un o rheina bob dydd - yn un speshal iawn. Yn syml, dwi'n gweld notebook dwi'n teimlo "connected" gyda, ac mae e'n fy newis i, yn hytrach na fi'n ei ddewis e. OK, nawr dwi yn sylweddoli mod i'n seriously strange. Os ydych am wybod pam dwi'n dewis fy nyddiaduron fel 'na, wedyn ewch o 'ma, gan nad ydwyf yn gwybod.

Tregaron nesaf. Yno jyst achos fod Mamgu am wneud ei modrwy briodas yn fwy gan fod ei bysedd hi'n chwyddo. Roc a rol. Gethon ni bip fach rownd yr oriel fyd - neis iawn. Roedd yna un darn a oedd yn lun o Dumper Trucks yna, a fi'n credu fyddai'r fy Nhad - Art Lover of the Year (not) - wedi actually hoffi'r llun. Aethon ni o fan 'na wedyn, a dropodd hi fi off adref.
Nawr, heno. Am y penwythnos, mae Mam wedi gadael Nhad a finnau i ffendio dros ein hunain, tra bod hi'n mynd off gyda'r merched i Nant Gwrtheyrn. McDonalds oedd i swper heno. Mae hi wedi gadael rhyw fath o chicken cyrri chinese style i ni am fory... ond nabod ni'n dau, McDonalds fydd hi 'to nos fory. A wedyn McDonalds i ginio dydd Sul, neu falle fydd Nhad yn teimlo fel bod yn bach o Jamie Oliver ac yn gnweud bacwn i ni... cyn croesawi Mam nôl nos Sul, yn y gobaith fydd hi'n neud potato wedges ffein i ni.
A hithau'n ddydd Gwener, trefniadau'r penwythnos = mynd i weld The Edge Of Love am yr ail waith yfory (yay scrin FFFFFFFFFFFFAAAAAAAAAAAWR) gyda Pero ac dwi'n meddwl fod Wolfy'n ymuno â fi - mae Derynkins, fel dwi'n hoffi ei galw hi nawr (mae hi'n fy ngalw i'n Tebotkins - ma' ganddi hi thing am adio "kins" i ddiwedd enw person) off yn rhyw Band Camp gyda'i bassoon, Raphael, felly yn colli'r outing yma. Ac efallai fydd Nhad yn mynd a fi i'r Truck Show sydd yn Nghaerfyrddin dydd Sul. Oh yay (sarcastig, i'r rhai nad ydynt yn gallu gweld hynny). Hefyd, dwi gorfod ceisio survivo ar tua £2 o credit ar y ffon symudol... uh oh.
Ac i orffen, rwyf wedi llwyddo i golli fy USB. Dwi'n gytted. Mae gen i Dop Secret, Confidential files arno - totally dangerous in the wrong hands. (Ha! Gwrandwch arno fi'n bod yn James Bond!). Mae e yn fy ystafell rhywle... a dyna'r broblem. Dwi dal heb lanhau'r lle... i fod yn honest, mae'r mess wedi gwaethygu, rhyw ffordd. O diar. Gofynnodd Mamgu fi am stad yr ystafell y bore 'ma actually, a chynnigodd hi helpu lanhau. Diolchais iddi, a gwrthod ei chynnig... fydde hi'n cael ffit petai'n actually dod i mewn a gweld y lle'n iawn... Ond o, USB, USB, yr un sydd actually yn MP3, lle yn y byd wyt ti?

Wednesday 9 July 2008

Mr Bioleg ar y fish and chips!

Ar Facebook oedden i, pan ddes i ar draws... hwn.
Bu Biko-Eco'n ddigon anlwcus i gael gwyneb ein hen athro Bioleg ar ei chips e. Fel gallwch weld, dyw e ddim yn lot o looker.

McHedfan

Dwi ddim yn un sy'n breuddwydio'n aml. Fel arfer, pan yn cysgu, duwch yw holl sydd o flaen fy llygaid. Ond neithiwr, cefais freuddwyd eithaf pleserus.

Os ydych yn adnabod y pedwar dyn yn y llun, felly does dim suspence. Cefais freuddwyd oedd yn cynnwys McFly!

Ers i'r band ddechrau yn nol yn 2004, maent wedi bod yn amlwg iawn yn fy mreuddwydion. Pan ddechreuon nhw mas, roeddwn yn mega ffan, yn totally obsessed. Tom oedd fy ffefryn yn yr hen ddyddiau, tra bod Tuesday yn dwlu ar Harry, gan fod ganddi thing am drummers. Roeddwn i'n addoli'r albwm cyntaf, Room On The Third Floor, ac yn ei chwarae drosodd a drosodd. Dwi dal yn meddwl taw Met This Girl yw'r gan orau.

Ta beth, dwi'n cofio unwaith cael breuddwyd ohonynt lle wnaeth y rhaglen fore Sadwrn Ministry of Mayhem (theme tune by Noise Next Door aaaaw bechgyn) ddod i ffilmio yn fy nghartref i! Ac am ryw reswm, fe roedd y conservatory'n gollwng (yn amlwg doedd Mam ddim yna, achos fydde'n hysterical se na'n actually digwydd), ac roedd McFly yno, yn wlyb sopen. Ac fe roeddwn felly am autograph... a dyma fi'n dechrau chwilio'r ty am bapur... dyna lle droiodd breuddwyd lyfli mewn i hunllef. DIM FFLIPIN PAPUR YN UN MAN! Dwi'n cofio wedyn fi cael gafael ar Danny o McFly, a clingo i'w grys-T gwlyb a sgrechain "I DON'T HAVE ANY PAPER! DON'T GOOOOOOOOOO!"

Cefais hefyd freuddwyd rhywbryd am y pedwar ohonynt yn fy achub pan es ar goll rhywbryd - a rhoi lifft adref i mi mewn limo. Mae 'na lu o freuddwydion amdanynt wedi dod ataf yn fy nghwsg, ond heb fod list ysgrifenedig o'm mlaen i, dwi ddim yn ei cofio nhw.

Mae McFly ar fin rhyddhau'r pedwerydd albwm, ac yn hytrach na'i werthu yn y siopiau fel pob band normal, maent yn ei ddosbarthu am ddim gyda rhyw bapur dydd Sul (Times neu Telegraph neu whatever). Ac er mod i wedi prynu keyring 99p off Ebay a'i lun arno, dydw i bellach ddim yn ffansio Tom Fletcher.

Ta beth, neithiwr... wel, bore ma. Dwi wastod yn breuddwydio reit cyn dihuno, ac yn ol y ffaith mod i'n clywed y toilet yn cael ei fflyshio, roedd ei bod hi cyn wyth. Anyway, oll o'r freuddwyd dwi'n cofio yw eistedd yng nghaffi Marks & Spencers, a McFly yn dod i eistedd wrth y bwrdd drws nesaf.

Beth yw'r pwynt adrodd y stori hon, meddech chwi?

Wel, yn ol beth dwi i wedi darllen, pan rydych yn breuddwydio am bobol enwog, fel arfer rydych am i bobol yn eich bywyd chi fod fel y person/pobol enwog yna. Hynny dwi ddim yn deall. Mae gen i growd o bobol amazing yn fy mywyd - rhieni gorau'r byd, teulu sydd yn hollol mad, a ffrindiau sy'n awesome. Pam mod i eisiau newid unrhyw un ohonynt?

Falle taw rybbish yw'r holl dream interpretation thing wedi'r cwbwl. Mae eraill yn gweud taw just y pethau mae un yn meddwl amdano yn swyrlio rownd yn y pen sy'n achosi breuddwydion... felly, dwi'n meddwl am Marks & Spencers a McFly...

Ond mae rhaid gweud, petai yna sboner sy'n edrych fel Harry o McFly, neu hyd yn oedd Harry ei hunan, yn dod i mewn i'm mywyd, dwi'm yn credu fydden i'n conan. Petai unrhyw un ohonynt yn ymddangos, i ddweud y gwir...

Tuesday 8 July 2008

Pero, Deryn Du a finnau'n cael adventures yn Abertawe


Heddiw, fe es i, Pero a Deryn Du ar antur i Abertawe.
Mamgu 10 cafodd y fraint o fynd a fi a Pero i'r statison, a fuon yn anlwcus ar y ffordd. Roeddent yn styc tu ol yr hen Audi slow 'ma (a few wnaeth Mamgu actually mynd a'i basio - mi roeddwn yn stunned), a wedyn mynnu ein stopio oedd pob golau coch. Ond fe gyrrheaddon ar amser, er fod y tren yn hollol llawn. Sefyll roeddwn ar y ffordd i fyny, a hynny reit tu allan i'r toiledau. Roedd yna seddi - er eu bod yn brin - ond doedd dim tri ar bwys ei gilydd. Felly sefom yn gwasgu'r botwm i agor drws i ty bach i'r rhai nad oedd yn ddigon siarp i'w ffeindio.
Y siop gyntaf aethom i mewn i oedd TKMaxx - i'r rhai oedd yn becso. Ac yn fan na, daethom ar draws hyrdl cyntaf y dydd. Y grisiau a arweiniau i unman. Honnodd Pero am eiliad nad oedd yn hoffi escalators - er ei bod hi wedi mynd ymlaen i'w defnyddio wedyn trwy'r dydd - felly aethom i fyny'r grisiau... ac yn y fan honno, dechreuodd ein diwrnod crazy. Ceisiom fynd trwy'r drysau dwbwl a arweiniau i'r siop... ond nid oeddent yn agor! A nid oeddent yn gallu mynd i fyny'r grisiau'n bellach, gan fod yna wal mowr melyn yna, a un or arwyddion 'na gydag ebychnod arno yna! Felly nol lawr a ni, (ar ol posio am luniau) a defnyddio'r escalators. ESCALATORS. Sori, dwi'n hoffi sillafu'r gair.

Primark oedd un o'r stops nesaf. Fi'n gwybod bod yna sgandal ynglun a Primark ar Panorama yn ddweddar, am hawliau gweithwyr, ond dwi methu boicotio'r lle. Dwi'n hoffi bargain. Sori. Des i o na a breichled fach berliog (pearls, i bobol normal), crys-T serennog a sgidiau sgleniog. Roeddwn wedi ffansio'r trainers tro dwethaf o'n i yn Primark, ac fe wnaeth hyd yn oed fy anti sy'n prynu pob peth drud ddweud ei bod nhw'n neis.

Ar ol pip yn Topshop, off a ni i'r edrychiad newydd... New Look. Yno, brynais siaced newydd, am £10, lawr o £20. A dyna'r twenty pownd rhoiodd yn Nhad i fi wedi mynd straight off. Ta beth, yno penderfynnodd Deryn Du a finnau drial ffroge mlaen. Pallodd Pero - she's not a dress person. Felly ath hi off i gael look ar y jingelarings. Tries i ffrog borffor arno, a dewisodd Deryn Du un du a gwyn. Er fod yr un dewisais yn size 14 (sydd fel arfer yn rhy fach) doedd gen i'm or bust i ddal y ffrog lan, a galed oedd hi ceisio cael llun o'r ddwy ohonom mewn booth newid.

Off a ni o'r fan honno wedyn, a fi'n dechrau achwyn mod i'n starfo. Ma'n mola i'n fwy pwysig na'r wardrobe. Felly i McDs! Chicken Sandwich Meal i fi wrth gwrs - un MAWR! Nawr, fe cafom sbort yn McDonalds. Aethom lan lofft i eistedd, yn llawn atgofion o'r tro cyntaf i ni fynd i Abertawe gydam gilydd - am ryw reswm fe wnaeth Pero a finnau ffilmio Deryn Du yn dod allan o'r toiledau. Ta beth, yno, cawsom llond twll o ofan wrth wylio un o'r gweithwyr yn cadw checio toiledau'r merched! Cafodd e llond twll o ofan though wrth i rywun ddod mas! Hefyd, yn McDonalds, daeth yna lu o bobl Spaeneg i mewn - pob yn braidd henach na 12 - a dyma Pero a Deryn Du, sydd wrth gwrs wedi cymryd gwersi yn yr ysgol, yn ceisio deall beth roeddent yn dweud. Roedd e beyond fi, so fe wnes i ganolbwyntio ar yfed fy Nghoca-Cola, nes iddynt fyrstio mas i werthin.
"Hello?" oedd fy ymateb i (ma'r ddwy arall yn eithaf scary)
"Ma' un o'r rhai draw fan 'na yn eyeo ti lan!"
Wel ych. Roeddent way rhy ifanc, a doedd dim un ohonynt yn edrych ddim byd tebyg i Matthew Rhys na Eric Szmanda. Forget it.

Hefyd, yn McDonalds, cwrddon a bachgen ifanc diddorol iawn. Gossipan roedden ni'n tair - roedd y bwyd wedi hen fynd i'm stymogau - a dyma'r bachgen bach, tair mlwydd oed efallai, yn cerdded o amgylch y bwyty yn cario un o'r coniau WET FLOOR rownd y lle! Hilariws. Roedd y con plastig yn fwy na fe! A dyma ni'n tair wrth gwrs a'r ffonau symudol mas yn tynnu ei lun! Fi'n credu roedd e bach yn camera shy, a dyma fe'n dychwelyd a pacyn gwag o chips ac yn ei daflu at Pero! Roedd hynny'n ddoniol fyd, achos fe roedd yn ymddangos yn ddiniwed ac yn ciwt cyn hynny! Cafodd Pero dipyn o sioc!

Ar ol stwffio'n boliau, off i'r sinema. Ac yno, wrth gwrs, roedd rhaid cael popcorn. Hancock roeddwn yna i weld - dyw e ddim mor dodgy a mae'n swno, dim fel roedd Mamgu yn syth bin yn meddwl! Stori am superhero nad oedd quite yn deall sut i drin pobol. Roedd hi'n stori brilliant, a gallai ddim dweud mwy rhag ofn iddo sbwylio'r stori. Ond gweth gweld, dwi'n addo. Ta beth, yn eistedd yn y tywyllwch, dyma'r glowsticks yn dod yn mega bright, a bu'n rhaid i ni eu cuddio nhw - trenu fyd, roeddent yn edrych mor pretty. Fyd, tra fod Deryn Du wedi confiscato'r popcorn gan mod i'n cadw'u byta nhw, fuodd hi'n ddigon clumsy i dipo peth dros y llawr! Es i a nhw nol yn ddigon cloi! Ddwedais fy mod i yn mynd i'w cadw nhw'n saff... ac felly wnes i... eu cadw nhw'n saff yn fy mola!

Ar ol y ffilm, roeddent am ddychwelyd nol i siopa, felly dyna wnaethom ni. Dychwelon i'r Quadrant, ac i mewn i HMV a ni. Yno, bu'n ymdrech galed i geisio stopio fy hun rhag prynu albwm Ashlee Simpson (Ashlee Simpson-Wentz, sori) gyda gweddil fy arian. Fe lwyddais i fynd o na. Ac i mewn i ni i Qube wedyn, a dechreuodd Pero lafoerio dros y Babyshams (make esgidiau, dim alcahol), a bu'n rhaid i ni fynd o na'n weddol gyflym, cyn i Pero foddi'r siop yn ei phoer (ych a fi lol). Ceisiais chwilio am y dyn Big Issue eto - cyfweliad gyda Matthew Rhys! Ond nid oedd y dyn budr i'w weld yn unman.

Allan a ni o'r Quadrant, allan ar bwys lle mae WH Smiths, ac yno, roeddem yn agos iawn i Blue Banana. Doedd Pero erioed wedi bod yna... shocked oedd Deryn Du a minnau. Yn amlwg, doedd Pero erioed wedi mynd trwy phase "Goth" na "Punk" na "Emo". Druan a hi - deprived childhood. Bu Deryn Du a fi yn y phases na yn ein hieuenctid.

Aethom wedyn i lawr tuag at Poundland, gan fod Deryn Du am becyn o glowsticks fyd. Wedyn, i Peacocks a ni, a doedd dim byd o werth yno. Roedd y British Heart Foundation yno, a dyma fi'n dechrau ar y stori Simple Plan. Am dro, sbel yn ol, gyda Mamgu 10, fe lusgodd hi fi i mewn i un o siopau elusen Llanelli - The British Heart Foundation - ac yno, cefais hyd i CD Simple Plan am 99p. Ers hynny, dwi 'di colli'r CD, a dwi'n pallu prynu un arall gan ei fod fel arfer yn oleiaf £5.99 yn y siopiau CDs. A heddiw... yn y British Heart Foudation... bues yn lwcus unwaith eto!!! Sum 41 CD am 99p! O'n i'n well chuffed.

Yn y siop elusen, cefais syniad wych. Fel fflach mellten, daeth i mi o nunlle. Charity Shop Challenge! Grwp ohonom yn erbyn ein gilydd yn ceisio prynu'r outfit orau drwy ddefnyddio siopiau elusen yn unig! Good idea, no? Fi'n gwbod fod e bach yn smelly, ond mi rydych yn gallu cael ambell i good find yno. Go me!

Ac yna, amser dychwelyd adref. Roedd popeth erbyn hyn yn dechrau cau. Cyn mynd, er mwyn cymryd y mick o'r ffaith fod Pero a minnau'n terrified o ran fwyaf o adar, fe cawsom ein llun wedi tynnu yn edrych yn horrified o'r wylan hyn oedd yn y ffenest yn River Island! Mae hi bellach yn official - ni'n mad.

Yn ol i'r orsaf drenau a ni! A tu fas yr orsaf drenau, pwy oedd yno... rhywun yn gwethu'r Big Issue! Menyw oedd hon, a rhaid dweud, glan oedd ei dwylo hi, a mi roedd hi'n reit serchog. Yn anffodus iddi though, roedd gen i ddarn pumdeg ceiniog, a ffrindiau digon amyneddgar i aros amdanai! A er yr holl gyffro o actually ffeindio rhywun oedd yn gwerthu'r Big Issue, a helpu'r llai ffodus, roedd gen i'r blydi issue'n wrong. Dim cyfweliad gyda Matthew Rhys. Daminit all.

Ta beth, ni oedd y cyntaf ar y tren ar y ffordd nol - felly dim sefyll i'r dair hyn. Dewison y seddi gorau, a ploncio'n pen olau i lawr yno. Roedd hi'n neis gael gorffwyso ein traed blinedig am bach! Roeddent yn dal i siarad non-stop, ac fe roedden nhw'n chwerthin ar ben fy obsessiwn ac yn meimio i Viva La Radio. Yna, dyma fi, Miss Good Ideas, yn cael syniad hollol bril arall. Mae Pero wedi bod ymlaen am oesau ei bod hi am wneud enw i'w hun ar YouTube, ac fy syniad i oedd i greu rhaglennu teledu ein hunain! Creu 24 awr o deledu ffuglennol! Roeddent yn credu fyd mod yn idea i yn blydi good.
Felly dyna beth i ni lot mynd i wneud drwy'r haf. Rhedeg rownd a fideo camera yn ffilmio rhaglennu teledu. Mae'r rhanfwyaf o teenagers yn mynd mas rownd dre bob nos Sadwrn, mynd i house parties, gwneud pethau fel 'na... ond ni - no way. Mae rhaid i ni fod yn blydi od.

Roedd y diwrnod mor ffab, doeddwn ddim am fynd adref, ond stopio yng ngorsaf Caerfyrddin wnaeth y tren. Off a ni. Roedd yn fam i yn sgwrsio i mam Pero, a unwaith iddyn nhw stopio clebran, adref a ni. Roeddwn yn edrych mlaen i jyst ymlacio o flaen Whose Line Is It Anyway? ond na... 8fed o Orffennaf, 2008 oedd y dyddiad... h.y, blwyddyn yn union i'r diwrnod cafodd fy nghefnder bychan ei eni. Roedd rhaid mynd i visito felly.

A dyna orffennodd fy nydd - ym mharti penblwydd fy nghefnder. Tra'n eistedd yno yn dipio cucumber mewn i Onion and Garlic dip (stinco fydd yn anadl i fory), roeddwn yn eithaf distyrbed i feddwl fod ei fam e'n twrio trwy ei gachu ef a chrib man. Hmm.

Monday 7 July 2008

Diwrnod arall adref.

Ambell beth digri i'w ddweud am heddiw, er taw adref trwy'r dydd oedden i. Felly helo, dyma fi.

Cefais alwad ffon bore 'ma - wel, yng nghanol Loose Women actually, so pnawn, ond ro'n ni dal yn fy myjamas ar y pryd - wrth Anti-Bionic. A hithau newydd ddarganfod fy mlog, fe roedd hi'n teimlo y dylai fy rhybuddio am beryglon y rhyngrwyd. Chwarae teg iddi wir. Roedd hi hefyd yn poeni fyddai'r Goeden yn ei ddarllen, ac yn poeni am ei ymateb - a fyddai honno'n gwnedu bywyd yn galed i fi? Na, licen i ei gweld hi'n trial. Tryst me Anti-B, y peth gweatha alle honna neud i fi yw eistedd arno fi.

Hefyd, mi rwyf wedi bod yn ymarfer signiture fy Nhad. Dwi'n golygu "menthyg" ei cheque book! Joke! Na, ma' gwneud pethau fel 'na yn naughty. Ond ma rhaid dweud, mae fy fersiwn i o'i signiture yn well na'i un ef! Odd e'n wel impressed. Wedodd e wrthai gallaf drial emptio ei account, ond anodd fyddai gwneud, gan ei fod yn wag yn barod.

Un stori ddigri arall i orffen felly - bu fy nghefnder bychan yng ngofal fy modryb dros y penwythnos, tra bod Mr a Ms Merkwürdiges Pferd yn mynd off i Cilycwm (CILYCWM.COM! Yndyfe'n Nhad!?). I ddechrau, cafodd Mam text bore ddoe i gael gwbod fod Dafydd Iwan mas o diwn y noson honno. Doedd Mam ddim yn bles. Mae Mam yn caru Dafydd Iwan mwy na mae hi'n caru Rhys Ifans, felly roedd hi'n wel offended. Ac yn ol i fy nghefnder, a oedd yng ngofal fy modryb. Cafom wybod gan ffynhonnell dibynadwy iawn (Mamgu Nantglas) fod Ms Merkwürdiges Pferd wedi gofyn i'n fodryb (yr un magodd fy demented cousins) beth oedd hi wedi bod yn bwydo ei thywysog bach hi, gan fod ei gachu yn wahanol lliw i'r arfer. Ath Nhad reit off ei gyri ar ol adrodd y stori i ni. Rhaid i mi gytuno, fod hynny braidd yn disturbing.

Dyna ni felly. Dydd Llun lliwgar arall.

Fi off ar Pero a Bwdj Adventure arall fory! Woop woop!

Portread o Marian Birmingham

Ym mlwyddyn 7 ac ym mlwyddyn 9 yn yr ysgol, fe wnes ysgrifennu portread yn fy ngwersi Cymraeg o un perthynas lliwgar iawn. Marian Birmingham. Hi yw cefnither fy mamgu, a mamgu i'r cefnder briododd dydd Sadwrn. Yn anffodus, nid oedd Marian yn gallu bod yn y briodas, gan ei bod yn dioddef o Alzheimer’s. Penderfynais ail-ysgrifennu portread ohoni, iddi hi.
-------
Ganwyd Marian yn Llwynhendy, ger Llanelli, nol ar ddechrau'r ganrif ddwethaf. Agos yw hi erbyn heddiw i'w 80 mlynedd, os nad ydyw hi wedi ei gyrraedd. Bu Marian fyw yng Nghymru drwy'r ail ryfel byd, ac fe roedd yn aml yn arfer son am evacuee or enw Doreen oedd wedi dod i fyw gyda'i theulu i osgoi'r Blitz o un o ddinasoedd mawr Llundain.
Un siaradus oedd Marian erioed. Ers cyn co, fyddai Marian yn dod i aros gyda'n Famgu am wyliau, ac fyddai Mamgu'n aml yn mynd i Birmingham. Roedd y ddwy gefnither yn ffrindiau gorau, er fod dipyn o wahaniaeth oedran rhyngddynt, yn ogystal a cannoedd o filltiroedd. Roeddwn yn dwlu gweld Marian Birmingham, fel fyddent fel teulu yn ei galw hi, pan fydde hi'n dod i aros. Menyw siaradus a hapus oedd Marian, cyn i Alzheimer's ddwyn y gorau ohoni. Pan yn ifanc, athrawes oedd hi, a prifathro oedd ei gwr, Islwyn, ac fe roedd dysgu yn dod yn naturiol iddi. Rwy'n cofio'n glir hi yn ceisio fy nysgu i dynnu lluniau yn iawn, ac yn dangos i mi sut i arlunio dwylo a breichiau'n iawn (er, dwi dal yn pathetig am wneud hynny). Roeddwn yn mwynhau gwrando ar ei storiau am fywyd yn y ddinas, am ei phlentyndod hi'n Llwynhendy, ac am y cymeriadau lliwgar roedd wedi cwrdd ar hyd ei bywyd.
Bob tro fyddai'n dod i Gymru i aros, fyddai'n gofyn i mi am yr ysgol. Yr athrawes ynddi yn ymddangos ei hun unwaith eto. Beth yw fy hoff bwnc? (dim un ohonyn nhw oedd fy ateb!) Pwy oedd fy hoff athro neu atthrawes? Yr un cwestiynnau bob tro.
Fyddai'n fodlon siarad i unrhyw un - gallai siarad a chadair a cael hwnnw i ateb nol - ac o achos hynny, fe roedd yn adnabod pawb. Os ydych yn dod o Lwynhendy, neu o'r ardal yna, fyddai yn eich adnabod chi. You couldn't escape from Marian Birmingham! Fyddech yn gweld yr hen fenyw, a fyddai fel arfer yn gwisgo coch i gyd (coch oedd ei hoff lliw), yn dod o bell.
Roedd hi'm aml yn ailadrodd storiau, ac erbyn i mi fynd yn henach, roeddwn wedi clywed bron bob stori oleiaf ddwywaith. Ond anghofus oedd hi. Erbyn hyn, nid yw'n cofio llawer o ddim - ei meddwl wedi cyrydu i ddryswch llwyr o ffeithiau ffoglyd. Mae pethau wedi newid tipyn.
Trwch o wallt llwyd sydd gan Marian. Roedd hi'n ei gadw'n fyr, ac roedd pob blewyn yn ei le. Fyddai'n gwisgo cyrlars yn ei gwallt, er mwyn iddo gwrlio ar y gwaelod. Yn ei gwallt, roedd hi bob tro'n gwisgo glip gwallt a edrychau fel danned miniog crocadeil oedd yn cadw'r gwallt yn ei le. Mae Marian hefyd yn gwisgo sbectol am ei thrwyn bach pwt, a oedd yn gwneud i'w llygaid glas edrych fel dwy soser enfawr. Mae'r sbectol anferth sy'n gorffwys ar ei thrwyn yn gwneud iddi edrych fel tylluan ddoeth. Roedd Marian bob tro'n gwenu. Yn ogystal a'i cheg, a'r wen o glust i glust, fe roedd ei llygaid hi'n gwenu. Roedd ei llygaid yn disgleirio, ac roeddech yn gwybod ei bod hi'n berson hapus a charedig.
Fel gorffenais fy ail bortraed ohoni, mae Marian yn gymeriad annwyl, ac yn gwneud cymydog penicamp i unrhyw un. Petawn wedi cael y cyfle i fyw drws nesaf i Marian pam roedd yn byw yn 26 Douglas Avenue, fy fydden yn falch iawn. Croesawgar oedd hi, ac fe roedd hi bob tro yn barod i help unrhyw un. Dwi'n gwybod nad yw'r rhai sy'n dioddef o Alzheimer's yn gwella. Cyflwr creulon yw, sy'n dwyn meddwl y claf. Dryswch yw pethau iddi nawr, ond mae gen i llawer o atgofion da ohoni.

Sunday 6 July 2008

Does 'na un man yn debyg i adra...

Nol o Oxford. Diolch byth am yr Ipod, dyna'i gyd ddweda i. Ar y dydd Gwener, mi roedd y pedwar ohonom - Mam, Nhad, Mamgu 10 a finnau - yn squashed mewn Ford Focus gyda digon o fwyd i borthi'r pum mil. Picnic i bum mil. A dwi ddim yn gorddweud. Pam ddwedodd Mamgu wrth ddringo i mewn i'r car fod ganddi digon o sandwiches i ni gyd, doedd Nhad ddim i'w weld yn dathlu. Roedden ni, cyn dechrau, wedi bwriadu cael byrger a bacon roll yn y fan byrgers yn Llangadog - Burger Van gorau Cymru, os nad y byd, wir, a dyma Mamgu yn ymddangos gyda cool bag llawn sandwiches caws a tomato, ac ambell un salmon i fi (fi'n casau tomato, er mod i'n dwli ar ketchup). Stopion ni i gael byrger ta beth. Do'n i'm yn bwriadu peidio cael un o gwbwl! Ar ol cael ambell beint wedyn yn hwyr nos Sadwrn, fe ddwedodd Nhad wrtho Mamgu yn weddol blaen ei fod yn mynd a brechdanau i'w waith, ac nid oedd am eu bwyta pan roedd yn mynd mas hefyd!

Gan ein bod yn siarad am fwyd, fe wnaf hefyd son am obsesiwn fy mamgu a serfio darn o kitchen roll gyda pob snac. Daeth hi a rolyn o kitchen roll gyda hi, ac ar y ffordd fyny, cyn i ni gael ei byrgers, dyma hi'n dechrau torri darnau ohono allan "er mwyn bod yn barod". Dwi ddim yn deall y peth. Pam gwario arian ychwanegol ar kitchen roll pan gallwch sychu dwylo seimllyd ar eich jeans? Dyna ydw i'n gwneud.

Nawr, yn eithaf cynnar yn y daith, a ninnau wedi pigo Mam i fyny o'r gwaith yn Llandeilo, dechreuodd y Pedwerydd Rhyfel Byd. (Matthew Rhys VS Rhys Ifans oedd y trydydd, cofio?). Mam VS Mamgu. Pwy oedd a'r map gorau? Pwy oedd y Navigator gorau? Wrth gwrs, roedd Mam wedi printio ei map hi o'r rhyngrwyd - routeplanner.com neu rhywbeth fel 'na, tra bod Mamgu yn defnyddio map of Great Britain 2005. Fe wnaethom ddarganfod fod yr heolydd wedi newid lot ers tair blynedd. Treuliodd Mamgu rhanfwyaf o'r siwrne yn dilyn y ffordd gyda'i bys, ac roeddwn yn gallu gweld wrth ei gwyneb (gwefysau'n tenhau ayyb) ei bod hi'n meddwl "Pam fod rhaid i'm mab-yng-nghyfraith ddreifo fel ffwl?" (mae hi'n dreifo mor slow odd rhaid bod gyrru'n Nhad yn sioc i'r system).

Dwi hefyd wedi dysgu ar y daith hon i Oxford, fod angen hearing aid ar Mamgu. Wel, dwi wedi meddwl am hyn ers sbel, ond nawr rwyf yn bendant fod angen i mi ffeindio ffordd neis o ddweud hyn iddi. Petawn yn dweud, "Mi rwyf yn hoffi coffi", "E!?!?!?" fyddai ateb Mamgu... ond ar y llaw arall, petawn yn pallu ailadrodd fy ngeiriau, ac yn dweud, "paid a becso", fyddai honno'n mynd "Rwyt yn hoffi coffi?"!!! Dwi ddim yn deall y peth. Daeth tuedd arnaf i weiddi bob tro roeddwn yn siarad erbyn diwedd y trip.

Y nos Wener cyntaf, roeddwn yn aros mewn Travelodge. Gan fod y rhieni'n cwyno fod y trip yn ddrud cyn dechrau, y noson honno bu'n rhaid i mi rannu gyda'r Navigator gorau (sef Mam - roedd sawl rowndabout yn eisiau ar map Mamgu, ac felly aeth hi'n confused) a'r un sy'n chwyrnu fel mochyn trwy'r nos (sef Nhad). Doedd hi'm yn help fod y sofa bed roeddwn yn gorfod cysgu arno mor galed a blydi concrit bloc. Druan a fi. Gyntachlyd o'n i'n bore, galla i ddweud wrtho chi.
Dydd Sadwrn. Diwrnod y briodas. 1pm oedd y briodas, felly roedd digon o amser i'r tri ohonom (roedd gan Mamgu ystafell ei hun, a dewisodd fwyta'r sandwiches doedd neb wedi bennu ddoe i frecwast) gael bwyd yn Little Chef i frecwast. Full English i Nhad, Scrabled eggs ar dost i fi. Yna nol i newid. Roeddwn wedi cael ffrog ddu, neis iawn, o Coast yn Debenhams sbel nol, a shrug binc o Wallis. Roedd y ddau ddillendyn hyn wedi cael eu prynu i fynd gyda'n esgidiau pinc o Topshop i. Fy high heels iawn cyntaf. Roeddwn mor chuffed, llwyddais i bara trwy'r dydd ynddynt - ond rwy'n dioddef heddiw. Ta beth, aeth Mamgu'n reit excited i weld fi mewn ffrog. Dwi usually mewn jeans a t-shirt. "Ti'n edrych fel young ledi fach" dwedodd wrthaf tua gant o weithiau. Dwi'n casau pobol yn gwneud ffys. I was wearing a dress, GET OVER IT. Hoffwn hefyd ychwanegu - ydw, mi rwyf yn gwisgo "war paint", fel pob menyw ac ambell ddyn arall yn y byd! Pam fod hynny'n rhywbeth sy'n werth gofyn am bob pum munud?! Roedd Mamgu hefyd yn rhoi running commentry i ni o'r tywydd, er ein bod yn gallu gweld y tywydd yn iawn allan drwy'r ffenest. Off a ni i'r briodas felly. Doedd PC Larwm na Anti-Bionic wedi ymddangos eto, ac ond jyst gwneud hi wnaethon nhw fyd.
A jyst i ychwanegu un rant fach olaf - QVC! OS GLYWA I UNRHYWBETH AM QVC ETO WYTHNOS HYN... fe stabai rhywun. A dwi ddim yn jocan! Roedd y "war paint" yn dod o QVC, am change doedd y bag ddim yn dod o QVC ayyb. Mamgu 10, Anti-Bionic a Mam, mae'n nhw'n addict i un o'r cyffuriau mwyaf peryglus erioed. Y sianel siopa - QVC. Maent yn gaeth, y dair. Dwi'n syrprised nid yw llygaid y dair wedi troi'n sgwar, a'i cyfrifon banc yn wag diolch i'r holl wario. Dyw Nhad a fi'n gweld dim yn ddiddorol am y tat sy'n cael eu dangos ar y rhaglen. Roedd Nhad a finnau'n ochneidio'n uchel bob tro roeddent yn dechrau son am QVC yn y car. QVC - Quietly Viewing Crap - dyna beth maent yn gwneud wrth wylio. Stica i i brynu stwff o siop, diolch yn fawr.

Y briodas.
Priodas fy nghefnder o Birmingham oedd hi, ac mae'r teulu o Birmingham yn Efengylwyr. Yn Gristnogol iawn. Doeddwn erioed wedi bod mewn seremoni briodas lle roedd pobol yn gweiddi "Amen!" ar ol popeth roeddent yn cytuno gyda, na lle roedd pobol yn galw ei gilydd yn Brother os yn ddyn, Sister os yn fenyw. Dwi'm di bod i lawer o bartion priodas though, ac roedd yr un hyn wedi gorffen erbyn naw. Hefyd, cafodd Nhad a PC Larwm yffach o sioc i ddarganfod taw Shloer oedd ar bob bwrdd bwyd yn hytrach na gwin. Roedd hi'n briodas non-alcaholig. Ac fe roedden nhw'n hollol gutted!

Doeddwn i ddim yn eistedd ar yr un bwrdd - roeddwn i ar bwrdd 1 gyda'r "pobol ifanc". A diolch byth am hynny. Na gyd wnaeth y ddau ddyn oedd conan bod dim alcahol ar gael. Hefyd, gan fy mod yn rhywun sy'n uffernol o ffysi 'da'n fwyd, doedd neb i fynd "s'dim eisie ti fyta fe os ti'm moyn?" "tria fe" "wyt ti'n lico fe?" trwy'r pryd bwyd. Roeddwn wedi mwynhau fy mwyd mewn tawelwch.

Roedd hi'n briodas lyfli, er y diffyg alcahol. Roedd speech y best man yn hilarious - fair play i nghefnder i (un arall, sef brawd henach yr un oedd yn priodi. Mae nhw'n bedwar o frodyr i gyd). Fel pob priodas (well, heblaw am ambell un rydych yn clywed am yn y Real Life magazines - "MY BRIDE LEFT ME AT THE ALTAR" ayyb), roedd pawb yn hapus ac yn mwynhau. Yn wahanol i ran fwyaf o briodasau doedd dim dawnswyr meddw na dim fel 'na. Roedd popeth wedi gorffen erbyn 9, ac am yr awr dwethaf, dim ond tua pymtheg o ni oedd yna.

Tua wyth, diflannodd PC Larwm i'r toiledau, a Nhad yn dilyn yn weddol gloi ar ei ol e. Basiodd hanner awr cyn i ni sylwu nad oedd y ddau nol. Wel am naw, dyma'r parti'n gorffen wrth gwrs, a'r hanner dwsin ohonom oedd yn weddill yn mynd allan i'r dderbynfa i ddweud ffarwel. Dyma ni gyd yn gweld y ddau ddyn yn eistedd wrth y bar a bobi beint! Felly, wedi i bawb fynd... yn syth i'r bar aeth Mam, Anti-B, Mamgu 10 a finnau. Wedi'r trip hir i fyny dydd Gwener, a hynny heb Sat Nav (fyddai llais robotig yn well na'r ddwy co yn cwympo mas er fod PC Larwm a Anti-B wedi cael trafferth gyda'i un nhw) fe droiais i i'r alcahol erbyn hanner awr wedi. Malibu a coke - dwi'n dwli ar goconuts, so roeddwn i wrth fy modd.

Roedd hi'n ddeuddeg arnom yn dychwelyd i'r ystafell wely. Nawr, er mod i dan lot o stress, un drinc ges i. Odd y rest o nhw'n hammered. Mynnodd Mam fy hebrwn i fy ystafell (roedd gen i stafell yn hunan yn y gwesty hyn - diolch i Dduw, dim chwyrnu!), a roedd hi mor feddw, bu rhaid i mi ysgrifennu rhif ei hystafell hi (366) ar ei llaw. Dwi ddim yn dweud celwydd. Menyw sydd ar drothwy ei phedwar deg, a'i merch 16 oed yn gorfod ysgrifennu rhif ei hystafell hi ar ei llaw am ei bod hi'n pissed. Yn gynharach heno, tra'n gwylio Tipyn o Stad, gofynnodd yn fam, "shwd ot ti'n teimlo ar ol cael drinc neithiwr? a oedd y malibu yn neud i ti deimlo'n ben ysgafn?" - roedd hi yn amlwg yn poeni mod i'n mynd i fynd off the rails ar ol un diod. Bu'n rhaid i mi ei hatgoffa o pa mor feddw oedd hi, ar ol sawl glasied o win gwyn, ond ateb honno oedd "Fi'm yn dda 'da nymbers!". As if.

Bore ma, dechreuom adref, ar ol brecwast yn y gwesty. Comment Anti-Bionic oedd "ma fe bach yn bland". Wedai un peth, doedd y scrambled eggs na ddim cwarter mor ffein a rhai Mamgu Nantglas. Ond gallwch chi byth maeddu scrambled eggs Mamgu Nantglas. Os wnewch chi, chi'n haeddu rhuban glas (stori hir arall, newn ni ddim mynd 'na).

Ac yn ol i'r car a ni. A fe deithiom nol trwy'r Cotswolds. Ym mis Mai aeth Mam a fi a Nhad i'r Cotswolds, gan fod Mam eisiau mynd i rhyw antique fair yn Glouster (dwi ffealu sillafu sori) i chwilio am rhagor o lustre jugs. Ma' Mam yn casglu jwgiau lustre. Dwi dal ddim yn deall pam. Jwgiau bach browni/copri sgleiniog - uffernol o salw yn fy marn i. Ond ma Mam a Mamgu Nantglas yn crazy amdanyn nhw. OK, ma'n nhw'n antique a codi mewn gwerth ma' nhw... ond still... Gobeithio taw fi sy'n etifeddu nhw, gan fy mod i wedi cael yn llusgo rownd sawl blydi antique/bric y brac/jync shop i chwilio amdanyn nhw. Ma'n rhaid i rhywbeth dalu am y care homes i'r ddau ohonyn nhw. Fel unig blentyn, mae'r pwysau i gyd ar fy ysgwyddau i! Ta beth, heddiw eto, dyma fi'n treulio diwrnod yn mynd rownd siopau antiques. O leia wnaethon nhw actually llwyddo i ffeindio 4 lustre jug heddiw. Ar y weekend 'na nol yn ystod hanner tymor mis Mai, wnaethon nhw'm ffeindio dim un. Ond wnaethon nhw, i'm gadw yn dawel, dreifio trwy "Jeremy Clarkson Land" - hy, Chipping Norton. (Ac, i ychwanegu, ar Top Gear heno, ceisiodd y tri brofi fod Alfa Romaeo's yn ffab - a ffaelu really. Hilarious. Ac mae James May wedi torri ei wallt!)

Mewn un siop antiques, roedd yna cabinet o hen ddrylliau - immensly ffasinating. Fe wnaeth y stress o'r holl ffysian a'r thought o orfod bwyta sandwiches ddoe yn ormod iddo... cafodd suicidal moment fach... gan ddweud "Fi'n credu bod eisiau un o rheina arnon ni."

Tawel oedd hi wedi hynny - O! heblaw am y bwnis yna ar y rowndabowt, a oedd yn weird... meddwl ei fod yn werth son amdano - bwni's mewn rowndabowt, mi roedd yn ciwt. Ta beth, ar y siwrne hir adref, roedd pawb wedi blino gormod i siarad. Roeddwn i'n plugged mewn i'r Ipod. Eto, diolch byth i rhywun yn Apple i feddwl am y syniad o gynllunio'r Ipod. Roeddwn yn fy myd bach fy hun, Planet Teapot. Doedd dim rhaid i mi wrando i'r ddwy navigator, ac roeddwn yn cael llonydd i feddwl. Hefyd, rydych yn gallu storio lluniau ar fy annwyl Ipod i... roedd rhaid i mi edrych ar Matthew Rhys. Roeddwn wedi mynd dros 24 heb Googlo ei enw na gwylio Brothers & Sisters. Fe wnaeth yr alcahol leddfu'r boen.

Ac felly adref. Fe fydd y ffrog ffansi yn cael eu gosod yn ol yn wardrob fy rhieni, a'r sgidiau yn ol yn y bocs (mae fy nhraed yn agony) am wythnos o leiaf, cyn i mi fentro ei gwisgo eto. Dwi'n dal i ddiawlio nad oedd unrhyw lanc ifanc, golygus yn y briodas, ac adref, mae gennyf wely fy hun yn f'ystafell fy hun. Fel ddwedodd/canodd Gwyneth Glyn, *acen gog ymlaen* "Does 'na un man yn debyg i adra...". Ac mae hynny'n hollol wir.

A cyn gorffen, ymddiheiriad. Sarjent yw rhingyll. Petai JB Preistley wedi penderfynu ysgrifennu'r ddrama, A Sargent Calls... (sori arall mod i ffealu llisafu...sillafu!), byddai fy joke bach i wedi gweithio. Damnit all.