Saturday 9 August 2008

Dwi wedi gwneud ffrind newydd =)

Ail ddiwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd.

Roeddwn wedi cael dewis - siopa gyda Mam a Mamgu 10, neu diwrnod yn y Steddfod gyda Anti-B, PC Larwm a merch un o ffrindiau'r PC, Ashlee. Es i siopa. Roeddwn yn meddwl i ddechrau mod wedi gwneud dewis da. Fydden i dan do rhan fwyaf o amser, ac fe roedd hi'n pisio i lawr y glaw (ma'r tywydd wedi dechrau vendetta yn f'erbyn yn ddweddar - bob tro dwi adre, fel ddoe, pan wrthodais y cyfle i fynd i Tenby am ddiwrnod arall, roedd hi'n sych!).

Felly dechreuodd y dydd yn normal. Cymeron mantais o'r park and ride o Ikea, a off a ni i ddechrau diwrnod o siopa. Coffi stop gynta, yn Cafe Nero, drws nesa i'r siop sydd yn gwerthu Raa Men (stori hir - gofynnwch i Tuesday), a wedyn ath Mamgu off i Laura Ashley ag i'r siopie na ma hi'n lico, ag ath Mam a fi ar ein ffordd i H&M. H&M yw highlight mynd i siopa mewn tref neu ddinas fawr. Does dim H&M i gael yn Gaerfyrddin, does dim hyd yn oed un i gael yn Abertawe - felly mae mynd i H&M yn exciting... galwch fi'n sad. Felly ar y ffordd i'r Capitol, galwon gyntaf yn Miss Selfridge, Dorothy Perkins, Principles (shop Mam odd honna!), River Island... roeddwn yn cario T-shirt Batman pinc newydd a CD live y Dropkick Murphy's yn fy mag, ac roedd Mam yn mynnu mynd i weld Per Una yn M&S, pan ddaeth neges destun ar y ffon.

"Ma fe ma yn cwcan byrgyrs ar bbc. Fi ar ffordd na nawr. X"

Sighting. Roedd yr ysbiwyr wedi bod yn gwneud eu gwaith! Roedd rhaid mynd - nawr! Stwffio'r siopa - dwi'm hyd yn oed yn hoffi siopa ta beth!

Roedd rhaid i mi gyrraedd maes yr Eisteddfod. Doedd e'm yn rhy bell, ond yn ddigon pell. Rhuthrais o M&S - a bu bron i mi fwrw sawl un i lawr ar fy ffordd. Doedd gen i ddim amser i oedi! Roeddwn wedi croesi dros yr afon, ac ar y llwybr wrth gerddi Soffia. Ges i alwad ffon - ond fe golles i honno - ac wrth gerdded trwy'r maes parcio sylweddolais fod gen i Answer Phone Message (a dwi'n casau'r negeseuon a chas chasineb. Ma' nhw'n byta fy ngredit i!).

Roeddent wedi cael eu llun wedi tynnu gyda fe.

Roeddwn yn mynd yn gynt eto. Roedd rhaid i mi gyrraedd y maes! Bu bron i mi ddechrau rhedeg, ond yn un a oedd fel arfer yn sceifio PE os oedd hynny'n bosib, doedd rhedeg ddim yn opsiwn. Cyflymodd y cam. Roeddwn yn chwysu, a finnau ddim yn arfer a mynd mor gloi. Pallais rhoi i fyny ag oedi, roeddwn yn benderfynol o gyrraedd yno, ac roedd hynny yn fy ngyrru ymlaen.

Pan gyrrhaeddais y fynedfa, roeddwn yn wlyb domen. Roedd fy nghot glaw Adidas yn useless, ac yn gadael y glaw i mewn, ond chwarae teg i honno, 7 5 yw'r dosbarth cofrestri sydd ar y label, felly mae hi'n bum mlwydd oed. Roedd gwealodion fy jins yn fy mhwyso i lawr, gan gynorthwyo disgyrchiant yn ei waith.

"TOCYN MYFYRIWR OS GWELWCH YN DDA!" bu bron i mi weiddi'n ffrantig at y fenyw oedd yn y booth gwerthu tocynne.

Roeddwn ar y ffordd i mewn, pan rewais. Roedd y dyn tocynnau yn syllu arna i'n od.
"Ti'n dod mewn te?"

Dim eto. Roeddwn wedi gweld rhywun.



Y dyn ei hun - Matthew Rhys.

Roeddwn i ar y ffordd i mewn, a fe roedd e ar ffordd mas! Mae hyn yn dechrau dod yn habit, digwyddodd yr un peth nol ym mis Mehefin - fe ar y ffordd mas, fi ar y ffordd mewn (neu am fod ar y ffordd mewn bryd hynny).

Ta beth, roedd e mewn cot dywyll, a sgarff dywyll rownd ei wddf, a het fach giwt ar ei ben, ac yn gwisgo jins tywyll a bwts. Cwympodd fy ngheg ar agor, am yr ail dro.

Roedd e ar ben ei hun, a cyn i mi gael gyfle i ail feddwl, gofynnais "Esgusoda fi, galla i gal llun gyda ti plis?"

"Ie, iawn, dim problem," oedd ei ateb e.

Roedd e'n lyfli. Gan mod i ar ben fy hun, a fod Anti-Bionic yn aros amdanai'r ochor arall, bu rhaid i mi dynnu'r llun fy hunan - emo style!
"Fi'n rybbish am 'neud hyn," ddwedais, gan rhoi'r ffon (defnyddiais camera'r ffon chi'n gweld) yn y lle iawn.

Roedd fy nwylo i'n crynu fel deilen, a fel ddwedais i wrtho fe, dwi'n rybbish am dynnu lluniau o fy hun, fy hun. Ond daeth y llun mas yn neis, a fe ofynnodd Matthew Rhys os oedd y llun yn iawn cyn mynd. Ydy, atebais... cyn sylweddoli...

"Oh my god!" ebychais. "Ngwallt i!"

Roeddwn i'n socan, a ngwallt i'n diferu - ag unwaith eto, roeddwn wedi gwastraffu cwarter awr yn ei straightno y bore 'ny. Damnit! meddyliais. Chwerthin wnaeth e, gan wenu'n bert eto. Diolchais iddo. Ac off a fe, gan fy adael i sgipio tuag at Anti-B, a oedd yn ffrantig yn fy ffonio i gan ei bod hi'n gallu gweld Matthew Rhys yn gadael ond doeddwn i yn un man i'w weld.

"Beat you to it," dwedais wrthi, a dangos y llun.

Roeddwn i mor chuffed.

Treuliais gweddill y diwrnod yn sgipio o gwmpas y lle, a hymian (gan nad ydwyf yn gallu canu) "Singing In The Rain", a becso dim mod i'n glwychu i 'nghroen. Textiais y llun i bawb, obviously - mae gan bawb yn address book fy ffon i llun o fi gyda Matthew Rhys. (Llun uffernol o fi, ond o wel, gwrddes i Matthew a fe roedd e'n lyfli so who cares).

Ond dwi dal mewn tipyn o sioc mod i wedi llwyddo i siarad yn gall ag e yn deidi heb ddechrau mynd yn mega mega excited a dechrau sgrechian yn ei wyneb a crio a gweud gymaint dwi'n ei garu e...

Dwi definatly mynd i ddal annwyd tro hyn though. Dwi'n teimlo'n nhrwyn i'n rhedeg yn barod (yr unig rhan o 'nghorff sy'n actually gallu rhedeg!)

A phan gyrrheaddais adref, dwedodd fy Nhad, yr un sydd wedi dweud dro ar ol dro nad wyf yn cael priodi neb sydd heb dractor, (rhaid i'n Nhad gael mab yng nghyfraith sy'n ffermio), a thinc o falchder yn ei lais, "Ma' gobaith... ma 'i hat e'n eitha farmery."

No comments: