Monday 11 August 2008

Off ar wyliau.

Tawel fydd hi am ddiwrnod neu ddau - dwi off ar wyliau.

Ers i ni ddod nol o Amsterdam adeg Pasg, a'r Iseldiroedd ar y pryd yn drwch o eira (roeddwn i yn fy element - ma' eira'n fflipin awesome! A hefyd dwi'm yn ffan o haul ta beth), mae Mam wedi dweud ei bod hi am fynd bant ar wylie eto, ond i rywle twym er mwyn iddi gael sun tan.

Ond ar y pryd, mewn ffordd hollol derfynol, dywedodd Nhad taw dyna'r tro dwethaf odd e'n fodlon hedfan leni.

O diar.

Wel, fe wnaeth Mam ddweud gall y ddwy ohonon ni fynd i rywle fel Sbaen, neu Ffrainc, a gadael Dad adref gyda'r seilej neu whatever mae e'n neud wrth ffermio. Oh la la, meddylais, dande esta el raton? Fydde hynny'n eithaf cool, a felly dechreuais bractiso fy ieithoedd. Legumes! Dwi'n lico gweld llefydd newydd, ac roeddwn ar y pryd yn rhagweld haf, hir diflas o fi'n gwneud eff all.

Mae'r tri ohonom yn mynd ar wyliau nawr, yn dechrau bant yfory, yn gynnar gynnar yn bore...

Rydyn ni'n mynd i Staffordshire.

No aeroplanes involved.

Mae Mam wedi darganfod fod sawl siop antiques yno, felly fydd Nhad a finnau yn cael ein llusgo rownd tra bod Mam yn inspecto pob dim, ac yn gosod unrhywbeth sydd a chrafad neu chip ynddo yn ol ar y silff, a prynu unrhyw jwg lustre arall geith hi afael arno. Mae hi hefyd am fynd rownd y potteries yn Stoke-On-Trent. A dwi wedi checio - does dim H&M yn S-o-T.

Dwi ddim yn gwybod pam fod eisiau mynd mor bell i weld potteries - ma' Gwili Pottery jyst lawr yr hewl.

Wel, esboniad o lle dwi'n mynd i chi. Felly hwyl fawr nes tua Dydd Gwener!

Beth oedd yn bod a mynd a fi i LA i gael fy nyrsio gan Matthew Rhys?!?!
(Mae fy annwyd yn well heddiw, diolch am ofyn, ond still, ges i'm yn dendio gan hync o ddyn o Gaerdydd...)

No comments: