Tuesday 26 August 2008

Gwyliau yn Gogland

Blog, a dy ddarllenwyr, mae'n flin gen i na chafoch rybydd am fy ail holiday haf hyn.

Dwi newydd dychwelyd o holiday i Gogland, i Griccerth. Fi, Mam, Anti-B a Mamgu.

Diwrnod 1
Fe roedd hi'n sefyllfa gyfarwydd, 4 aelod o'r teulu yn squashed mewn Ford Focus llawn sandwiches. Mam yn gyrru, Anti-Bionic yn y blaen, Mamgu 10 a finnau yn y sedd gefn. Fe roedd Nhad yn cymryd y mick.
"Byddwch chi'n byta sandwiches nawr... a fydd y backseat navigator yn dilyn y ffordd ar y map gyda'i bys!"
Wrth gwrs, "Ond dwi'n gwbod y ffordd i Griccerth!" mynnodd Mam.

Fe roeddwn i yn fy myd bach fy hun, diolch i'r Ipod. Ond fe stopion ni yn Aberystwyth i fwyta picnic Mamgu yn y car (brechdanau salmon, neu brechdanau caws a tomato?!). Ac yn weddol gloi, trodd y sgwrs i beth oedd TSV y diwrnod ar QV fflipin C. Fe fydde Nhad wedi bod yn chwerthin ar mhen i, druan bach o fi.

Cawsom stop yn Corris, yn y ganolfan fach grefftau yno am toilet stop, a welodd Mam a finnau bwrdd nodiadau allan o gorcs o foteli gwyn.
"Gallet ti 'neud na," dwedodd Mam.
Shruggan nes i.
"Fydde eisie glue gun arna i."
"Ga i glue gun i ti."
Dwi wastod wedi eisiau glue gun.

Fe roedden yn teithio'n bellach i fyny'r wlad, a fe roedd y tir yn fwy mynyddog a'r caeau wedi eu amlinellu gan welydd cerrig yn hytrach na ffensys. Fe dorrodd Mamgu ar draws y Sugababes er mwyn dweud hyn wrthaf.

Fe benderfynon ni fynd i Cwmnantcol, i weld capel Salem. Os ydych bys chi ar y pyls pan mae'n dod i celfyddyd Cymraeg, fe fyddwch yn ymwybodol o'r llun enwog o'r fenyw yng nghapel Salem. Ond roedd yn rhaid i ni deithio ar lonydd cul dros y mynyddoedd er mwyn gwneud. Wel, fe ddechreuodd y dair arall banico, a stopon ni'r unig gerbyd arall welon ni a gofyn os oeddwn yn mynd y ffordd iawn. Oeddwn, yn ol y fe - doeddwn i ddim really yn canolbwyntio ar ei ateb e though, roedd ganddo sticer ar ochor ei jeep yn dweud "Fat People Are Hard To Kidnap", felly chwerthin yn dawel yn y cefn roeddwn i!

Dwi'n hoffi lonydd cul, cefn gwlad. Rhowch i mi lon gul heb le i ddau gerbyd basio ei gilydd dros heol dair lon a rowndabowt unrhyw ddydd. Dwi'm yn deall pam fod yr hewlydd yma'n drysu dyn y dre. Fe fydd y motorway yn hunllef i fi pan fyddai'n dechrau gyrru. Gadwch fy yn lonydd cefn gwlad, gyda'r caeau gwyrdd yn fy amgylchynu, yng nghanol swn y da a'r defaid yn brefu. Fe fuodd rhaid i mi neidio allan o'r car bob hyn a hyn i agor iete oedd yn bloco'r hewl. Allan a fi, i ganol yr hen Gymru gwledig - wrth agosoi am Cwmnantcol, fe roeddwn yn gweld y ffermdai cerrig, a oedd yn amlwg yn ffermio defaid ar y mynyddoedd.

Cyrrhaeddon gapel Salem, o'r diwedd. A tu allan yn ein croesawu ni, roedd sboner newydd Mamgu - roedd e'n syth yn weddol ffond ohoni. Gwallt gwyn, cyrn ar ei ben... na, dim dyn od oedd e! Ond gafar! Fe alwon ni fe'n Billy.

A felly gyrrhaeddon Criccerth ar ddiwrnod cyntaf ein gwyliau, a bwytaon mewn bwyty fan 'na. A sylweddolodd Mam fod yna lot o siopau antiques yna... damia'r gath.

Diwrnod 2
Fe roedd hi wedi bod yn ddiwrnod eithaf neis y diwrnod cynt, ond ar y dydd Llun, fe roedd yr haul wedi penderfynu cuddio tu ol i'r cymylau. Fe roedd hi'n sych, ond doedd dim byd neis amdani.

I ddefnyddio geiriau Mam, fe roedd Criccerth yn "le bach digon dymunol". Er, roedd hi wedi cael pedair lustre jug arall o 'na, felly fydde hi'n dweud yna.

Ar ol brecwast (ges i sosej, bacwn a scrambled eggs, gan fod y bolgwns wedi cael Full Breakfasts - a stryglo i fyta hwnna naethon nhw! :P), fe aethom straight i'r ffair antiques yn y neuadd. Lustre jug No 1 a No 2. A fe ges i bag vintage (o'r 1960s yn ol y label) coch, a oedd yn lovely am £7. Ar ol y ffair, i'r siopau oedd yn y dre, a dyna Mam yn cael y lustres eraill.

Off a ni wedyn i ymweld a Amgueddfa David Lloyd George. Fe aethom i weld ei fedd e gyntaf, a wedyn i'r amgueddfa. Roedd e'n eithaf diddorol, er fod Anti-B a finnau wedi cwympo mas y nosweth cynt pa ryfel byd roedd Lloyd George yn brif weinidog drwyddo (fi oedd yn iawn - yr un cyntaf. Winston Churchill a Neville rhywbeth oedd yn brif weinedogion yn ystod yr ail rhyfel byd). Roedd y bedd yn goffa enfawr ger yr afon - fe roedd rhaid ei fod e'n foi mowr i gael bedd mor fowr!

Wedyn, aethom o olwg hagwrch cynnydd, ar wyneb trist y gwaith, i bro rhwng mor a mynydd, heb arni staen na chraith, ond lle bu'r arad ar y ffridd, yn rhwygo'r gwanwyn per o'r pridd. Fe roeddwn draw o ymryson ynfyd, a chwerw'r newyddfyd blin... oeddwn, fe roeddwn ni yn y Lon Goed. Yn hafan naturiol R. Williams Parry (y boi oedd yn ffasanated da fflipin cadno), gerddodd Mam a finnau fraich yn fraich - gan adael Mamgu i gerdded yn hamddenol braf, a Anti-B i dynnu llunie non stop gyda'i chamera bach hi) a adrodd Eifionydd.

Fe aethom wedyn i Abersoch... soch soch, a fe fytes i llond pecyn o chips, fel mochyn bach! Soch soch.

A wedyn i Borthmadog am Indians i swper. Passage To India! Roeddwn dal yn Gogland really, ond fe roedd y bwyd yn neis iawn. Ges i chicken tikka korma a oedd yn ffein iawn. Am ryw reswm though, mae waiters bwytai Indians yn fy hoffi i. Dwi wastod yn bennu lan gyda choclates extra gyda'r bill, neu a losin o ryw fath, a doedd neithiwr ddim gwahanol. Cadwes i nhw i Nhad though, gan 1. roedden nhw'n mint chocolates a dwi'm yn keen ar mint, a 2. roedd "Indian Cuisine" ar y pecyn, a dyw Nhad ddim yn lico Indians a 3. mae e wastod yn conan ein bod ni byth yn dod nol a dim iddo fe.

Fe orffenon yn nosweth yn ystafell Mamgu, y dair co yn yfed gwin gwyn, a roeddwn yn watcho Rob Brydon yn cael identity crises. Well... doedd Mamgu ddim yn hoffi Rob Brydon. Mae Uncle Bryn yn legend! Efallai taw hint i ni'n tair adael i'n ystafelloedd ni ein hunan oedd e, pwy wyr. Ond rydyn ni wedi bwgwth prynu DVD Gavin a Stacey iddi Nadolig - neith hi joio na!

Diwrnod 3
Y diwrnod olaf. Yn ystod brecwast, fe dreuliodd Mamgu y pryd bwyd yn gwrando ar y bwrdd drws nesa'n siarad, ond yn methu clywed beth oedd y tywlwth agosa'n dweud...
"Fflipin heck, ma clyw da 'da ti!" dwedais wrthi.

Aethom am wac ar y traeth wedyn, ond heb Mamgu, gan ei bod hi wedi blino, ac am aros yn ei ystafell hi. Fe roedd hi siwr o fod yn gwylio QVC nabod hi. Fe roedd Anti-B yn casglu darnau broc mor, am ei bod hi wedi penderfynu ei bod hi am wneud mobile.

Off a ni wedyn - ta ta Criccerth! - ac i Bortmeirion. Doeddwn i erioed wedi bod yn Portmeirion, felly penderfynodd Mam fod rhaid i fi fynd. Roeddwn i'n disgwyl i'r lle edrych fel y plate (a tryst me, ma' 'da ni llond cwpwrdd o'r plate yn y gegin). Ond fe roedd hi'n bert iawn yno, ac yn llawer fwy lliwgar diolch byth. Mae e'n un o'r llefydd ar fy list o le hoffwn briodi. Mind you, dwi'm yn ffysi, as long as bod y gwr yn ok. Roedd campwaith Clough Williams-Ellis yn brydferth. Trueni fod Llanpumsaint ddim yn edrych fel 'na.

Nol wedyn. Toilet stop yn Machynlleth, a fe brynodd Mam fwy o lustre jugs fan 'na... a that's it wedyn. Dyma fi adref yn ysgrifennu hwn ac yn darllen am Portmeirion ar Wiki. Cysgu drwy'r dydd fory!

No comments: