Thursday 21 August 2008

Mae 'na ymennydd mewn 'na rhywle...

Heddiw, diwrnod canlyniadau TGAU. Eek.

Ma' e dros y news i gyd, so I doubt eich bod chi ddim yn gwybod. Mae pob newyddion yn fy atgoffa i yn gyson, pawb yn ailadrodd y ffaith flynyddol fod merched wedi gwneud yn well na bechgyn unwaith eto, er fod y papur iaith Cymraeg wedi bod yn seiliedig ar fflipin rygbi er mwyn apelio at yr isaf ryw (rhywbeth sydd dal yn fy nghythruddo - y flwyddyn cynt roedd yna stori am Matthew Rhys yn mynd i Batagonia. Please, pam na ges i lun o'r dyn golygus lyfli stunning lysh yn edrych arna i tra mod i'n ceisio ysgrifennu stori byr hollol pointless a trafod arddull? Fflipin heck, fyddai Ioan Gruffudd neu Gethin o Blue Peter wedi gwneud y tro!!!).

Dwi 'di bod lan ers 7. Am ryw reswm, roeddwn wedi llwyddo i ddihuno fy hunan - dwi'n doubtio fyddai'r swn bach tila mae'n ffon symudol i'n ei alw'n larwm wedi lwyddo i'n ddihuno i o gwbwl! So ar ol gwylio Everybody Loves Raymod (er taw Robert yw'r un mwyaf doniol, obviously) lan a fi o'r gwely i wisgo, glanhau dannedd, straightno gwallt etc, etc.

Cyn gadael y ty i fynd off ar ei anturiaethau amaethyddol y bore ma, dwedodd Nhad wrtha i, "Na'n siwr fyddi di ddim yn ffealu, neu fydd dy fam yn rhoi Chinese Burns i ti yr holl ffordd gatre'".

Doedd Mam ddim mewn unrhyw stad i roi Chinese Burns i neb. Roedd honno'n dioddef - hi gafodd y nyrfs yn fy lle i, a diolch byth am hynny. Roeddwn i yno'n gwrando i Brendan Benson ac yn meddwl am Matthew Rhys - y pethau pwysig mewn bywyd - tra bod hi'n gofidio am y canlyniadau TGAU. Dwi'm yn siwr iawn pam nad oedd y canlyniade ma wedi troi'n nghoesau i jeli a wedi clymu fy stumog yn glymau cadarn. Fel 'na mae.

Ta beth, naw o'r gloch y bore, gyrrhaeddais yr ysgol, a aros tu allan i Pero. Doeddwn i ddim yn ffansio mynd i mewn ar ben fy hunan. Roedd pawb arall yn rhedeg mewn, a fi jyst yn aros yna. Ond cyrrhaeddodd hi, so felly dyna ni, mynd i mewn, a derbyn darn o bapur yn cynnwys tua deuddeg llythyren. Big deal.

Ond typical, dwi ddim yn morning person, a fe roedd pobol o'r newyddion yna'n ffilmio. Os oeddwn ar y teledu, seriously, it was not a good look. Yn gofyn i'r athro am fy marc, gofynnodd hwnnw am fy rhif, a shwd yn y fflipin byd o'n i'n cofio beth odd e? (7087 - dwi'n ei gofio fe NAWR). A dyw'r pale and worried look ddim yn edrych yn rhy dda ar y bocs, yn ogystal a bod y sgrin yn adio pump pownd (a dim i'r boced, yn anffodus).

So... y canlyniadau.
4 A* (Celf, Cymraeg Iaith, Cymraeg Llen a Add Gref), 5 A (Maths, Hanes, Drama, English Lit, English Language), 2 B (Bioleg a Cemeg) a C (Ffiseg!!!)

Petawn yn cael B neu fwy ym mhopeth heblaw Ffiseg (doedd dim gobaith da fi gael lot gwell yn hwnnw), roedd f'annwyl Fam wedi addo prynu par o shoes newydd i fi.

So'r peth cynta wedes i wrthi oedd, "Mam, ma' arno ti par o shoes newydd i fi!"

Weles i fy athrawes Saesneg ar y ffordd mas, ECW, a mae hi'n neis iawn, ac yn nabod Mam, a wedodd hi wrthai dylen i weud wrth Mam mod i'n haeddu dau bar newydd hehe!

Straight i Abertawe felly ar ol ffonio Nhad ("Dim Chinese burns Nhad!" gwaeddais lawr y ffon), ar ol i Mam decstio Anti-B, a gadael i honno weud wrth y byd. Achos tryst me, wedodd hi wrtho pawb - hyd yn oed os nad oeddwn i'n 'i nabod nhw (e.e waiter yn y lle gaethon ni ginio).

Fe ffoniodd hi fy great wncwl Rod a anti Rosie, sef brawd Dadcu Pencader, a gadael iddo nhw wbod. Un o gwestiynnau cynta Rod oedd, "So, yn beth ga'th hi'r C?"
"Ffiseg" atebodd Anti-Bionic.
"O," dwedodd Rod. "Newn hi'm chemist ohoni 'to te!"

So siopa, Mam a minnau yn Abertawe. Top newydd a pili pala arno o River Island felly, a jins newydd o TopShop. Top newydd o DP hefyd, yn ogystal a sgert oedd ar sel, a trwser newydd ar gyfer yr ysgol. A wrth gwrs... y sgidiau newydd! Yn barod, mae Nhad wedi dechrau galw nhw'n fy "gangster shoes" i, a un o'r peth cyntaf gofynnodd i fi os oeddwn i'n teimlo fel Al Capone, neu beth?

Mae gen fy sgidiau i gyd enwe (Matthew Rhys shoes i er engraifft, fy Noise Next Door Converse...) a rhein yw Fy Ryan Stiles Shoes, gan ei fod e'n gwisgo par tebyg ar Whose Line? weithiau. Galwch fi'n od, but I don't care!

Felly dyna ni really, gaethon ni Chinese takeaway adref i ddathlu (doeddwn i ddim yn trystio'r teulu i beidio gweud wrth pob Tom, Dic a Harri yn y bwyty mod i wedi llwyddio i basio fy arholiadau TGAU). Chinese, gan fod yna diffyg Chinese burns! Galwodd Mam yn Tesco cyn dod adref, i brynu pink lemonade, a daeth honna mas a botel o Champagne.
"Sori, fi'n gwbod wedes ti fod ti ddim moyn champagne," wedodd honno.
"Fi'm yn lico champagne Mam!"
"... ond odd e half price ta beth."
Charming.

So nawr, dwi'n llawn dop - fy mol bron byrstio - a mae gen i falwn fawr yn yr ystafell fyw. Ddwedes i mod i'm moyn ffys, felly fe nes i'm twtch a'r champagne, a nes i ballu rhoi cardie ymhob man. Ma llawer wedi gwneud yn well na fi, a fi'm yn deall pam bod yr exams ma' gefais shwd hwyl yn ffaffan drwyddo mor bwysig. Jyst llythrenne bach ar ddarn o bapur. Seriously, pan ddaeth hi i fy 18fed i, dwi'n mynd mas o ma. Fi'n cwato am bythefnos.

Ond ta beth, diolch i bawb sydd wedi gweud llongyfarchiadau, a llongyfarchiadau i bawb sydd hefyd wedi gwneud TGAU - dwi'n mynd i ail ddweud am y trydydd tro, dim ond darn bach o bapur yw e.

Dwi'n chuffed, mae'r teulu'n falch... un person dwi'n gwybod fydd ddim yn chuffed, er fod C yn bas, yw Chris James. Syr, dwi ddim yn sori mod i ddim wedi cael dros A, ond fe allwch chi stwffio'r nodiadau Ffiseg rhywle lle dyw'r haul ddim yn sheinio - h.y, ar un o'i annwyl blanedau yn y gofod, lle does dim hyd yn oed disgyrchiant yno. A gobeithio fydd yno ymasiad niwclear yno fyd, beth bynnag yw hwnnw.

No comments: