Saturday 16 August 2008

Squiffy - ac nid jyst oherwydd fumes ei ddillad.

A Matthew Rhys wedi dychwelyd i La-La Land, dwi'n chwilio am rhywun arall, rywun mwy realistig efallai.

Siomedig yw'r dewis sydd yn yr ysgol, a rhai sydd werth ei ffansio yn bell o fod yn berffaith. Wrth gwrs, dyw'r looks ddim mor bwysig a'r personoliaeth... ond eto, dydych chi ddim moyn mynd mas gyda rhyw corrach o fachgen a llond ei wyneb o blorrod.

So, wedi i mi groesi pob bachgen yn f'ysgol off y rhestr o gryshes posib, dwi 'di troi at y talent lleol... neu'r diffyg talent lleol. Mae'r bechgyn lleol i gyd, dwi'm yn amau, wrth i fy ysgrifennu hwn, lawr yn y parc yn cymryd cyffuriau - a dwi ddim yn gorddweud. A maent i gyd mewn cariad gyda merch dwi'n mynd i alw'n Penbwl ta beth.

Ond dwi wedi dewis un. :)

Bachgen neis iawn, er y ffaith ei fod wedi ffealu ei brawf gyrru dwy waith o leiaf, efallai dair. Y rate hyn, fe fydda i yn gallu gyrru cyn hwn, a dwi ddim yn 17 nes mis Hydref (23rd - mae presantau yn neis. Diolch).

Mae hen fenywod y pentref i gyd yn dwlu arno, felly I suppose fod hyn yn golygu fod gen i dast hen fenyw... gan eu bod nhw gyd yn hoffi ymgasglu rownd iddo, ac yn hoffi ei alw'n "grwtyn bach neis", a rhoi llond twll o ofan iddo fe druan. Achos tryst me, mae cangen Merched Y Wawr Llanpumsaint yn fflipin scary! (including fy dwy famgu i fan 'na)

Mae Squiffy, fel dwi wedi penderfynu ei alw, wedi bod rownd ers sbel, ers cyn Nadolig dwethaf, a dwi ddim actually wedi ei weld ers New Years Eve (a fe roedd e'n gwisgo crys smart iawn y nosweth 'na, jyst i weud)... ond heddiw, wrth yrru heibio yn y car, roedd e allan tu fas drws y ffrynt yn cael mwgyn, yn y glaw. Problem arall yw'r ysmygu, ond does dim pwynt i mi fod yn ffysi really.

Mae e'n edrych union yr un fath a actor a oedd yn chwarae rhan Eric Birling mewn hen ffilm du a gwyn An Inspector Calls... bu'n rhaid i ni wylio yn Saesneg gyda Miss ECW. Ac ar y pryd roedd Deryn Du a finnau (Inglish bydis ffor leiff eh!), yn ffindio'r term "Squiffy" a oedd yn y ddrama yn hilarious, ac fe roedd gan Eric Birling yffach o gwiff mawr yn ei wallt... fel gallwch chi ddychmygu... "Squiffy Quiffy!"... Dyna esboniad y nickname i chi felly.

Ta beth, roedd e'n edrych yn neis iawn heddiw, a dyma fi'n mynd mlaen am fachgen i'r blog, i'r byd.

No comments: