Wednesday 18 June 2008

Karma

Good karma, bad karma.

Yn hytrach na pydru o flaen y teledu heddiw, es i gyda Nhad ar "deliveries". Yn aml, mae Nhad yn cymryd break o'r byd amaethyddol i ddelifro sleepers a pethe fel na (in other words, god knows what) o fusnes fy anti ag wncwl i'r cwsmeried. Felly heddiw - fi oedd y passenger pert, a eisteddai fel brenhines yn ei sedd (nes i fi orffod ddringo mas i agor blydi iet), yn cael y cyfle i weld y byd... wel, i weld Cymru... Sir Gaerfyrddin (a Llandysul)...

Ar ein delivery cyntaf, dyma'r ddau ohonom yn cwrdd a Norman, ffermwr o ryw le yn dechrau gyda Maes ger Llandysul. Nawr, cyn mynd ymlaen, rhaid esbonio, fod Nhad o'r farn dylai pobol rhoi tips i'r rhai sy'n delivero sleepers h.y. ei dipio ef - er ei fod yn ennill £9 yr awr, a mae'r cwsmer yn talu delivery charge fel rhan o'r bil ta beth. Anyway, Norman. Dyma gawr o ddyn yn dod allan - Sais, gwallt llwyd, yn gwisgo dillad gwyrdd tywyll, wellies, ac roedd ganddo trwch o faw o dan ei winedd (mae'n nhw'n dweud fod mwy o facteria dan y gwinedd nag sydd ar sedd toiled... ych...). Trwy ei ddannedd, sibrydodd fy Nhad "paid a disgwl tip wrtho hwn."

A felly allan a Nhad i'w helpu dynnu'r... i dynnu'r... ok fi'm yn gwbod beth, stwff?... off cefn y lori fechan. Fi'n eistedd yn sedd y passenger, yn clywed dim ond dau ffermwr yn siarad am... ffermwri stwff, fel da... a dom da... Norman yn dweud wrtho Nhad lle i hwpo'r "stwff" glywais nesaf, a wedyn dyma Nhad yn rhoi'r stwff odd yn dal y stwff (sori, lot o stwff ma) wrth yn nhraed i yn y cab... a hol y recipt holl bwysig. Cash. Arian. (wel, cheque.) Wrth gwrs, Norman o'dd yn cael cadw'r recipt gwyn, tra ein bod ni'n cadw'r un pinc. Y tro dwethaf fues gyda'n Nhad yn y lori (ddoe) cafodd e fiver o dip, a'r dyn a ponytail a oedd yn byw ger Brechfa Forest yn dweud wrtho, "have a drink on me mate."

Heddiw, daeth Norman i ffenest y gyrrwr i ddweud ffarwel (a ni wedi dweud wrtho taw i Camarthen Demolition oedd y cheque yn daladwy i), dyma fe'n tynnu punt o'i boced. Ie, punt. Ac yn dweud, "to buy a drink... I'll give it to the goregous girl." Plis, 16 years old, a odd gwallt llwyd gyda fe... A gan fod rhaid i mi ddefnyddio spell check i sillafu goregous pop tro, dwi'm yn trystio neb sy'n defnyddio'r gair. Ond arian yw arian ar ddiwedd y dydd... "Thank you!"

Doedd Nhad ddim yn amused mod i'n mynd a'i dips e. A fuodd e'n gloi i bwyntio mas fod Norman yn amlwg heb fod mas i'r dafarn am ddrinc yn ddweddar, a taw'r peint rhata sydd ar gael dyddie 'ma fel arfer tua £2.80.

Felly dyma ni'n dod i'r pwnc o Karma.

I rhai a ofynnodd fel wnaeth Ian y Spaceman (peidiwch gofyn) i Jason wedi clywed y gair, "whos that?" - karma, yw pan ydych yn gwneud rhywbeth da, mae rhywbeth da yn digwydd i chi. A vice versa. Felly bad karma, gwneud rhywbeth drwg, mae rhywbeth drwg yn digwydd i chi.

Yn pasio Anti Megan yn sefyll tu allan i'w bungalow bach hi, dyma'n Nhad yn dweud "oo, odd hi'n edrych bach yn spwci fanna!". A felly dyma fi'n troi at yr un sy'n hoffi galw pobol tew yn "fatties" neu'n "bouncy castles" ac at y dyn sy'n hoffi commento ar edrychiad pobol eraill, a dweud - "Fi gath y tip 'na, am dy fod di'n cadw gweud pethau cas am bawb. Bad karma. Fi wastad yn gweud ooo ti'n gas, felly good karma, so fi gafodd y tip."

Karma. Syml.

So felly, bob tro odd Nhad yn dweud unrhyw beth negyddol roedd rhaid gweiddi "BAD KARMA!" (e.e, pan galwodd yr Americanwr o Cilycwm na adawodd tip yn prick). A'r r'un peth pan oedd yn dweud rhywbeth caredig, neu bod yn neis, roedd rhaid gweiddi "GOOD KARMA!" (e.e. pan gododd yr holl sleepers off cefn y lorri i'r un Americanwr).

Dyna ni really. End of.

Note to self : Check out Cilycwm.com - gwefan a hysbyswyd ar arwydd y pentref/shithole. I doubt bod nhw'n cael llawer o ymwelwyr... felly, good karma i fi!

No comments: