Sunday 22 June 2008

Fy nghar bach i!

Gan fy mod yn troi'n 17 ym mis Hydref (ar y 23rd - dwi'n hoffi anrhegion hint hint), mae'r rhieni 'na sy' 'da fi wedi dechrau chwilio am gar.

Heno, cefais weld un roeddwn i'n meddwl oedd yn berffaith.

Vauxhall Corsa bach silver, o Lanelli, model 2000, so car bach crwn - dwi'm yn licio'r ceir sgwar 'na. Mae ceir bach crwn fel y KA yn ciwt. Dwi wedi mynd braidd yn emotionally attatched yn barod. Petawn yn cael y car welais heno - am bris o tua £2100 - mae gen i enw'n barod iddi. Strawberry. Strawberry, fy nghar bach i.

Golygaf fynd a pawb am dro yn fy nghar i. Am bob tro mae Mamgu wedi mynd a fi i'r deintydd, dwi 'di addo mynd a hi yn fy nghar. Am bob tro mae Mam wedi mynd a fi am spin yn y car pan dwi'n bored, dwi 'di addo mynd a hi fyd. A dwi hefyd wedi cynnig fy hun fel taxi service, pan fydda nhw moyn sesiwn yn dre. Gallaf fynd ble fyddai moyn, pryd bynnag fyddai moyn. Os fyddai moyn mynd i weld rhyw ffilm yn cynnwys Matthew Rhys yn y sinema, off a fi, gallaf fynd. Os fyddai'n teimlo fel jyst prynu DVD CSI newydd, off a fi, jyst mynd. Gyda'n jobyn dydd Sadwrn yn Tesco (rhaid i fi llanw'r application form mewn gyntaf), gyda Biko-Eco sy'n golygu gweithio na lol, galla i dalu am betrol (petrol oedd y car heno, dim diesel). A off a fi yn fy nghar bach i! Fi ffealu aros!

Dwi hefyd heddiw wedi dechrau trial darllen On The Road gan Jack Kerouac eto. Pan fyddai'n gyrru, I doubt fyddai off the road.

No comments: