Thursday 19 June 2008

Rhys Ifans vs Matthew Rhys

Na, dyw Sienna Miller ddim really yn rhan o'r post yma (dwi'm yn ffan) - ond hi ddechreuodd y peth.
Tua wythnos yn ôl, gollyngodd Mam dipyn o bomshell.
"O'n i arfer mynd i meetings Cymdeithas Yr Iaith 'da Rhys Ifans."

Wow. Meddylais. Wow, as in, slow down byt. Ffrindiau gyda Rhys Ifans yn ei heuenctid? A nawr mae hi'n datgelu'r peth? Fi wedi bod yn un sydd a Hollywood connections, ac ddim wedi cael gwybod hynny, nes nawr!

Yn ôl Mam, odd e'n dipyn o rebel, ac yn wladgarol iawn. A doedd hi'm yn synnu darllen yn y papur ei fod wedi mynd ar 24 hour booze cruise, am ei fod yn torri ei galon dros Sienna. Y Sienna Miller, yn ôl y papurau newydd, sydd wedi ei adael am Matthew Rhys.

"Dwi'm yn beio hi," dwedais ar y pryd. "Ma' Matthew Rhys yn well ffit... a drych a hwn. Ma' fe'n edrych fel hobo!"
Gasp, daeth o wefysau'n Fam. "Na! Na! Rhys Ifans!"

A dyma'r rhyfel rhwng Mam a Merch yn dechrau. Rhys Ifans VS Matthew Rhys.

Fel ddwedais, mae Rhys Ifans yn edrych fel hobo. Pam mynd, am un sydd, eto, yn ôl y papurau a'r cylchgronnau, yn paranoid (checkio texts ei gyn-gariad), yn hen, yn scruffy, yn alcaholic (24 hour piss up) ac o achos yr holl alcahol - obviously not a gentleman... pan gallwch ddewis yr anhygoel Matthew Rhys, y dyn perffaith?
Job da ar Brothers & Sister, mop o wallt tywyll sydd yn daclus (ma Rhys Ifans yn edrych fel blydi bwgan brain), llygaid golau, dyn golygus, cyhyrog, natur tawel, mwyn, yn dalentog, glyfar (chwarae rhan Dylan Thomas, I doubt fydde Ifans yn gallu neud na)... ac wrth Googlo ei lun, dwi newydd ffeindio mas taw fe yw llais y Spiderman Cymraeg. A ma pawb yn gwybod taw Spiderman yw fy wir arwr. Ei wir arwr e fyd. Mae hyn jyst yn gwella.

Os yw'r suon yn wir, a bod Sienna wedi dychwelyd i freichiau Mr Rhys, dwi'm yn ei beio hi. Fflipin hec, petawn yn gorfod dewis rhwng Top Gear a Matthew Rhys, yr actor fyddai'n ennill y ffordd dwi'n teimlo nawr.

Fi'n bendant taw fi sy'n ennill Rhys Ifans VS Matthew Rhys.

Ma Mam yn honni taw apel Ifans yw ei fod yn rebel (doedden ni'm yn gwbod cyn hyn fod Mam yn cuddio shwd teimladau am fechgyn drwg!). Ond rebel? C'mon. Mae pob merch yn dysgu'n y diwedd taw ond torri calonnau gall rebel wneud. So there. Matthew Rhys FTW.

A ma Anti-Bionic yn cytuno a fi. Matthew Rhys dros Rhys Ifans unrhyw ddiwrnod.

Ta beth, bwriad y blog yma yw i jyst adael pawb i wybod - ngwr i, ewch o ma. Move on. Dwi wedi clywed fod Rhys Ifans yn sengl!

1 comment:

Miss Mir.I.Am said...

A dwi wedi creu poll bach, er mwyn profi fy mhwynt yn bellach =) xxx