Thursday 19 June 2008

Lladd Amser - y llyfr perffaith er mwyn gwneud.

(fi'n gwbod, trydydd post heddi, ond ma' 'da fi lot i weud)

Lladd Amser gan Lyn Ebenezer yw'r llyfr dwi'n darllen ar y foment. Horror, a stori llawn bwci bos. Y cydddigwyddiadau yn y nofel sy'n ei gwneud yn spwci. Mae ambell beth yn dod lan yn aml - y cyfenw Wilson, y pethau ma a'i penne'n cwmpo bant etc. Da, ond dim mor dda a Dan Gadarn Goncrit (nofel orau'r byd end of), dim quite mor contreversial a Bitsh!, ond good. Roedd hi'n gyfoes, a ma hynny'n gwneud hi'n good, ac o'dd hi'n wreiddiol, gan fod y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg yn dueddol o fod yn hen ffasiwn, neu'n llawn secs scenes, er mwyn ei werthu (sydd byth yn gweithio... a ma' pethau fel na yn swno'n ych yn y ffordd ma' awduron Cymraeg yn ysgrifennu). Tafodiaeth y de 'fyd. Change.

Ond, i fynd ymlaen... Neithiwr... Dyma fi'n cwrdd a'r goruwchnaturiol drosof i fy hun... Galwch fi'n mad, dwedwch fod i'n gweld pethau, ond... ges i llond twll o ofan!

Tra'n gorwedd yn y gwely neithiwr (gwely dwbwl hiwj, ma' fe'n brilliant), teimlas y matras yn symud, fel petai rhywun yn ei symud nol. Dyma fi'n stopio, a meddwl o ddifri... na... ond symud yn ol, yn ol... Dychymyg. Troes i'r cyfeiriad roedd y matres yn cael ei dynnu... a dwi'n addo... fi'n siwr i fi weld cysgod mawr ysbryd yno... wel, a hithau'n ganol nos ish, o'n i'm yn credu mod i moyn inspecto bellach, felly neidio i wynebu'r ochr arall, fy llygaid ar gau a'n dal fy nhedi'n dynn wnes i!

(A ydw, fi yn dal i gysgu gyda tedi. Tedi o'r enw Pikachu. Problem?)

Felly dyna fi'n rhannu fy mrhofiad o'r goruwchnaturiol gyda chi. Falle taw aliyns wela i heno. UFO yn gwibio drwy'r awyr. Fy mhrofiad - i'w ddisgrifio, ddefnyddiau linell olaf Y Llwynog gan R Williams Parry
"Digwyddodd, Darfu, Megis Seren Wib".

No comments: