Tuesday 24 June 2008

Diwrnod Diflas O Lanhau

Heddiw, dwi gorfod tacluso'r ystafell wely.

Llwyddais i rhoi'r dasg off wythnos dwethaf, a minnau'n cwyno fod gen i wddf tost. Ond a fi'n 100% holliach, dwi gorfod cael gwared o'r holl lanast. Eek.

Nawr, yn bersonol, gallen i fyw yng nghanol y stwff i gyd am fisoedd. S'da fi ddim byd unhygenic yna - dim dillad isaf brwnt sydd wedi bod yn gorwedd ar y llawr am ganrifoedd, a dim bwyd llwyd sy'n tyfu mould drosto. Dim ond dillad a sgidiau a llyfrau ysgol. Fi'n fodlon dringo drosto - dim problem. Fi byth yn gwahodd ffrindie draw, ond dyw hwnna ddim yn broblem i fi chwaith. Yr unig broblem s'da fi am y mess yw mod i'm yn gallu ffeindio fy Westlife CD, ond dyna ni, galla i fyw heb hwnna, a ma' pawb yn meddwl mod i'n mad mod i'n becso lle ma' hwnnw ta beth.

Ond na. Mae'r rhieni yn mynnu. Rhaid glanhau'r ystafell wely.

Felly tra bod Without A Trace yn dechre (nes i'm dihuno'n gynnar iawn, er i mi fynd i'r gwely am gwarter wedi deg), roedd rhaid i mi dwrio trwy'r hen lyfrau ysgol. Wedodd Mam ei bod hi moyn nhw mewn bocs am ryw reswm, ond stuff that - ma' Gwyddoniaeth a Mathemateg a Drama yn cael mynd yn syth... a gwynt teg ar eu hole nhw. Hwyl fawr i Drama, a'r Saer Doliau (drama mwayf crap y ganrif, sori ffans o Gwenlynn Parri), a'r ast o athrawes sydd eisie popeth ffordd ei hun (whatever happened to artistic lisence?), hwyl fawr Mathemateg, y rhifau, y fformiwlau sy'n nofio yn fy mhen ac yn gwneud braidd dim synnwyr, a diolch byth, dim Trigonometry na Pythagoras byth eto, a hwyl fawr Gwyddoniaeth, hwyl fawr Biol gyda'r dyn blin, a dysgu am fflipin ffotosynthesis, hwyl fawr Ffiseg, y dyn diflas, a dysgu am DDISGYRCHIANT (I doubt fod y boi dal heb sylweddoli pa mor boring yw ei bwnc e), a hwyl fawr Cemeg, Cemeg gyda'r athrawes doedd neb yn gwrando i, a Cemeg sydd yn llawn Cemegion, Cemegion nad wyf yn, nag byth yn mynd i allu deall.

Ma' rhanfwyaf o'n stwff Saesneg i wedi cael ffling i'r bin fyd, gan fod yr athrawes yna mor anrhefnus, roedd gen i tua ddeg copy o'r un "Mark Scheme". Gallen i bapuro'n ystafell a'r holl gynlluniau marcio.

Erbyn i Loose Women ddechre, cefais ddigon ar y stwff ysgol, a mae'r bin glas ailgylchu'n hanner llawn erbyn hyn. Symdais ymlaen, roedd hi'n amser i sortio'r sgidiau. Dwi'm yn mynd i ddatgelu'r nifer (lot), ond trystwch fi, ma' 'da fi ddigon i ddechrau siop shoes. Dwi wedi eu gosod mewn rhes tu allan i'r drws, yn y passage am nawr, tra mod i'n sortio pethau mas... much to the parental unit's delight, dwi'n siwr.

Eto, cefais hoi fach i wylio Whose Line Is It Anyway?. Meddwl se bod yn ddoniol yn gwell arf i gael sboner na bod yn daclus... Darllenais bore 'ma fod Matthew Rhys yn daclus. Hei, s'dim eisiau i fi fod yn daclus felly!

Stopiais wedyn i lanw lan y Tesco Application Form, cyn fod rhywun yn ei staenio a cylch cwpan coffi (fel sy'n dieddol o ddigwydd i bopeth yma), ond a'th y tic boxes i gyd yn drech arnaf. Mae e nawr ar agor ar fwrdd y gegin, jyst er mwyn dangos mod i actually wedi ei ddarllen heddiw.

A nawr dyma fi'n 'sgrifennu at fy mlog.

Mae angen i mi sortio'r dillad allan, ac mae'r pentwr o lyfrau a taflennu ysgol dal yn anferth. A dwi dal heb ffeindio fy albwm Westlife... Mae yna fynydd o fess ar yng ngwely - fydd siwr o fod rhaid i mi gysgu ar y soffa heno.

Dylen i wedi mynd i Abertawe gyda Speis a'i gang wedi'r cwbwl, osgoi'r ystafell yn gyfan gwbwl. Dyw cuddio'n ddim sbri.

No comments: