Monday 23 June 2008

Dudette In Demand


Mae'n ymddangos fel petai pawb moyn fy nghwmni yn ddweddar.
Heddiw, dyma fi a Pero, fel wnaethom drefnu ers spel, fynd i'r dref am dro. Roedd y ddwy ohonom arfer treulio bob dydd Sadwrn yn y siope, yn siopa a gossipo a bod yn girlie. O'dd hi'n hen bryd, a ni'n dwi heb ddim adolygu i wneud, i ddal lan a'r hen ddyddiau!
Cawsom sbort. O'n i 'di anghofio pa mor random a awesome ma' Pero yn gallu bod, a par mor mad ni'n gallu bod yng nghwmni'n gilydd. Wrth gwrs, es i mlan a mlan am fy mhrofiad bythgofiadwy, tra bod hi'n jocan gwrando. Cerddom rown dre - a gallaf ddatgan, nid yw fy esgidiau porffor newydd wedi cael ei gwneud i gerdded long distance. Fi'm yn credu eu bod nhw'n dda iawn ar gyfer short distance chwaith.
Am rhyw reswm, penderfynodd y ddwy ohonom brynu hair extensions lliwgar o Peacocks... a la Taz and Cal, emo style. Ces i rhai coch, gan fy mod yn gwybod fod Jack White ei hunan yn hoff o wallt coch, ac felly mae gwallt coch yn cool, tra prynodd Pero rhai proffor (lliw oedd yn gweddu'n dda 'da'n outfit i), am nad oedd yna rai glas yn y siop.
Hefyd, wrth gwrs, tra'n bod ni yn y dre, roedd rhaid checko yn Poundland am Glowsticks... mae Pero wedi bod yn picio i mewn yna bob hyn a hyn am glowsticks, gan ein bod wedi cael rave yn ysgol unwaith ac wedi cael shwd laugh pan brynodd hi becyn tro dwethaf. Anlwcus bu hi yn ei ymdrechion i gael glowsticks yna o'r blaen, ond y diwrnod yma, diolch i'r lwc a'r karma da sy'n fy amgylchynnu yn ddweddar (I mean, mae'n rhaid mod i wedi bod yn lwcus i achosi dydd Gwener i ddigwydd), dyma ni'n gweld bocs llawn Glowsticks! A ninnau'n Poundland, guesswch baint odd eu pris nhw? Cheap as chips!
Yn ogystal a gorfod mynd i weld y deintydd am bedwar o'r gloch (wedodd hi fod ym mrwsio i'n gwella - diolch i Dduw!), roedd hi'n ddechrau prysur i'r wythnos.
Ond fel mae'r teitl yn dweud, dwi'n "Dudette in Demand" (a dwi heb ddefnyddio'r gair "dudette" am sbel... dwi'n gweld nawr pam dwi'm yn i ddefnyddio'n aml - naff or what?).
Dydd Gwener dwethaf, cefais wahoddiad wnaeth fy synnu, ag achosi i mi gwympo o'r gadair roeddwn yn eistedd arni. Gwahoddiad drwy dext gan Speis i ymuno gyda hi a PetVet a dwy ffrind arall i fynd i Abertawe. Wrth gwrs, mae Matty off yn Canada, ac roeddwn wedi cael syrpries gan fod dim son am Miss Mynd yn cael gwahoddiad... sy'n beth rhyfedd. Ta beth, yn anffodus, bu'n rhaid i mi esgusodi'n hun o'r get-together bach yna, gan fy mod "yn mynd i siopa gyda Anti-Bionic". Falle a i y tro nesaf. Ond dwi'm yn barod i gael Speis yn rhan o'n haf i eto, a fyddai'n rhedeg mas o esgusodion cyn bo hir.
Bore 'ma, cefais wahaddiad i ddathlu penblwydd Miss Mynd. Roedd hi'n 16 ddydd Sadwrn (21st, r'un diwrnod a Prince William). Mynd i weld y ffilm Sex and the City dydd Mercher. Ond wrth gwrs, dwi'n mynd i gael Indians nos Fercher gyda'r merched - a dwi'n mynd ar yr amod bod ni nol yng Nghaerfyrddin erbyn chwech, hanner awr wedi ar yr hwyraf. Felly, dydd Mercher, dwi'n mynd i Abertawe ar y tren (ddim yn siwr faint o'r gloch eto, wneith hi dextio), i siopa a wedyn gweld Sex and the City, a wedyn dod nol i'r dre i fynd i gael Indians gyda Pero, Deryn Du (os ddeith hi nol o Center Parks mewn pryd) a Wolfy. Go, go, go.
Bwmpes i mewn i Miss Mynd a ffrind iddi (un arall heb codename - dwi'm yn gallu enwi pawb!) yn dre gyda Pero. Wedodd hi dextie hi fi gyda'r manylion, gan fod hi'm yn siwr iawn ar y pryd. Dwi dal ddim yn siwr os yw Speis a PetVet wedi cael gwahoddiad, a dwi'm di gofyn. Fi'n edrych mlan. Es i'm i'r parti penblwydd dwethaf, "stumog tost", ac er mod i'n gwybod mod i'n conan fod Miss Mynd yn neglecto fi a'r lleill, r'un a man i fi fynd a joio. Ac wrth gwrs, dim ond ar y ffordd adref meddyliais bydd yn rhaid i fi gael anrheg... a finnau'n dod o'r dref ac yn gorfod cuddio adref fory. D'oh.
Hefyd, dwedodd Anti-Bionic, er mwyn dathlu ei phenblwydd hi (29th...efallai 28th... digon agos!), ni'n mynd i weld The Edge of Love yn y sinema'r penwythnos sy'n dod. Wel, dwi'm yn mynd i wneud esgusodion, fe ai i weld y ffilm 'na os taw dyna'r peth dwethaf dwi'n neud - ni gyd yn gwybod pa hync sy'n y ffilm yna! Mas am swper wedyn i Frankie and Benny's siwr o fod. Neis.
Ma' pawb moyn darn ohonai. Dyw'n social calander erioed wedi bod mor llawn... mae'r peth yn sioc i'r system.
Well i fi rhoi'n nhraed lan nawr, fy nhraed sydd yn sore ac yn flinedig diolch i'r sgidiau, cyn bod rhywun arall yn fy ngwahodd i rhywle.

No comments: