Tuesday 17 June 2008

Lle Llen

Llongyfarchiadau i fi, am greu cyflythreniad mor original, i ddechrau pethau. A sorri bod dim to am y "llen". Fi'm yn gallu bod yn bothered i chwilio am "insert...symbol" a wedyn chwilio am yr un cywir. Stuff it. Dychmygwch fod un 'na.

Yn ail, rwyf am son am y llyfyr dwethaf darllenais - sef, Girl With A Pearl Earring gan Tracy Chevalier. Fe wnes ei fwynhau, felly dyma fi'n ysgrifennu review bach amdano. Llyfyr hanesyddol (wedi ei selio ar adeg y pla), am baentiad enwog yr arlunydd Johannes Vermeer o'r Iseldiroedd, a'r amgylchiadau tu ol i'r paentiad The Girl With A Pearl Earring (wrth gwrs, amgylchiadau ffuglennol, gan nad oes yna lawer o wybodaeth am y paentiad hwn). Cawn weld teulu Vermeer, drwy lygaid Griet, y forwyn newydd, a'r ferch sydd yn y darlun. Griet yw'r un sy'n cael y swydd o lanhau'r stiwdio - mae'n rhaid iddi osod popeth yn ei le yn ofalus, a gwneud yn siwr nad yw hi'n amharu ar unrhywbeth, rhag ofn iddi newid y llun. Mae Griet yn gweld ei hun yn cwympo mewn cariad gyda ddau ddyn - ei meistr - yr arlunydd ei hun - a mab y cigydd, Pieter. Mae'r Pieter ifanc, golygus, yn ei charu hi, ond caru ei gelf yn unig mae'r arlunydd. Mae'r arlunydd, yn dad o chwech (dad o unarddeg erbyn diwedd y nofel), yn ffafrio'r ferch ifanc, ac yn gofyn iddi ei helpu yn y gweithdy - drwy falu lliwiau paent a siopa ar ei gyfer ayyb - ond nid yw'n dweud wrth ei wraig. Roeddwn yn mwynhau'r llyfyr, ac yn hoff o gymeriad dirgel yr arlunydd - nad oedd braidd byth yn cael ei enwi gan Griet yn y nofel, gan wneud iddo ymddangos yn gymeriad mysterious iawn - ac yn hoffi'r ffaith ei fod yn ymddangos fel petai wir yn teimlo rhywbeth am Griet, ac am ei ychwanegu hi i'w fyd ef yn y stiwdio, er ei fod yn mynnu cadw ei wraig a'i deulu o'r byd hwnnw. Er, annoyed oeddwn ei fod yn cadw cael plant gyda Catherina, er ei fod yn amlwg yn siwtio Griet yn well. Roedd y llyfyr yn werth ei ddarllen. Dwi'n ei recommendo. Gweld y ffilm fi moyn neud nawr.

Yn drydydd, yn ogystal a ceisio gwneud i fy hun deimlo'n well (gwddf tost, dechrau annwyd - sympathy is welcome), drwy ail ddarllen The World According To Clarkson: And Another Thing... (gan... wel guesswch!), dwi'n meddwl dechrau darllen Lladd Amser, gan Lyn Ebenezer. Dwi'm di cyrraedd lot pellach na diwedd y rhagair eto... o wel. Dechreuais ddarllen Cysgod Y Cryman 'fyd pyddyrnod, gan fod Mam wedi mynd mlan a mlan dylen ei ddarllen yn yr haf pan fydde digon o amser 'da fi ers ages... ond mi roedd y dudalen cyntaf mor fflipin boring mae ei dal ar fwrdd y gegin. Felly Lladd Amser amdani. Gobethio neith e'm troi mas i fod yn Wastraff Amser, dyna i gyd weda i.

Os oes gan rhywun enw llyfyr da i fi ddarllen, mae gen i ddigon y amser. Reccomendations would be most welcome.
A dyna ni. Diwedd pennod arall... nes y llyfyr nesaf.

No comments: