Thursday 26 June 2008

"Drumroll please... I was taller than a vet!"

Heddiw, dwi'n mynd i siarad am ddoe, gan fy mod wedi dychwelyd adref ymhell dros fy amser gwely, ac wedi neidio i fewn i ganol y canfasau du a glas, a cysgu straight away.

I ddechrau felly...

Parti Penblwydd Miss Mynd!
Fi oedd y cyntaf i gyrraedd yr orsaf drenau. Fel arfer, dwi wastod yn gynnar, a ma' hi fel arfer yn hwyr. Ta beth, dath ffrind di-godename i ymuno â fi. Roedd y tren yn y station erbyn hyn, a'r ddwy ohonom yn meddwl taw tren douddeg yn hytrach na tren unarddeg fydden yn gorfod dal. Ond dyma pawb yn troi lan yn y diwedd - ond heb amser i brynu ticket yn yr orsaf.

Cymrodd y bump ohonom seddi, a gwrandais i'r holl gossip oedd gan y lleill am beach parti cawsom yn Saundersfoot - hoff destination Merched Y Wawr, neu beth? - ddydd Llun. Yn ôl pob son, aeth un o'r bechgyn yn totally nyts a dechrau rhwbio moisturiser dros teledu carafan un o'r merched, ac yna torri'r hoover. Tra ein bod yn siarad, daeth y dyn tocynne rownd - ac fe roedd e'n dipyn o dwat.
"Why didn't you buy your tickets at the station?" gofynnodd yn siarp ar ôl iddynt ofyn am brynu tocynnau.
Wel soooori. Pa fusnes oedd hi iddo ef ta beth?!?!
Felly, dyma'r pedair (odd gan un ohonom docyn yn barod) ohonom yn prynu child's ticket, yn hytrach na adult.
"You're all fifteen? Are you sure?"
"Yeeeeeees."
Twll 'i din e.

Cyrraedd Abertawe, ac i'r siope - wedi cinio yn McDonaldswrth gwrs! River Island, a'r holl dillad stunning i ddechrau. Petwan ond sawl maint yn llai, ac yn berchennog ar bar o goesau hir a thenau, fydden i wedi prynu'r siop gyfan. A wedyn off a ni i Primark. A weles i par o siorts serennog fanna fyd, se'n berffaith se nhw good modfedd neu ddwy yn hirrach. Mi roedd Miss Mynd a dwy o'r lleill yn golygu mynd i barti chweched QE High, a hithau'n fancy dress, felly roeddent yn twrio ymusg y dillad rhad am bethau pinc a sparkly - gan eu bod yn golygu mynd fel tylwyth teg.

Cyn mynd i'r sinema erbyn dau, galwon yn Claire's ac mewn siop ffansi dress... a prynais rhywbeth i mi. Ar y ffordd i'r sinema, roedd yna hen hobo â dwylo brwnt yn gwerthu'r Big Issue. Fel arfer, dwi byth yn botheran, a mae'r rhai sy'n gwerthu'r Big Issue yn nre Caerfyrddin yn wel dodgy. I mean, pam fod menyw a dant o aur yn honni ei bod hi'n ddigartref er mwyn gwerthu'r Big Issue?! Ta beth - hen hobo, dwylo brwnt, ond roedd yn rhaid i fi stopio i brynu'r Big Issue. Dwedais wrtho i gadw'r newid, a brysiais i ddal lan gyda'r lleill gyda chopi o'r Big Issue... copi â llun o Matthew Rhys a Keira Knightley ar y blaen. Does dim eisiau dweud mwy felly.

I sinema'r Vue aethom i weld Sex and the City. Yr un yn Parc Tawe roeddwn i fel arfer yn mynd i, felly profiad newydd. Doedd e ddim yn bell o westy'r Morgans, ac yn dawel bach, fe es i'n emosiynol iawn, gan feddwl am Matthew Rhys yn brysio i ffwrdd o'r ffotograffwyr drwy ddrws yr ochor. Anyway, y ffilm! Er mod i erioed wedi gweld y gyfres deledu, roedd hi'n brilliant! Chick flicky ofnadwy, ond dwi'n sucker am y math 'na o ffilm. Stori am Carrie, Charlotte, Miranda a Samantha, yn son am gariad a maddeuant. Roedd hi'n brilliant, braidd yn predictable, ond dyna hi, dwi'n hoffi meddwl mod i'n glyfar ac yn gallu guessio'r diwedd. Er, doedd dim un o'r dynion mor olygus a 'ny i berson ifanc. (h.y dim Matthew Rhys - dim hyd yn oed trailer The Edge Of Love ar ddechrau'r ffilm cofiwch!)

Roedd yn rhaid i ni wir frysio i ddal y tren adre, a hyd yn oed wedyn, mi roedd hi'n packed! Fi wedi gweld fideo off Youtube ar Richard and Judy, rhywle yn Japan, pobl sydd yn cael eu talu i wthio pobl i mewn i'r tren, a'i stwffio nhw i mewn, gan ei bod hi mor brysur a shwd gymaint o bobl am ddefnyddio'r tren ar yr un pryd. Roedd eisiau'r rheina yn Abertawe ddoe. Lwcus mod i'm yn claustrophic, neu fydden i wedi cael ffit yn y fan a'r lle (roeddwn yn sefyll reit o flaen y cwpwrdd First Aid, felly fydden i wedi bod yn OK really). Doedd braidd dim lle i symud, roeddent fel sardines mewn tin. Ond o leiaf doeddwn i ddim reit ar bwys y toilet, fel tro dwethaf fues i'n teithio mewn tren a oedd yn torri pob rheol Health And Safety (boo, hiss!) - achos dwi'n cofio'n iawn i mi neidio mas o 'ngroen wedi i mi wasgu'r bwtwn fflysh yn ddamweiniol!

Cyrhaeddom Caerfyrddin eventually, lle roedd Mam yn cael good chat gyda mam Miss Mynd (sy'n fenyw lovely!) tra'n aros amdanon ni. Cefais orchymyn fy mod i fod mynd draw i gael sleepover rhyw bryd. Diolch am y cynnig, ond dwi wir yn casau sleepovers.

Egwyl Rhwng Dau Outing
A minnau off y tren tua chwech, doedd Mam a finnau ddim yn gweld pwynt mynd adref, a dychwelyd nôl i'r dre erbyn hanner awr wedi saith. Off a ni i Morrisons am goffi (Coke i fi, gan nad wyf yn yfed te na coffi). Prynodd Mam bron bob magazine oedd ar gael ar yr un! Gwelon un o ffrindiau Mam, a daeth hi i'n joino ni. Felly eistedd yna yn gwrando ar y ddwy yn gossipo wnes i. A cyn mynd, fe wnaeth Mam yn siwr mod i'n cael Job Application Form. Mae ei hint hi mor subtle... (sylweddolwch taw sarcastig oedd y frawddeg honno).

Indians! - a Timothy Tree
Fe wnaethom bigo Pero lan o'r cyfeiriad dwi'n cael yn anghywir bob tro, sef 53 Sycamore Way, a'r ddwy ohonom cyrraeddodd yn gyntaf. Eisteddom, a daeth Wolfy i ymuno â ni, yn gwisgo ffrog fach haf mega ciwt. Yna Deryn Du, yn gwisgo top oedd hefyd yn lysh.

A off a hi, dros y popadoms a'r cyrris, roeddem yn siarad non-stop - a finnau'n bwyta non-stop. Mae angen i mi stopio bwyta gymaint, achos bore ma roeddwn yn teimlo'n hollol sick ar ôl y wledd neithiwr. Roedd Wolfy, fel y tro dwethaf aethom allan am Indians, ar brofiad gwaith gyda'r vets eto, felly cawsom glywed "The Anecdotes From The Animal Hospital". Clywom am sut roedd hi'n hwpo ei dwylo hi i mewn i anifeiliaid random a sut roedd hi wedi llwyddo i gael cachu ar ei gwyneb (cachu nad oedd yn frown, fel pwdin Pero, on yn wyrdd... fel y stwff coconut 'na roeddwn yn dipio'r popadoms i mewn i)... a fe wnaeth hi gymharu'r Chicken Korma i pus rhyw anifail hefyd. Lovely. Er, ni stopiodd hynna fi rhag bwyta'r stwff.

Caeth Wolfy wybod am fy mhrofiad gyda Matthew Rhys. A fe wnes adrodd stori'r Dyn A'r Big Issue. Mae'r dair arall wedi penderfynu fy mod yn hollol obsessed - bach yn rhy hwyr, gan fy mod i'n gwybod 'na eisioes.
Cafodd y dair ohonom hefyd gyfle i llongyfarch Wolfy i'w gwyneb, am rhoi'r Goeden yn ei lle. Tra'n siarad amdani - daeth atgof rhyfedd iawn i feddwl Pero.
"Oh my god, do you remember Timothy Tree? That used to be in Mothercare or like a baby shop somewhere!"
TIMOTHY TREE!

Yn Mothercare, blynyddoedd yn ôl, a minnau ond wedi dod allan o nappies, roedd yna goeden enfawr yng nghanol y siop. Roedd hi'n ddeleit i mi, fel plentyn, i wasgu'r bwtwn a clywed y goeden fawr plastig yn siarad! Waw... wel... roedd gan Timothy Tree wraig hefyd, cyn iddynt ddiflannu o'r siop... a dyma'r theories yn dechrau!

Y Goeden yw "Secret Love Child" y ddau goeden, a bu'n rhaid iddynt adael i fagu eu plentyn! Am sgandal!

Fe wnaethon ni chwerthin shwd gymaint. A dyma Wolfy, yn eithaf randomly, yn dod allan a'r frawddeg "Drumroll please!... I was taller than a vet!". Roedd hi'n swno mor browd, roedd y dair arall ohonom yn rowlio chwerthin.

Diwedd y noson, aeth y dair ohonom allan i sefyll, a tra'n aros i'n rhieni ein pigo ni fyny, dechreuodd rhyw ddyn diethr gerdded tuag atom o gyfeiriad y mart. A dyma Deryn Du a Pero yn dechrau chantio "he's going to rape us! he's going to rape us!" wrth iddo ein pasio ni i fynd i mewn i'r Indians! Roedd e'n syllu arnom trwy'r ffenest hefyd tra'n bod ni'n siarad gyda mam Wolfy a Percy a Snap y cwn, a oedd bach yn creepy.

A wedyn, a hithau tua ddeg, ac ond wedi dechrau tywyllu - roedd Wolfy bellach wedi mynd - roedd hi'n anffodus, yn amser i fynd adref.

Heddiw
Nes i'm dihuno nes hanner dydd.

A gan mod i neithiwr wedi dweud wrth y lleill fod yn rhaid iddynt ddod ataf i rhyw ddydd, gan fod gennyf Juno a'r DVD, mae'n rhaid i mi wir glanhau'r ystafell wely.

A dyma fi, am ddau o'r gloch, yn eistedd yma yn teipio o hyd, ac ond wedi mynd a dau blat brwnt i'r dishwasher ac wedi gosod un par o jeans ar hanger. Ond wedi newid allan o'n pyjamas ydw i, a fi'm wedi glanhau'n nannedd na wedi neud dim i ngwallt. Mae gen i Look magazine a'n Application Form Morrisons yn fy nghol.

Dyw heddiw ddim yn mynd i fod mor exciting.

1 comment:

Anonymous said...

Timothy Tree!!!!!
Imagine the Tree found out about this and worked out who she is???
That would be awful...
But then she did say all that stuff about me (and report me for abuse!!!)
xxx