Friday 13 June 2008

Wedi goroesi y GCSEs...

Diolch i Dduw!
Dwi'm wedi cael fy nhagu gan TGAU!

Un peth am yr arholiadau 'ma sydd wir wedi fy nghorddu. (Warning, rant alert) Yn ôl yr athrawon, mae time manegment yn ystod arholiad yn bwysig iawn. Ydy'r athrawon hyn, yn sylweddoli wrth weud hynna, fod y damn pobol sydd yn yr arholiad (Caroline Beer yn un ohonynt - seriously, fi'n disgwyl iddi blygu lawr a peswch yn 'y ngwyneb i a ytgan y geiriau "COMPUTER SAYS NO". Cwympodd hi dros ford unwaith. Hilariws) yn mynnu dechrau'r exam ar rhyw amser sy'n fflipin lletchwith - 9.38, dechreuodd yr arholiad Drama y bore 'ma. Fel arfer, ar bapur arholiad awgrymir faint o amser dylen wario ar un cwestiwn (Saesneg. Ni'n darllen faint o amser ddylen hala ar bob cwestiwn, a mae pennaeth yr adran - y fenyw fwya annoying yn a byd - yn MYNNU darllen e mas i ni 'to!). 40 munud, 20 munud, 50 munud. Ydy'r pobl 'ma'n sylweddoli pa mor blydi galed yw hi i witho mas faint o amser sydd wedi mynd ayyb pan maent yn dechrau'r arholiad ar amser mor lletchwith. S'dim byd yn bod a aros DWY funud fach arall iddi gael cyrraedd ugain munud i. For God's sake!

O wel, drosodd nawr. Dim mwy o gael fy weindio lan gan esgidiau uchel yn camu ar lawr y Neuadd. Dim mwy o syllu ar Mr Thomas pan fyddai wedi gorffen arholiad. Dim mwy o gerdded rownd yr ysgol yn fy socs, a cael esgus i wneud hynny.
All in all, dwi'n credu fod popeth wedi mynd yn dda (well i mi gyffwrdd coeden wrth ddweud 'na).

Hefyd, heddiw, ymddangosodd Miss Mynd am y tro cyntaf ers oes pys. Heddiw, roeddwn i a Matty a Speis yn ddigon da. Pan sylweddolodd Miss Mynd fod y croeso braidd yn oer, off a hi, a fel ddwedodd Matty yn syth, "o'dd hi'n disgwyl i ni weud fod ni wedi ei cholli? Oedd hi'n dysgwyl i ni ddweud fod pob anadl wedi bod yn anodd hebddi? Fod bywyd wedi stopio ers iddi fynd off?". Wrth gwrs, sticio lan drosti wnaeth Speis. Ond dyna pam dwi wedi dewis 'i galw hi'n Speis - Wannabe by The Spice Girls.

O well. Er taw bechgyn sydd i fod mynd a dod, mae ffrindiau'n gallu gwneud 'fyd. Falle ddeith Miss Mynd rownd... doubt it though.

Dyna ti felly. Nawr, yr unig beth sydd o 'mlaen i yw dyddiau o hirddydd Haf. Blydi hell. Un ar ddeg wythnos o wneud dim.

No comments: