Tuesday 8 July 2008

Pero, Deryn Du a finnau'n cael adventures yn Abertawe


Heddiw, fe es i, Pero a Deryn Du ar antur i Abertawe.
Mamgu 10 cafodd y fraint o fynd a fi a Pero i'r statison, a fuon yn anlwcus ar y ffordd. Roeddent yn styc tu ol yr hen Audi slow 'ma (a few wnaeth Mamgu actually mynd a'i basio - mi roeddwn yn stunned), a wedyn mynnu ein stopio oedd pob golau coch. Ond fe gyrrheaddon ar amser, er fod y tren yn hollol llawn. Sefyll roeddwn ar y ffordd i fyny, a hynny reit tu allan i'r toiledau. Roedd yna seddi - er eu bod yn brin - ond doedd dim tri ar bwys ei gilydd. Felly sefom yn gwasgu'r botwm i agor drws i ty bach i'r rhai nad oedd yn ddigon siarp i'w ffeindio.
Y siop gyntaf aethom i mewn i oedd TKMaxx - i'r rhai oedd yn becso. Ac yn fan na, daethom ar draws hyrdl cyntaf y dydd. Y grisiau a arweiniau i unman. Honnodd Pero am eiliad nad oedd yn hoffi escalators - er ei bod hi wedi mynd ymlaen i'w defnyddio wedyn trwy'r dydd - felly aethom i fyny'r grisiau... ac yn y fan honno, dechreuodd ein diwrnod crazy. Ceisiom fynd trwy'r drysau dwbwl a arweiniau i'r siop... ond nid oeddent yn agor! A nid oeddent yn gallu mynd i fyny'r grisiau'n bellach, gan fod yna wal mowr melyn yna, a un or arwyddion 'na gydag ebychnod arno yna! Felly nol lawr a ni, (ar ol posio am luniau) a defnyddio'r escalators. ESCALATORS. Sori, dwi'n hoffi sillafu'r gair.

Primark oedd un o'r stops nesaf. Fi'n gwybod bod yna sgandal ynglun a Primark ar Panorama yn ddweddar, am hawliau gweithwyr, ond dwi methu boicotio'r lle. Dwi'n hoffi bargain. Sori. Des i o na a breichled fach berliog (pearls, i bobol normal), crys-T serennog a sgidiau sgleniog. Roeddwn wedi ffansio'r trainers tro dwethaf o'n i yn Primark, ac fe wnaeth hyd yn oed fy anti sy'n prynu pob peth drud ddweud ei bod nhw'n neis.

Ar ol pip yn Topshop, off a ni i'r edrychiad newydd... New Look. Yno, brynais siaced newydd, am £10, lawr o £20. A dyna'r twenty pownd rhoiodd yn Nhad i fi wedi mynd straight off. Ta beth, yno penderfynnodd Deryn Du a finnau drial ffroge mlaen. Pallodd Pero - she's not a dress person. Felly ath hi off i gael look ar y jingelarings. Tries i ffrog borffor arno, a dewisodd Deryn Du un du a gwyn. Er fod yr un dewisais yn size 14 (sydd fel arfer yn rhy fach) doedd gen i'm or bust i ddal y ffrog lan, a galed oedd hi ceisio cael llun o'r ddwy ohonom mewn booth newid.

Off a ni o'r fan honno wedyn, a fi'n dechrau achwyn mod i'n starfo. Ma'n mola i'n fwy pwysig na'r wardrobe. Felly i McDs! Chicken Sandwich Meal i fi wrth gwrs - un MAWR! Nawr, fe cafom sbort yn McDonalds. Aethom lan lofft i eistedd, yn llawn atgofion o'r tro cyntaf i ni fynd i Abertawe gydam gilydd - am ryw reswm fe wnaeth Pero a finnau ffilmio Deryn Du yn dod allan o'r toiledau. Ta beth, yno, cawsom llond twll o ofan wrth wylio un o'r gweithwyr yn cadw checio toiledau'r merched! Cafodd e llond twll o ofan though wrth i rywun ddod mas! Hefyd, yn McDonalds, daeth yna lu o bobl Spaeneg i mewn - pob yn braidd henach na 12 - a dyma Pero a Deryn Du, sydd wrth gwrs wedi cymryd gwersi yn yr ysgol, yn ceisio deall beth roeddent yn dweud. Roedd e beyond fi, so fe wnes i ganolbwyntio ar yfed fy Nghoca-Cola, nes iddynt fyrstio mas i werthin.
"Hello?" oedd fy ymateb i (ma'r ddwy arall yn eithaf scary)
"Ma' un o'r rhai draw fan 'na yn eyeo ti lan!"
Wel ych. Roeddent way rhy ifanc, a doedd dim un ohonynt yn edrych ddim byd tebyg i Matthew Rhys na Eric Szmanda. Forget it.

Hefyd, yn McDonalds, cwrddon a bachgen ifanc diddorol iawn. Gossipan roedden ni'n tair - roedd y bwyd wedi hen fynd i'm stymogau - a dyma'r bachgen bach, tair mlwydd oed efallai, yn cerdded o amgylch y bwyty yn cario un o'r coniau WET FLOOR rownd y lle! Hilariws. Roedd y con plastig yn fwy na fe! A dyma ni'n tair wrth gwrs a'r ffonau symudol mas yn tynnu ei lun! Fi'n credu roedd e bach yn camera shy, a dyma fe'n dychwelyd a pacyn gwag o chips ac yn ei daflu at Pero! Roedd hynny'n ddoniol fyd, achos fe roedd yn ymddangos yn ddiniwed ac yn ciwt cyn hynny! Cafodd Pero dipyn o sioc!

Ar ol stwffio'n boliau, off i'r sinema. Ac yno, wrth gwrs, roedd rhaid cael popcorn. Hancock roeddwn yna i weld - dyw e ddim mor dodgy a mae'n swno, dim fel roedd Mamgu yn syth bin yn meddwl! Stori am superhero nad oedd quite yn deall sut i drin pobol. Roedd hi'n stori brilliant, a gallai ddim dweud mwy rhag ofn iddo sbwylio'r stori. Ond gweth gweld, dwi'n addo. Ta beth, yn eistedd yn y tywyllwch, dyma'r glowsticks yn dod yn mega bright, a bu'n rhaid i ni eu cuddio nhw - trenu fyd, roeddent yn edrych mor pretty. Fyd, tra fod Deryn Du wedi confiscato'r popcorn gan mod i'n cadw'u byta nhw, fuodd hi'n ddigon clumsy i dipo peth dros y llawr! Es i a nhw nol yn ddigon cloi! Ddwedais fy mod i yn mynd i'w cadw nhw'n saff... ac felly wnes i... eu cadw nhw'n saff yn fy mola!

Ar ol y ffilm, roeddent am ddychwelyd nol i siopa, felly dyna wnaethom ni. Dychwelon i'r Quadrant, ac i mewn i HMV a ni. Yno, bu'n ymdrech galed i geisio stopio fy hun rhag prynu albwm Ashlee Simpson (Ashlee Simpson-Wentz, sori) gyda gweddil fy arian. Fe lwyddais i fynd o na. Ac i mewn i ni i Qube wedyn, a dechreuodd Pero lafoerio dros y Babyshams (make esgidiau, dim alcahol), a bu'n rhaid i ni fynd o na'n weddol gyflym, cyn i Pero foddi'r siop yn ei phoer (ych a fi lol). Ceisiais chwilio am y dyn Big Issue eto - cyfweliad gyda Matthew Rhys! Ond nid oedd y dyn budr i'w weld yn unman.

Allan a ni o'r Quadrant, allan ar bwys lle mae WH Smiths, ac yno, roeddem yn agos iawn i Blue Banana. Doedd Pero erioed wedi bod yna... shocked oedd Deryn Du a minnau. Yn amlwg, doedd Pero erioed wedi mynd trwy phase "Goth" na "Punk" na "Emo". Druan a hi - deprived childhood. Bu Deryn Du a fi yn y phases na yn ein hieuenctid.

Aethom wedyn i lawr tuag at Poundland, gan fod Deryn Du am becyn o glowsticks fyd. Wedyn, i Peacocks a ni, a doedd dim byd o werth yno. Roedd y British Heart Foundation yno, a dyma fi'n dechrau ar y stori Simple Plan. Am dro, sbel yn ol, gyda Mamgu 10, fe lusgodd hi fi i mewn i un o siopau elusen Llanelli - The British Heart Foundation - ac yno, cefais hyd i CD Simple Plan am 99p. Ers hynny, dwi 'di colli'r CD, a dwi'n pallu prynu un arall gan ei fod fel arfer yn oleiaf £5.99 yn y siopiau CDs. A heddiw... yn y British Heart Foudation... bues yn lwcus unwaith eto!!! Sum 41 CD am 99p! O'n i'n well chuffed.

Yn y siop elusen, cefais syniad wych. Fel fflach mellten, daeth i mi o nunlle. Charity Shop Challenge! Grwp ohonom yn erbyn ein gilydd yn ceisio prynu'r outfit orau drwy ddefnyddio siopiau elusen yn unig! Good idea, no? Fi'n gwbod fod e bach yn smelly, ond mi rydych yn gallu cael ambell i good find yno. Go me!

Ac yna, amser dychwelyd adref. Roedd popeth erbyn hyn yn dechrau cau. Cyn mynd, er mwyn cymryd y mick o'r ffaith fod Pero a minnau'n terrified o ran fwyaf o adar, fe cawsom ein llun wedi tynnu yn edrych yn horrified o'r wylan hyn oedd yn y ffenest yn River Island! Mae hi bellach yn official - ni'n mad.

Yn ol i'r orsaf drenau a ni! A tu fas yr orsaf drenau, pwy oedd yno... rhywun yn gwethu'r Big Issue! Menyw oedd hon, a rhaid dweud, glan oedd ei dwylo hi, a mi roedd hi'n reit serchog. Yn anffodus iddi though, roedd gen i ddarn pumdeg ceiniog, a ffrindiau digon amyneddgar i aros amdanai! A er yr holl gyffro o actually ffeindio rhywun oedd yn gwerthu'r Big Issue, a helpu'r llai ffodus, roedd gen i'r blydi issue'n wrong. Dim cyfweliad gyda Matthew Rhys. Daminit all.

Ta beth, ni oedd y cyntaf ar y tren ar y ffordd nol - felly dim sefyll i'r dair hyn. Dewison y seddi gorau, a ploncio'n pen olau i lawr yno. Roedd hi'n neis gael gorffwyso ein traed blinedig am bach! Roeddent yn dal i siarad non-stop, ac fe roedden nhw'n chwerthin ar ben fy obsessiwn ac yn meimio i Viva La Radio. Yna, dyma fi, Miss Good Ideas, yn cael syniad hollol bril arall. Mae Pero wedi bod ymlaen am oesau ei bod hi am wneud enw i'w hun ar YouTube, ac fy syniad i oedd i greu rhaglennu teledu ein hunain! Creu 24 awr o deledu ffuglennol! Roeddent yn credu fyd mod yn idea i yn blydi good.
Felly dyna beth i ni lot mynd i wneud drwy'r haf. Rhedeg rownd a fideo camera yn ffilmio rhaglennu teledu. Mae'r rhanfwyaf o teenagers yn mynd mas rownd dre bob nos Sadwrn, mynd i house parties, gwneud pethau fel 'na... ond ni - no way. Mae rhaid i ni fod yn blydi od.

Roedd y diwrnod mor ffab, doeddwn ddim am fynd adref, ond stopio yng ngorsaf Caerfyrddin wnaeth y tren. Off a ni. Roedd yn fam i yn sgwrsio i mam Pero, a unwaith iddyn nhw stopio clebran, adref a ni. Roeddwn yn edrych mlaen i jyst ymlacio o flaen Whose Line Is It Anyway? ond na... 8fed o Orffennaf, 2008 oedd y dyddiad... h.y, blwyddyn yn union i'r diwrnod cafodd fy nghefnder bychan ei eni. Roedd rhaid mynd i visito felly.

A dyna orffennodd fy nydd - ym mharti penblwydd fy nghefnder. Tra'n eistedd yno yn dipio cucumber mewn i Onion and Garlic dip (stinco fydd yn anadl i fory), roeddwn yn eithaf distyrbed i feddwl fod ei fam e'n twrio trwy ei gachu ef a chrib man. Hmm.

No comments: