Thursday 24 July 2008

Trafod arddull - diolch am ladd darllen.

Fel rhywun sy'n aml yn ysgrifennu storiau a blogiau ei hun, dwi'n sylweddoli fod llawer o waith ac ymdrech yn mynd mewn i ysgrifennu rhywbeth gwerth ei ddarllen (er fe wnes i ennill y goron - neu rhywbeth oedd yn fwy tebyg i glustog piniua - yn yr Eisteddfod Ysgol ar ol rhoi stori wnes ysgrifennu mewn ugain munud ar ol dod adref o ddisgo ysgol am unarddeg yn y nos i mewn). Ond fe wnaeth gwaith cwrs trafod arddull ladd darllen i fi.

Roeddwn arfer darllen lot. Ond yn ddweddar dwi wedi dod nol i mewn i'r habit, gan fod gen i ddyddiau o wneud dim i lanw i fyny. Dwi'm yn gwybod os ydy diogi teenager yn unrhywbeth i wneud a'r ffaith nad wyf yn darllen gymaint bellach, ond dwi yn sicr fod y ffaith fod rhaid i fi drafod a thrafod arddull, neu yn y gwersi Saesneg "language", wedi effeithio ar ddarllen.

Dwi'n darllen Jane Eyre ar y foment, y glasur o nofel gan Charlotte Bronte. Mae hi'n stori dda, am merch ifanc sydd yn misunderstood yng nghyfnod y frenhines Victoria... ond bob tro dwi'n darllen, dwi'n meddwl "wel, jiw jiw, am gymhariaeth dda!" neu "Waw, na ansoddair ffandabydooby!" Dwi'n edrych allan am drosiad da, ac yn meddwl, "well, dylen ni wneud nodiadau..."

Mae e r'un peth gyda gwylio ffilmiau neu'r teledu, ar ol astudio Llunyddiaeth (LLUN yn lle LLEN, wel na glyfar...). Ar ol gorfod astudio wep salw Sian James (mae hi'n wirioneddol edrych fel Moonmin. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw Moonmin - your loss!), mewn sawl saethiad agos iawn, dwi nawr yn gwylio teledu ac yn enwi'r gwahanol fathau o saethiadau. "OOO SAETHIAD DAU LEFEL! Ooo Mam drych, ond dyw 'wnna'n clever!?!!!" (Mae hyn yn gyrru Mam yn nyts pan dwi'n torri ar draws Pobol Y Cwm i son am y cyfarwyddo)

Saethiadau agos, saethiadau pell, trosiadau, cymhariaethau, ansoddeiriau... oedd darllen a gwylio ffilmiau'n well nol yn y dyddiau nad oeddwn yn deall yr holl dechnegau?

Neu ai'r Famous Five oedd jyst yn really good i gymharu a'r holl bethau dwi di ddarllen nawr?

1 comment:

Anonymous said...

Beth am ddarllen .' How to boil an egg ' gan Delia Smith? ?