Wednesday 23 July 2008

Diwrnod i'r Brenin yn y Sioe Frenhinol!

Ddoe, off a fi, Pero, Deryn Du, cefnither Deryn Du, Wolfy a Speis i'r Royal Welsh!
Dwi'm yn cofio'r tro dwethaf i fi fynd i'r sioe, fel arfer ma' Nhad a Mam yn mynd a fi a dwi i a Mam yn gorfod mynd i edrych ar tractors trw'r dydd. Roedd y tro hyn lot mwy o sbri (no offence Nhad).

Roedd rhaid i ni ddal y bws tu fas i Peacocks am wyth o'r gloch... waaaay rhy gynnar i fi! Roeddwn i fel zombie. Dwi ddim yn berson boreau. Ta beth, Pero oedd fy bus buddy, a roeddwn i wedi prynu strawberry laces a Haribos cyn mynd, felly dyna lle roedd y ddwy ohonom ni'n stwffo'n hunain 'da sweets. Surprisingly, naethon ni ddim chwydu. Er i bach yn confused o achos un Cola Bottle o'r pecyn Haribos though, (cofiwch, fe roedd hi'n gynnar yn y bore!) ac fe edrychais arno fe, a dweud "Hmm, dyw hwn ddim yn edrych fel Cola Bottle..." cafodd Pero bip, ond wedyn sylweddolais i, "O... fi'n ei ddala fe upside down..." Hefyd, ar y bws, dwedodd Pero wrthaf am service 118 118. Os ydych chi'n textio'r gair "JOKE" iddyn nhw, mae'n nhw'n hala jokes i chi yn rhad ac am ddim!

What do you call the king of the hankies?
Hanker Chief!

Hefyd, rydych chi'n gallu hala unrhyw gwestiwn iddyn nhw, a textiodd Pero nhw i ofyn lle yn gwmws oedd Matthew Rhys ar y foment honno. Daeth neges destun nol yn dweud ei fod e definatly 'di bod yn Aberystwyth yn ddweddar, a falle fod e dal 'na!
Cyrrhaeddon y sioe tua deg, a syth mewn a ni, dros rhyw bont yma oedd yn eithaf eiddil ei olwg. Benderfynais i, wrth gwrs, to live dangerously, a jwmpo lan a lawr ar y boards pren nes i, tra bod y gweddill yn sgrechian "NA BWDJ PAID!" Y wimps a nhw!

Wel, collon ni Wolfy a Speis yn weddol gloi. Un funud, roedden nhw'n cerdded o'm blaenau ni'n siarad am yr holl bethau pony-related (tra fod Pero a finnau'n pwyntio i mewn i un o'r cylchoedd arddangos ac yn sylwu "Yyych a fi! Mae'r ceffyl na'n pwpian!"), a'r funud nesaf, doedd dim golwg ohonynt.

Felly dechreuodd y diwrnod. Y lle cyntaf aethom i weld oedd y babell S4C - y bedair ohonom am weld os fydden ni'n gallu ffeindio rhywun o Blaned Plant. Wel, pwy welom yn dawnsio ar y llwyfan mewn oferalls... ond Gareth! Nawr, ma Pero a finnau wedi cwrdd a Pero o'r blaen, a hynny'n Eisteddfod Abertawe sbel fawr yn ol. Roedd y ddwy ohonom bryd hynny wedi gofyn i'r fenyw yn y stondin S4C os oedd Alun ac Anthony o Stwffio o gwmpas, ac ateb hithau oedd "Na, ond beth am gael llun 'da Gareth?" ag ateb y ddwy ohonom oedd "Naaah". A ni chawsom groeso cynnes iawn ganddo'r tro 'ma (er dwi'm yn meddwl fydde fe'n cofio), gan ei fod wedi cael llun gyda ambell i blentyn dan bump oed, ond off a fe pan ddaethon ni i flaen y queue (neu Cyw hahahaha!). Ta beth, i weld pa freebies oedd ar gael yno wnaethon ni wedyn, a edrych ar yr holl leaflets oedd 'na... a dyma fi'n gweld... Matthew Rhys! Nid yn y cnawd y tro hyn yn anffodus, ond ar rhyw leaflet Lleisiau, ac fe roedd y llun ar y blaen ohono fe tu allan o'r Ganolfan Dylan Thomas. O!'r cyffro!

I'r stondyn drws nesaf wedyn, Prifysgol Aberystwyth, yn gobeithio gweld llun arall o Matthew Rhys, ond na, boring oedd hi fan 'na, er i ni gael beiro's am ddim. Fe wnaeth y fenyw yno gynnig samples o gaws i ni, a dyma fi'n sylweddoli mod i'n starfio, er yr holl sweets a'r tost ges i frecwast, ac felly bwrw am y Neuadd Fwyd wnaethom wedyn. Doedd dim angen byrger arna i eto - dyna oedd fy nghinio i mynd i fod - ond roedd angen rhywbeth i lenwi twll. Off a ni i ffeindio'r lle wedyn, a cawsom eto mwy o gaws a bach o Waffles Tre-Groes. Mmmm.

Ar y ffordd i'r Neuadd Fwyd though (ar ol i Pero a Deryn Du cael eu llun wedi tynnu ger rhyw ddyn wedi ei wneud o beips), welon Rhodri Owen! Gofynnodd Deryn Du am ei lofnod, ond mae e'n eithaf golygus - ddim mor golygus a Matthew wrth gwrs, ond ail agos - felly es i'n swil i gyd a cuddio.

A dechreuodd y diwrnod o freebie hunting! Mae Eisteddfodau a Sioeau Amaethyddol yn awsome am hyn. Y bwriad yw jyst cael cymaint o bethau am ddim sy'n bosib. Tua hanner awr wedi unarddeg oedd hi pan fwmpio ni mewn i'r ddwy arall, a fe roedd y ddwy arall yn barod am ginio. Roedden nhw wedi dod a ddigon o fwyd i borthi'r pum mil, tra fod sandwiches y dair arall (y plan all along i mi oedd i brynu burger) yn ddigon bach i ffitio mewn i fag llaw, ac felly wedi gadael eu brechdanau gyda rhyw stondin ceffylau. Felly cafodd Pero a finnau burgers (ddwedodd Pero nad oedd hi'n keen iawn ar olwg ei sandwiches hi, er taw hi wnaeth eu gwneud nhw 'i hunan), a'i bwyta nhw mewn rhyw stondin (dwi'm yn cofio'i enw). Roedd Wofly a Speis wedi bod yn PRYNU pethau - mawr syndod i ni'n pedair. Roedd gan y ddwy ohonyn nhw grysau polo, a DIM BYD am ddim!

Gwrddon ni lan gyda mamgu a dadcu Deryn Du a'i chefnither wedyn, a rheina'n edrych lot rhy ifanc i fod yn famgu a dadcu! Roedd y chwiorydd iau gyda nhw hefyd. Ac ar ol hynny gollon ni Wolfy a Speis - off i weld pethau horsy eto siwr o fod, nabod nhw!

Mwy o chwilio am bethau am ddim. Wnaethon hefyd dynnu lot o luniau wrth wneud! Roeddwn i dal i gario'r llyfryn a Matthew Rhys ar y blaen yn fy llaw - lwcus oedd hi i mi ballu ei roi yn fy mag (gewch chi aros am y stori yna). Yn y stondin Cats Protection gath Pero a finnau go ar rhyw fath o lucky dip yma, lle roeddech yn hwpo'ch llaw i mewn i wind machine ac yn dal darn o bapur. Yno ennilles i Pero The Mousy (fe enwodd Pero ei mousy hi ar yn ol i). Roedden ni'n dechrau blino, ac felly ar ol mynd rownd y babell grefftau (lle wnes i ddechrau blackmailio Pero ar ol iddi ngalw i i'n... rhywbeth dwi'm yn hoffi gah! mwhahahaha - sori Pero!), eisteddom o dan goeden am ennyd a bwyta mwy o sweets, ac yna ar ol cael ein nerth yn ol, mwy o edrych rownd. Ffeindio ni sawl llawn pencil case o feiros. Wedyn brynais necklace a pendant siap seren arno - roedd e'n really bert. Felly nes i fynd adref a rhywbeth nad oedd am ddim!

Fe fues i, Deryn Du a Pero yn posio yn yr adeilad BBC Cymru, yn y rhan Coalhouse, mewn blwch ffotos. Roedden ni'n gwisgio hetiau dwl ac yn tynnu gwynebau dwl. Mae'r lluniau yna'n classic! --->

Cawsom rest arall am dri, a hynny ar fancyn tu ol i'r adeilad S4C, ar fancyn reit yng ngholau'r haul. Lle sylwon fod ein breichiau ni wedi troi mewn i lobsters - roeddent wedi llosgi yn yr haul. Roedd hi mor dwym yno, roeddwn i wedi tynnu fy siaced, a dwi byth yn tynnu siacedi na siwperi off. Roedd Wolfy a Speis yn waeth off na ni - gan ei bod nhwch dwy mewn festiau, a Speis mewn shorts byr, byr a fflip fflops. A pan brynodd Speis Wellingtons newydd gan fod ei fflip fflops yn anghyffyrddus (cawsom y fraint o weld y blister ar ei bys troed... ych), roeddech yn gallu gweld yn glir lle roedd hi wedi llosgi ei choesau uwch ben y wellington, a lle roedd y wellington wedi ei amddiffyn hi o'r haul.

Ta beth, fe eisteddom ar y bancyn am ages. Aeth Pero a Deryn Du off am bach, achos eu bod nhw'n stalkio rhyw ddynion golygus ar motobeics. Fe wnaeth fy Mousy i a Mousy Pero ddod yn ffrindiau ("Mousy bums!"). Fwytawon ni fwy o sweets. Penderfynodd Pero fod hi eisiau fideo o hi a Deryn Du yn rhedeg i lawr y bancyn... merch rhyfedd. Roedden wedi bwriadu dychwelyd i adeilad ITV Wales i ffilmio bwletin newyddion ein hunain (rhwng 10 a 12 a 2 a 4 roeddech yn gallu ffilmio bwletin eich hunan mewn copi o'r stiwdio - mega cwl), ond doedd dim amser.

Am dri, cafodd Deryn Du neges destun oddi wrth Speis i'n atgoffa i beidio colli'r bws... a doedd y bws ddim yn gadael nes hanner awr wedi pump... Roedden nhw'n amlwg yn meddwl ein bod ni'n idiots haha! Roedden nhw'n iawn really.

Cawsom un wac fach rownd eto, a dychwelon i'r Neuadd Fwyd gan fod Pero a Deryn Du eisiau ysgytlaeth Daioni. A wedyn off am y wac fach ddwethaf rownd. A dyna pryd sylwais ar y New Holland cyntaf roedden wedi gweld trwy'r dydd! Wrth gwrs, tynnais lun ohono i Nhad. Blino eto - roedd y bagiau llawn freebies yn dechrau trymhau! Cwarter i bump, roedd y bedair ohonom yn eistedd ar bwys y fynedfa, yn aros nes pump er mwyn mynd ar y bys - roeddent yn benderfynol o fynd arno cyn i Wolfy a Speis wneud!

Felly pum munud wedi pump, roeddent wedi dweud wrth Dave Y Driver fod dwy ohonom dal heb ddod (roedd e'n ticio enwau off list), a dechreuon dynnu lluniau o'n hunain yn gwisgo'r masgiau roedd am ddim gyda'r HM Inland Revenue lle. Roedd hi'n ugain munud wedi ar y ddwy arall yn dod ar y bys, a chwerthin a pwyntio ar y rhai oedd yn hwyr wnaethom.
Adref a ni wedyn, ar ol diwrnod llawn hwyl a sbri yn y Sioe Frenhinol!

Roeddwn yn dal i ddala'r llyfrun a Matthew Rhys ar y blaen yn fy llaw... roedd hynny'n fy mecso i bach... dwi'n officially obsessed nawr. Ta beth, hanner ffordd drwy'r daith, dyma Pero yn gofyn os allwn ni wrando i McFly ar fy Ipod i eto, a dyna fi'n plymio i mewn i boced ffrynt fy mag, ac yn tynnu allan fy Ipod... roedd e'n siocled i gyd. "Yyyy mae Mousy wedi pwpian!" meddai Pero. Damnit all - roedd fy mag agored o Organic Chocolate Buttons wedi toddi dros y lle. Felly fu rhaid i mi lio'r holl siocled i ffwrdd... o dyna waith caled! Lwcus nes i'm rhoi'r llyfrun yn y bag - neu fyddai hwnnw'n siocled i gyd fyd!

Adref. Fe fues i bron a cysgu yng nghanol CSI, a hithau'n hanner awr wedi naw. Am ddeg, roeddwn yn fy ngwely, yn ceisio ffeindio ffordd o gysgu na fyddai'n achosi dolur i'r breichiau coch yna sydd nawr gen. Ar peth gweathaf yw, mae gen i ddau fandyn o groen gwyn lle roedd fy watch a'r bandyn melyn flourescent DVLA ges i am ddim!
Ta beth, dwi'n credu mod i wedi ysgrifennu popeth i lawr nawr. Nol i gwely - dwi'n shattered - a nol i rhwto after sun ar y breichiau.

No comments: