- Glanhau fy ystafell wely. Bore ma, tra'n mynd gyda fy nhad yn y lorri i Bow Street, dwedodd na fydde fe'n cynnig unrhyw arian i fi gael mynd off i'r diwrnod Siopa A Sinema in Swansea (cyflethreniad cwl, da iawn fi!) ma Pero a finnau am drefnu dydd Mawrth nesaf. A ma angen good clean up mewn yn fy mhit (fel mae'n cael eu alw). Ond mae e mor boring...
- Dysgu cerdded mewn high heels. Mae high heels yn gwneud i un sefyll yn fwy cefnsyth, ac mae'n well i'r posture. Hefyd, mae'n ffaith fod yn well gan fechgyn merched mewn high heels, fuon nhw'n siarad am y peth ar Loose Women heddiw.
- Stopio cofio pob gair sy'n cael ei ddweud ar Loose Women. COFIA RHYWBETH FWY DEFNYDDIOL FERCH!
- Stopio Googlo Matthew Rhys bob blydi dydd. Fi erbyn hyn, yn gwybod pa fath o gartref sydd gyda fe (ma 'da fe farmhouse sink, a fi'n trial ffeindio mas beth yw farmhouse sink - help?), popeth am Brothers & Sisters, yr holl Sienna Miller affair, y ffaith fod Matthew Rhys yn hoffi merched hyderus a rhai mae'n ei alw'n "ball breakers" (sy'n swno bach yn weird)... a hefyd, dwi wedi darganfod fod Math yn credu ei fod yn well cusanwr na Keira a Sienna... a mae'n rhaid dweud, fe fydden i'n dewis cusanu bob tro. Dwi'n obsessed. A dwi'n golygu mynd i weld y ffilm eto. Mae'n rhaid i mi stopio. Fe wna i Googlo Eric Szmanda. Dwi'm do googlo fe ers sbel, UNRHYWBETH.
- Sylweddoli nad yw Colin Mochrie na Ryan Stiles mor cool a hynna. Fi'n gwylio hen re-runs o Whose Line Is It Anyway? yn ddyddiol, ac felly'n gwlychu'n nhrwser yn chwerthin yn ddyddiol. Ond mae'n rhaid i mi wir sylweddoli, nad yw'r dau ddyn canol oed, yn cool. Na. A dyw eisiau esgidiau fel rhai Ryan Stiles, ddim yn beth da.
- Gwylio CSI. Dwi ddim wedi ers sbel fach nawr. Ers wythnos? So sbel. Felly why not.
- Prynu dilledyn newydd dwi actually yn mynd i wisgo. Dwi'n mynd i wneud list, yn hytrach na jyst mynd a prynu, achos yr un peth sy'n digwydd bob tro. Fi'n prynu rhywbeth drud, jyst iddo fod yn y wardrobe yn segur. Felly list amdani.
- Stopio ysgrifennu lists. Fi'n hoffi gwneud lists. Mae'n weird. Stopi!
- PEIDIO CNOI GWINEDD! C'MON! Manicure nos fory, felly mae'n rhaid i mi atal rhag cnoi. Aero'n ffeinach... c'mon miss...
- Stopio bwyta'r Aero's i gyd. Dwi wedi bwyta chwech Mini-Aero heddiw (yn ogystal a dau dafell o dost, salmon sandwich a dwy ginger nut - y bisgien! dim byd drwg!). Dwi'n beio Mam am roi dau ym mocs bwyd fy nhad, lle cefais afael arnynt, a llowcio'r ddau. A mae hi'n rybbish am guddio pethau neis. Caru ti Mam, ond dyw'n Aero obsession ddim yn gwneud dim diaioni i'r ffigwr. Reit, dim mwy o Aeros heddiw... fi'n credu fod 'na focs o chocolate fingers yna yn lle ny!
- Paentio gwinedd y traed. Dwi wedi meddwl gwneud ers ages. Ffeindio'r nail varnish cywir yw'r dasg nesaf.
- Ffeindio rhywbeth gwell i wneud na gwneud list pointless o'r pethau dylen i wneud, ond dwi ddim yn mynd i, gan mod i'n rhy brysur yn ysgrifennu'r list.
Nawr, well i fi fynd. Pethau i'w gwneud.
No comments:
Post a Comment