Monday 7 July 2008

Portread o Marian Birmingham

Ym mlwyddyn 7 ac ym mlwyddyn 9 yn yr ysgol, fe wnes ysgrifennu portread yn fy ngwersi Cymraeg o un perthynas lliwgar iawn. Marian Birmingham. Hi yw cefnither fy mamgu, a mamgu i'r cefnder briododd dydd Sadwrn. Yn anffodus, nid oedd Marian yn gallu bod yn y briodas, gan ei bod yn dioddef o Alzheimer’s. Penderfynais ail-ysgrifennu portread ohoni, iddi hi.
-------
Ganwyd Marian yn Llwynhendy, ger Llanelli, nol ar ddechrau'r ganrif ddwethaf. Agos yw hi erbyn heddiw i'w 80 mlynedd, os nad ydyw hi wedi ei gyrraedd. Bu Marian fyw yng Nghymru drwy'r ail ryfel byd, ac fe roedd yn aml yn arfer son am evacuee or enw Doreen oedd wedi dod i fyw gyda'i theulu i osgoi'r Blitz o un o ddinasoedd mawr Llundain.
Un siaradus oedd Marian erioed. Ers cyn co, fyddai Marian yn dod i aros gyda'n Famgu am wyliau, ac fyddai Mamgu'n aml yn mynd i Birmingham. Roedd y ddwy gefnither yn ffrindiau gorau, er fod dipyn o wahaniaeth oedran rhyngddynt, yn ogystal a cannoedd o filltiroedd. Roeddwn yn dwlu gweld Marian Birmingham, fel fyddent fel teulu yn ei galw hi, pan fydde hi'n dod i aros. Menyw siaradus a hapus oedd Marian, cyn i Alzheimer's ddwyn y gorau ohoni. Pan yn ifanc, athrawes oedd hi, a prifathro oedd ei gwr, Islwyn, ac fe roedd dysgu yn dod yn naturiol iddi. Rwy'n cofio'n glir hi yn ceisio fy nysgu i dynnu lluniau yn iawn, ac yn dangos i mi sut i arlunio dwylo a breichiau'n iawn (er, dwi dal yn pathetig am wneud hynny). Roeddwn yn mwynhau gwrando ar ei storiau am fywyd yn y ddinas, am ei phlentyndod hi'n Llwynhendy, ac am y cymeriadau lliwgar roedd wedi cwrdd ar hyd ei bywyd.
Bob tro fyddai'n dod i Gymru i aros, fyddai'n gofyn i mi am yr ysgol. Yr athrawes ynddi yn ymddangos ei hun unwaith eto. Beth yw fy hoff bwnc? (dim un ohonyn nhw oedd fy ateb!) Pwy oedd fy hoff athro neu atthrawes? Yr un cwestiynnau bob tro.
Fyddai'n fodlon siarad i unrhyw un - gallai siarad a chadair a cael hwnnw i ateb nol - ac o achos hynny, fe roedd yn adnabod pawb. Os ydych yn dod o Lwynhendy, neu o'r ardal yna, fyddai yn eich adnabod chi. You couldn't escape from Marian Birmingham! Fyddech yn gweld yr hen fenyw, a fyddai fel arfer yn gwisgo coch i gyd (coch oedd ei hoff lliw), yn dod o bell.
Roedd hi'm aml yn ailadrodd storiau, ac erbyn i mi fynd yn henach, roeddwn wedi clywed bron bob stori oleiaf ddwywaith. Ond anghofus oedd hi. Erbyn hyn, nid yw'n cofio llawer o ddim - ei meddwl wedi cyrydu i ddryswch llwyr o ffeithiau ffoglyd. Mae pethau wedi newid tipyn.
Trwch o wallt llwyd sydd gan Marian. Roedd hi'n ei gadw'n fyr, ac roedd pob blewyn yn ei le. Fyddai'n gwisgo cyrlars yn ei gwallt, er mwyn iddo gwrlio ar y gwaelod. Yn ei gwallt, roedd hi bob tro'n gwisgo glip gwallt a edrychau fel danned miniog crocadeil oedd yn cadw'r gwallt yn ei le. Mae Marian hefyd yn gwisgo sbectol am ei thrwyn bach pwt, a oedd yn gwneud i'w llygaid glas edrych fel dwy soser enfawr. Mae'r sbectol anferth sy'n gorffwys ar ei thrwyn yn gwneud iddi edrych fel tylluan ddoeth. Roedd Marian bob tro'n gwenu. Yn ogystal a'i cheg, a'r wen o glust i glust, fe roedd ei llygaid hi'n gwenu. Roedd ei llygaid yn disgleirio, ac roeddech yn gwybod ei bod hi'n berson hapus a charedig.
Fel gorffenais fy ail bortraed ohoni, mae Marian yn gymeriad annwyl, ac yn gwneud cymydog penicamp i unrhyw un. Petawn wedi cael y cyfle i fyw drws nesaf i Marian pam roedd yn byw yn 26 Douglas Avenue, fy fydden yn falch iawn. Croesawgar oedd hi, ac fe roedd hi bob tro yn barod i help unrhyw un. Dwi'n gwybod nad yw'r rhai sy'n dioddef o Alzheimer's yn gwella. Cyflwr creulon yw, sy'n dwyn meddwl y claf. Dryswch yw pethau iddi nawr, ond mae gen i llawer o atgofion da ohoni.

No comments: