Friday 11 July 2008

Miss Tebot a Mamgu / USB, MP3, lle wyt ti?

(Ond ydw i'n farddonol heno?!)

Ta beth, heddiw fe es i allan am dro gyda Mamgu. Dwi'n wonderan weithiau, beth yn y byd wnethen i heb Mamgu 10? Ma' hi wastod yn fodlon dod yn ei Ford KA bach gwyrdd i fynd a fi i ba bynnag social gathering dwi wedi cael yng ngwahodd i. Hi yw fy taxi service personol, fy chauffer. Felly, pam ofynnodd i fi i fynd gyda hi i Rhiannon, Tregaron, doedden i ddim yn gallu gwrthod. A phan ddwedodd hi ein bod ni'n mynd i gael chips o Lloyd's Llambed, doedden i ddim hyd yn oed eisiau gwrthod.
Felly fel 'na fuodd hi. Daeth hi i'm hôl o adref marcie unarddeg, a off a ni, via Lladysul, i Llambed! Roeddwn i'n starfio, er i mi actually gael tost i frecwast bore 'ma, ac yn edrych mlaen am fy sgod a sglods. Dyna lle'r aethom ni gyntaf, ar ol osgoi cael ein bwrw lawr gan griw o blant ysgol gynradd oedd yn gwneud eu cycling proficiency. A dyma hi'n cytuno a mi, nid fy mai i oedd hi nad ydw i'n gallu reido beic - yng nghuddo i o fod yn rhy wimpy, wnaeth Nhad, pan ddechreuais gonan nad oeddwn yn gallu mynd ar gefn beic. Bai fy rhieni oedd e, am fod yn rhy ddiamynedd, ac am brynu beic, a oedd yn ol Mamgu, yn rhy fawr. Go Mamgu!
O, so chips. Yummy. Ffein. Lysh. Lloyd's yw un o'r siope chips gorau - yn joint orau â Morgans chippy, Caerfyrddin. Roedd Mamgu 10 yn cymryd mantais o'r ffaith ei bod hi'n "senior citizen" ac yn gallu cael y pryd spesial, ar bris special, oedd i gael i'r "henoed" (ma' Mamgu'n eitha touchy am y ffaith nad yw hi'n hen, felly dyna'r dyfynodau). Meddyliais am wneud yr un peth, er mwyn cael pris rhatach (Don't Get Done Get Dom!), ond sylweddolais nad oedd fy ngwallt i digon gwyn, na fy ngefn digon crwca, felly nes i jyst ordero scampi.

Llusgodd Mamgu fi wedyn i'r siopiau elusen i gyd. Fues i'm yn lwcus gyda'r CDs heddiw. Loads o rhai Five yn siop elusen Ty Hafan, ond ma' Five yn boring ta beth. Anheg yw hi i weud actually, taw yn llusgo i mewn wnaeth hi. Ma' mynd i mewn i siopiau elusen yn bach o guilty pleasure... sori. Petai Mam ond yn gwbod, crychu thrwyn fyddai'n gwneud - bach o snob yw Mam pan mae'n dod i ddillad ail-law, er ei bod hi'n twrio trwy pob bag mae Anti-Bionic ar fin hala i Oxfam, ac yn cadw unrhyw beth mae'n lico.
Yn Llambed, prynais jinglarings mewn pecyn bach - bwtwns, beads a jewels plastig - a notebook, dwi wedi yn barod ei fedyddio'n "Dyddiadur 2009" er fod hi ond ym mis Orffennaf, yn y "BARGAIN BOX". Mae'r broses o ddewis dyddiadur - gan mod i'n cadw un o rheina bob dydd - yn un speshal iawn. Yn syml, dwi'n gweld notebook dwi'n teimlo "connected" gyda, ac mae e'n fy newis i, yn hytrach na fi'n ei ddewis e. OK, nawr dwi yn sylweddoli mod i'n seriously strange. Os ydych am wybod pam dwi'n dewis fy nyddiaduron fel 'na, wedyn ewch o 'ma, gan nad ydwyf yn gwybod.

Tregaron nesaf. Yno jyst achos fod Mamgu am wneud ei modrwy briodas yn fwy gan fod ei bysedd hi'n chwyddo. Roc a rol. Gethon ni bip fach rownd yr oriel fyd - neis iawn. Roedd yna un darn a oedd yn lun o Dumper Trucks yna, a fi'n credu fyddai'r fy Nhad - Art Lover of the Year (not) - wedi actually hoffi'r llun. Aethon ni o fan 'na wedyn, a dropodd hi fi off adref.
Nawr, heno. Am y penwythnos, mae Mam wedi gadael Nhad a finnau i ffendio dros ein hunain, tra bod hi'n mynd off gyda'r merched i Nant Gwrtheyrn. McDonalds oedd i swper heno. Mae hi wedi gadael rhyw fath o chicken cyrri chinese style i ni am fory... ond nabod ni'n dau, McDonalds fydd hi 'to nos fory. A wedyn McDonalds i ginio dydd Sul, neu falle fydd Nhad yn teimlo fel bod yn bach o Jamie Oliver ac yn gnweud bacwn i ni... cyn croesawi Mam nôl nos Sul, yn y gobaith fydd hi'n neud potato wedges ffein i ni.
A hithau'n ddydd Gwener, trefniadau'r penwythnos = mynd i weld The Edge Of Love am yr ail waith yfory (yay scrin FFFFFFFFFFFFAAAAAAAAAAAWR) gyda Pero ac dwi'n meddwl fod Wolfy'n ymuno â fi - mae Derynkins, fel dwi'n hoffi ei galw hi nawr (mae hi'n fy ngalw i'n Tebotkins - ma' ganddi hi thing am adio "kins" i ddiwedd enw person) off yn rhyw Band Camp gyda'i bassoon, Raphael, felly yn colli'r outing yma. Ac efallai fydd Nhad yn mynd a fi i'r Truck Show sydd yn Nghaerfyrddin dydd Sul. Oh yay (sarcastig, i'r rhai nad ydynt yn gallu gweld hynny). Hefyd, dwi gorfod ceisio survivo ar tua £2 o credit ar y ffon symudol... uh oh.
Ac i orffen, rwyf wedi llwyddo i golli fy USB. Dwi'n gytted. Mae gen i Dop Secret, Confidential files arno - totally dangerous in the wrong hands. (Ha! Gwrandwch arno fi'n bod yn James Bond!). Mae e yn fy ystafell rhywle... a dyna'r broblem. Dwi dal heb lanhau'r lle... i fod yn honest, mae'r mess wedi gwaethygu, rhyw ffordd. O diar. Gofynnodd Mamgu fi am stad yr ystafell y bore 'ma actually, a chynnigodd hi helpu lanhau. Diolchais iddi, a gwrthod ei chynnig... fydde hi'n cael ffit petai'n actually dod i mewn a gweld y lle'n iawn... Ond o, USB, USB, yr un sydd actually yn MP3, lle yn y byd wyt ti?

No comments: