Sunday 6 July 2008

Does 'na un man yn debyg i adra...

Nol o Oxford. Diolch byth am yr Ipod, dyna'i gyd ddweda i. Ar y dydd Gwener, mi roedd y pedwar ohonom - Mam, Nhad, Mamgu 10 a finnau - yn squashed mewn Ford Focus gyda digon o fwyd i borthi'r pum mil. Picnic i bum mil. A dwi ddim yn gorddweud. Pam ddwedodd Mamgu wrth ddringo i mewn i'r car fod ganddi digon o sandwiches i ni gyd, doedd Nhad ddim i'w weld yn dathlu. Roedden ni, cyn dechrau, wedi bwriadu cael byrger a bacon roll yn y fan byrgers yn Llangadog - Burger Van gorau Cymru, os nad y byd, wir, a dyma Mamgu yn ymddangos gyda cool bag llawn sandwiches caws a tomato, ac ambell un salmon i fi (fi'n casau tomato, er mod i'n dwli ar ketchup). Stopion ni i gael byrger ta beth. Do'n i'm yn bwriadu peidio cael un o gwbwl! Ar ol cael ambell beint wedyn yn hwyr nos Sadwrn, fe ddwedodd Nhad wrtho Mamgu yn weddol blaen ei fod yn mynd a brechdanau i'w waith, ac nid oedd am eu bwyta pan roedd yn mynd mas hefyd!

Gan ein bod yn siarad am fwyd, fe wnaf hefyd son am obsesiwn fy mamgu a serfio darn o kitchen roll gyda pob snac. Daeth hi a rolyn o kitchen roll gyda hi, ac ar y ffordd fyny, cyn i ni gael ei byrgers, dyma hi'n dechrau torri darnau ohono allan "er mwyn bod yn barod". Dwi ddim yn deall y peth. Pam gwario arian ychwanegol ar kitchen roll pan gallwch sychu dwylo seimllyd ar eich jeans? Dyna ydw i'n gwneud.

Nawr, yn eithaf cynnar yn y daith, a ninnau wedi pigo Mam i fyny o'r gwaith yn Llandeilo, dechreuodd y Pedwerydd Rhyfel Byd. (Matthew Rhys VS Rhys Ifans oedd y trydydd, cofio?). Mam VS Mamgu. Pwy oedd a'r map gorau? Pwy oedd y Navigator gorau? Wrth gwrs, roedd Mam wedi printio ei map hi o'r rhyngrwyd - routeplanner.com neu rhywbeth fel 'na, tra bod Mamgu yn defnyddio map of Great Britain 2005. Fe wnaethom ddarganfod fod yr heolydd wedi newid lot ers tair blynedd. Treuliodd Mamgu rhanfwyaf o'r siwrne yn dilyn y ffordd gyda'i bys, ac roeddwn yn gallu gweld wrth ei gwyneb (gwefysau'n tenhau ayyb) ei bod hi'n meddwl "Pam fod rhaid i'm mab-yng-nghyfraith ddreifo fel ffwl?" (mae hi'n dreifo mor slow odd rhaid bod gyrru'n Nhad yn sioc i'r system).

Dwi hefyd wedi dysgu ar y daith hon i Oxford, fod angen hearing aid ar Mamgu. Wel, dwi wedi meddwl am hyn ers sbel, ond nawr rwyf yn bendant fod angen i mi ffeindio ffordd neis o ddweud hyn iddi. Petawn yn dweud, "Mi rwyf yn hoffi coffi", "E!?!?!?" fyddai ateb Mamgu... ond ar y llaw arall, petawn yn pallu ailadrodd fy ngeiriau, ac yn dweud, "paid a becso", fyddai honno'n mynd "Rwyt yn hoffi coffi?"!!! Dwi ddim yn deall y peth. Daeth tuedd arnaf i weiddi bob tro roeddwn yn siarad erbyn diwedd y trip.

Y nos Wener cyntaf, roeddwn yn aros mewn Travelodge. Gan fod y rhieni'n cwyno fod y trip yn ddrud cyn dechrau, y noson honno bu'n rhaid i mi rannu gyda'r Navigator gorau (sef Mam - roedd sawl rowndabout yn eisiau ar map Mamgu, ac felly aeth hi'n confused) a'r un sy'n chwyrnu fel mochyn trwy'r nos (sef Nhad). Doedd hi'm yn help fod y sofa bed roeddwn yn gorfod cysgu arno mor galed a blydi concrit bloc. Druan a fi. Gyntachlyd o'n i'n bore, galla i ddweud wrtho chi.
Dydd Sadwrn. Diwrnod y briodas. 1pm oedd y briodas, felly roedd digon o amser i'r tri ohonom (roedd gan Mamgu ystafell ei hun, a dewisodd fwyta'r sandwiches doedd neb wedi bennu ddoe i frecwast) gael bwyd yn Little Chef i frecwast. Full English i Nhad, Scrabled eggs ar dost i fi. Yna nol i newid. Roeddwn wedi cael ffrog ddu, neis iawn, o Coast yn Debenhams sbel nol, a shrug binc o Wallis. Roedd y ddau ddillendyn hyn wedi cael eu prynu i fynd gyda'n esgidiau pinc o Topshop i. Fy high heels iawn cyntaf. Roeddwn mor chuffed, llwyddais i bara trwy'r dydd ynddynt - ond rwy'n dioddef heddiw. Ta beth, aeth Mamgu'n reit excited i weld fi mewn ffrog. Dwi usually mewn jeans a t-shirt. "Ti'n edrych fel young ledi fach" dwedodd wrthaf tua gant o weithiau. Dwi'n casau pobol yn gwneud ffys. I was wearing a dress, GET OVER IT. Hoffwn hefyd ychwanegu - ydw, mi rwyf yn gwisgo "war paint", fel pob menyw ac ambell ddyn arall yn y byd! Pam fod hynny'n rhywbeth sy'n werth gofyn am bob pum munud?! Roedd Mamgu hefyd yn rhoi running commentry i ni o'r tywydd, er ein bod yn gallu gweld y tywydd yn iawn allan drwy'r ffenest. Off a ni i'r briodas felly. Doedd PC Larwm na Anti-Bionic wedi ymddangos eto, ac ond jyst gwneud hi wnaethon nhw fyd.
A jyst i ychwanegu un rant fach olaf - QVC! OS GLYWA I UNRHYWBETH AM QVC ETO WYTHNOS HYN... fe stabai rhywun. A dwi ddim yn jocan! Roedd y "war paint" yn dod o QVC, am change doedd y bag ddim yn dod o QVC ayyb. Mamgu 10, Anti-Bionic a Mam, mae'n nhw'n addict i un o'r cyffuriau mwyaf peryglus erioed. Y sianel siopa - QVC. Maent yn gaeth, y dair. Dwi'n syrprised nid yw llygaid y dair wedi troi'n sgwar, a'i cyfrifon banc yn wag diolch i'r holl wario. Dyw Nhad a fi'n gweld dim yn ddiddorol am y tat sy'n cael eu dangos ar y rhaglen. Roedd Nhad a finnau'n ochneidio'n uchel bob tro roeddent yn dechrau son am QVC yn y car. QVC - Quietly Viewing Crap - dyna beth maent yn gwneud wrth wylio. Stica i i brynu stwff o siop, diolch yn fawr.

Y briodas.
Priodas fy nghefnder o Birmingham oedd hi, ac mae'r teulu o Birmingham yn Efengylwyr. Yn Gristnogol iawn. Doeddwn erioed wedi bod mewn seremoni briodas lle roedd pobol yn gweiddi "Amen!" ar ol popeth roeddent yn cytuno gyda, na lle roedd pobol yn galw ei gilydd yn Brother os yn ddyn, Sister os yn fenyw. Dwi'm di bod i lawer o bartion priodas though, ac roedd yr un hyn wedi gorffen erbyn naw. Hefyd, cafodd Nhad a PC Larwm yffach o sioc i ddarganfod taw Shloer oedd ar bob bwrdd bwyd yn hytrach na gwin. Roedd hi'n briodas non-alcaholig. Ac fe roedden nhw'n hollol gutted!

Doeddwn i ddim yn eistedd ar yr un bwrdd - roeddwn i ar bwrdd 1 gyda'r "pobol ifanc". A diolch byth am hynny. Na gyd wnaeth y ddau ddyn oedd conan bod dim alcahol ar gael. Hefyd, gan fy mod yn rhywun sy'n uffernol o ffysi 'da'n fwyd, doedd neb i fynd "s'dim eisie ti fyta fe os ti'm moyn?" "tria fe" "wyt ti'n lico fe?" trwy'r pryd bwyd. Roeddwn wedi mwynhau fy mwyd mewn tawelwch.

Roedd hi'n briodas lyfli, er y diffyg alcahol. Roedd speech y best man yn hilarious - fair play i nghefnder i (un arall, sef brawd henach yr un oedd yn priodi. Mae nhw'n bedwar o frodyr i gyd). Fel pob priodas (well, heblaw am ambell un rydych yn clywed am yn y Real Life magazines - "MY BRIDE LEFT ME AT THE ALTAR" ayyb), roedd pawb yn hapus ac yn mwynhau. Yn wahanol i ran fwyaf o briodasau doedd dim dawnswyr meddw na dim fel 'na. Roedd popeth wedi gorffen erbyn 9, ac am yr awr dwethaf, dim ond tua pymtheg o ni oedd yna.

Tua wyth, diflannodd PC Larwm i'r toiledau, a Nhad yn dilyn yn weddol gloi ar ei ol e. Basiodd hanner awr cyn i ni sylwu nad oedd y ddau nol. Wel am naw, dyma'r parti'n gorffen wrth gwrs, a'r hanner dwsin ohonom oedd yn weddill yn mynd allan i'r dderbynfa i ddweud ffarwel. Dyma ni gyd yn gweld y ddau ddyn yn eistedd wrth y bar a bobi beint! Felly, wedi i bawb fynd... yn syth i'r bar aeth Mam, Anti-B, Mamgu 10 a finnau. Wedi'r trip hir i fyny dydd Gwener, a hynny heb Sat Nav (fyddai llais robotig yn well na'r ddwy co yn cwympo mas er fod PC Larwm a Anti-B wedi cael trafferth gyda'i un nhw) fe droiais i i'r alcahol erbyn hanner awr wedi. Malibu a coke - dwi'n dwli ar goconuts, so roeddwn i wrth fy modd.

Roedd hi'n ddeuddeg arnom yn dychwelyd i'r ystafell wely. Nawr, er mod i dan lot o stress, un drinc ges i. Odd y rest o nhw'n hammered. Mynnodd Mam fy hebrwn i fy ystafell (roedd gen i stafell yn hunan yn y gwesty hyn - diolch i Dduw, dim chwyrnu!), a roedd hi mor feddw, bu rhaid i mi ysgrifennu rhif ei hystafell hi (366) ar ei llaw. Dwi ddim yn dweud celwydd. Menyw sydd ar drothwy ei phedwar deg, a'i merch 16 oed yn gorfod ysgrifennu rhif ei hystafell hi ar ei llaw am ei bod hi'n pissed. Yn gynharach heno, tra'n gwylio Tipyn o Stad, gofynnodd yn fam, "shwd ot ti'n teimlo ar ol cael drinc neithiwr? a oedd y malibu yn neud i ti deimlo'n ben ysgafn?" - roedd hi yn amlwg yn poeni mod i'n mynd i fynd off the rails ar ol un diod. Bu'n rhaid i mi ei hatgoffa o pa mor feddw oedd hi, ar ol sawl glasied o win gwyn, ond ateb honno oedd "Fi'm yn dda 'da nymbers!". As if.

Bore ma, dechreuom adref, ar ol brecwast yn y gwesty. Comment Anti-Bionic oedd "ma fe bach yn bland". Wedai un peth, doedd y scrambled eggs na ddim cwarter mor ffein a rhai Mamgu Nantglas. Ond gallwch chi byth maeddu scrambled eggs Mamgu Nantglas. Os wnewch chi, chi'n haeddu rhuban glas (stori hir arall, newn ni ddim mynd 'na).

Ac yn ol i'r car a ni. A fe deithiom nol trwy'r Cotswolds. Ym mis Mai aeth Mam a fi a Nhad i'r Cotswolds, gan fod Mam eisiau mynd i rhyw antique fair yn Glouster (dwi ffealu sillafu sori) i chwilio am rhagor o lustre jugs. Ma' Mam yn casglu jwgiau lustre. Dwi dal ddim yn deall pam. Jwgiau bach browni/copri sgleiniog - uffernol o salw yn fy marn i. Ond ma Mam a Mamgu Nantglas yn crazy amdanyn nhw. OK, ma'n nhw'n antique a codi mewn gwerth ma' nhw... ond still... Gobeithio taw fi sy'n etifeddu nhw, gan fy mod i wedi cael yn llusgo rownd sawl blydi antique/bric y brac/jync shop i chwilio amdanyn nhw. Ma'n rhaid i rhywbeth dalu am y care homes i'r ddau ohonyn nhw. Fel unig blentyn, mae'r pwysau i gyd ar fy ysgwyddau i! Ta beth, heddiw eto, dyma fi'n treulio diwrnod yn mynd rownd siopau antiques. O leia wnaethon nhw actually llwyddo i ffeindio 4 lustre jug heddiw. Ar y weekend 'na nol yn ystod hanner tymor mis Mai, wnaethon nhw'm ffeindio dim un. Ond wnaethon nhw, i'm gadw yn dawel, dreifio trwy "Jeremy Clarkson Land" - hy, Chipping Norton. (Ac, i ychwanegu, ar Top Gear heno, ceisiodd y tri brofi fod Alfa Romaeo's yn ffab - a ffaelu really. Hilarious. Ac mae James May wedi torri ei wallt!)

Mewn un siop antiques, roedd yna cabinet o hen ddrylliau - immensly ffasinating. Fe wnaeth y stress o'r holl ffysian a'r thought o orfod bwyta sandwiches ddoe yn ormod iddo... cafodd suicidal moment fach... gan ddweud "Fi'n credu bod eisiau un o rheina arnon ni."

Tawel oedd hi wedi hynny - O! heblaw am y bwnis yna ar y rowndabowt, a oedd yn weird... meddwl ei fod yn werth son amdano - bwni's mewn rowndabowt, mi roedd yn ciwt. Ta beth, ar y siwrne hir adref, roedd pawb wedi blino gormod i siarad. Roeddwn i'n plugged mewn i'r Ipod. Eto, diolch byth i rhywun yn Apple i feddwl am y syniad o gynllunio'r Ipod. Roeddwn yn fy myd bach fy hun, Planet Teapot. Doedd dim rhaid i mi wrando i'r ddwy navigator, ac roeddwn yn cael llonydd i feddwl. Hefyd, rydych yn gallu storio lluniau ar fy annwyl Ipod i... roedd rhaid i mi edrych ar Matthew Rhys. Roeddwn wedi mynd dros 24 heb Googlo ei enw na gwylio Brothers & Sisters. Fe wnaeth yr alcahol leddfu'r boen.

Ac felly adref. Fe fydd y ffrog ffansi yn cael eu gosod yn ol yn wardrob fy rhieni, a'r sgidiau yn ol yn y bocs (mae fy nhraed yn agony) am wythnos o leiaf, cyn i mi fentro ei gwisgo eto. Dwi'n dal i ddiawlio nad oedd unrhyw lanc ifanc, golygus yn y briodas, ac adref, mae gennyf wely fy hun yn f'ystafell fy hun. Fel ddwedodd/canodd Gwyneth Glyn, *acen gog ymlaen* "Does 'na un man yn debyg i adra...". Ac mae hynny'n hollol wir.

A cyn gorffen, ymddiheiriad. Sarjent yw rhingyll. Petai JB Preistley wedi penderfynu ysgrifennu'r ddrama, A Sargent Calls... (sori arall mod i ffealu llisafu...sillafu!), byddai fy joke bach i wedi gweithio. Damnit all.

No comments: