Friday 4 July 2008

Off i Oxford!


Fel gwelwch, mae Anti-Bionic a PC Larwm wedi dechre darllen fy mlog. Uh-oh.
Ac i ateb ei chwestiwn, ydw mi rwyf yn barod am y briodas... sort of. Ma'n "barod" i yn wahanol iawn, iawn i "barod" Mam.

Dwi wedi gadael fy mhacio nes bore ma, gan fy mod adref a dim i wneud ond gwylio Frasier a Jeremy Kyle (a trystiwch fi, yr un problemau tro ar ol tro - Is My Violent Ex The Father Of My Baby blah blah blah etc etc- ma' Mr Kyle yn dechre troi arnaf). Neithiwr a'r noson cyn 'ny, bu dipyn o banic, a honno'n poeni fod ei ffrog hi'm yn neis (er ei bod hi'n edrych yn well lovely ynddo fe) ayyb ayyb a mi roedd hi mlan a mlan am y ffaith nad oeddwn hyd yn oed wedi meddwl am ddechrau pacio. Chiiilll Mam. Fyddai'n barod.
A fi'n credu nes i ypsetio hi neithwr fyd, wrth weud wrthi fod hi fel Mamgu 10 - yn gofyn llawer gormod o gwestiynne am bopeth. A'th hi bach yn hyffi pan ddwedais wedyn mod i eisie bwyd. A wedyn dechreuodd hi ofyn cwestiynne i fi am y bwyd! *joke fach! joke fach!*

A hefyd, i Anti-Bionic/PC Larwm (Anti-B odd e probably, heblaw fod PC Larwm wedi bod ar gwrs Welsh In A WonderSecond a finnau ddim wedi cael gwybod) - rhyngill? Dwi'n cymryd taw Inspector yn Gymraeg yw rhyngill? Mae'r Rhyngill Yn Galw... dim cweit yr un ring a An Inspector Calls...

A ydw, mi rwyf yn hollol obsessed gyda Matthew Rhys. Dylen i fynd i Matthew Rhys Annonymous really. OOO! Ddoe, neu efallai echddoe, fi'm yn siwr fi'n Googlo ei enw'n ddyddiol, pan yn chwilio Matthew Rhys yn y blog section o Google News, daeth fy mlog i lan! O'r cyffro! Ni allaf ddisgrifio'n iawn y ffordd nes jwmpo i'r awyr, rhedeg fel mellten (odd rhaid i fi fod yn mega excited i fod yn rhedeg) i'r gegin, a neidio i mewn i'r drar pethau melys yn y gegin a deifio i mewn i'r bag Aero i ddathlu... a na, dwi'n cymryd dim sylw o'r To Do List ysgrifennais.

Ta beth, ni fyddaf yn nol nes y Sul, dwi ddim yn credu. Felly mwynhewch eich penwythnos.
kissxkissxkissx

By the way, llun Cherry, cath Anti-Bionic a PC Larwm sydd uchod. Meddwl fod hi'n bertach na'i pherchnogion hi! *JOKE! JOKE!*

1 comment:

Anonymous said...

Seargant yw Rhingyll....Arolygydd yw Inspector.....os ishe gwers gymraeg arno ti ? ? ? Ma fe yn deall arwyddion dwyieithog...ei chat up line odd.." ger isel nawr".. . a " ysgol"... a " Bantams ar werth..."
Os ma'r gair ar arwydd, ma fe'n deall .. ! !
Eniwe, ma Cherry yn edrych yn lyfli, a fi yn cytuno da ti, ma m-- yn holi llawer iawn gormod o gwestitnne, teimes i hi unnwaith..30 munud solid..! ! Hard oing ! xXXxxx

Welai ti fori..XXX os digon o bling da ti ? ? ? XX