Thursday 31 July 2008

Pysgod yn Nimbych Y Pysgod

Nodyn o rybudd i ddarllenwyr... Dyw mynd i'r traeth pan mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn byth yn syniad da.

Ers wythnos i ddydd Mawrth dwethaf, a ni yn y Sioe Frenhinol, roeddent wedi bwriadu mynd i Tenby. A hithau mor lyfli dydd Llun a dydd Mawrth, cyffroes oedd y dair ohonom i fynd i'r traeth. Wnaethom hefyd wahaodd Bleu, i
wneud y parti'n bedwar, gan fod Wolfy'n gweitho.

Wel, doedd yr arwyddion ddim yn dda. Neithiwr dextiodd Pero i ddweud ei bod hi gorfod mynd allan gyda'i mamgu, felly ond tri ohonom oedd yn mynd. Ond ta beth, roeddent wedi trefnu. Tren 10.40 i Tenby o Gaerfyrddin. Felly y tri ohonom oedd yn mynd. Dechreuodd hi fwrw ddoe 'fyd... ond na, roeddent yn benderfynol fydde hi'n hidda...

Diflas oedd hi pan ddaeth Mam i nihuno hi am naw, felly phewph, meddyliais. Wellyth hi erbyn pnawn... Ond cwympo mas arna i bore ma, a Mam yn mynnu fod RHAID gadael am 10.10, a finnau'n meddwl fod hynny'n stiwpid ac yn mynnu treulio pum munud ychwanegol yn straightno fy ngwallt (pointless really, erbyn diwedd).

Roedd Bleu yn disgwyl amdanaf yn yr orsaf, a dim son am Deryn Du. Tynnodd y tren i mewn i'r station... "O diar!"... Ond na, cyrrhaeddodd hi mewn pryd, a croeson ni'r trac i neidio ar y tren o blatform 2. Doedd dim byd gwefreiddiol am y tren, dim really... tren, choo choo, dyna ni. Fe aethom yn ein blaen, stopio yn Narberth, a dyma fi'n cynnig stopio yn Narberth yn hytrach na Tenby gan fod hi'n bwrw... petawn ond wedi... Saundersfoot bach wedyn, a dyma'r tri ohonom yn cytuno taw crappy oedd y lle yna... a Tenby.

Roedd hi'n bwrw. Roedd y ddau ymbrela lan yn syth (fi oedd yr un twp oedd yn mynnu "I don't DO brollies"), a cuddiais tu fewn i hood fy hoodie ddu... a oedd yn gwneud i fi edrych fel, you guessed it, hoodie!

Nawr, ffeindio Get Stuffed Pizza i ginio oedd y bwriad... ond, doedden ddim really'n gwybod y ffordd allan o'r orsaf drenau. Jyst dilyn y crowd wnaethon ni, a diolch i Dduw wnaeth rheina ein arwain ni i'r stryd fawr... ac o fan 'na, benderfynon ni ein bod ni moyn mynd i'r traeth!

Wel, erbyn i ni gyrraedd un o'r traethau (peidiwch gofyn pa un, fi'm yn gwybod. Yr un bach ar bwys Cauldey Island, o dan y mynachdy?), roedd hi'n pisio i lawr. Roedd Bleu am gerdded lan y steps i gyd i'r mynachdy, ond NA! pendant oedd yr ateb. Roedd hi'n ddigon cwshti iddo fe, fydde fe'n gallu mynd mewn ato nhw! Mas am y glaw fydde Deryn Du a fi, a ninnau'n ddigon anffodus i fod yn ferched!

Roedd y boliau yn dechrau gofyn am fwyd. Felly wrth gwrs, Get Stuffed Pizza! Roedd gan Deryn Du ffrind dwi'n mynd i alw'n Mr Ice Cream Man sy'n byw yn Nimbych Y Pysgod, a fe roedd hi'n gofyn am ei help e... Roeddent bellach yn Lower Frog Street - wedi mynd mewn a dod mas o siop sgods a sglods am fod Bleu yn benderfynol o ffeindio'r lle pizza, er for Deryn Du a finnau jyst am gysgodi o'r glaw. Fe fuodd rhaid i'r tri o ni ddeifio i mewn i Joys of Tenby, a cysgodu fan na, a cyhuddodd Mr Ice Cream Man ni o fod yn uffernol o touristy via text, ond wfft, petai e ond wedi rhoi cyfeiriadau da i ni! (Efallai taw ni oedd rhy twp i ddeall... o wel...).

Fe roedd y strydoedd wedi boddi mewn dwr glaw, ar unig bobl ddigon twp i fod allan yn rhedeg am rhywle sych. Roedd llawer, yn disgwyl diwrnod da, wedi dod mewn dillad haf - o pa mor gutted oedden nhw, pam heb got na ymbarel, yr oeddent yn gwlychu'n stecs. Roedd afonydd o ddwr yn llifo lawr y strydoedd, yr awyr yn do diflas o liw llwyd yn gollwng glaw ar bawb a phopeth... Mewn caffi roedd Mr Ice Cream Man, ar diwedd y stryd, ond pa stryd? Can taw cross roads oeddent yn gwynebu o ddrws y siop souvenirs, ac felly roedd yna bedwar ffordd a oedd yn bosib.

Nes i Bleu wneud rhywbeth call.
"Excuse me, can you tell us the way to Get Stuffed Pizza place?" gofynnodd i fenyw'r siop.
"To the left and carry on."
Typical. Doedd e ddim yn bell o gwbwl.

Y sgrechfeydd o gyffro wrth ei weld - cysgod o'r diwedd!

Dau medium pizza, potato wedges with sweet chili dip a un bara garlleg wedyn, roeddent yn stuffed (haha yr un hen joc), ac wedi sychu tambach. Nol mas i'r glaw a ni. Am ryw reswm, i gadw'n sych, roedd gan y ddau arall ponchos... un melyn i Bleu, un gwyrdd i Deryn Du... ac fe roedd un coch yn sbar i fi.

Gallwch ddychmygu ein golwg ni. Tri ffigwr a wisgai ponchos a oedd yn fwy tebyg i bin liners lliwgar. Fe welon rhywun mewn poncho glas wedyn, ac i hwnnw ddwedond "Ha! Ein brawd coll!". Ond eto, a hithau'n bwrw o hyd, roeddent lan i'n pigwrnau mewn dwr... Wellingtons oedd y dewis gorau o esgidiau. Roeddwn yn gwisgo Converse trainers. Bwriad rheina yw bod yn cool, dim i ddal dwr. Roeddent yn well, rhaid gweud, na'r dolly shoes bach o satin porffor fues i bron a gwisgo...

Ta beth, roedd hi'n bwrw'n drymach wrth i ni fynd yn agosach i'n mor, ac ar un tro, fe cuddiodd y tri ohonom mewn bocs ffon. Dwi'm yn amau fod hynny'n edrych braidd yn od. Roedd Deryn Du a finnau hefyd wedi prynu crysau-T "TENBY PIRATES" erbyn hyn fyd, o'r Pownd Shop (am £1 cofiwch!).

Penderfynon fyd yn ol at yr orsaf, a cysgodi yno. Dyna oedd orau. Felly nol a ni... i geisio ffeindio'r lle. Roeddent yn wlyb sopen. Roedd fy jins yn wlyb lan i fy mhliniau - a doeddent ddim hyd yn oed wedi bod yn agos i'r mor. Felly, wfft! meddyliais, a neidiais mewn i un o'r puddles dyfna fi 'di gweld erioed. SPLASH!

Pam lai?

Cyrraedd yr orsaf, a ceisio gweithio allan pa blatform roeddent yn dal y tren o oedd nesaf. Roedd gennym hanner awr, felly doedd dim panic... Ond doedd dim screens teledu yno, fel sydd yn rhanfwyaf o orsafoedd eraill... felly ble? Es i double checkio'r amserlen... ac edrychais o'm mlaen. Ar bolyn fyddai'r rhan fwyaf o bobl call yn gweld cyn gynted fyddent yn camu i mewn i gysgod yr orsaf oedd arwydd oedd yn pwyntio i ddau gwahanol ffordd. "PLATFORM FOR SWANSEA" "PLATFORM FOR WEST WALES". Idiots a ni.

Felly, dechrau dros y bont a ni. Sylwais ar buddle dwr mawr ar lawr a oedd yn fwy tebyg i lyn bach... a gan mod i'n wlyb yn barod... SPLASH! Bu rhaid i mi redeg lan dros y bont i'r platform arall wedyn, er fod yn nhrwser i'n drwm diolch i'r dwr, i osgoi cael fy ngwlychu nol 'da'r ddau arall!

Eisteddom ar darn o lawr sych y platfform, a'i wlychu gyda'n dillad a'r poncho's gwlyb. Wnaethom hefyd sylwu fod y ferch freaky o'r flwyddyn o dan yn un ni yno... a honno'n wel weird... I mean, pam cael fringe os oedd hi'n mynnu ei hwpo nol gyda band gwallt? A roedd hi'n gweud helo i fi yn y corridore ac yn edrych yn od ar bobol arall... hmm... ta beth, roedd honno yn syllu arnon ni, ond who cares.

Daeth y tren yn brydlon, a jwmpo arno wnaethom ni. Dyw tren o Tenby ar ddiwrnod gwlyb yn ddim byd tebyg i dren o Abertawe neu Caerdydd yn ystod Rush Hour. Doedd hi ddim yn wag, ond eto doedd dim un ohonom yn darganfod ein hunain yn sownd yn y ty bach, yn ofn cwympo mewn unrhyw eiliad. Roeddent dal yn wlyb... Roedd fy ngwallt wedi mynd yn gwrls i gyd, fy nillad yn wlyb stecs, fy nhrwyn yn dechrau rhedeg... ond roeddent dal wedi cael shwd gymaint o laugh.

Ond dioddef fyddwn ni fory... yn ein gweliau, yn boddi mewn pentwr o dissws snotlyd, a llond dos o fflipin annwyd.

2 comments:

Anonymous said...

Tenby yn y glaww.w.w.w.w.

Tenby yn y glaw.w.w.w.w....


U must be mad... XXXXXXXXXXX

theSea said...

Mr.Ice Cream Man
Ma fe'n lyfli :)
xxx