Tuesday 1 July 2008

Brodyr a Chwiorydd

Mae'n hen bryd am ymddiheiriad, a hithau'n gyntaf o Orffennaf a chwbwl.

Fi'm wedi bod yn ysgrifennu ers dydd Sadwrn, ac mae hi bellach yn ddydd Mawrth. Felly, sori.

Na, dwi ddim wedi ffeindio bywyd i'n hunan, i ddweud y gwir, dwi'm wedi clywed wrth neb drwy'r wythnos. Ond ma' pawb yn gallu guesso beth dwi wedi bod yn gwneud yn hytrach na ysgrifennu i fy mlog.

Dwi'n hoffi Brothers & Sisters. Dwi'n meddwl fod e'n rhaglen wych. A fi'n credu fydden i dal i feddwl fod e'n eitha da hyd yn oed heb Matthew Rhys.

Drama yw'r rhaglen, drama sy'n dilyn bywydau cymleth iawn teulu'r Walker - Nora'r fam, ei brawd hi Saul, y pump o blant Sarah, Kitty, Tommy, Kevin a Justin ar ol marwolaeth pennaeth y teulu, William Walker. Meddyliwch am Corrie ond lot mwy dramatig. Yn debyg i CSI, ma llawer o witty one liners. Falle fod hwnna'n rhwybeth Americanaidd, fi'm yn gwbod, ond mae e'n rhywbeth sy'n gwneud i fi werthin ta beth - sydd wastad yn beth da. Hefyd, mae 'na elfen o wleidyddiaeth gan fod Kitty Walker yn gweithio i Senetor rhywbeth rhywbeth. Fi'm yn cofio'i enw fe nawr, ond Rob Lowe (boi sydd hefyd ar yr adverts Orange sy'n cael eu dangos yn y sinema nawr) sy'n actio'r rhan. A ma da fe dau bar o lygaid reaaally bright blue... Dyw'r un sy'n chwarae Justin (Dave Annable - os ydw i wedi sillafu hwnna'n iawn) ddim yn ffol chwaith.

Fel unig blentyn, falle mod i'm yn gallu gweud os yw perthynas y teulu agos gyda'i gilydd yn realistig neu beidio. Ond o beth ydw i'n gallu gweld, mae yna fond arbennig iawn rhwng y brodyr a chwiorydd, ac maent yn delio gyda'r llu o wahanol problemau maent gorfod gwynebu. Ambell waith, mae hi bach yn galed canolbwyntio ar bob cymeriad, gan fod gymaint ohonynt (y Walkers, gwr Sarah, llys-fab Sarah, gwraig Tommy, cariadon Justin - a ma lot o rheina - a cariadon Kevin ayyb) felly, i wneud pethau'n lot rhwyddach.

OK, dwi yn biased, ond Kevin yw fy hoff gymeriad. Yn chwarae lawyer hoyw, mae e wastad yn gallu pwyso a mesur pan yn cwympo mas, ac yn defensive iawn. Mae ei acen American yn ffantastig (na na na dwi ddim yn bod yn biased! honest!) - llawer gwell na acen Cymraeg Knightley yn TEOL. Ond, mae'r ffaith ei fod e'n hoyw yn galed gwylio. Yn y bennod dwi newydd bod yn gwylio, mae e'n mynd allan gyda Chad King, sydd "in the closet" (yn y cwpwrdd - haha, dangos nad yw cyfieithiadau o ddywediadau Saesneg byth yn swno'n iawn), ac mae hynny'n horrible, achos mae Kevin yn haeddu gwell... ond mae hi'n galed gwylio'r love of my life yn cusanu dynion. Ond eto'n deimlad eithaf rhyfedd...

Nawr, mae yna bennod o'r gyfres yn aros amdana i, a slow yw pawb sydd ar MSN.

Hwyl! (Matthew Rhys nawr- dwi'n mynd i gael hwyl! ha!)

No comments: