Wednesday 16 July 2008

Dylan Thomas a fi.

Heddiw, trip llenyddol i fi, Anti-B a Mamgu.


Ar y Dylan Thomas trail a ni... wel, rhan ohoni, gan ei bod hi'n drip eithaf hir a cymleth i fynd nol dros yr holl lefydd a fu yn ei fywyd. Felly i Talachern (neu fel dwi'n hoffi ei alw, LARN!) a ni!


Gan adael fy Nhad o flaen Homes Under The Hammer, fe aeth Mamgu a fi off i Morrisons (MORRISONS! Hello Richard Hammond!) i gwrdd a Anti-Bionic. A daeth hi a presants i fi, sydd wastod yn neis (diolch yn fawr iawn xxx) - dau tlws ar gyfer hongian off y ffon symudol, un siap mefusen, a un siap M, a hefyd roedd hi wedi prynu scarf mega ciwt i fi o Tesco. A dwi'n bwriadu gwisgo hwnnw i fynd mas i drampan fory, ond yn ol a ni i heddiw.


Ta beth, yn LARN, roedd yn car boot sale yn y maes parcio, felly fuon yn pocio rownd fan 'na am bach. Wedyn, dyma ni'n dilyn y llwybr heibio i'r castell ac tuag at y Boathouse, a'i sied. Dwi'n credu dylen ni gael sied fel un Dylan Thomas. Dwi wastod wedi eisie sied bach actually. Ta beth, roedd hi'n rhyfedd camu nol i'r pumdegau, i mewn i nirfana'r bardd o fri, a gweld y ty lle treuliodd y bardd flynyddoedd dwethaf ei fywyd byr, ag ysgrifennu Under Milk Wood. Roedd yna hen luniau o'r teulu, yn ogystal a hen genel Mably, annwyl anifail anwes Dylan Thomas.


A dwi hefyd wedi darganfod fod fy modryb a fy mamgu yn "aspiring photographers". Seriously, o'n i'n meddwl nol pan aethon ni i'r briodas, "flippin heck, llun arall?" yn aml, ond mewn priodas, mae hynny'n ddealladwy. Ond heddiw - roeddent yn gofyn am luniau ym mhob man; llun ger y castell, llun ger y mor, llun ger y boathouse, llun ger y shed, llun yng nghaffi'r Boathouse, llun yn Hurst House, llun ger bedd Dylan a Caitlin Thomas - flippin heck. Fel ddwedes i wrtho nhw, "Ma'n rhaid i mi dechrau codi fee am yr holl photo ops 'ma!".


Bwyd oedd y stop nesaf. Roedd Anti-B eisiau mynd i lle o'r enw Hurst House Hotel i gael bwyd, a fe roedd yn le neis iawn yng nghanol y wlad, gyda cae llawn ceffylau gyferbyn. Ges i fish and chips, a crab cakes i starters (crab cakes, nid crap cakes!) a nawr dwi bron a byrstio. Dylen i ddim byta gymaint, seriously.


Gorffen lle wnaeth y dyn ei hyn orffen wnaethon ni - y stop dwethaf oedd i weld ei fedd e a Caitlin Thomas. Roedd y groes wen yn glir yng nghanol rhesi o gerryg llwyd, yn sefyll allan, fel gwnaethon nhw, dwi'm yn amau. Cyn mynd heddiw, awgrymodd Anti-Bionic ein bod ni'n prynu blodau i roi ar y bedd, ond fe ddwedes i fydde, o beth o'n i'n ddeall o The Edge of Love, well gan y ddau beint yn lle 'ny. Wel, roedd rhywun eisioes wedi meddwl am hynny - yn ogystal a sawl tisw fechan o flodau, roedd yna botel fach y wisgi.


A dyma fi adref. I shall not go gentle into that good night.

1 comment:

Anonymous said...

ti'n meddwl fydde D.T yn gallu englyna? xx